Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
!(fiohcMarfltmt. -
(fiohcMarfltmt. LLYFR HYMNAU NEWYDD. MR. GOL.Mae llawer wedi ei ddywedyd ar v pwne hwn' a chryn dipyn wedi ei ddywedyd heb ei eisieu. Pa eisieu i'r brawd llafurus o'r Rhyl ymosod mor ddidrugarog ar yr Hea Gymro ?" Onid rhydd i bawb ei farn, ac i bob barn ei llafar? Er fy mod I o ddamwain o'r un farn a'r brawd o'r Rhyl yn nghylch yr angen sydd arnom am Lvfr Hymnau gwell nl'r un sydd genym, etto, nis gallaf ei gymmeradwyo am ei ym- osodiad creulon a dialw am dano ac mae ei sylsvadau i'm tyb I, yn bradychu bodolaeth henammheuaeth ae eiddigedd, digon hysbys i rai brodyr, sydd wedi cael eu llochesu yn ei fynwes o barthed gonestrwydd egwyddor rhai dynion, wrth geisio lIesoIi eu cenedl drwy y wasg. Os gall ef wasanaethu ei genedl vo well a mwy hunanymwadol, paham na ddelai allan, yn lie bod yn rhyw dog in the manger ar hyd ei fywyd ? Ond at y pwnc. Byddai yn dda cael rhyw ffordd i gael allan deimlad yr eglwysi yn lied gyffredinol ar y pwne, ac otd fyddai yn well iddo gael ei ddwyn gerbron Cynnadleddau Y Cymmanfaoedd yn y flwyddyn ddyfodol ? Os bernir hyny yJ1 ddoeth, oni fyddai yn well i Ysgrifenyddion y Cymmanfaoedd roddi hysbysiad prydlon i'r eglwysi o hyny yn y eyhoeddiadal1 cyfenwadol, er mwyn iddynt gael amser i feddwi am y mater? Yna pennoder ar ryw frodyr barddonol i arolygu y casgliad, aC wedi cael ffrwyth eu dyfarniad hwy arno, anfoner ef i frodyr cerddorol, i chwilio ei gorfaniad. Mae corfaniad emyn yl1 beth o bwys annhraethol. Os na fydd hyn yn dda, ni dda" un Llyfr Hymnau byth i ymarferiad eyffredinol. Dyma yr hyn sydd yn anafu Llyfr Hymnau y Parch. R. Jones yn benaf. i'm tyb I, a bydd yn rhwystr iddo byth i ddyfod yn favourM gan yr enwad. Gallai rhyw frawd, neu frodyr, wneuthur dar- pariadau cyn y Cymmanfaoedd, a mabwysiadu y cynllutt 9 f gymmeradwvir yn y SEREN, a chyflwyno y darpariadau brodyr a bennodir arnynt gan y Cymmanfaoedd. Bum y» ddigon rhyfygus i feddwi unwaith wneuthur cynnyg at hynfy hunan, os na wnai rhyw un mwy galluog. Ond tua phythefeo9 yn ol, cwrddais a'r brawd talentog Lleurwg, a hysbysais. 11 mwriad iddo, gan ddarlunio fy nghynllun. Ateboild fi ei fo<* ef wedi dechreu ar y gorchwyl, ac fod ei gynllun ef yn cytun0 yn hollol a'r eiddof fi, yr hwn oedd fel y canlyn Darp»ra scrap paper book mawr; ceisio dau gopi o bob Llyfr HymnllU Cymreig sydd mewn bodolaeth; dethol y goreuon allan 0 honynt, ac wedi eu tori allan o'r Ilyfrau, eu pastio ar dudalenau y scrap book. Bwriada fy nghyfaill Lleurwg ddechreu gyda llyfr Harris, a rhoddi pob hymn dda agynnwysa. Wedi hygy! gwna yr un peth gyda Uyfrau y ddau Jones. Yna a i loffa lyfrau enwadau ereill, ben a diweddar. Carai, os gfyyr rbf rai yn Nghymru, am hen Syfrau Cymreig o ba rai