Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

HANESION CYFFREDINQL,

News
Cite
Share

ar wahapol adegau. Barnai Arglwydd Derby fod y ,cyfrani*dau blaenorol hyny yn cyrhaedd i tua £ 400,000, heblaw y Trethi Tlodion a dalwyd, a'r .cynnorthwyon dirgelaidd a roddwyd. Y mae rhai meistriaid hefyd wedi rhoddi cyflog dau ddiwrnod bobwythnos i'w gweithwyr, a hwythau heb weithio dim ac fod ereill yn cadw eu dynion rhag pwyso or Drethi'r Tlodion o gwbl. Pe y cyhoed lid ystad- egaeth o'r hyn oil a wnaethpwyd eisoes, rhwng cyf- raoiadau personol, tanysgrifiadau cyboeddus, trethi tlodion, &c., byddai'r cyfanswm yn aruthrol Ond pa gymmaint bynag ydyw, nid yw yn ddigon i y 11 gadw y iniloeid rbag dyoddef heb i ymdrechion newyddion a pharhaus gael eu gwpeyd. Mewn cyfarfod o Bwyllgor Gweinyddol Manchester a gyn- naliwyd rhai dyddiau yn ol, hyshyswyd eu bod wedi derbyn JE46,000 mewn tanysgrifiadau yn ystod yr wythnos flaenorol; yr hyn sydd yn weddill yn nwylaw y pwyllgor yw £ 142,158. Y mae Tywysog Cymru wedi tanysgrifio £ 1,000. Derbyniwyd £2,000, rhan o daaysgrifiad o £ 5,000 o Hong Kong. Chwanegwyd 10,621 at nifer y dyoddefwyr yn ystod yr wythnos ddiweddaf. Holl nifer presenol ydyoddefwyr ydyw 431,395 ac o'r nifer hwn y y mae 172,010 yn cael eu cynnal trwy gyfraniadau gwirfoddol. YMOSODIAD YSPEILGAR YN LLYJNDAIN.—Y mae yr ymosodiadau yspeilgar a wneir yn Llundain -gan wyr y tocynau rhyddion ar gynnydd parhaus, fel y mae dynion yn arswydo myned allan yn y nos. Y mae y rhai ydynt wedi cael eu dal, a'u dwjn i brawf, wedi eu dedfrydu i gospedigaeth lem; ond nid yw hyny wedi HethftU dim bron ar nifer y troseddau. Rhai dyddiau yn ol, bu dynfarw oddi. wrth effeithiau un o'r ymosodiadau hyn. Y mae y »fileiniaid yn awr yn ymosod ar ferched, ae y mae merch ieuane newydd farw oddiwrth niwed adder- byniodd fel hyn. YmOsodwyd ar, ac yspeiliwvd lluaws o bersonau yn nghymmydogaeth Battersea, Wandsworth, a Wirnbledon, ac y mae dychryn mawr yn fFynu yn y lleoedd hyny. Er holl ofal yr beddgeiclwaid y mae y troseddau hyn yn cvnnyddu mewn rhifedi, beiddgarwch, a chreulondeb. Nid oes bron an awr o'r nos yn pasio heb luaws o ymosodiadau mewn gwahanol ranau o'r brif ddinas a'i chyffiriMiu. Cwynir fod troseddau cyffelyb yn amlhau mewn trefydd ereill hefyd, yn gystal ag yn y wlad yn gyffredinol. Cymmer amryw o'r barn wyr achlysur oddiwrth y ffaith mai dedfrydogion wedi eu rhyddhau gyda thocyn ydyw y rhnn fwvaf o'r troseddwyr, i ddadleu dros ddiddymu y drefn bresenol o ryddhau y troseddwyr, a mabwysiadu yr hen drefn o alltudio i rai o'r trefedigaethau. Dy- wedir yn y newyddiaduron StSisnig fod gang o'r ys- peilwyr hyn wedi gadael Ltundain tua Deheudir 43y«M,u, gyda'r rheilffordd; dylai hyn ein gosod ar wyliadwriaeth. MASNACH PUYDAIN FAWR.