Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

Advertising
Cite
Share

fAT YGOHEBWYR CERDDOROL. e HION.- Yr aehos fy mod heb wneyd sylw o\:h c\.f. ansoddiadau yw, am fod fy iechyd wedi pallu, a'rn meddyg yn dweyd, fod yn rhaid i mi beidio gwneyd llawer a phethau or fath etto am ychydig fisoedd. Er hyny, teimlwyf awydd i ddweyd gair am rai o'r cyfansoddiadau sydd wedi dyfod i law. Y mae y gwallau yna sydd.yn banau lleg, l2fed, 13eg, a'r 20fed, yn anfaddeuol 14eg, ]5fecl, l7eg,yo llawn o bumpau dilynol; laf, 4ydd, 8fed, a'r 9fed, yn 8au dilynol. Dyna ychydig o lawer o Wallati sydd ilw canfod yn Rhif laf. ttbif 2il sydd gyffelyb ond Rhif 3ydd sydd iawer gwaeth, &c. J. W.-Ton Siloam.- Y mae y gynghanedd yn wael iawn da chwi, darllenwch, a chwiliwch lawer. T. G.-Fe ga buddugol ymddangos, beb wneyd yr un sylwj:o'r gynghanedd na'r alaw, am y bydd hyny vn fafttais i'r cydgystadleuwyr, er iddynt gael gweled rhagoriaeth yr un fuddogo). AR Y M.B.D.—Heb yr un enw; alawgyffredin iawn, a chynghaneddiad gwallus. J. S.-Ton Penyrheol.-Y mae genych San dilynol mewn rhai'manau. Nid yw eieh eynghanedd mor wallus a llawer o'r rhai sydd yn danfon tonau i'r SBREN; ond.y mae diffyg chwaeth i'w weled yn nefnyddiad rhai o'ch cordiau ymarferihd. a'ch gwna yn gyfansoddwr da. DEWl GOCH.—Yn wir, y mae y gynghanedd a'r alaw yn eich Ton mor wael, fel nas gall wn aberthu amser y tro yma i'w hadolygu. Gwnewch gynnyg etto. S. JAMES, Spelter.—Maddeuwch i mi dylaswn fod wedi gwneyd adolygiad ar eieh tonau, yn nghyd âg ateb eich gofyniad, &c. Diolch i chwi am eich tonau mae y d6n ar y mesur lOau yn un dda iawn. lJichon y bydd i mi gyfnewid ychydig ar yr alaw mewn man neu ddau, ac hefyd y gynghanedd. Yr un modd a'r don arall; yr wyf wedi d.erbyn rhai tonau er eu gosod yn y llyfr, ac y mae eich tonau chwi yn llawn cystal a'r goreu etto. Byddaf yn dra diolchgar i bob-cyfansoddwr da, am ddanfon tonau da i mi, fel y byddo i ni gael casgliad mor newydd ag y byddo modd. Nid wyf yn dweyd y bydd i bob ton a ddanfonir ataf gael ymddangos, ond gwnawn ddewis y goreu, &c. R. LEWIS. AT EIN GOHEBWYE, A'N DARLLENWYR. ElN DEB BYNiADAU.—Parch. J. Jenkins-Parch. T. F. Wiliiams—Eiddil Diwyd—J. Rogers- Tyddynwr -Du—J, C. Williams, Ysw.—Parch. W. E. Watkins-Carwr Trefn-D. Thomas—Boan- erges—Progress—Garnaddtfy—C. Perining (?) Parch. J. G. Owen-J. Hopkins-John Die— ApGwilym-lehan Ddu-J., Williams-Un am ei gael-Brodor o'r Traethgwyn—Un am wybod -Meistri Simons a Pletva-Parch. D. O. Ed- wards—Gohebydd y Gogledd-E.R.S.E.-E. J. ROGERS.—Nid ydym yu hoffi ytnyraeth Ag atebion ein Gohebwyr; ond nid oes ammheuaeth yn ein meddwl nad oes yna gyfeiriad at sefyllfa Israel yn yr Aifft ar y pryd hwnw. Gan nad faint o bethau ereiil sydd yn cael eu dysgu yn y frawddeg, mae yn amlwg fod cyflwr peryglus y genedl yn cael ei ddarlunio. JOHN HOPKINS, JdiddlesbTO.