Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
AT E1N GOHEBWYR, &c. ErN DBRBYNiADAU.—Y Pryfgopyn-Un o'r lle-Rufus-Cyw yr Eglwys—Gwrandawwr—Parch. J. Davies, Aberaman- Parch. D. 0. Edwards—lolo Fychan-Mary Jones—Ymofyn- ydd-Derbyniwr, &c.—Q. R.-Moses Bach—D. G. M.- Robert Parry-Carwr Trefn-Cas ganddo gythraul. GWBANDAWWE a ofynai'r Parch..T. Jones am brofion fod dyn- ion half-bred yn fwy diegwyddor a gwaedwylltna dynion ereill. o 8". SEREN CYMRU—A fydd i'r pyfeillion lluosog sydd wedi gn !• ysgrifenu atom yn cymmeradwyo y cyfnewidiad yn nygiad 1 allan y SEREN, dderbyn ein diolchgarwch calonog am eu llyth- yrau. Yr ydym wedi at,'b llawer yn gyfrindchol, ond aeth y t orwaith yn ormod; felly, cymmerwn y cyfle hwn i ddiolch i chwi oil ar unwaith a gallwn eich sicrhau y bydd i ni hefyd 5 ofalu am gadw mewn golwg yr awgrymiadau gwerthfawr ag F' ydym wedi eu capl gan rhai o'n gohebwyr parchus. MARY JONES.—Ymofynwch a chyfreithiwr yneich ardal. IOLO FYCHAN.—Mae eich gofyniadau yn cynnwys gormod o en- syniadau i ni allu eu cyhoeddi. 'A. B. C.—Dysgwyliwn am hanes yr Eisteddfod oddiwrth yr Ysgriferiydd, ac fe ddaw y Feirniadaetb. ar yr un pryd. GRAMADEGYDD lEUANC.—DysgwyHwn y bydd y Gwersi Gram- adegol o wasanaeth i chwi. YMOFYNYDD.—Mae Llaw-lyfr y Beibl gan Dr. Angus, cyfieith- edig gan Lleurwg, gyda y goreu a wyddom am dano. Gellir ei gael gan Gyhoeddwr SEREN CYMRU. PREGETHWR IEUANC.—Mae Barnes ar Isaiah yn fanwl iawn ac ymaiferol. J, REYNOLDS.—Home Office, Whitehall, London. DKREYNIWR oit DECHxEU.—Mae yn ddrwg genym am eich gofid; ond danfonwch lythyr at y Parch. R. Ellis, Caeryn- arfon, a byddwch yn debyg o gael boddlonrwydd. 41 FRANK LESLIE'S PAPER "—Diolch i ryw gyfaill da am y papyr doniol hwn o America. CAS GANDDO GYTHRAUL.—Mae y cwbl yn wir, bob gair; ond gwell gadael rhwng y ddwy arth. Nid ydym am gael dim rhagor ar ypwnc. CARWR TREFN.—Darfu i ni yn y Rhifyn cyn y diweddaf gy- hoeddi ffeithiau yr achos y cyfeiriwch ato. Mae y rhai hyny oil yn wir; a chredwn y dyleiit foddloni unrhyw Garwr Trefn, yn enwedig os bydd yn ddiacon mewn eglwys Gristionogol. Felly, Syr, nid vdym am i chwi gael cyfle o dan ffugenw i ofyn rhes o ofyniadau ensyniadol: ond os ydych chwi yn gwadu y ffeithiau a gyhoeddasom, gwnewch hyny fel dyn a Christion o dan eich enw priodcl. Y mae hanesion cyfnrfodydd llenyddol, &c., wedi dyfod i law ond o ddiffvg lie, gorfu i ni en gohirio hyd yr wythnos npsaf, pan yr ymdrechir gosod yr oil i fewn. •gfj* Diolchwn vngalonog i'r cyfeillion ydynt wedi llafurio i helaethu cylchrediad y SEREN. Mae yn lion genym hysbysu fod rhif v derbymvyr yn agos i fil yn rhagor nag oeddynt y Uynedd. Vn ngwvneb cymmRint o eyfnewidiadau, mae rhai camsyn- iadau wedi dygwydd wrth anfon y sypyr.au diweddaf ffwrdd— ymdrechir gwneyd pob