y gallal loffa ambell i dywysen aeddted, am idJynt ei hysbysu a31 danynt; neu ynte, os oes ambell i hymn dda ar wasgar cyhoeddiadau, neu mewn arferiad heb fod mewn argraff cat*ys j mae rhai felly i'w cael, carai i ryw gyfeillion ofalu am danynt» i a'u hanfon iddo ef. Mae ambell i emyn, a llawn o fawl yo^0' f wedi ei nyddu gan ambell frawd nad yw yn cael ei restru yo mhlith ein prif feirdd, a byddai yn dda cael y rhai hyn i me«n# Meddylied Alltud Glyn Maelor, yr Hen Belican.'a o'1?" n, 0 cyffelyb, am hyn, a bydded iddynt anfon y ierlau gfliieu Lleurwg. r~
ARGRAFFIAD DIWYGIEDIG O'R…
ARGRAFFIAD DIWYGIEDIG O'R TESTAMENT NEWYDD AT WASANAETHY BEDYDDWYR. MR. GOL,—Er nad wyf fi yn gallu cydweled yn hollol a Darllenydd ac Astudiwr yn yr oil a ddywedasant ar y mater yma, etto yr wyf yn meddwl fod y peth ynddo ei hun yn deilwng iawn o sylw, ymbwyll, ystyriaeth, doethineb, a dysgeidiaeth cyfunedig boll Fedyddwyr y Dywysogaeth. Ond yr wyf am i'r wlad ddeall un peth yn arbenig, sef, nad oes arnom ni fwy o angen eyfieithiad newydd o'r Beibl na rhyw enwad arall; ac, yn wir, gallwn wneyd gyda'r cyfieithiad godidog sydd genym yn well, ac yn haws, nag y gall un enwad arall; oblegid ein hegwydd- orion gwahaniaethol ni yw nodwedd wahaniaethol y Llyfr ei hunan. Ac nid wyf yn meddwl chwaith fod y Bed- yddwyr, oddigerth rhyw nifer fechan iawn o bonynt, yn foddlawn i ymadael a'r hen gyfieithiad sydd ar ein pwl- padau er mwyn rhoddi lie i unrhyw gyfieitbiad diwyg- iedig a gynnygir iddynt. Nid wyf yn dywedyd hyn oddiar ragfarn yn erbyn amrywiol gyfieithiadau ond yn hollol i'r gwrthwyneb—yr wyfyn eu hoffi yn ddirfawr fel fy nghynnorthwyon penaf i ddeall meddwl Duw yn ei air. Hefyd, y mae gan bob enwad eu cyfieithiadau, er nad ystyrir hwy yn bethau Sectaraidd, megys Campbell a M'Knight o Scotland Doddridge, Boothroyd, Wal- ford, &c., a'r Annibynwyr Lowth, Newcome, Blayney, &c., o'r Eglwyswyr. A phaham y rhaid i ninnau fod yn ol i enwadau ereill yn y rhan yma o lenyddiaeth gyssegr- edig? Etto, ni fwriadodd neb o honynt ddiorseddu y cyfieithiad awdurdodedig. Ond y mae genym ninnau ein Hackett a'n Connant yn America, a'n Green yn Lloegr, wedi eyfieithu Actau'r Apostolion a'n Williams yn Nghymru, wedi cyfieithu yr Oraclau Bywiol. Diau mai gorchestwaith mawr oedd dwyn yr Oraclau Bywiol allan 20 mlynedd yn ol. Nid oedd Mr. Williams ond ieuanc, sef tua 32 oed, pan yn dechreu ar y gwaith. Yr oeddwn gydag ef y pryd hwnw yn dra mynych, ac yn gyfarwydda'ihollysgogiadau. Ychydigiawnolyfraucyn- northwyol oedd ganddo ffrwyth ei ddysg, ei ddeall, a'i lafur annibynol ef ei hun, yn benaf, yw y cyfieithiad. Rhoddwyd ar ddeall yn nechreu'r symudiad mai eyf- ieithu y Testament a gyhoeddasai Alex. Campbell yr yd- oedd. Ac, yn wir cyfeillion perthynol i'r frawdoliaeth