Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

PATRNOW 'Clotwmot*g.I

News
Cite
Share

PATRNOW 'Clotwmot*g. AT YMNEILLDUWYR PROTESTANAIDD DEHEUDIR CYMRU GYDWUDWYR,—Nid tebyg yw eich bod wedi an- nghofio amgylchiadau mor bwysig a'r gynnadledd a Z3 1 gynnullwyd yn Abertawe, yn Medi diweddaf, gan Gymdeithas Rhyddhad Crefydd; ac nid buan y gwna y rhai a gymmerasant ran yn eu hymgynghorau, golli yr argraff a gynnyrehid gan y difrifoldeb dwfn a'r unfrydedd syniadau a amlygid ynddi. Ond y mae gwerth ymarferol a dylanwad parhaol y gynnadledd hono i'w profi genym etto. Bwriedid hi i fod yn ddechreuad ysgogiad newydd, yr hwn a ddylai barhau i "dyfu ac esgor ar ganlyniadau mawrion mewn blyn- y n yddau dyfodol. Er ymestyn at y nod pwysig hwn, ffurfiwyd is-bwyllgor i'r gymdeithas, yn neheudir Cymru, ac y mae y pwyl!gor hwaw yn awr yn difrif- ol ofyn am eich cefnogaeth a'ch cydweithrediad chwi. Y mddengys reI pe byddai Rhagl uniaeth yn y nef wedi ordeinio mai yr oes hon sydd i benderfynu y pwnc rflawr-pa uti a yw helyntion a thrafodaeth Eglwysi Cristionogol i gael eu rheoli gan eu haelodau hwy eu hun.iin, neu ynte a yw y byd a'r eglwys i barhau mewn uudeb ansantaidd-a ydys i ddibynu ar nerth deddfau dynol er cynnal crefydd, yn lie gorphwys ar Y ddeddf ddwyfol o gariad ac ewyllysgarwch, ac a yw llygredd ac ymryson i barhau lie y gallai a lIe y dylai fod purdeb a heddwch. Mae pleidwyr yr egwyddor wirfoddol yn Lloegr wedi llafurio yn galed gyda dyfalbarhad di-ildiof2am flynyddau bellach, i godi yr egwyddor hono i sylw a dylanwad. Gellir mesur y llwyddiant mawr a ddilynodd eu hymdrechion, wrth yr ofn a'r cynddeiriogrwydd a amlygir gan y rhai ydynt yn awr wedi ymuno er ceislo attal ei llwydd- iant pellach. A ellir gwadu y ffaitb, bod Ymneill- duwyr Cymru, hyd yn hyn, heb ymorchestu i'r graddau y gallasent er dwyn i sylw a dylanwad eg- wyddorion y proffesant eu bod yn anwyl ganddynt ? Dangoswyd fod yr eglwys a sefydlir gan gyfraith y tir, yn druenus o wan ac aneffeithiol yn Nghymru, tra mae y rhai a ymneillduant oddiwrthi, yn cyfan- Soddi mwyafrif mawr y boblogaeth. Dangoswyd hefyd bod nerth yr egwyddor wirfoddol wedi ei am- Jygu yn gryfach yn ein plith ni, mewu darparu cyf- leusderau a chynnyrchu gweithgarwch crefyddol, nag yo un ran arall a'r deyrnas. Er hyny, dangoswyd hefyd tu hwnt i ddadl, nad yw y ffeithiau hyn wedi bod mor ddylanwadol a gweithredol ag y dylasant i greu ac arwain barn gyhoedd oleuedig,ysgrythyrol, a Phenderfynol arysbrydolrwydd hollol Cristionogaeth, ac yn neillduol bod Anngln dffurfiaeth Cymru bron bod yn gwbl ddigynnrychioliad yn senedd y wlad. Mae ein brodyr Saesonig yn awr yn gofyn am help, Yr hwn, yn ol eu barn hwy, ac yn ol ein barn ninnau, sydd yn ein gallu ni i estyn iddynt. Edrychant atom alIl gymhorth mwy, mewn dylanwad ac mewn arian; f01 ymdrechion personol, ac am ymdrechion unedig o blaid achos ag sydd mor bwysig i ni ag ydyw iddynt hwy. A gant hwy edrych atom yn ofer ? A gaiffy §°boithion cryfion a gynnyrchwyd gan y gynnadledd ^diweddar, droi allan yn bethau disail ? N*u a gaiff y brwdfrydedd a daniwyd gan y cynnulliad cynnyrchtol 1110vvr hwnw ymledu o gwr bwy gilydd i'r Dywysogaeth an cynhyrfu i ymdrechu yn gysson, yn amyneddus, ?c yn ddi-ildio ? Nid ydym yn petruso am yr ateb- lad a roddwch i'r gofyniad hwn. Credwn y bydd i'r §0beithion a gyfodwyd yn Abertawe i