Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

--Y FLWYDDYN 1862.

News
Cite
Share

Y FLWYDDYN 1862. ER yn ddiweddar, nid aniuddiol fyddai i ni daflu golwg dros y flwyddyn 1862, yr hon yn awr sydd i'w chyfrif yn mhlith y pethau a fu. TRAMOR. — Mae America yn teilyngu y sylw blaenaf-mae wedi cael sylw y byd gwareiddiedig trwy y flwyddyn. Mae yr ymdrech ddychrynllyd a gwaed- lyd a ddechreuwyd yn 1861 wedi para yn ddidor trwy y flwyddyn 1862, ac ar ei diwedd nid ydym yn gallu ffurfio unrhyw farn sefydlog am ganlyniadau yr ym- drechiadau yu yr ymdrechfa bwysig hon. Mae y Gog- leddwyr wedi gweithio yn egniol a gwrol, ond mae y Deheuwyr yn dàl eu tir, ac yn dangos mwy o eofndra ar ddiwedd y flwyddyn nag ar ei dechreu. Mae brwydr fawr Fredericksburg wedi bod yn ddinystriol ofnadwy i fyddin y Gogledd, tra mae wedi creu anes- mwythder mawr yn meddyliau y bobl, ac wedi achosi annghydfod amserol yn y Dirgel-gynghor. Ond nid ydym etto yn digaloni am y canlyniad o hyn oil, gan y credwn fod gan y Duw hollddoeth a bendigedig law yn nherfyniad y rhyfel hwn. Mae yn ymddangos i ni ar hyn o bryd yn dra annhebygy bydd y Taleithiau Debeuol byth i ymuno etto a'u chwiorydd yn v Gog- ledd er hyny, nid ydym yn gallu canfod rhyw golled nnadferadwy yn hyn oil. Gwell i'n tyb ni fyddai i'r Gogledd gael gwared o gaethiwed serch colli chwech neu wyth o daleithiau, na chael y Taleithiau Deheuol yn ol, a'r caethiwed gyda hwy. Mae cyfeillion y caethwas—cyfi illion rhyddid a chrefvdd yn America —yn meddu ein holl gvdymdeimlad a gorphwyswn yn dawel gan gredu y bydd i Dduw y Nefoedd oruwch-lywodraethu hyn oil er daioni America yn neillduol, a theulu dyn yn gyflredinol. Mae Itali wedi cael llawer o sylw yn ystod 1862 Prif fudiad y flwvddyn oedd cynnyg aflwyddiannus Garibaldi i wneyd Ehufain yn eisteddle gorsedd Itali unedig, ei ddyoddefiadau, ei wellhad, a'i fuddugoliaeth yn y diwedd yn nghwymp Ratazzi a'i gydfradwyr; canys er i Garibaldi fethu yn ei amcan, er holl sarhad Ratazzi a'i feistr Napoleon, etto y mae Garibaldi yn fwy na gorchfygwr ar y ddau. Mae Ffrainc yn eithaf anesmwyth ei theimlad, ond fod Haw haiarnaidd ei meistr ar ei gwar. Mae brenin Prwsia yn gormesu y wasg a'r esgynlawr. Awstria mewn tfrae a rhanau pwvsig o'i phoblogaeth. Twrci drwy y flwyddyn mewn rhyfel a rhan o'i deiliaid. Bwsia wedi bod yn teimlo draen yn ei hystlys yn aches Poland. Mae y Pab yn dàl ei afael yn ystyfnig yn y gallu gwladol, ond yn addaw diwygiadau. Mae gwlad Groeg wedi cael gwared o Otho ei brenin, ac wedi cynnyg yr orsedd i ail fab Victoria ond am resymau arbenig, y mae Cynghorwyr y Frenines wedi cynghori Alfred i wrthod yr anrhydedd, felly mae yr orsedd yn parayn wag. Yn y dwyrain nid oes dygwyddiadau o bwys wedi cymmeryd lie, a fyddant yu hynodi y flwyddyn 1862. GARTREF.-Mae y flwyddyn wedi rhoddi i ni des- tunau galar a llawenydd. Dechreuwyd y cyfnod o dan sylw mewn galar ar ol y Tywysog Albert, priod anwyl ein tirion Frenines; a dangosodd y wlad deimlad dwys iawn yn ngwyneb y golled a gafodd Pryda.n yn marwolaeth dyn mor dda, priod mor gu, tad m'or dyner, dyngarwr mor haelionus, a thywysog mor deilwng o'r enw. Yn herwydd yr amgylchiad torcalonus hwn, mae y flwyddyn 1862 yn hynod fel yr un fwyaf digyffro a difywyd yn mhlith uchelwyr a phendefigion y tir. Achos arall o alar oedd amgylch- iadau yn agos i hanner miliwn o weithwyr yn mharthau o swyddi Caer, Lancaster, ac Efrog, trwy brinder y cotwm, yr hyn a achoswyd gan y rhyfel yn America ond trwy haelioni tu hwnt i ddim a ddangoswyd yn y byd erioed o'r blaen, mae y drwg wedi ei leihau, a'r dyoddefiadau a'r trueni wedi ei leddfu i raddau pell iawn. Mae tri pheth pwysig