—Mae genym ni wir barch i chwi, a golwg uchel iawn arnoch fel dyn da, crefyddwr gonest, a llenyddwr nid anenwog; ond er hydy, nid chwychwi yw ein Gohebydd yn Ngogledd Lloegr." Mae genym ni bob ym- ddiried,ei fod et yn onest yn darlunio pethau fel y maent. Mae ef ei hun yn gwybod pwy yw. Yr ydym ninnau yn gwybod. Heblaw hyny, nid ydym yn sicr fed neb arall yn gwybod. J. WILLIAMS, Nantyglo.-I. Mae yn ddrwg gen- ym nas gallasem eich cvfarwyddo at unrhyw lyfr ar y pwnc yr ymholwch am dano. Y r ydym ni wedi cael llawer 0 hyfforddiadau yn Mynegiadau Pwyllgorau y Seneddau, Mynegiad Cymdeithas Newcastle, Myijegiad Pwyllgor Sunderland, Traethawd J. C. Dav:es ar y Nwy ond nid ydym erioed wedi dyfod o hyd i law-lyfr ag a allem ei gymmeradwyo ar y pwnc hwn. 2. Mae yr Airometer i'w gael; ond mor bell ag y f I,. ,;+ gwyddom ni, mae hyd etto yn nwylaw dynion celfyddydgar, ac nid oes unrhyw gyfarwyddyd er ei ddefnyddio wedi ei gyhoeddi. 3. Nid oes modd cael y mynegiadau y cyfeiriwch atynt, ond trwy law Aelod Seneddol. Gellir cael traethawd Davies ar y Llosgnwy am 7 ceiniog, oddiwrth Thomas Williams, Rachel-street, Aberdar. UJTAM WYBOD.—1. NI fyddai un riwymaK arnoch i ymuno a'r fyddin cyn dyfod yn ddinas- ydd. Cymmerai hyny saith tnlynedd o arosiad yno. 2. Mae gweithiau mwn yn Canada, er nad ydyntynnodeuogiawn. 3. Mae yn yniddibynu yn hollol ar pwy waith ydych yn ei ddilyn, er penderfynu rhwng Canada a Phennsylfania. O'n rhan ni, gwell fuasai genym ymfudo i Canada nag i'r Taleithiau Americanaidd'; ond gwell genym aros yn Nghymru nag yn un' o'r ddau. BOANERGES.—(*an fod eich llythyR yn cyfeirio at fater a gafodd sylw. pwyllog nifer o weinidogion mwyaf parchus, a lleygwyr tnwyaf cymmeradwy Cymmanfa Morganwg, nid ydym yn barnu yn deg ei gyhoeddi, gan na fyddai hyny ond agor dadl wedi barn. Nid ydym yn barnu yn iawn i chwi gyfeirio eich Ilythyr at Mr.Oliver, Merthyr, gan nad oedd efyu un o'r Pwyllgor abennodwyd dros y Cyfarfod Trimisol; a gallwn eich sicrhau fod Mr. Oliver yn un o'r dynion mwyaf cywir, diwyd, a fiyddlon yn enwad v Bedyddwyr trwy Gymru. Gwyn fyd na fai un o'i fath yn mhob -egtwystrwyydeyrnas. Er hyny, nid yw yn un a garai g¡iel ei lusgo i ddadlâ chwi ar y pwnc y cyfeiriwch ato. Heblaw hyn, nid oedd Mr. Oliver yn nefaru eifeddwl ei htinyn unig, ond yr ydym ni wedi cael ar ddeall ei fod yn siarad meddwl y gweinidogion hefyd, gan eu bod yn hollol o'r un syniad a barn a,r y pwnc a fu dan eu sylw, yn gystal a'r penderfyniad y daethant iddo. Ap Gwn.YM.—Nid ydym yn gweled dim yn eich llythyr, ond tuedd i gadw i fyny y ddadl ar draul dolurio teimladau Mr. Griffiths, yr hwn sydd a'i gymmeriad yn llawer rhy ucbel i fod yn destun ymrafael ar faes ein cyhoeddiadau. JOHN Dic.—l. Mae Arglwydd Teynham yn Nhy yr Arglwyddi er ys blynyddau. 