gael eu cyflawnu 0 r naill gwr i'r llall yn ein gwlad. Ac er i hyny j5>'rcimeryd lie, yr ydym yn erfyn arnoch i ddechreu wyddyn newyrfd gyda y penderfyniad difrifol i fod peth hwn, drwy gymhorth yr Arglwydd, yn |edyrn ffyddlon o blaid y gwirionedd. Gobeithiwn y ^.yddwn yn alluog, o bryd i bryd, i nodi allan i chwi i'w mabwysiadu er cyrhaedd yr hyn sydd yr „ 1 °^* Gellir yn awr enwi rhai pethau a alwant _^cio sylw mwyaf uniongyrchol. y W Eydym yn gadae jlallan yr ysgrif arweiniol, er rhoddi lie i VthYr Mr. Davies. Mae trefn a chydweithrcdiad o'r pwys mwyaf. Yn yr holl drefydd, ac mewn ardaloedd poblog, dylai pwyllgorau Ileol i Gymdeithas Rhyddhad Crefydd gael eu ffurfio. Lie nas gellir cael defnyddiau at v fath bwyllgorau, dylai personau unigol fod yn barod i weithredu fel gohebwyr i'r manau hyny, y rhai a fyddent barod i weithredu mewn undeb naill ai a'r Pwyllgor Cymreig, neu a'r Pwyllgor Canolog yn Llun- dain. Gobeithiwn hefyd y bydd ein cymmanfaoedd a'n cyfundebau enwadol yn barod i ddefnyddio y dy- lanwad mawr yn ddiamheuol a feddiennir ganddynt i ddwy-ewestiynaueglwvsigydycld o flaen gweinidogion ac eglwysi, fel y byddo syniadau cywir yncaeI eu lled- aenu am danynt, ac fel y byddo addfedrwydd cyffred- inol i ysgogi yn unol ac yn gyflym o barthed iddynt. Nis geIlir cyrnhell yn rhy gryf i eglurhad rheol- aidd o egwyddorion Y mneillduaeth i gael ei gyfranu drwy ddarlithiau, anerchion, pregethau, a dosparth- iadau Beiblaidd. Yn ol fel y bydd gan y bobl am- gyffrediadau eglur o'r egwyddorion pwysig a oblygir yn y pwnc mawr sydd mewn dadl, y byddant yn barod i weithio, ac os rhaid, i ddyoddef er dyrchafu achos crefydd rydd ac ysbrydol. Meddianna Ym- neillduwyr Cymru well cyfleusderau er dwyn y fath waitli yn mlaen nag a feddiana Yrnneillduwyr unrhy w barth arall; ac os gwna ein gweinidogion a'n blaen- oriaid gyflawnu eu dyledswydd yn y peth hwn, nid oes bryn na bro o fewn y tir lie nis gellir symud an- wybodaeth a chamsyniadau, a Jle hefyd nis gellir tynu allan argyhoeddiadau petsonol grymus. a phen- derfyniad difrifol i wneyd" pob peth a ellir er cael crefydd Crist yn rhydd o bob darostyngiad a gwas- eiddiwch i deyrnasoedd y byd hwn. Gwnaeth y cyffro Daucanmlwyddol lawer er cynhyrfu dyddordeb cynnyddol yn ein hegwyddorion, yn neillduol felly yn ieuenctyd ein heglwysi. Dylai ymdrechion a fuont mor ffrwythlawn yn ddiau i gael eu cadw yn mlaen, fel y gwelir nad ydym yn fodd!on ar gynhyrfiad byr, ond ein bod yn ymestyn at ganlyniadau parhaol a sylweddol. Ffordd arall er cyrhaedd ein hamcan, yw lledaenu cyhoeddiadau pwrpasol, a dal ar bob cyfle priodol i ddefnyddio y wasg. Credwn y dylai Adroddiad gwerthfawr Cynnadledd Abertawe, yr hwn sydd wedi ei gyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg, fod yn nwylaw pob ymneillduwr drwy Gymru Mae y G-ymdeithas wedi dwyn allan lawer o lyfrau rhagorol, y rhai nid ydynt hyd yn hyn wedi eu taeuu yn helaeth yn ein gwlad gan y cyfieithir y goreuon o honynt yn fuan i'n hiaith, hyderwn y derbynir hwynt yn gyffredinol, ac y darllenir hwy yn fanwl. Dyga y Gymdeithas hefyd allan gyhoeddiad, o dan yr enw, THE LIBER- ATOR, yr hwn sydd ddigon rhad i'w feddiannu gan bawb a ewyllysiant gael gafael ar yr hyfforddiant pwysig a gynnwysir o fis i fis yn ei dudalenau. Lie bynag befyd mae newyddiaduron Ileol, Seisnig neu Gymreig, yn ewyllysgar i gyhoeddi ffeithiau