Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
AMERICA.
AMERICA. Pwyllgor Gweithrediadau y Rhyfel. Y mae y pwyllgor wedi derbyn hysbysiadau helaeth oddiwrtb y Cadfridogion Burnside, Sumner, Hooker, Franklin, Woodbmy, Haupt, Halleck, a Meigs, ac y mae llawer iawn o oleuni wedi ei daflu ar weithred- iadau yr ymosodiad ar Fredericksburg. Y mae y Cadfridog Burnside, tra yn cymmeryd arno yr holl gyfrifoldeb am symudiadau y fyddin dan ei ofal, yn beio yn fawr o herwydd yr oediad a gymmerodd le yn nanfoniad y pontoons i Fredericksburg. Nifeddyliodd ef ei fod yn rhwym i gymmeryd gofal am fanyiion a ddylent gael eu cario allan yn Washington. Derbyn- iodd y llywyddiaeth gyda chryn bryder pan symud- wyd y Cadfridog M'Clellan, gan nad ys- tyriai ei hun yn gymhwys i lywyddu y fath fyddin luosog. Cymmer arno y cyfrifoldeb o'r ymosodiad ond yr oedd cynghor rhyfel, yn gynnwysedig o'i Gad- fridogion, a gynnaliwyd ar nos Sadwrn, yn anfoddlon i barhau yr erlyniad, ac nid oedd ganddo yntau ddim i'w wnevd ond encilio i'r ochr ogleddol. Ei gynllun ef oedd W croesi yr afon yn Acquia yn lie Warrenton ac ymddengys mai yr achos penaf o'r aflwyddiant oedd, am na anfonwyd pontoons yno i'w gyfarfod mewn pryd. Pan yr oedd y Cadfridogion Halleck a Meigs mewn cydymddyddan ag ef, penderfynwyd ar y cyn- Iluniau a'r ail ddydd cymmeradwywyd hwynt gan y Llywydd, a gorchymynwyd iddo fyned yn mlaen. Yr oedd pontoons i gael eu haftfon, a darfu iddo yntau yn ganlynol roddi gorchymyn i'r Cadfridog Sumner i fyned lawr a chroesi; ond ni ddaeth y badau am ddeg diwrnod wedi iddo gyrhaedd yno. Beio y Weinyddiaeth. Y mae yr aelodau Gwerinol yn y Senedd wedi hys- bysu ei diffyg ymddiried yn y llywodraeth, a beient Mr. Seward yn fwyaf neillduol. Ar hyn darfu i Mr. Seward yn uniongyrcbol roddi ei swydd i fyny, yr hyn a ddilynwyd drwy i Mr. Chase, Ysgrifenydd y Drys- orfa, roddi ei swydd i fyny. Gwrthododd Mr. Lin- coln dderbyn eu swyddi, a gorchymynodd iddynt eu cario yn mlaen. Yn ganlynol adgymmerodd Mr. Seward a Mr. Chase eu swyddi fel Ysgrifenyddion y Wladwriaeth a'r Drysorfa. Yn ystod yr ymdrafod- aeth yma, gwrandawai Mr. Lincoln gyda difrifoldeb ar yr oil a ddywedid. Yna hysbysodd ei fod yn teimlo yn ddwys gyda golwg ar sefyllfa y wlad, a llwyddiant y rhyfel. Yr hyn oedd yn eisieu oedd, llwyddiant milwrol. Heb hyny, ni allai dim fyned yn mlaen yn iawn a chyda hyny, nis gellid bod yn aflwyddiannus. Nid oedd efe ) n gallu canfod pa fodd y gallai y mesur a gynnygidgan y pwyligorau wellhau pethau. Pe byddai ganddo angvlion yn weinidogion, ni allent roddi llwyddiant milwraidd i'r wlad a dyna yr hyn oedd yn eisieu, a'r hyn oedd yn rhaid iddynt gael. Buddugoliaethau yn Carolina Ogleddol. Ar yr 20fed o Ragtyr, ysgrifena y Cadfridog Foster Z5 fel y canlyn at y Llywydd Cyffredin Halleck:— "Yr oedd fy hynt filwraidd yn hollol lwyddiannus. Llosgais bont y rheilffordd yn Gouldsborough a ZD Mount Olive, gan ddinystrio atnryw filltiroedd o'r rheilffordd rhwng Wilmington a Weldon. Ymladd- asom bedair brwydr, sef yn Southwest Creek, Kins- ton, Whitehall, a Gouldsborough, a chwipiasom y gelyn yn dda bob tro." Mewn