—Er gwaethaf v rhyfel Americanaidd, ymddengys yn ol yrystadeg.iu ydvnt newydd eu cyhoeddi, fod masnacoh y wlad hon bron cystal yn awr ag oedd ddeuddeg mis j n .ol. Nid oes ond ychydig wahaniaeth rhwng y .deng mis c> ntaf yn-186?. a'r deng mis cyntafyn 1861. Lie yr oedd ein masnach y llynedd yn cyr- haedd i £100, yr oedd eleni yn cyrhaedd i £ 98 2s. 6c. Y ffigrau munwl, a chyfrif i fyny i'r 31ain o Hydref yn mhob tymhor, ydvw ,£105,480,242, yn erbyn £103,519,269. Nid yw hyn yn gyfrifdrwgi'w roddi mewn awr o gyfyngder. Yr hyn a gollasorn mewn un lie a ennilliisom mewn lleoedd ereill. Y mae masnach newydd, neu yn hytrach ddadblygiad.newydd o hen fssnach, yn ein cario dros gyfyngder y rhyfel yn America, ac yn galiuogi y genedl yn gyflredinol i gynnorthwyo y dyoddefwyr mwyaf uniongyrchol oddiwrth warchae y De. Wrthgymharu misuedd a misoedd, yr oedd Hydref diweddaf yn un drwg i ni. Cymmerodd lleihad o £1,800,000 le yn ein masnach, ond yr oedd i'w briodoli i amgylchjadaujjdygwyddiadol Yr oedd pum mis allan o'r. deg eleni yn well na'r misoedd cyferbyniol yn 1861; a phump yn waeth. Collasom uwchlaw miliwn yn Mawrth, a'r un faint, yn Ebrill, ond ennillusom dros ddwy filiwn yn Gorphenaf. Gostyngoddein hallforion o gotwm y rhai a gyrhaeddasant i £8,164,126, yn Hydref 1861, i jgl,940,897 yn Hydref, 1862, yr hyn oedd yn lIeibado dros XI,200,000, tra yr oedd y lleihad o 45650,000. mewn edefedd cotwm. Gyda'r eithr- iadau hyn, dangosai y mis ennill, ac nid colled. LLOFRUDDIAETHAU YN LLYNLLEIFIAD.- Boreu dydd Iau, Rhagfyr 3ydd, cyflawnwyd llofruddiaeth arswydus yn nhref Llynlleifiad y Uofruddiedigoedd wraig tincer o'r enw Read, yn byw yn Lower Myrtle street. Ymddengys fod Read a'i wraig, a mab oddeutu un mlwydd ar bumtheg oed, yn byw mewn seler ty yn yr heol a nodwyd, a bod merch ieuanc wedi hysbysu i un o swyddogion yr hedd- geidwaid fod y wraig wedi ei thrywanu. Aeth yr heddgeidwad ar unwaith i'r ty, lie y cafodd y dranc- edig yn gorwedd ar y drws, yn gwaedu o glwyf o dan ei braich aswy. Efe a aeth yn ddiymaros i'r clafdy i ymofyn meddygon, y rhai a ddaethant erydag efidyy drancedig. Gwnaed pob yindreeh i adfywio y wraig druan, ac i attal ei gwaed, ond yn ofer, a bu farw yn ddioed ar ol dyfodiad y meddygon. Yr oedd Read a'i fab wedi ffoi ymaith, ac er holl ymdrech yr heddgeidwad ni lwyddwyd i'w dal. Merch hefyd ydyw gwrthddrych. yr ail lofruddiaeth. Ei henw oedd Isabella Tongue, ac yr oedd yn cydfyw gyda dyn o'r enw Thomas Ed- wards, cigydd, yr hwn, modd bynag, yn lie gwneyd bywiolaeth trwy ddilyn ei alwedigaeth, a ymgyn- naliai ar ennillion pntteindra ei gariadfeich. Oddeutu pedwar o'r gloch boreu dydd Iau, tra yr oedd Edwards, y drancedig, Jane Wilson, a dyn o'r enw Thomas Sullivan, gwr toeyn rhyddhad, yn eistedd o gwrhpas y tan mewn ty yn Norbury street, cymmerodd Edwards gyllell cigydd, a rhuthrodd ar Tongue, yr hon a drywanodd efe mewn pedwar ar bumtheg o leoedd. Efe a dryw- anodd Wilson a Sullivan hefyd, ond nid yn drwm, Bu y ferch anffodus Tongue farw yn ddioed. Pryd- nawn dydd Iau, cynnaliwyd trengholiad ar gorffy ferch drancedig, pryd y dychwelwyd dedfryd o lofruddiietli wirfoddol yn erhyn Edwards, yr hwn a ddywedai fod yn dda ganddo ei fod wedi ei lladd hi. Y MORMONIAIO.