Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

--Y FLWYDDYN 1862.

Family Notices

Advertising

Y PYTHEFNOS.~~

News
Cite
Share

Y PYTHEFNOS. DYMA ni am y tro olaf yn perm ein hysgrif a'r gair Pythefnos rhaid o hyn allan ei d6ri yn yr banner, a gwneyd "Wythnos" o hono, os gailwn. Mae yn dda genym ar rhyw olwg nad yw y pythefnos hon wedi bod yn un hynod o doreithiog mewn newyddion, neu buasai yn dylanwadu arnom, gan fod ein gofod yn barod wedi ei gymmeryd i fyny yn aa:os oil. Mae ein newyddion o America ar y cwbl yn well nag oeddem yn ei ddysgwyl wedi y frwydr fawr o flaen Fredericksburg. Bu yno alanastra ofnadwy, ond mae y fyddin etto yn dechreu dyfod i'w He, tra mae pobl y Gogledd yn cymmeryd calon o'r newydd, ac yn benderfynol i ymladd nes cael v dydd. Mae y dydd cyntaf o'r flwyddyn wedi myned heibio, ac oracl Ffrainc-Napoleon III-wedi cyfarfod a Llysgenadwyr y gwledydd fel arfer; ond eleni nid oedd gan yr oracl ddim ag oedd yn ddewis hysbysu i'r byd, fell.v aeth y dydd heibio heb roddi briwsionyn o'ymborth i glehery papyrau. Mae Japan yn denu sylw y byd, trwy fod .ynu «ch.wyldroad pwysig iawn wedi cymmeryd Hf. M\C yn Japan ddan frenin, un tymborol ae un ysbrydol, sefydlwyd hyny er ys rhyw dri chant a hanner o flynyddau yn ol; ond yn awr mae y gwr ysbrydol wedi diswyddo y tymhorol, a'r cwbl wedi ei effeithio yn dra didwrw, ac heb ond ychydig o dywallt gwaed. Mae Brenin Prwsia fel pe bai am wneyd ei bun yn ellyn i bawb yn ei deyrnas. Mae yn myned yn mlaen yn rhwydd iawn i greu chwyldroad ag fydd yn debyg iawn o roddi llythyr gollyngdod iddo yn lied fuan. Mae Amherawdwr Awstria o'r tu arall fel pe bai am ddangos gwell ysbryd nag arferol; mae yn awr vn rhoddi ffordd mewn llawer o betbau gwir bwysig. Mae materion Groeg yn aros fel yr oeddent byth- efnos yn ol. Mae pob! Corfu wedi cyflwyno diolch- garweh i Victoria am ganiatau i'r Ynysoedd gael eu rhoddi i fyny i ymuno a gwlad Groeg. Mae y Frenines wedi penderfynu galw y Senedd yn nghvd ar y 15fed dydd o Chwefror, tra mae ei mab i briodi yn v mis canlynol. Mae caredigrwydd a haelioni mawr yn para i gaeJ ei ddangos i'r dyoddef- wyr yn Lloegr.