mynegiad arall, dywed :_H Yr ydym wedi cymmeryd Kinston, gan gymmeryd 11 o gyflegrau, ac o 400 i 500 o garcharorion a chawsom hefyd lawer oystorfeydd rhyfel. Ni fydd ein colled dros 200 mewn lladd a chlwyfo." Er dealt pwysigrwydd y mudiad hwn, gallwn nodi nad yw Kinston ond tref fechan ar yr afon Neuse, rhyw ddeugain milldir uwchlaw Newbern. Cymmer- wyd meddiant o honi gan Foster, nid am ei bod o werth ynddi ei hun, ond am ei bod ar y ffordd i Gouldsborough. Y mae Gouldsborough yn orsaf y rheilffordd a gyssyllta Richmond a Wilmington, Caro- lina Ogleddol; a thrwy gymmeryd Goaldsborough, mae y drafodaeth rhwng Richmond a'r Taleithiau De- beuol wedi ei hattal i raddau helaeth. Mae yn wir y gellir adgyweirio y rheilffordd mewn ychydig wyth- nosau, ond gall yr oediad fod yn dra niweidiol i'r fyddin Ddeheuol yn Virginia. Y mae y Cadfridog Foster wedi myned yn ol i Newbern, lie y mae yn ddiogel dan gysgod y gwn-fadau. Y mae y Gwrthryfelwyr wedi adgymmeryd Holly Spring, ac wedi dinystrio dau cant o wageni, cotwm, ystorfeydd, &c., gwerth pum can mil o ddoleri. Y maent hefyd wedi ilosgi Onion City. Dywed y G-ogleddwyr mai eu colled hwy yn Holy Spring oedd 200 wedi eu lladd, a 150 o garcharorion. Mewn ymgyrchfa ar Memphis, cariodd y Gwrth- ryfelwyr 400 o anifeiliaid, a 180 o ferlynod, ffwrdd gyda hwynt. Dywedir fod gallu o 7,000 o Wrthryf- elwyr, yfttfyehwyn tua Colbus, eu cadarnle blaenorol ar y MiBsiss'ip^ii. Amrywion. Yr oedd hynt y Cadfridog Banks wedi cyrhaedd y Gulf, ond ni wyddis yn sicr pa un ai yn Mobile ai yn Texas y buriadent ymsefydlu. Yr oedd pump o'i longau wedi gorfod troi i fewn i Philadelphia a Port Royal, o herwydd eu bod yn gollwng dwfr, ac yr oedd y chwechfed wedi myned yn ddrylliau ar lanau Florida. Y mae y Cadfridog Gwrthryfelgar Morgan wedi cymmeryd meddianto Glasgow, Kentucky. Y mae Ty y Cynnrychiolaeth wedi pleidleisio 731,000,000 o ddoleri at gynnal y fyddin am y flwyddyn yn diweddu Mehefin, 1864. Y mae Ysgrifenydd y Drysorfa wedi anfon ysgrif i mewn yn cymmeradwvo cael benthyg 900,000,000 o ddoleri, yn dwyn llog yn ol y radd a ganiateir gan y llywodraeth. Dywedir fod Mrs. Beauregard yn gorwedd yn glaf iawn yn New Orleans, a bod y Cadfridog Bntler wedi anfon gwahoddiad at y Cadfridog Beauregard i ddyfod i dalu ymweliad a'i wraig, gan ei sicrhau yr ymddygir mewn modd caredig tuag ato, ac y bydd mewn llwyr ddiogelwch. y Mae caniatad wedi ei roddi yn y Senedd, i roddi ugain miliwn o ddoleri, i gynnorthwyo Missouri i ryddhau ei chaethion. Yn y Senedd ar y 23ain o Ragfyr, rhoddodd Mr. Lane, o Kansas, rybydd o ddygiad mesur i mewn, yn awdurdodi y Llywydd i godi 200 fyddinoedd, yn gyf- ansoddedig o Negroaid. Ofnid y codai y Negroaid mewn gwrthryfel yn Sir Franklin, yn Missouri.
AWSTRIA.')
AWSTRIA. ') Mae Cvfrin-gynghor Awstria wedi anfon allan gen- adwri o berthynas i orsedd Gfroeg, i'r perwyl ei bod pg yn annghyfleus i Ewrop osod Tywysog Italaidd yn C5 -1 frenin ar y deyrnas newvdd. Ond, gan fod pob meddwl i osod allan fab Victor Emmanuel fel ymgeis- ydd i'r orsedd wedi ei roddi i fyny, nid yw y genad- wri Awstriaidd yn tynu ond ychydig o sylw.