hono a'i rhoddodd ar waith ar y cyntaf; a thynodd hyny gawod fawr o felldithion rhagfarn am ei ben eithr nid oedd baldordd anwybodaeth, annysg, a chulni meddyliol yn siglo dim ar ddiysgogrwydd meddwl tawel a grymus Mr. Williams. Yr oedd efe yn preswylio yn uchel ar oleufryn gwybodaeth, ac yn mhell uwchlaw cael ei ddychrynu gan ddadwrdd gwerinaidd a diystyr penboethiaid. Yr oedd peth cynhwrf yn mhlith Campbelliaeth yn y Gogledd y pryd hwnw, ac Alexander Campbell yn gorfod llenwi hwlch yr ysbryd drwg yn mhregethau rhai brodyr gleision ac anaddfed. Ond mae y dywediad fod Mr. Williams wedi meddwi ar Gampbelliaeth yn beth nas gall neb oedd yn ei adna- bod ei gredu. Nid dyn byrbwyll i feddwi ar fympwyon dyn arall oedd Mr. Williams, Buasai mor hawdd feddwi un o feibion Anae ar faidd glas a meddwi Mr. Williams ar Gampbelliaeth. Gwir ei fod ef yn mawrbau rhyw bethau oedd yn null A. Campbell o ddwyn yr efengyl i sylw; a gwir hefyd mai y pryd hwnw y dechreuodd efe fyfyrio yr ysgrythyrau o ddifrif drosto ei hun; a pha ryfedd os oedd gradd helaeth o newydd-deb yn ei wein- idogaeth ? Canys y mae newydd-deb yn syniadau pob meddyliwr gwreiddiol o'i rywogaeth ef. Ymosodwyd yn egniol a phenboeth ar yr anturiaeth yn Seren Gomer, cyn gwybod yn iawn pa beth a fyddai. Diau mai yr amcan oedd llethu'r gorchwyl cyn ei ddwyn allan. Dy- wedodd Mr. Williams yn y ddadl hono, mai ei fwriad oedd rhoddi cyfieithiad o destun Griesbach ond yn ei Ragymadrodd efe a ddywed iddo ddilyn Mill ac ereill, weithiau, fel nad yw'r OraclauBywiol yn arddangosiad o un testun cyhoeddedig neillduol, ond yn hytrach yn arddan- gosiado chwaeth a doethineb feirniadol ei awdwr. Gwelais sylw gan y Parch. J. Mills yn ei feio yn fawr am hyn. Ond gellir gofyn, onid oedd eystal hawl a mantais gan Mr. Williams i ffurfio testun wrth gymharu gwahanol argraffiadau ag oedd gan Griesbach, Lachman, ac ereill, wrth gymharu gwahanol ysgriflyfrau? Mae Dr. Turn- bull yn ei ragymadrodd i'w gyfieithiad o Lythyrau Paul yn dywedyd mai yr egwyddor hono a fabwysiadodd yntau hefyil. A dyna enghraiflft arall o hyny yn Con. ybeare a Howson ar Fywyd a Llythyrau Paul. Rhagfarn Sectol yn unig oedd yn arwain Mr. Mills i gollfarnu Mr. Williams fel y gwnaeth. Pa fodd bynag, ar ymddangosiad cyntaf yr Oraclau y Bywiol, dyrchafwyd gwaedd yn ei erbyn gan lawer; canys fel y gwneir yn mhob gwlad, ac yn mhob oes, pan ymddengys cyfieithad newydd o'r ysgrythyr lan ac nid oedd amryw o'r Bedyddwyr yn llai ceg agored nag ereill yn y gyfarthfa gyffredinol. Gwn am rai hen weinidogion enwog, a pharchus yn eu dydd, oedd yn rhagfarnllvd iawn yn ei erbyn, am na fynent i feirniad- aeth Feiblaidd symud cam o'r man lIe yr oedd yn nydd- iau Dr. Gill. Tearent fod gadael y ffugddarlleniadau allan yn rhoddi mantais i'r