Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

--Y FLWYDDYN 1862.

Family Notices

Advertising

Advertising
Cite
Share

AT .EIN GOHEBWYR, &c. 13 IN DERRYNIADAu.-Parch. Oliver Edwards-D. R. Lewis- D. J.—Jane Davies-Ben Fugail-D. Morgan, Cwmtwrch— J. Cymro Williams-James Jones-Parch. T. E. James- Gwrandawwr-Un o'r Bettws-J. Pavies-Ymwelydd-W. A. Rees-C. T.-C. Morris-F. T.—Morgan Lloyd—Thomas Oihbon-Athraw- William Parry. D. J.—Ai nid gwell i chwi anfon eich llythyr at y Parch. R. Ellis yn bersonol. na cheisio genym ni ei argraflu ? JOHN PUNSON.—Diolch i chwi am eich teimlad da. Yr ydych yn iawn-nid oes i Fedyddiwr ddysgwyl am gyfiawnder ar faes unrhyw gyhoeddiad enwadol. Esgus burion yw eu bod yn neutral ar bwne y bedydd; fel yna y maent yn gallu cau safe pob Bedyddiwr yn hollol ddiseremoni. IFOK.—Heb enw priodol, ac felly yn ddisylw. YMWKLTBI).—Bydd yn dda genym glywed oddiwrthych mor ami «g y bvddo modd. W. A. REES.—Yr ydych chwi vn lled-feio Ysgolor am ofyn y gofyniadau yn nghylch Melchisedec, ac etto yn rhoddi atebion byr i ddau o honynt. Os bydd i chwi gymmeryd y mater i fynv, a chynnyg atebion i Ysgolor, bydd yn dda genym eu cyhoeddiond mae eich llythyr presenol lawer yn rhy fyr ar bwnc sydd wedi cael cymmaint o sylw. CARWK.CYFIAWNDER.—Nid ydym ni yn gwybod dim am y cyhuddiadau yn erbyn brodyr y Bedyddwyr yn Nid oes un gair am hyny wedi ymddangos yn y SEREN; gan hyny, annoethineb fyddai i ni gyhoeddi eich nodyn, os nad ydych am i ni hysbysu trwy Gymru yr hyn sydd yn awr yn gyfyngedig i'r gymmydogaeth yn unig. TGY Y SEREN yn Newyddiadur Teuluaidd Wythnosol.— Bydded i'r nifer 11uosog o'n cyfeillion ag ydynt wedi danfon atom ar y pen hwn i dderbyn ein diolchgarwch mwyaf diffuant -un ac oil. Mae eich llytbyrau wedi rhoddi i ni lawer iawn o xalondid a chryfder. Nid oeddem yn meddwl fod genym y fath nifer o gyfeillion mor calonogr. Mae genym air neu ddau i ddywedyd am y dyfodol, nad oeddem yn allu ei ddywedyd yn ein Hanprchiad yn y rhifyn diweddaf. Mao y trefniadau rhwng y Cyhoeddwr a'r (Jolygwyr y fath, fel na fydd dim ar ol o'n tu ni i wneyd SEKEN CYMRU yn deilwng o gefnogaeth ei lluaws gyfeillion. Yr ydym wedi penderfynu cwtogi rhanau o'n cyflawniadau cyhoeddus, er cael mwy o amser at y SEHEN, gan y credwn y gallwn tnvy hyn wasanaethu cannoedd a mil- oedd o gyfeillion, y rhai nas gallasem eu cyrhaedd trwy unrhyw lwybr arall. At wahanol nodweddau y SEREN, fel agyr oedd, mae eenym yr hyfrydwch o hysbysu y daw y pethau canlynol i'w chyfoethogi am y dyfodolGwersi Gramadegol," gan Mr. James Jones. Mae genym gred y bydd y gwersi hyn o wir les i'r cvfryw ag ydynt am ddeall Gramadeg Cymreig. Ty'r Capel, Fron