coll i fyny yr wythnos hon. Er mwyn arbed amser a thrafferth, bydded i'n Gohebwyr anfon eu cvnnyrchion. yn ol eu gwahanol dueddiadau, f.1 y canlyn :— lipp" Pob hanasion—crefyddol a chymdeithasol, archebion, a thaliadau i Mr. W. M. Evans, Seren Cymru Office, Car- marthen, tgif Y TRAETHODAU, GOHEBXAETHAU, &c—Rev. T. PRICE, ^K.OSR COTTAGE. ARKRDARE. tgjgP YR YSGRIFAU EGLAVVSIG, o nodwedd yr erthyglau ap- weiniol Eglwysig, &c., — Rev. B. EVANS, PENYDREF HOUSE. NEATH. tW Y FARDDONIAETH -Rev. J. R. MORGAN (Lleurwg), LLANELLY, CARMARTHENSHIRE. T_A.XJI-A_ID-A.tj- Derbvnivvyd taliadau oddiwrth—J. P. Amlwch,T. H. Holywell, 0. L. Llrt vngwril, H. J. Tynewydd, C. E. G. Brymbo, M. R. Same, T. P. Llangvnidr, E. R. Bassaleg, J. P. Blaenau Gwent. W. M. Bedwas, J. L. Golden Orove. R. R. Tongwynlas, J. A. Kidwelly, M. M. Waunfach. A. W. Penvdarren, D. L Blaenffos. T M. Aberystwyth, T. J. Cileerran. T. G, Pontselly, D. R. Llan- gendevrn, T. P. Trefforest, J. L. Cleifiog, A. R. Peiitrehach, D. H. Aboronlais. ,J. J. M. Blaenau, J. G. LIundain, E. G. Bettws, B. E. Wern Wen.
YR WYTHNOS
YR WYTHNOS Mae Mr. Bright a'i gyd-aelod dros Birmingham wedi bod yn anerch yr etholwvr. Yr oedd yno ychydig wahaniaeth rhwng y ddau—Bright yn dadleu dros ei olygiadau ar faterion America, gyda ctiyfeiriad at Ddiwygiad Seneddol; ac hefyd harnai mai bnddiol fyddai i ni roddi fyny Gib- raltar i Spaen. Mae genym ni lawer o barch i Mr. Bright a'i olvgiadau; on(I hyd yma, nid vdym yn gweled un rheswm dros "roddi Gibraltar i Spaen, mwv na rhoddi v ddwy Ganada i'r Taleithiau Americanaidd. Mae Mr. Potter, A.S., wedi bod yn areithio yn Carlisle, ac yn cymmeryd golygfa dywyll ar gyflwr SwyddLaneas- ter a'r gweithwyr cotwm mae ef yn barnu fod caledi mawr yn ol; ond nid felly y mae yn ymddangos i ni ar hyn o bryd. Credwn fod y gwaethaf drosodd. Mae yr Archesgob wedi galw yr holl Esgohion i gyfar- fod yn ei Balas ef yn Lambeth, ar Chwef. 4ydtl, er ystyr- ied cyfrol yr Esgob Colenso. Mae gwaith Colenso yn -colli ei ddyddordeb yn rh.vydd iawn bydd wedi tynu yr anadliad olaf yn fuan. Dydd Gwener wythnos ihedilyvv, cyfarfyddodd nifer o foneddigion, yn cynnwys yn mlilith ereill Mr. Taylor, A.S., yr Anrhydeddus B. W. Noel, a Newman Hall, yn Swyddfa y Llysgenadwr Americanaidd, ;Mr. Adams, er dadgan teimlad a barn rhan fawr o drig- oiion y wlad hon at America, yn ngwyneb Cyhoeddiad Mr. Lincoln i rvddhau y caethion. Mae yn dda genym am y cyfarfod hwn, gan ei fod o duedd i symud oddiar feddwl Mr. Adams yr argraff ag oedd y Times am ei adael ar feddwl y byd am olvgiadau Lloegr ar y pwnc mewn dadl rhwng y Gogledd a'r Dehau. Tramor.