Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

DADL RHWNG Y CREFYDDWR A'R…

News
Cite
Share

D. Yr wyf yn barod i addef ar unwaith, Morgan, nad yw dy gyflwr drwg yn perthyn cymmaint i mi deimlo o'i blegid ag ydyw i ti edrych iddo, ac i deimlo am dano; etto, y mae yn dal cyssylltiad agos a mi, fel bod sydd yn gyfrifol i'm Duw, mewn barn, ac fel un sydd yn proffesu enw y Gwaredwr mawr. Yr wyt wedi gadael eglwys Crist, yn yr hon y mae fy enaid I yn ymgartrefu. iV wyt yn diystyru pobl yr Arglwydd, y rhai y mae fy nghaloa I yn eu caru; ac yr wyt yn dweyd yn dirwg am fy Ngheidwad Iesu, yr hwn ag yr yc Iwyf yn barod i ymadael a phob peth bydol er ci fwyn. M. Holt, Dafydd, yr ydwyt yn myned yn rhy bell yn dy gabledd arnaf. Yr ydvch chwi, y crefyddwyr, yn meddwl y gellwch ddywedyd y peth a fynoch am danom ni, a alwwch yn Wrthgilwyr; ond ti gai brofi yr hyn a ddywedaist yn awr am danaf. Addefaf fy mod wedi gadael eglwys Crist, os gellir ei galw yn eglwys Iiefyd ond pa bryd y clvw- aist fi yn diystyru pobl yr Arglwydd ? Na, y mae genyf wir barch i bobl dduwiol yn mhob man, ac ar bob adeg, ond nid oes genyf ddirn parch i'r hen daclan yna sydd yn gwneyd i fyny yr eglwys y perthyni di iddi; apheth arall a ddywedaist oedd, fy mod yn dywedyd vn ddrwg am Iesu Grist. Yr wyf yn dy nerio na chlywaist ti, na neb arall, fi erioed yn dywedyd gair yn fach am dano. Na, o'r tu arall, y mae genyf gymmaint parch i'r lesu a neb crefyddwr, pwy bynag, oblegid arno ef yr wyf fi yn ymorphwys am fywyd tragy- wyddol; a phaid ti a dywedyd pethau am danaf o hyn allan ac nas gellir eu profi., Yr *yf yn hawlio Iloiivddwch. D. Y mae yn ddrwg iawn genvf am dy ysbryd cynhyrfus, Morgan, pan yn siarad am bethau mor bwysig ond ymdrecha di i gadw mewn tymher addfwyn, oblegid y mae genyf betbau chwerwach etto i'w gosod yn dy erbyn. Yr wyt wedi dywedyd nas gallaf brofi fy ngosodiadau i'th erbyn. Gallaf, gallaf, fel y mae gwaethaf y modd. Dy fod yn wrthgiliwr a addefi yn rhwydd ond pa ddiolch i ti, oblegid y mae pawb o'th gylch yn dy adnabod fel y cyfryw ond rhyfedd mor gul yw dy feddwl am yr eglwys y ciliaist o honi, fel yr wyt yn ammheu a j^dyw yn teil- yngu yr enw ai nad yw. Ond dylet ddeall cymmaint a hyn, pe na buasai yma ond dau nen dri" o dduwiolion, y mae yn anrhydedd gan Grist ei galw yn eglwys iddo ei hun, pan y dywed Yno yr ydwyf fi," a tbn hwnt i adadl v mae yno lawer rhagoro wir ddilynwyr i Fab Duw. Wel. gosodiad arall o'm eiddo a wadu, sef nad ydwyt yn dywedvd yn ddrwg am lesu Grist. Dicbon na ddarfu i ti gyduno a'r Sosin i wadu ei dduwdod, ond cydunaist a'r luddew i waeddo Ymaith ag ef," er nad mewn geiriau, ond etto mewn ymddygiad, yr hyn a ganiateir gan bob ymresymwrsydd yn llafaru yn uwch nag ymadroddion y dyn am feddyliau ei galon. A pheth arall, pe byddai pawb yn gwrandaw ar lais dy ymddygiad, ni