—Ychydig amser yn ol cynnil- ioddyMormoniaid en ffair a'u cynnadledd fiyn- yddol yn ninas y Llyn Halen, adywedir fod y cyn- nulliad yn fwy eleni nag erioed. Dywed yin- welwyr o'r Dwyreinbartn fod yr arddangosial 0 gynnyrehion amaetliyddol a clielfyddydol cystal a dim ag a allai yr hen Daleithiau yn yr America ddangos. Caingymmeriad ydy w'r d vbiaeth mai diffeithweh ydyw Utah. Gwir fod cyfran o'r dalaeth yn ddiffeith *cli digynnyrch, ond y mae yno ddvffrynoedd tfrwythlawn iawn. Ifr oedd casgliad rhagorolo ffrwythau yn y ffair, yn nghyd ag yd, tybacco, &c. Ond ymddengys fod y Mormoniaid yn ymffrostio mwy yn eu cynnvdd irie vn cclfyddyd a llaw-weithyddiaefh nag me#n dim. Tvfarit gotwm da yn y dyffryn, ac y mae ganddynt beth yn barod yn awr i'w ddanfon dros y mor. Y mae!Jt yn dechreu codi Haw-wpithfeydd i weithifi'r cotwm eu hunain, Parhaodd y ffair am ddeng niwrnod. Cyn myned i gynna) y gynnadleild, penderfynwyd ar fo(I i Brigham Young gael holl oruwchrealaeth llafur trwy yr holl wlad. er mwyn dadblygu ei hadnoddau. 0 hyn allan Brigham sydd i bender- fynu pa le i dyfu cotwm, llin, te gd-niewn gair, efe yw Amherawdwr pawh a phob peth yno. Y FASNACH NEGROAIDD YN RICHMOND.— Ymddengys er gwaethaf y rhyfel yn America, fod y fasnacli mewn negroaid yn dra bywiog. Yn ys tafeltoedd cyhoeddus y Mrd. Pulliam a'i Gyf., ych- ydig amser yn ol gwerthwyd teulu o wyth o ber- sonau, yn cvnnwys mam a saith o blant, bechgyna merched, un yn mreichiau ei mam, am bum mil ac un cant o ddoleri; a theulu arall, yn cynnwys mam a phedwar 0 blant, bechgyn a merched, a werthwyd am ddwy fil, wyth cant, a phedwar ugain o ddoleri. Yn ystafelloedd gwerthi Hector Davis, Ysw., yr oedd arwerthfa fawr o negroaid unigol, yn wrrywod a benywod, awryw o'r rhai olaf gyda phlant yn eu breichiau. Fel y canlyn yr oedd y prisoedd —Bachgen golygus, 15 mlwydd oed, 1,480 0 ddoleri; menywgyffredin a merch, 1,015 oddoleri; merch olygus, 16 oed, 1,290 o ddoleri; menyw, merch, a bachgenyn, 1,860 o ddoleri; inenyw negroaidd. 78Q 0 ddoleri menywa bachgen 1,200 o ddoleri; merch olygus, mulatto, 1,320 o ddoleri bachgen golygus, 10 oed, 1,300 o ddoleri; gwraig a dau o blant, golygus, 1,900 o ddoleri; gwrryw, golygus, 1,010 o ddoleri; menyw, cogyddes dda, &c., 600 o ddoleri. Yr oedd lluaws e brynwyr wedi dyfod yn nghyd. Dyna fel y rhydd y newyddiadur a elwir y Richmond Examiner, am y 22ain o Dach. wedd diweddaf, hanes ar.verthiad gyhoeddus yn y ddinas hono. Onid yw cyfundrefn y gaethfasnach yn ddigon i beru i anfoddlonrwydd y Nefoedd i aros ar y geneal ? A'r hyn sydd yn gwneyd y peth yn fwy ofnadwy fyth yw, fod gweinidogion yr efeng- yl yn ymdrechu cyfiawnhau y fath system fileinig GWYR Y TOCYNAU RHYDDIOK.