—Mae America yn galw am ein sylwblaenaf. Mae geny m ysgrif wedi ei hysgnfenu ar bwnc y Cy- hoeddiad ond wedi i ni ysgrifenu hono, mae y Great Eastern'' a'r "Europa" weui. vrhaedd oddiyno gyda newyddion pwysig iawn. Mae dwy neu dair o frwydrau pwysig wedi eu hymladd, yn y rhai v mae y Gogleddwyr wedi bod yn hollol lwyddiannus. Mae y gelyn wedi ei yru o Murfreesboro', gyda cholled fawr iawn, a'r Gog- leddwyr wedi cymmeryd meddiant o'r He. Mae y Deheu- wyr hefyd wedi cael colledion mawr yn Tennessee. Mae byddin y Gogledd wedi gwneyd ymosodiad llwyddiannus ar Vicksburg, ac wedi colledi y gelynion yn fawr. Nid oesdim newydd oddiwrth fyddin y Potomac. Maey Cadfridog Banks wedi cymmeryd lie Butler yn New Orleans. Mae Bill wedi ei ddwyn i mewn i'r Senedd er codi trwv nodau papyr 300,000,000 o ddoleri, gyda swm pellach o 300,000,000 o ddoleri vn ol chwe punt y cant, a hlw.v- ddvn neu ddwy, neu dair i redeg; ac yn mhellach 500,000,000 gydag ugain mlynedd i redeg, yn ol 6 punt y cant. Rhaid i'n cyfeillion goflo y daw y pethau hyn yn wir bwysig iddynt hwy yn olllaw, Mae araeth Amherawdwr y Ffrancod wrth agor ei Senedd yn hollol ddiniwed. Mae yn cynnwys adolygiad ar ei weithrediadau ef a'r Senedd am y pum mlynedd di- weddaf. Mae y gyfrol flynyddol o ffys"lythyron a Llys-lythyron wedi ei chyhoeddi yn Ffrainc, yn yr hon y cawn ddwy neu dair o ysgrifau lied bwysig yn eu perthynas a'r Pab, a theimlad y Pah at y wlad hon. Mae y Pab wedi rhoddi awgrym lied eglur i Mr. Oto Russell, em Llys Genadwr ni yn Rhufain, y dichon nad yw y dydd yn mbell pan y bydd iddo ef geisio Dinas Noddfa yn Mhrydain. Mae Arglwydd John Russell wedi cynnyg iddo balas teilwng yn Malta. Mae v Cenadwr Ffrengaidd yn ceisio gwneyd allan maijoke oedd cais y Pab ond beth by nag, mae yn vmddangos i ni yn ddifrifol ddigon, ac yn un mor natur- iol i'r Hen Bab, poor fellow, ddyfod yma a'r hen Louis Philippi, a channoedd ereill sydd wedi cael Lloegr yn le diogel, pin ag oedd vn ystorm yn tnhob man arall. 0 Itali yr ydym yn cael fod yno rhyw ddarparu pwysig iawn am chwvldroad yn Rhufain ei hun yna dichon y cawn y fraint o lettya y Pab yn gyntnagy meddyliem. Mae Senedd Prwsia wedi ei hagor; ond nid gan y Brenin ei hun, ond gan ddirprwywyr drosto, acyn ei enW. Mae yr araeth freninol yn lloerig a bawaidd, ac yn dangos dannedd un a garai gnoi pe gallai. Mae v Groegiaid hyd yma heb hollol gael eu boddloni „mewn Brenin. Mae yn debyg yn awr y bydd i'r Due o f Saxe Coburg gymmeryd at y swydd o fod yn Frenin Groeg; ac os felly daw ein tywysog Alfred ni yn etifedd i diriogaeth Saxe Coburg, a gwisgai y teitl o Due Saxe Coburg a Gotha. Mae gweinyddiaeth Sweeden yn addaw amryw ddi- wygiadau pwysig. Nid yw hi ond go anesmvvyth yn Twrci mae y ran fwyaf o'r gweinidogion wedi rhoddi eu swyddi i fyny. Mae felly hefyd yn Spaen ond mae y frenines yno wedi ymddiried y gorchwyl 0 ffurfio gwein- yddiaeth newydd i'w hen brif-wninidog, sef y Marshall O'Donnell.
