Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

IKatcrion Cglttpig.

News
Cite
Share

IKatcrion Cglttpig. BEDYDDWYR CYMREIG WITTON PARK. YCHYDIG gyda blwyddyn yn ol datfu al Iwi ni sylw ein darllenwyr at ymweliad y brodyr Owens o Rhyl, a Price o Aberdar, a Bedyddwyr Gogledd Lloegr. Mae genym yr hyfrydwch yn awr i gyfeirio sylw ein eyf- eillion at ymweliad yDr. Thomas, Llywydd parchus Athrofa Pontypool, a chydymmaith Mr. Owen flwyddyn yn ol. Bydd" i ysgrifenydd talentog Eg- lwys Zoar roddi yr hanes yn ei ddull medrus ef ei Hun, ac ni chawn ni ond nodi ychydig o bethau megys ar fin y ffordd. Da iawn oedd genjm ddeall nad oedd ymweliad a llafur Owens a Price wedi bod yn ofer, ond yn hytrach wedi bod o les. Yn awr, yr oedd y ddwy eglwys o Fedyddwvr Cymreig yn Wit- 0 ton Park wedi rnyned yn uo, ac mewn undeb a thangnefedd yn addoli yn Nghapel Zoar. Yr oedd yr Eglwys hon wedi rhoddi galwad unllais a thwymgalon i'r brawd ieuanc David Lewis, o Athrofa Pontypool, aelod gwreiddiol o Eglwys Calfaria, Aberdar. Yr oedd cyfarfodydd mewn cyssylltiad ag urddiad y brawd Lewis i'w cynnal ar Ionawr 3ydd, 4ydd,a'r 5ed, 1863. Gwahoddodd yr Eglwys ar y pryd y Dr. Thomas, hen athraw, a Mr. Price, hen weinidog, y Wawd ieuanc, i gymmeryd rhanau yn y gwasanaeth. Nos Sadwrn, Ionawr 3ydd, treuliwyd dwy awr i wrando hanes John Bunyan, dan lywyddiaeth Mr. Thomas Mathews, o Middlesboro'. Y dydd Sul, Pfegethwyd gan y Parcbedigion Marshall, o Haim- sterley, Price, a'r Dr. Thomas. Boreu dydd Llun, neillduwyd Mr. Lewis i gyflawn waith y weinidog- aeth. Yr oedÙH y cyfarfod hwfi yn un llawn o ddy- ddordeb a llythyrenoldoddedig. Ychydig iawn o lygaid sychion. oedd yn y cyfarfod hwn. Gofynwyd y gofyniadau arferol, a gweddiwvd am fendith ar yr undeb gydag arddodiad dwylaw, gan Mr. Price. Yr oedd atebion Mr. Lewis yn Ilawn, manwl, achynnwys- fawr, yn cael eu rhoddi gyda gwylder Cristionogol, yn nghanol cydymdeimlad y gynnulleidfa, yr hon oedd mewn boddfa o ddagrau. Cyflwynwyd i Mr. Lewis rodd werthfawr o Lyfrau oddiwrth Ysgol Sabbothol Calfaria, Aberdar, fel arwydd o serch yr Xs8°l at un o'r plant, a fagwyd ganddo yn anwyl town. Mae yn ffaith gwerth ei nodi fod Lewis yn un o chwech o bregethwyr addawoliawn a fagwyd yn yr UN DOSPARTH yn yr ysgol hon yr athraw ffyddlon ypryd hwnw oedd Mr. Stephen Lloyd, brawd i'r Parch. John Lloyd, Merthyr. Dyma ffaith a lefara gyfrolau w-r'th athrawon. Traddodwyd anerchiad (stymus, caredig, a llawn o addysgiadau i'r gweinidog ieuanc, gan v Dr. Thomas; ac anerchwydyr Eglwys gan Mr. Price. Cynnaliwyd cyfarfod pregethu yn y prydnawn. Yn y nos, cyfarfod er pleidio y mudiad daionus o godl y Drysorfa Fenthyciol. Y Cadeirydd yma oedd J. Mc Ennicke, Yswain ac areithiwyd gan Mr. Walter Griffiths yn alluog iawn yn y Gym- ^aeg, yr hwn a ddilynwyd gan Mr.Thoraas Mathews, Middlesboro'; Mr. Lewis y gweinidog newydd ;*Mr. Marshall, Mr. Price, a'r Dr. Thomas; acary diwedd derbyniwyd addewidion am y swm ardderchog o ^54 4s.! Bendigedig am deimlad a haelfrydedd Cymreig Witton Park. Mae yn dda genym allu dadgan fod cyflwr pethau yma yn gysurus iawn—yr eglwys mewn heddwch a thangnefedd, ymgeiswyryu Yrnofyn y ffordd tua Seion, a'u brawdieuanc ac anwyl yo cymmeryd meddiant o'r maes newydd dan yrt;am- gjlehiadau mwyaf dymunol, a'r eglwys ac yntau yn «oliol fynwesu eu gilydd. Y peth penaf sydd yn e*sieu yn awr yw, gwneyd y capel lawer yn Iwy nag J* yn awr; dylai hyn gael ei wneyd yn ddioed a da genym ddeall fod hyn o dan sylw difrifol yr Eglwys. Dymunwn 0'1'1 calon lwyddiant y brawd Lewis, a'r egl ,,Wys fach ond ffyddlon a chariadus yn Witton Park. e wrth ddiweddu, derbynied y brodyr da a'r chwi- orydd. caredig yn Witton Park ein diolchgarwch ^yaf calonog am yr anwyldeb a ddangoswyd atom Pan yu eu plith. Pan yn ymadael bpreu dydd Mawrth llwythwyd ni a bwvd a diod, a llawer o roddion gwerthfawr iawn heb enwi neb, diolchwn i chwi un ac oil. Bendith y nef ach dilyno. Preswylvddy bertha fyddo yn gwylied trosoch yma, acyn eich cymhwyso i'w fwynhau wedi myned oddiyma.

YR UNDEB CRISTIONOGOL-BUDD…

YMDDYDDANION Y TEULU.