FFRAINC. :
FFRAINC. Dywed y Patrie fod y Frenines Victoria ac Am- herawdwr y Ffrancod wedi cyfarch eu gilydd ar y dydd cyntaf o'r flwyddyn newydd drwy y gwefrebydd. Derbyniodd yr Amherawdwr y corff diplomyddol yr un dydd. Tvstiai ei Fawrhydi wrth gynnrychiolwyr y gwahanol deyrnasoedd, mai ei ddymuniad oedd byw mewn cyfeillgarwch a'r gwahanol alluoedd, er sicrhau dedwyddwch presenol a dyfodol.
-,.....->",ITALI.
.> ITALI. Y dydd cyntaf o'r flwyddyn brësenõI. -šîafàdôdd Victor Emmanuel mewn gwledd fawr yn wrol a phen- derfynol. Annogai y senedd i ymddiried ynddo ef, a gobeithiai y bydd y flwyddyn hon yn un fwy hapus y na'r flwyddyn ddiweddaf. Hyderai y llwyddent i heddychu Deheubarth Itali, ac i Iwyr ddarostwng y terfysgwyr sydd wedi bod yn anrheithio y wlad am gyhyd o amser, ac yna byddai yr achos cenedlaethol yn fuddugol." Diweddodd trwy ddyweyd fod y fyddin mewn cyflwr rhagorol, ac yn hollol Italaidd, a chyda hi, a chenedl unedig, gallent herio y byd." y 0
RWSIA.
RWSIA. Dychwelodd yr Amherawdwr a'r Amherodres i St. Petersburg o Moseow ar y cyntaf o'r mis hwn. Y mae yr hin yn per iawn yn St. Petersburg- -braidd yn annyoddefol. Gan ei bod yn anmhosibl teithio, y mae prisoedd pob math o fwydydd wedi codi yn ucbel iawn. Mae y gauaf wedi dechreu yn galed iawn yn Moscow hefyd. Mae y Crimea, fel Finland, yn eael ei gwasgu gaa y newyn du. Mae yd yn cael ei anfon o Odessa i Eupatoria er mis Awst.
CHWYLDROAD YN JAPAN.
CHWYLDROAD YN JAPAN. A ganlyn sydd ddyfyniad o'r Japan Herald am y 22ain o Hydref, yr hwn a gyhoeddir yn Yoko- hama:—"Yr ydym newydd dderbyn hysbysrwydd pwysig iawn. Yr wythnos ddiweddaf, torodd chwyl- droad allan yn Japan. Newidiwyd yr boll gyfan. soddiad mewn dull dystaw, ac heb unrhyw arddan- gosiad. Diddymwyd y cyfreithiau a osodwyd gan J yevas yn 1599-1600. Lleihavvyd gallu a dylan- wad y Tycoon a'r llys Dwyreiniog. Yn mhen vch- ydig amser, fe wneir Jeddo yn dref eilraddol; hwyr- ach y gorfodir y Tycoon i encilio i wneyd He i un arall; a chvflawnuyd 'hyn heb danio un ergvd, na chyhoeddi un inath o broelauiasiwn."
CHINA.
CHINA. Yr ydym wedi derbyn newyddion o Shanghai hyd y 23ain o Dachwedd ac ofnid ar y pryd fod y gwrth- ryfelwyr yn agoshau at y ddinas hono. Bu brwydr boeth mewn lie o'r enw Paokong rhwng canlyniedydd y Cadfridog Ward a'r gwrthryfelwyr, yn mha un y lladdwyd 2,000 o'r olaf. Dywedir fod y Rwsiaid wedi cynnyg eu cynnorthwy i'r llywodraeth Chineaidd, er adennill Nankin.