Sociniaid, fel pe na byddai modd i gael taw ar y Sociniaid ond trwy guddio'r gwir- ionedd oddiwrth y werin. Ond y mae gadael Act. 8, 37, allan yn ddigon o brawf mai gwasanaethu achos y gwir- ionedd oedd amcan Mr. Williams ac nid gwasanaethu y Bedyddwyr fel enwad. Dyn i'r gwirionedd, aed plaid lle'r elo, oedd Mr. Williams; ni phrisiai efe flewyn yn marn neb, ond gofynai yn wastad, Pa beth sydd wirion- edd ? Ond wedi'r cwbl, mae yn ddiau fod llawer o an- mherffeithrwydd yn y gwaith; ac nid oedd neb yn teimlo hyny yn fwy na. Mr. Williams ei hun yn ei flyn- yddau olaf. Bum yn gohebu ag ef ar y mater, ac yn siarad ag ef yn bennodol ar hyn hefyd tua day fis cyn ei farwolaeth. Yr oedd efe yn awyddus iawn am estyniad einioes fel y gallai ddiwygio y cyfieithiad; a dywedai y gallai, ar ol 15 mlynedd o lafur a phrofiad, ei wneyd yn llawer iawn gwell. Gwelir rhai o'i welliadau yn y Traethodau beirniadol a gyhoeddodd yn y Greal. Addefa yn un o honynt, iddo, wrth ddilyn M'Knight, gamgyfieithu 2 Cor 5.21. Mae hynyna yn wers i ddiwyg- wyr fod yn bwyllog iawn wrth wneyd cyfnewidiadau yn Llyfr Duw. Yr oedd chwaeth Mr. Williams pan yn cyf- ieithu'r Oraclau Bywiol yn rhy debyg i eiddo'r Dr. Pughe, Arfonwyson, ac ereill o'r Gogledd o'r un ysgol, i fod yn boblogaidd. Ond yr oedd efe wedi cyfnewid yn hollol yn hyny cyn diwedd ei oes. Haws genyf gredu o lawer mai ar Gymraeg bur, anystwyth, ac ansathredig, yr oedd efe wedi meddwi, yn hytrach nag ar opiniynau A. Campbell. Dywedai wrthyf yn bennodol am y gair trochi," y buasai yn ei newid, ac yn adferu bedydd yn ol i'w hen Ie, gan ei fod yn ateb yr un dyben, ac yn seinio yn llawer mwy crefyddol ar glustiau y bobl cawsai loan Fedyddiwr ei wregys o groen yn ol, yn lie gwregys lledr fel Policeman, a chawsai y "cethw" fyned i'w ffordd er mwyn cael yr hen fwstard" blasus yn ol i'w le priodol. Tybiai Mr. Williams, pan yn cyfieithu'r Oraclau Bywiol, fod geiriau o darddiad annilys, neu annghymroaidd, yn annheilwng o le yn yrysgrythyr lan ond barnai yn ei ddyddiau olaf, fod amser ae arfer- iad wedi rhoddi cyssegredigrwydd i eiriau y Beibl,fel na ddylid eu newid heb fod rhyw beth o bwys mawr yn galw am hyny. Dichon nad gair o haniad Cymroaidd yw mwstard," etto. peth ysmala a phlentynaidd fyddai gosod cedu, cethw, neu chwerwyn-bon-trwyn, yn ei le yn y ddammeg. Yr un modd hefyd am efrau;" nid yw Her yn gwella nemawr ar y darlleniad. Gwir fod Her yn enw, mewn manau, ar ryw rawn ffugiol a dyf yn y gwenith er hyn prin y barnwn mai doeth oedd myned i'r drafferth i ddiwreiddio'r "efran;" er mwyn cael lie i'r lifer dyfu. Gairrhagorol i'w rhad." Gwell gair yn ddiau ni "Gras," h.y., mae yn burach Cymraeg. Dygwyd rhad" i'r Beibl o flaen Gras," canys "rhad'' sydd gan W. Salesbury; ond gwell gan y yip ry ras Dâ rhad o ddigon, a gadewer iddynt ei gael ar bob cyfrif. Dyna" bastard" yn Heb. 12. 