2. Nid yw yr Arglwydd a fedyddiwyd gan y Parch. H. G. Guinness yn aelod o'r Ty Uchaf etto. Bydd felly ar farwolaeth ei dad. 2. Nid ydym yn sicr pa nifer o Fedyddwyrsydd yn y Ty. 4. Yr oedd Baxter yn Bresbyteriad o ran ei gred. 5. Yr oedd Whitfield yn fath o eglwyswr diwygiedig, heb fod yn perthyn i unrhyw blaid grefydddl ary pryd. 6. Yrun fath a Baxter. 7. Martin Luther a ddaeth allan o Eglwys Rhufain, a sefyd- lodd blaid grefyddol, y rhai a adnabyddir yn awr wrth yr enw Lutheriaid. 8. Yr oedd John Foster yn Fedyddiwr. 9. Nid oedd nifer y Bed- yddwyr yn mhlith y Ddwy Fil ond ychydig iawn —dichon eu bod 024 i 30. 10. Yr Independ- iaid, medde nhw. 11. Y Wesleyaid-yn mhlith Ymneillduwyr, tra mae Egiwys Loegr yn rhifo yr hanner. PARCH. THOMAS THOMAS.—Yr ydym wedi cael y fraint o dderbyn y llythyr cBnlynoloddiwrtb y Meistri Simons a Plews, cyfreithwyr, yn achos y Parch. T. Thomas Church-street, Merthyr Tydfil, Dec. 10, 1862. SIR,-We are instructed by the Rev. Thomas Thomas to. bring an action against you, and the Printer of SEREN CYMRU Newspaper, for a very scandalous libel published concerning him, and which has led to his losing his office as minister of Bulah congregation, Pembrokeshire. Unless a satisfactory apology and compensatioi, are made, and the cost of our application paid, our instructions are to issue a process against you. From the circumstances detailed to us, it is clear that you have made aspersions without any founda- tion. We are, Sir, yours obediently, "SlMONS&Pl,NWS." The Rer, T. Price, Aterdare." ¡ Jj I hyn yr atebodd Mr. Price yn y Bodyn a ga^lyn: "Aberdare, Detf. 11, 1862. "Messrs.Simons&PIews. SIRs,-In reply to your letter of yesterday's date, I beg to say tnat I have not libelled the Rev. T. Thomas. I shall make no apology, nor shall I pay any compensation, aa I do not consider that your client has lost anything by what I have! done.. Yours very truly, 1 "THOMAS PRICB." Mewn canl yniad i hwn, cawsoun ail lyth^r odd wrth y cyfreithwyr, yn gofyn am ein cyfreithwyr hi, gan eu bod yn myned i anfon allan y process. Bydd i ni, o gwrs, amddiffyn yr action serch pob traul a thrafferth ac yn hyn credwn ein bod, yn y pendraw, yn gwasanaethu moesoldeb, rbin- wedd, a gwir grefydd. Yr ydym, gan hyny, wedi rhoddi y mater yn nwylaw y Meistri James, y cyfreithwyr enwog o Ferthyr Tydfil. SCP" Gorfu i ni adael allan amryw lists 0 danysgrifiadau at y Drysorfa Goffadwriaetliol olr Rhifyn presenol, o ddiffyg lie.. A Derhyniwyd taliadsu oddiwrth W, J. Dinas Eifion, O. L. Llwyngwrii, W. R. Valley, W. E. Llanbedr, L. R. Cwm. llafrod, J. J. Ty'nrheol, E. T. ystrad, E. D. Llanedarne, R. D. Caerodor, J. L. Vnyscedwin, D. R. D. Treboeth, T. J. Buildings, S. M. Bedwellty, J. P. Llanelli,. E. U. Cwrt. newydd, D. W. Trefdraeth, D. B. Yetybontbren., W. O. Abergwaen. T. T. Tegryn, E. S. Uafen, S. J. Penybryn, T. G. Merthyr, T. T. Llwynpipd, J. M. Llandefeiliog.

.Y PYTHEFNOS..