Oleu," gan Gwrandawwr. Mae Gwran- dawwr yn lienor o chwaeth, a dysgwyliwn lawer iawn o ddi- fyrwch ac adeiladaeth oddiwrth yr ysgrifau a ddaw o'i law ef. Ymddyddanion v Teulu." gan Y Pryfeopyn. Mae gfenym ni le i gredu y bydd yr Ymddyddanion mor ddarllenadwy ag y bu Siop y Gof" yn y dyddiau gynt. e- 0 hyn allan. er mwyn arbed amser. a galluog-i Mr. Evans, Castellnedd, i ddarparu mwy o ysgrifau gwreiddiol, danfoned ein cyfeillion bob hanesion i Mr. Evans, i'r Swyddfa yn Ngh aerfyrddin. Ar yr un pryd, dymunem hysbysu fod Mr. AV. M. Evans yn ymrwymo. os bydd i unrhyw beth o duodd bersonol. pigog, ac anfoneddigaidd, ddyfod i'r Swyddfa, ei drossclwvddo i Mr. B. Evans tyv. « gyho»ddi, gan eiii bod yn pendt-rfynu i gadw y SBltEN yn rhydd oddiwrth ymosodiadau personol ar ddynion teilwng a da. Yna, bydded i'n cyfeillion oil i anfon atom yn ol y cyfarwyddyd canlynol:— jggp-' pob hanesion— crefyddol a chymdeithasol, archebion, a thaliadau, i Mr. W. M. Evans, Seren Cymru Office, Car- marthen, Ø" V TRAETTIODAU, GOHEEIAETHAU, £ C.—Rev. T. PRICE, ROSE COTTAGE, ARERDARE. IGG" YR YSGRIFAU EGLWYSIG, 0 nodwedd yr erthyglau aw- weiniol Eglwysig, &c., — Rev. B. EVANS, PENYDREF HOUSE, NEATH. IGLF Y FARDDONIAETH,-Rev. J. R. MORGAN (Lleurwg), LLANELLY, CARMARTHENSHIRE. PRIS SEBEi^METT. Gan y deallwn fod amryw yn bwrindu talu wrthdderbyn v SEREN, a bod ereill yn anfoddlawn talu yn mlaen. penderfynasom ar a ganlyn fel ein hammod ;-1 bawb a dalant cyn pen wythnos ar ol diwedd y chwar- ter, y pm fydd is. Ie. y chwarter -byddwn yn codi ar bawb ereill yn ol Is. 3c. y chwarter. Bydd 13 wythnos yn y chwarter. T ALIADA U. Derbyniwyd taliadau oddiwrth,—W. M. Bedwas, J. W. Pontypridd, D. M. Talgarth, R. D. Penyfai, J. M Treforris, J. G. Pengarn, J. p. Aberaman, J. M. Trecynon, J. R. Tredegar, J. D. Alltwen, R.D Bristau, J. L. E. Llanfihangel, D. T. Glyn Ebwy, W. E. Llanbedr, R. Conway, 1. G. 0. Rhyl, W. J. Llundain, W- Trehenry Fawr, T. G. Penrhiwgen- igen, J. J. Llanfrynach. E. W. Rhiwfer, J. W. Rhos, J. B. Sirhowy, E. D. Pentrepiod, J. K. Blaenafon, T. LI. Rudry, E. D. Brvnmawr, B. P. Penvdeiyn, J. J. Pontypridd, T. W. Cwmsaerbren, W. R. Twyncarno. M. E. Ceryg Man, H. A. Nelson, R. R. H. Dinas, D. J. Waenarlwydd, J. D. Talyhont, J. J. Penrhyncoch, E. D. Goginan, E. D. New Court, D. P. Groesgoch, D. T. Llandyssilio, S. T. Penfro, J. E. Ffynnon, D. J. Tregaron, J. P. W. Eglwyswrw, J. R. Hwlffordd, G. R. Cipyn, D. E. Aberteifi, D. W. Victoria, D. S. Caerfyrddin, D. T. Fan, D. R. Llangen- deyrn, T. J. Pontypwl, W. J. Maesteg, H. T. Llandilo, T. H. Treffynon, S. J. Pencaenewydd, E. E. Colwyn, 1. T. Llanwrtyd, S. J. Gilfach, L. H. Aberafon.

Y PYTHEFNOS.~~