18. Dichon nad yw y gair hyna o haniad Cymreig diledryw etto mae'n well na'r un o'r hen eiriau Cymreig, megys anhap ei fam," mab llwyn a pherth," mab ordderch," &c. Dyna "edifeirwch" etto; piin y credwn fod "diwyg- iad yr Oraclau Bywiol yn ddiwygiad arno; mae arfer- iad wedi ei gyssegru, fel mai anhawdd iawn yw ei newid er gwell. Yn awr, os ceir argraffiad diwygiedig o'r Testament Newydd, pwy sydd gymhwys i'r gorchwyl? Nid Dr. Owen. Bu Dr. Owen yn aelod gyda fi yn Nglynceiriog fwy nag ugain mlynedd yn ol. Cymro Seisnigaidd ydoedd. Dyna siampl o'i Gymraeg wrth ddechreu cwrdd Bendithia'r cynnulleidfa yma, a lanw'u calon nhw a dy gras." Nis gwn ddim am Gymreigyddiaeth y Dr. Davies ond gwn na threuliodd efe nemawr o'i amser yn mhlith y Cymry, ac na welais I linell o'i Gymraeg erioed ac o'm rhan fy hun, prin y credaf fod genym Gymry gallu- og i ddiwygio llawer ar iaith ein cyfieithiad awdurdod- edig. Y bumthegfed ganrif, a'r unfed ganrif ar bumtheg, oedd oes aur y Gymraeg. Darllener Lloegr Drigiant Ddifyrwch, gan Gruffydd Hiraethog Llytbyrau G. ab I. ab LI. Fychan o'r Llanerch gwaith H. Perri; y Beibl Cymraeg, &c., a gofyner, Pwy sydd yn yr oes hon yn ogofiuvch a'r cyfryw lenorion athrylithiawg ? Gwir y cawn olynwyr iddynt yn Elis Wyn, L. Morris, a G. Owain ac eilwaith yn Iolo Morganwg a Gwallter Mech- ain. Er y cwbl, mae yn ddiau, yn ngwyneb mantais rhagorach yr oes hon, fod genym frodyr yn Nghymru galluog i ddiwygio llawer ar fanau dyrys ac aneglur ein cyfieitbiad cyffredin. Ac os cyhoeddir argraffiad diwyg- iedig ymgadwer mor agos ag y gellir at iaith a thestun y darlleniad derbyniedig. Bydded i Alford, Tregelles, Tischendorf, &c., benderfynu yn gyntaf pa destun sydd bur a dilwgr, a mabwysieder hwnw, fel na chyhudder y Bedyddwyr o wneyd Beibl newydd iddynt eu hunain; oblegid cymmerid mantais ar hyny 'i daeru nas gallwn fyned yn mlaen gyda'r hen Feibl oedd genym eisoes. Gwedi hyny, pennoder dau neu dri o frodyr dysgedig a chymhwys i wneyd y cyfnewidiadau gofynol; a bydded i'r rhai hyny fod mor araf a phwyllog yn eu gweithrediadau ag y mae brawdoliaetb 'y Bible Union yn America. A phan ddyger y gorchwyl i ben, ceir ym- gynghori y pryd hwnw yn nghylch y priodoldeb o'i osod ar yr areithfa yn lle'r Beibl presenol. Caernarfon. R. ELLIS. D.S.-Gwelaf fod cryn lawer o fwstwr yn SEREN CYMRU amgaelLlyfr Tonana Llyfr Hymnauatwasanaeth yr enwad. Hyd yma rhai heb wybod dim am farddon- iaeth yw detholwyr ein Hymnau ac nid yw y rhai sydd yn eu beio yn rhagori y mymryn lleiaf arnynt. Trueni fod cerddor o chwaeth a gwybodaeth Mr. R. Lewis yo dsthol tonau. Gadawer y job i ryw ddyn byddar; yna cawn hymnau a thonau yn cyfateb i'w gilydd.
YMDDYDDANION Y TEULU.