LINCOLN A'R CAETHION.
LINCOLN A'R CAETHION. MAE Abraham Lincoln, Llywvdd America, wedi cadw ei addutied i'r llythyren, am yr hyn yr ydym yn diolch i Danw, ac yn cymmeryd cysur. Dywed- odd mewn Ysgrif Swyddogol yn mis Medi, y buasai iddo ef, fel Llywydd y Taleithiau, ac yn y cymmer- iad o Brif Faeslywydd byddin v Gogledd, i gym- meryd mesurau ar y dydd cyntaf o'r flwvddyn 1863, i ryddhau yr holl gapthion a fuasai y pryd hyny yn cael eu dal gan y Taleithiau a fuasai yn para mewn gwrthryfel yn erbyn yr Undeb. Er hyny, cym- merodd cyfnewidiadau pwysig le yn v weinyddiaeth, yn y fyddin, ac yn nheirnladau y wlad. Llwyddodd y Democratiaid i ennill yn yr etholiadau-diswvdd- wyd M'Clcllan, collwyd brwydr waedlyd Fredericks- burg, a theimlem yn dra phyderus am yr hyn a fuasai y Llywydd yn deimlo yn addas i wneyd ar y cyntaf o Ionawr. Byddem weithiau yn ofni y buasai iddo yn ngwyneb croesau go bwysig, i ohirio y tymhor i gvhoeadi r.iyddid v caethion. Yo wahanol y mae wedi troi allan. Yn'ei ysgrif feistrolgar a phender- fynol ar Ionawr 1, 1863, mae y Llywydd yn cyhoeddi Arkansas, Texas, Mississippi, Alabama, Florida, Georgia, South Carolina, North Carolina, a rhanau o Louisiana a Virginia, mewn gwrthryfel; am hyny cyhoedda yr holl gaethion yn y lleoedd hyn yn awr ac am byth yn rhyddion. Mae hefyd yn ymrwymo cydweithrediad byddin a llynges y Gogledd er cyn- northwyo y caethion i ymryddhau, ac i fwynhau eu rhvddid wedi dyfod i'w afael. Mae hefyd yn rhoddi cynghorion pwysig i'r caethion, pa fodd i ymddwyn. Addawa yn mhellach i dderbyn y caethion o oedran priodol i fyddin a llynges y Gogledd. Mae y Llyw. ydd yn diweddu ei deyrngri gorchestol gyda dymun- iad am i'r weithred hon gael ei derbyn fel gweithred o gyfiawnder at y caethion, ac angenrhaid fel gweith- red filwrol, er sicrhau diogelwch yr Undeb. Yr ydym ni o'n calon yn llawenhau am y weithred hon o eiddo Abraham Lincoln—fel yr un fwyaf bwysig o'i eiddo er dechreu ei lywyddiaeth. Os nad oes yn y Gogledd ei hun rhyw deimlad cryf iawn yn erbyn y caeth, bydd y cyhoeddiad hwn yn ddyrnod farwol i'r gwrthryfel halogedig a achoswyd yn herwydd yr awydd mawr yn y Dehau i helaethu tiriogaeth y gaethfasnach. Yr unig beth ag ydym yn teimlo o'i herwydd yw, na buasai hwn wedi ei gyhoeddi flwyddyn yn gynt; ond nid ydym am feio yn awr— diolch i Dduw ac i Abraham Lincoln am dano. Bydded iddo fjrued fel taran-follt i galon y gyfun- 0 draeth felldigedig, sydd wedi anhardduyr Undeb am y blynyddau diweddaf. Mae yn dda genym ganfod fod y cyhoeddiad hwn wedi cael,derbyniad iled ffafriol yn gyffredin yn y taleithiau gogleddol. Ond fel y gellesid dysgwyl, y mae y New York World, a'r New York Herald, yn ei