SiiawcsiDn iyfttditwl
y gweinidog diniwed wrth frigyn coeden, am y tybient ei fod yn wrthgaetbiwydd. Torasant fath o dwll yn y ddaear thaflasant ei gorff yno, gan adael ei liniau allan olr pridd yn noethion. Ond yn ddiweddar, daeth gweinidog Wesleyaidd arall, oedd yn filwriad yn myddin yr Undeb, ar draws yr haid hono a grogasant ei gydefengylwr, a saethodd bump o honynt yn farwol, ae archollodd saith ereill o honynt. YMfuDiABTH.—Nifer yr ymfudwyr a adawsant borthladd Liverpool am yr Unol Daleithiau, America Brydeinig, tref- edigaethau Awatratia, &c.. yn ystod y flwyddyn ddiweddaf oedd 64,314, ac yn y flwyddyn flaenorol 55,029, yr hyn sydd yn dangos cynnydd o 9,285 yn y lfwyddyn. Y nifer a ymfud- asant o dan y gyfraith oedd 53,489, a'r rhai heb fod o dan y gyfraith, neu y rhai a elwir llongau byrion," 10,816. Er gwaethaf sefyllfa drallod us yr Unol Daleithiau, yn yr ymfud- iaetli i'r wlad hono y cymmerodd v rhan fwyaf o'r cynnydd le. Y nifer a ymfudasant i'r Unol Daleithiau yn 1861 oedd 27,577, tra yr oedd y nifer yn y flwyddyn ddiweddaf yn cyr- haedd i 39,184, yr hyn sydd yn dangos cynnydd o 11,607. DIENYDDIAD YN WINCHESTER,—Yr wythnos cyn y di- weddaf, crogvyd Fernando Petreani, morwr Awstriaidd, yn Winchester, am lofruddio cadben, gwraig y cadben, ac is- lywydd cyuuf y Hong Brydeinig a elwir y Wigthrop. Am chwarter eyn wyth o'r gloch ymwelodd yr is-sirydd, W. Brooks, Ysw., y llywodraethwr H. Barber, Ysw., y llaw- feddyg, Dr Lyford, yn nghyd a swyddogion ereill. y carchar, a'rHofruddyn ei gell yna aeth Caleraft yn mlaes gyda gweithredia ian dychrynllyd ei swydd. Gweinyddid ar y ltof- • rudd gan yi offeiriad Pabaidd, yr hwn a barhaodd i weddio gydag ef ar yr esgynlawr hyd hanner awr wedi wyth o'r gloch Y NEGROAID YN NEW ORLEANS.—Y mae ymddygiad y negroaid vn New Orleans yn annyoddefol i'w perchenogion, y rhai nid dynt yn meddu ond ychydig iawn olywodraeth arnynt. Aiaent yr. deall eu sefyllfa yn dda. Gwyddant fod yr Undebvvvr yn ffafriol i'w rhyddhad. Derbynir, porthir a dilladir y ft- edigion gan y milwyr. Maent mewn llawer o'r planhigfeydil wedi hawlio eu rhyddid, trwy ofyn i'w meistriaid am gyflogau, ae wedi cael eu cais. Mewn effaith y mae caethwasanaeth wedi ei ddiddymu am o leiaf ddeng milltir a thriugain o gwmpas New Orleans. CREDO Y GWBTHRYFELWYR.—Y gwirionedd yw, pan wnaeth y Creawdwr wahanollwythi o ddynion, efe a bennod- odd eu sefyllfa, ac a'u cyfaddasodd hwynt i'w lleoedd. Cyd- ffurfiad ag ewyllys y Creawdwr ydyw dedwyddwch. Y mae annghydffurfiad a hi yn cynnyrchu annghytundeb ac anned- wyddwch. Y mae y negro er amser Canaan, yn y sefyllfa o was. Cyfaddaswyd ef iddi gan duedd ac anian, ac am hyny, y mae yn ddedwydd ynddi, ac annedwydd allan o honi. Yn ei le, y mae yn ddefnyddiol. Allan ohono, nid ydyw ond an- wariad ac os allan o hono ac yn nghanol pobl uehraddol, nid yw ond pla. Ymgeisia y Taleithiau Yanciaidd i reoli ein sef- ydliadau, ac wrth wneyd hyny i'n dinystrio ni, trwy geisio newid deddf y Creawdwr, fel ag i'w gwneyd i gyfateb i'w meddyliau hwy, yr hyn yw yr achos o'r trallodiad presenol. Y mae Lincoln mor ddall ag erioed, ac yn ymddangos yn fwy cyndyn.-Richmond Examiner. GOLYGFA AUSWYDUS.