wedi eu dwyn i'r goleu trwy hyn :—Yn gyntafmae gweithwyr y deyrnas wedi ymddyrchafu yn ngolwg y byd trwy y dull ag y maent wedi dyoddef y caledi a ddaeth ar eu gwartbaf; mae yn sicr fod y gweithwyr heddyw yn sefyll yn uwch yn marn pendefigion ywlad nag y buont erioed mi o'r blaen. Yn ail, mae y byd wedi cael dadblygiad o fawredd cydymdeimlad a haelioni y byd crefyddol; ni chawd y fath amlygiad yn hanes y byd o'r blaen. Yn drydydd, mae marsiandwyr a meistri cotwm ein gwlad wedi eu llwyr argyhoeddi mai gwaith poryglus iawn yw gorphwys ar America yn unig am nwydd mor bwysig ag yw y cotwm. Bydd hyn yn debyg o'u gorfodi mewn hunan-amddiffyniad i edrych am farch- nadoedd ereill. Agora hyn feusydd newyddion yn ein trefedigaethau yn India, Jamaica, Anrie.1, ac Awstralia. Bydd hyn yn fendith i filoedd o ddynion, yn ergyd marwol i gaethfasnach America, ac yn lies cyflredinol i'r byd. Felly cawn etto dynu m61 o gorff y new-new dychrynllyd oedd y newyn yn mhlith y gweithwyr cotwm, ond ni bydd yr amgylch- iad heb ei wersi a'i fendithion. 0 Am weithrediadau Seneddol 1862, nid ydynt yn meddu unrhyw nodwedd arbeuig fel ag i hynodi y flwyddyn. Mae yr Arddangosfa Fawr yn debyg o gael ei chofio fel un o hynodion dedwydd y flwyddyn sydd wedi ei dirwyn i ben. Agorwyd yr adeilad anferth yn Mai, ac ymwelwyd a'i gyunwysiad amrywiog gan filoedd o bobl o bell ac o agos; nid y lleiaf enwog oedd y Ty- wysogion o Japan, Breninyr Aifft, Tywysog Napoleon, Tywysog Ocar o Sweden, Tywysog William o Prwsia, y Tywysog Louis o Hesse, ac yn olaf, ond nid y lleiaf o lawer, unig frawd Tywysog yr Ynyslwyd cawsom ni y fraint o gydginiawa ag ef, a chvfaill yn iawn oedd, ond nad oedd yn siarad llawer o Saesneg a ni. Mae yn dda genym fod yr Arddangosfa wedi talu ei fiordd, er fod y flwyddyn yn dra anffafriol. Mae symudiadau y teulu breninol wedi bod yn bwysig, er fod y Frenines wedi bod hyd yn hyn yn hollol annghyoedd—mae un o'r merehed wedi priodi, a chafodd orsedd Hesse; tramaeTywysogCymruac etif- edd coron Lloegr wedi penderfynu cymmeryd yn wraig y Dywysoges Alexandra o Denmarc. Maeypender- fyniadhwnyn derby ncymmeradwyaetheifam a'i deiliaid yn gyffredinol. Mae yn destun o lawenydd i ni, ar y cwbl, i adol- ygu cynnyrch y cynauaf diweddaf—er nid mor dor- eithiog ag y gwelsom ef weithiau, etto yr oedd yn dda, C) C5 ac yn dda iawn, tra mae cyflwr masnach ar y cwbl wedi bod yn llawer iawn gwell na'r dyagwyliad ar ddechreu y flwyddyn. 0 Mae angeu wedi hawlio iddo ei hun amryw o gym- meriadau cyhoeddus-heblaw amryw o aelodau Sen- eddol. Bu farw Archesgob Caergrawnt-Arcbesgob Armagh, yn yr Iwerddon-Iarll Canning,llywydd en- wog India yn amser y gwrthryfel-y Cadfridog Bruce, I Z3 Athraw Tywysog Cymru-Syr C. Burnell, yr aelod henaf yn Nhy y Cyffrediti-Syr James Ross, y morwr enwog a amgylchodd y ddaear yn ei long. Mae Eg- lwys Loegr wedi bod yn ddiwyd yn ceisio dysgyblu dau o ysgrifenwyr yr Essays 0/ Reviews-tra mae Dr. Colenso, esgob Natal, wedi taflu y byd i ferw trwy wadu gwirionedd llyfrau Moses a J osuah; ond nid oes dim modd dysgyblu y Dr. Colenso, am ei fod yn Esgob. Mae y Pab yn ystyried ei hun yn anffaeledig, tra mae deddfau Eglwys Loegr yn ystyried pob Esgob yn anfFaeledig. Yn mhlith Annghydffurfwyr, mae y flwyddyn 1862 yn sefyll yn nodedig am y sylw a dalwyd i r aberth a wnawd ar ran cydwybod a gon- estrwydd crefyddol yn y flwyddyn 1662. Da genym fod je Annibynwyr a'r Bedyddwyr yn Nghymru wedi troi hyn i achosion ymarferol ac arosol, trwy godi trysorfeydd a brofant o wir les yn olllaw. Yn iach i ti, 1862 bydded i dy wersi fod o dan fendith y Nefoedd o les i ni yn y dyfodol.

Family Notices

Advertising

Y PYTHEFNOS.~~