Jones, yr ail blentyn ag sydd yn fyw, yn 22 mlwydd I oed, o duedd afradlon a gwibiog-yn awr ar y m6r, yn nesaf yn y diggings, wedi hyny yn dyfod yn ol yn dlawd ac heb ddim. Mae Maria yn dyfod yn nesaf o ran oed. Merch o dyfiant rheolaidd, odaldra uwch na'r cyffredin, gwyneb agored, Hawn o serch a gwybodaeth, ei gwallt yn ddtl fel y fran, dau lygad o'r uu lliw, ac yn llawn bywyd, par o wefusau fel y coral, a thu draw iddynt yr oedd par o ddannedd fel yr ifori. Yr oedd Mariit yn ferch dda iawn, wedi dysgu y grefft o wneyd bonneti, eapiau, a gwisgoedd. Yr oedd ganddi lon'd ei dwylaw o waith- y bi a dwy neu dair o enethod ieuainc ag oedd gyda hi o dan ddysgeidiaeth. Nid oedd neb yn fwy cysson yn y cyfarfodydd a'r Ysgol Sul na Maria Jones. Yr oedd yn barchus gan bawb, tra yr oedd hithau yn parchu ppwb o ddeiliaid ty Dduw a'r Ysgol Sul. Oedran Maria yw 19 mlwydd pan gaiff ei phen blwydd nesaf; bydd hyny rhywbryd cyn neu ar ol ffair y Waun. Mae Silas dair blwydd yn ieuengach na'i chwaer Maria, ac yn fachgen da iawn. Mae ef mewn office berthynol i un o'r gweith- iau glo yn y dyffryn yma. Mae Thomas yn bedair ar ddeg oed, ac wedi ei brentisio i fod yn bupil teacher yn yr Ysgol Frytanaidd. Arthur sydd ddeuddeg oed, ac yn yr ysgol, gyda y bwriad i fod yn argraffydd. Trodd cyw gwaelody nyth allan i fod yn ferch, a merch fach ffel dros ben yw hi—mae yn rhyw favourite fach gan y teulu oil, ac ofnwyf weithiau y bydd iddynt ei spwilo, ys dywed y bobl. Nid yw hon ond prin deg oed, ond mae yn yr ysgol, ac yn dysgu yn dda. Mae mor gysson a neb yn yr Ysgol Sul. Nid oes neb a gwell cof na gwell dawn i adrodd nag Alice faeh-dyna enw plentvn ieuengaf Mor- gan Jones. Gan fod y teulu oil (ond Morris) gartref, a Maria mewn llawn waith, mae yno forwyn fach o'r enw Abigail yn cael ei chadw, yr hon a ddaw o dan sylw yn yr Ymddyddanion. Dyna, mewn yclivdig eiriau, nodweddau aelodau teulu Morgan Jones, No. 5, Industry Terrace, Dyffryn Diwydrwydd,—O ie, Dyffryn Diwydrwydd oedd enw yr ardal. YR YMDDYDDANION. Mae Y Pryfgopyn, cap in hand, am roddi awgrym v cyn diweddu y Ilith cyntaf, beth a ellir ddysgwyl fel ffrwyth ymddyddanion teulu Morgan Jones yn olllaw. Wel, mae yn dyfod i'r teulu hwn lawer iawn o wybod- aeth trwy gyfrwngSEREN GOMER, hoffbeth pen y teulu yr Engineer a'r Mechanic's Magazine gan Robert; The Englishwoman's Domestic Magazine gan Miss Jones y Greal, yr Athraw, a'r Welcome Guest i Silas; daw i Tho- mas y Gwyliedydd a'r British Workman; mae Alice yn cael y Juvenile Missionary Herald; ac Abigail yn derbyn y Pioneer. Heblaw y rhai hyn, mae yno hefyd yn eiddo cyffredin SEREN CYMRU, y Bedyddiwr, British Reporter, Youth's Magazine, a phethau ereill. Cynllun cyffredin "teulu Morgan Jones, pan wrthynt eu hunain, fuasai i un ddarllen ysgrif o un o'r cyhoeddiadau, tra y buasai Mor- gan yn mwynhau y bibell ac yn gwr^daw ei briod a'i hosan yn ei llaw, a'r gweill yn myntd gyda chyflymdra'r awel; tra yr oedd Miss Jones a'r prentisiaid yn ddiwyd gyda'u gwaith hwy. Wedi darllen y darn, buasai ych- ydig o ymgomio yn debyg o gymmeryd lie. Ar brydiau ereill, buasai yno ymwelwyr—rhai o'r agents yn dyfod i siarad am y gwaith, rhai o'r peirianwyr yn dyfod i weled Robert, ac i feirniadu rhai o'r drawings newydd ag oedd ganddo. Gallem feddwl fod banner merched ieuainc Dyffryn Diwydrwydd yn dyfod ar neges at Maria a phan yno, dyna lie buasai siarad am y style newydd-bychan- dra y fonet a mawredd y cylchau, a phob un yn mynu siarad yr un pryd. Nid oedd Silas heb ei ymwelwyr o blith ein hathrawon ieuainc; yr oedd gan Thomas ei gymdeithion; felly Alice, yr oedd ganddi gylch helaeth i droi ynddo. Wel, ddarllenwyr, yr amcan fydd eyfleu o'ch blaen ffrwyth Ymddyddanion v Teulu" hwn-teuln a ystyrir yn Nyffryn Diwydrwydd fel model family a hyn a wneir yn ol y dawn a gaiff eich ufydd was, Y PRYFGOPYN.