neu ys- grifau a dueddont i ddyrchafu yr egwyddor wirfoddol, hyderir y bydd pob ymneillduwr yn wyliadwrus ac ymdrechol i wneyd defnydd o honynt, er gwreiddio a lledaenu ein hegwyddorion. Dilead y Dreth Eglwys yn y plwyfydd a ddylai fod yn nod arall i ymestyn ato. Nid yw y rhesymau yn erbyn y gorthrwrn hwn, yn un man mor gryfion ag yn ein plith ni-dylid ei ysgubo ymaith yn mhob plwyf. Gellir cael pob hyflorddiant cyfreithiol pa fodd i weithredu yn rhwyddac yn rhad. Mae llyfrau i'r perwyl hwn yn bodoli mewn cyflawnder. Nid oes dim yn angenrheidiol ond undeb a phenderfyniad er diogelu llwyr ddilead y dreth, a hyny heb aros i senedd hwyrfrydig ac oedog. Ac yn arbenig, ni ddylid annghofio ymdrechion etholyddol. Pa ymneillduwr bynag sydd heb fod a'i enw ar lyfr yr etholiad, a ddylai ei osod yno y tro cyntaf y gellir gwneyd hyny. Y rhai ydynt yn eth- olwyr, a ddylent wylio yn fanylaidd ymddygiadau eu cynnrychiolwyr, ac ymdrechu eu hennill i bleidleisio ar gwestiynau Eglwysig yn ol llais y rhai a'u han- fonasant i'r senedd; a chyn y cymmer etholiad cyff- redinol le etto, dylid mabwysiadu mesurau er sicrhau y fath welliant yn ein cynnrychiolaeth ag a'i gwnelo yn llai gwarthus i ymneillduaeth Cymru nag y mae wedi bod hyd yn hyn. Yn ddiau gwna gweithio allan y crybwyllion hyn oblygu llafur a phryder nid bychan ac nid annhebyg Z5 yw na ofyna am aberth bersonol yn ami. Ond beth all syrthio i'n rhan ni yn debyg ilafur a dyoddefiadau ein tadau ? Gobeithiwn fod y coffhad am wroniaid Annghydffurfiol 1662, wedi einbedyddio arhywgyf- lan o'u hysbryd, fel y profom yn ddisgynyddion teilwng o'r fath achyddiaeth ysbrydol a gogoneddus Z5 -yn cadw, yn parhau yn mlaen, ac yn perffeithio y rhyddid crefyddol ag y darfu iddynt hwy ddyoddef mor wrolfrydig drosto. Nac ymddiogwn, eithr byddwn ddilynwyr i'r rhai drwy ffydd ac amynedd a etifeddasant yr addewidion. A yw yn bosibl i ni i ymorchesfu gydag pchos mwy gogoneddus? A gyfreithlonir ddirn o honom am edrych yn mlaen am wobr fawr i'n llafur ? Gan nis gallwn yn onest a chydwybodol ysgoi y ddadl fawr hon, bydded i ni gymmeryd rhan ynddi fel dynion ag ydynt yn teilynga byw yn y fath oes, ac ymdrechu o blaid y fath eg- wyddorion. Bydded i ni weithio dros ereill yn gystal a throsom ein hunain—dros gyfangoi ff eglwys Dduw, yn hytrach na thros fuddiant yr enwadau y perthynwn iddynt. Bydded i'r llwyddiant a ennillasom ein gwroli; a bydded i ni gredu y par Pen Mawr yr Eg- Iwys, yn ei amser da ei hun, ganiatau i ni weled Ilwyddiant llwyr a hollol yr egwyddorion hyny a. dueddant, fel y credwn, i ddyrchafu ei enw a'i glod- ydd ef. Dros BwyUgor Deheudir Cymru, JOHN DAVIES, Ysgrifenydd. Aberaman, Ion. 3, 1863. O.Y. Gan fod Adroddiad y Cynnadleddau pwysig a gynnal- iwyd yn Abertawe, yn cynnwys areithiau rhagorol y Parchn. Henry Richard, Edward Miall, Ysw., ac ereill, yn gystal a'r papyrau campus a ddarllenwyd gan Dr. Rees, Abertawe; Dr. Thomas, Poutypool; Parch. T. Levi, Treforiis a Mr. Carvell Williams,—a'r oil yn dal cyssylltiad mor agos a chwestiwn, mawr y dydd, ac a sefyllfa neillduol ymneillduaeth ac Eglwys- yddiaeth yn Nghymru, taer erfynir ar bawb i wneyd yuidrech egniol i'w ledaenu. Nid yw ei bris oni chwe cheiniog, a rhocUir y drydedd ran yu elw i bob dosparthwr a gasglo cu"au ac a yro fliendal am dano, i Mr. D. J. Thomas, Cardiff Street, Aberda e.

-,-ATHROFEYDD Y BEDYDDWYR…