—Ar yr 16eg o'r mis diweddaf, dienyddiwyd un Thomas Cook, dyn dall, yn Woodstock, Canada Orllewinol, am lofruddio ei wraig. Trwy fod y rhaff a ddefnyddiwyd ar yr achlysur dros naw troedfedd o hyd, yr oedd cwymp y dyn yn fawr; a'r canlyniad fu, pan dynwyd y bollt yn ol, rhoddodd gwythienan a giaa y gwddf ffordd, a threiglodd y penglog ffwrdd, a syythiodd y corff i'r llawr. Ffrydiai y gwaed allan o'r ysgerbwd, ac am beth amser nid oedd neb yn teimlo awydd i gyffwrdd ag ef; ond o'r diwedd, daeth y swyddogion yn mlaen, a gosodasant ef mewn arch. Dywedir i'r dygwyddiad gymmeryd lie o herwydd sefyllfa af- iachus y corflf, drwy fod y dyn wedi arwain bywyd afradus. DIENYDDIADAU.- Vr wythnos gyntaf o'r flwyddyn hon, cymmerodd dau ddienyddiad le yn Ngogledd Lloegr. Crogwyd William Ockhold, 70 mlwydd oed, ar yr an o'r mis hwn, yn Worcester, am ladd ei wraig; ac ar y dydd canlynol, yn Llyn- lleifiad, cariwyd dedfryd y gyfraith allan yn erbyn Thomas Ed- wards, am lofruddio merch ag oedd yn byw gydag ef, o'r enw Isabella. Yr oedd tyrfaoedd lluosog yn wyddfodol ar y ddau achlysur. MADDEUANT.—Cafodd Morgan, yr hwn a gondemniwyd yn ddiweddar am lofruddio heddgeidwad yn Mrystau, faddeuant dewn rhan. Cyflwynodd y rheithwyr ef i drugaredd, ac y mae Syr George Grey wedi cyfnewid y ddedfryd i lafur cospawl dros fywyd. RHYDDHAD Y CAETHION YN AMERIcA.-Ar y nos ddi- weddaf o'r hen flwyddyn, cynnaliwyd eyfarfod lluosog iawn yn neuadd y Sefydliad Prydeinig, Llundain, er cefnogi gwladlyw- iaeth llywodraeth yr Unol Daleithiau o barthed i ryddhad y caethion. Llywyddid gan Mr. R. Moore ac ar yr esgynlawr yr oedd Mr. W. Evans (Cadeirydd Cymdeithas Rhyddhad "1 Caethion) Mr. F. W. Chesson (yr Ysgrifenydd Mygedawl), y Parch. Newman Hall, y Parch. J. H. Rylance, &c. Cyn- naliwyd cyfarfod yn y Free Trade Hall, Manchester, ar yr un noswaitb, i amlygu cydymdeimlad a llywodraeth yr Unol Dal- eithiau, a phasiwyd amryw benderfyniadau gyda'r amcan hwnw. Penderfynwyd anfon Anerchiad at Mr. Lincoln, yn cydymdeimlo §g efyn achos y rhyfel preseno!. LLOFRUDDIAETHAU.—Y mae y flwyddyn newydd wedi dechreu gydn chofres helaeth o droseddau. Y mae llofrudd- laethau ac y mosodiadau sarhaus wedi dyfod yn dra chyffredin yn awr. Y r achos cyntaf a gofnodir sydd o Gastellnewydd- ar-Dyne, lie v cafwyd menyw, o'r enw Dogherty, yn farw ar yr heol. Y mae dyn ieuanc o'r enw Vass wedi ei gymmeryd i fyny ar ddr wgdybiaeth.—Yr ail achos a ddygwyddodd yn Bradford, 11 y cyhuddwyd un Patrick Cronin o lofruddio ei Wraig. Er fod lie cryf i ddrwgdybio y dyn, etto nid oedd y "ystiolaetli yn ddigon egiur i'w gondemnio.—Y trydydd a gawn yn Birmingham, lie y darfu i ddyn o'r enw Griffiths am- canu tori wddt ei wraig. Dywedai mai ei meddwdod a'i gyrodd 1 g) tlawfJU y weithred. Cjmmerwyd ef i fyny.—Y Pedwerydd sydd etto o Birmingham, yn achos un Charles Rose, tafarnwr, yn troi dyn oedd yn cardota allan o*i dy, gan ei guro yn ddrwg, yr hwn a fu farw o herwydd y niweidiau a gafodd. ymmerwyj y tafarnwr i fyny.—Dydd Sadwrn wythnos i'r Qiweddaf, ca wyd llofruddiaeth erchyll allan yn agos i Wigan. ollwyd d it o'r enw Barton, yr hwn a weithiai yn Mhwll awkhouse, yn gynnar yn y boreu ac yn fuan wedi naw, arganfyddwyd ei esgyrn llosgedig yn y tan. Gan fod ei lawr ar goll, credir iddo gael ei lofruddio, ac i'w ^nrff wedi dHflu 1 r tiu' M 1"'i y K«eitbfeydd, wedi cynnyg £ 200 am d,.ai y lloirud'dioii.