—Wrth gyfeirio at achos gwyr y tocynau rhyddion, a'u gweithred. oedd anfad, yn Session Sheffield rai dyddiau yn ol, dywedai y cadeirydd, Mr. Wilson Overend, wrth gyfarch y rheithwyr, fel y canlyn Dymunwvf alw eich sylw at ddospartii o droseddau a fodolant yn biesenol yn y wlad hon, y rhai, o herwydd eu mawredd, sydd wedi dychrynu holl boblogaeth, nid yn unig y brif-ddinas, ond y wlad hefyd. Cyfeir- iwyf at droseddau a gyflawnir gap wyr y tocynau rliyddion. Amryw flynvddau yn oi, darfu i mi ar y fainc hon brotestio yn erbyn y gyfundrefn. Ithag- ddywedais ar y pryd pa beth fyddai y canlyniad yn debyg 0 fod, ac y mae yr hyn a gredwn wedi dyfod o amgylch. Y mae y dynion hyn wedi dyfod yn felldith cymdeithas. Un peth, yn ol fy meddwl I, a wellha bethail, hyny yw, dychwelyd yn ol at ein hen drefn 0 alltudio. Dylem anfon y dynion hyn allan o'r wlad." Dyna, feddyliwn, yw lIais y wlad yn gyffredin. BATHODYN GWOBRWYOL, a roddwyd am STARCH GLENFIELD, gan Parnwyr Dosparth 2, Arddsngoafa 1862. Y mae y Starch enwog hwn yn cael ei ddefnyddio yn y Golchdy Breiniol ac a gyhoeddirgan Olchwraig ei Mawrbydi y goreu a ddefnyddiodd, erioed. Trwswraig Ysnodenau ei Mawrhydi a'i gesyd all in y goreu a ddefuyddiwyd ganddi; ac y mae y wobr uchod, gan rai o brif gelfyddydwyr yr oes, yn profi ei ragoriaeth. Gwerthir "STARCH BREINTIEDIG GLENFIELD'S yn mliob Dinas, Tref, a Phentref, yn Mhrydain Fawr a'r lwerddon, mewn sypynau -le., Ie, 2g., 4c., ac 8c. yr un, gan Grocers, Canwy 11 wyr, Fferyllwyr, &c., ac yn gyfanwerth gan y gwneu- jhurwyr WOTHERSPOON A'l GYF., GLASGOW A LLUNDAIN. 0 BWYS I BAWB SY'N CANU.—Oddiwrth Mr. E. Page, Arweinycd Cor ac Organydd Eglwys Gatholig St. Marie, Casnewydd, Sir Fynwy.— "Wedi. dyoddef llawer yn fynych drwy ryddhau y gwddf, yr wyf droion wedi gorfod treio gwahanol feddyginiaethau eithr er pan roddais brawf i Afrlladau Dr. Locock, anfynvch iawn y irorfidir fi i ddefnyddio y meddyginiaethau, gan mor hynod o e(feithiol v inue yr Afrlladau wedi profi. Hyd y nod pan fyddo y gwddf fel pe wedi ei lwyr orth- rechu, a'r llais braidd wedi darfod, hydd iddau neu dri (neu bedwar yn y man pellaf) o'r Afrlladau lwyr adfer grym ac ystwythder y llais; ac nid ydynt yn unig yn effeithio megys rhyw feddyg- iniaeth gynhyrfiol amserol, nac ychwaith yn gadael dim gwendid ar ei ol. RHYBUDD.— Mae ar bob blwch o'r GWIR FEDDYGINIAETH y geiriau, "DR. LOCOCK'S W AFEltS" mewn ilylh- yrenau gwyn ar sail goch ar argratt' y llywodraeth, heb yr hyu ni bydd y moddion ond TWYLL A HOCED.