gondemnio. Nid ydym yn synu dim ar hyn, gan fod holl dueddiadau y newydd. iaduron hyn dros y masnachwyr mewn dynion- maent yn hollol o blaid parhad caethiwed. Mae yn ddiddadl fod eu dylanwad yn fawr iawn ond etto ni a obeithiwn fod digon o ddynoliaeth a chrefydd yn y Gogledd i ddal i fyny, a chadarnhau dwylaw y Llywydd yn y mudiad daionus hwn. A sicr ydym o hyn, y bydd enw Abraham Lincoln mewn cyssylltiad a'r weithred hon i gael ei fendithio gan filoedd ag ydynt heb eu geni, tra yr a y ddau newyddiadur dan sylw i lawr gyda dirmyg a gwarth. Yn awr yw adeg dyngarwyr a chrefyddwyr America i weithio o ddifrif, er cael y caeth yn rhydd. Bydded i'r Llyw. ydd gael eu cydvmdeimlad a'u cydweithrediad, a bydd y flwyddyn 1863 yn un o'r rhai hynotaf yn holl hanes y taleithiau Americanaidd. Mae y Times yn y wlad hon yn trin Lincoln yn erwin am y Cyhoeddiad pwysig. Mae y papyr di- egwyddor hwii yn un o bleidwyr penaf caethfeistri y Dehau. Nid oes gyda hwy ddim gwell amddiffyu- ydd yn y byd na Times LIundain. Mae y papyr hwn, trwy ei gylchrediad helaeth, yn gwneyd drwg mawr iawn. Mae llawer yn ei gymmeryd fel dad- ganydd o deimlad a meddwl pobl y deyrnas hon ond nis gall unrhyw gamsyniad fod yn fwy. O'r tu arall, da genym feddwl fod cyHredin y wlad hon yn dyfod yn twy fwy ffafriol i'r Gogledd; a chredwn y bydd i Gyhoeddiad diweddaf Lincoln i ail-ennyn yr hen dan a fu yn llosgi yn ein mvnwesau yn amser Knibb, Buxton, a Burchell-thii yn y a losgodd y llyfetheiriau ag oedd yn da.1 mewn caeth- iwed yn Ynysoedd Prydain chwe chan mil o feibion a merched Ham. O! am weled y teimlad hwn etto yn bywhau, er croesawi rhyddid bedair rniliwn o gaethion Deheudir America.
Family Notices
GENEDIGAETHAU. I'nawr 6, priod Mr. Thomas Griffiths, dosparthwr SEREN GOMER, Suffield-street, Middlesbro ar-Tees, ar ferch. Gelwir hi Annitta. Ymserchwyd yn yr enw wrth wrandaw ar y Parch. T. Price, Aberdar, yn ei ddarlith ar "Garibaldi," yn siarad mor uchel am rinweddau ei briod Annitta. Ionawr 9, priod J. Rowlands, Yaw., meddyg, Aberystwyth, ar ferch. PRIODASAU. Ionawr 12, yn Nghapel Calfaria, Aberdar, gan Mr. Phillip John, a'r cofrestrydd, Mr. Ueorge Rosser, Mr. Thomas Lewis, gynt o Ferthyr, a Miss Gwenllian Haddock, gynt o DreJegar. Ionawr 8, yn Llwynhwrdd, gan y Parch. J. Williams, yn ngwydd y cofrestrydd, David, mab ieuengaf John Jones, Y sw., Ll,vynhwrdd, ag Esther, merch ieuengaf John Owen, Ysw., Glogue, y ddau o blwyf Cludey, Swydd Benfro. lanawr 14, (trwy drwydded,) yn addoldy y Bedyddwyr Cym- reig, Great Cross Hall Street, Llynlleifiad, gan y Parch. J. G. Owen, Rhyl, ac yn cael ei gynnorthwyo gan y Parch. W. Thomas, gweinidog y lie, y Parch. John Jones, gweinidog y Bedyddwyr yn y Bala a Llanuwchlyn, a Miss Sarah C. Lloyd, merch henaf y diweddar W. Llovd. Yswain, Bwlchyfen. a ilysferch J. Jones Ysw., Paradwys, Mon. MARWOLAETHAU. Rhagfyr 5, yn 48ain oed, Mrs. Watkin Liwis, Yetnewydd, ger Brynberian, ar ol cystudd maith a phoenus iawn. Hiraethai am ei dattod, a bod gyda Christa chredwn ei bod yn awr yn iach ger ei iron Ef. Bu yn aelod ffyddlon a diwyd iawn yn Bethabara am flynyddau lawer, yn yr hwn le hefyd ei claddwyd, a gweinydd- wyd yn ei hangladd gan y Parch. D. Price. Ionawr 12, yn Aberafon, yn 29 oed, Mary Edwards. Bu yr ymadawedig yn aelod hardd yn Ebenezec, Aberafon a gadawodd briod hoff a thri o blant bychain i alaru ar ei hot ac yn ol ei thystiolaeth ei hun, ni a allwn ddweyd, A Mair a ddewisodd y rhan dda." Dydd Iau canlynol, hebryngwyd ei rhan tarwol i'r gladdfa, a phregethodd Dr. Davies ar yr amgylchiad. Iouawr 6, yr hen frawd David Phillip. Treforris, yn 69 mhvydd oed. Rhyw bedwar mis yn ol, claddwyd ei briod, Mary, yn 65 oed. Yr oeddent wed) byw yu gretyudol, ac yn ddefnyddiol gyda'r achos goreu am dynyddoedd maith. Yr oeddent o dym- herau mwyn a hawddgar, llettygar, a da. Bedyddiwyd yr hen Irawd yn afon Llan. y tu uchaf i bont L!ewitha, ar brydnawn teg yn haf 1821 neu 1.822, gan y diweddar Bared. D.Thomas,Hermon, Penclawdd. Bendithied yr Arglwydd y mab a'r ferch sydd wedi cael eu gadael ar ol.—BRAWD. Rhagfyr 12, yn Llanelli, yn 21 oed, Mrs. Roseta Davies, priod Mr. John Davies, a merch i'r adnabyddus Rowland Morgan. Yr oedd yr ymadawedig eto crefydd er pan yn 15 oed, a dangosodd yn ei chystudd mai nid mewn enw yn unig yr oedd, on.i lod gauddi wreiddyn y mater o'i mewn. Myfyriai yn ystod ei cliystudd ar drysorau y Net, ac yr oedd ei phrofiad yn hynod o felus yn mhethaa Duw. Dydd ei hangladd, ymgynnullodd lluaws yn nghyd, er talu iddi y gymmwynas olaf, pryd y pregethodd y Parch W. Hughes i dorf luosog a galarus.—ODYDD. Ionawr 6, yn 55 oed, ar ol hir gystudd, Mr. Richard Evans, Hafodfrraith plwyf Llandinam, Ma!dwyn.
CYLCHDEITHIAU Y BARNWYR. ;
CYLCHDEITHIAU Y BARNWYR. Y mae y barnwyr wedi dewis eu cylchdeithiau gyferbyn,a brawdlysoedd y gwanwyn fel y canlyn Y Gyichdaith Artrefol.—Y Prif-farnwyr Cockburn, a'r Barnwyr Wightman. Cylchdaith Norfolk.-Y Prif-farnwyr, Erie, a'r Barnwr Williams. Y Gylchdaith Gano/barthol.- Y Prif-farnwyr Pollock a'r Barnwr Willes. Cylchdaith R.hydychain.- Y Barnwr Crompton a'r Baruwr Cbannell. Y Gylchdaitk Oiliewinol.-Yr Ynad Biles a'r Barwn Wylde. Y Gylchdaith Ogleddol.- Y Barnwr Martin a'r Baruwr Keating. Gogledd Cymru.—Barwn Bramwell. Deheudir Cymru.-Yr Ynad Mellor. Aroslt yr Yuad Blackburn yn LIundain, er trefnu materion yn Ystafell y Barnwyr.