byddai un eglwys ar y ddaear, dim parch i'r Beibl, na neb yn rhoddi gofal ei enaid i'r Ceidwad erbyn y dydd a ddaw. M. Mae'n rhaid i mi gyfaddef fod dy res- ♦ftnau am fy ymddygiadau at Iesu Grist, fel Blaerfbr mawr v fyddin Gristion^gol, yn wir- ionedd didroi yn ol. Mor bell y mae fy ym- ddygiadau yn llefarj, yn ddrwg y maent yn llefaru; ond lied wan yr ydwyf yndy glywedyn son am dduwiokleb yr eglwys y dywedi i mi ei gadael. Dichon v dywedaf bethau am ber- sonau ag nad wyt ti wedicael mantais i wybod am danynt, fel yr wyf n ag sydd yn troi yn eu plith ddydd a nos Dyna Nedi'r Wasgod Goch y mae pob melldijth yn perthyn iddo yn y Gwaith, ac y mae ar bob pay a draw yn myned dan gramp meddwdod, fel y rhaid i ryw rai ei gynnorthwyo adref dan fantellau y nos; a phwv ond efe fydd uwchaf ei lais yn yr hyn a elwir gweddio yn eich addoldy dranoeth Wel, dyna Dai o'r Foel, nid oes penach blackguard wedi myned i lawr i bwll glo erioed. Y mae ef mor rhydd a neb i haeru mai ef fydd perchen y dram, pan na fydd yn perthyn dim mwy iddo ef nag i'r dyn yn y lleuad; a phwy ond Tfe a fydd yn mlaenaf gwr gyda'r cyflawniadau santaidd or y Sab- both. Dyna Siencyn Wylaidd, y mee yn gwasgu y rhai sydd yn gweithio dano, fel yr ocheneidiant o foreu dydd Llun hyd nos Sul; a chewch ei glywed yn y cyfarfodydd yn tynu ei ochenaid fel o ddyfnder ei galon, fel pe byddai yn llawn duwioldeb; ond y mae yn hollol anadnabyddus o hono. Ie, dyna yr hen Jack y Clogyn Croen, y mae ef yn chwtennych gwinlian rhyw Naboth ddiniwed yn feunydd- iol ar yr wythnos, gyda gweledigaethau y bywyd hwn, a deallwyf nad yw ddim gwell am swyddau eglwysig. A beth feddyliet ti am Bili'r Castell ? y mae ef a phwt o spree a phwt o weddi ar yn ail trwy'r blynydaoedd; a llawer o bethau cywilyddus ereill a allaswn enwi am lawer yn yr eglwys yna, ac yr wyt ti yn haeru mai eglwys i Grist ydyw, JSa, y maent wedi fy ngwneyd I na ymunaf byth a hwy, nac a neb arall o'u nodwedd. Dyna'r gwir, y maertt yn waeth o lawer nft mi fel yr ydwyf, oblegid nid wyffi yn gwneyd drwg i neb ond i mi fy hun. Dyna. D. Y mae yn wir ddrwg genyf dy glywed yn nodi pechodau mor ntgas am y brodyr, ac ni chlywais air o son am danynt gan neb ond dy hunan. Os gwirionedd a ddywedi, paham yn enw pob synwyr na fyddai rhyw un heblaw ti yn eu gweled ? ac, yn dwyn y pethaii yna yn eu herbyn i'r gwaith neu i'r eglwys. A pheth arall, yr un eyfle sydd ganddynt hwy a thith. au yn y gwaith; ac ar ddim a glywaf, nid oes gormod o elw i un o honoch am eich gwaith. Mae y rhni. yna oil a enwaist yn cadw eu teuluoedd cystal a thithau, ac yn clirio eu dyled yn llawer gwell na thi, os iawn y dywedir wrthyf, a pha le y maent yn cael modd i feddwi, fel y dywedi ? Ac am chwennych swyddau y naill y Hall, teimlwyf resymau ynof i gyfaddef ar unwaith fod gormod o wir- ionedd yn dy osodiad, a'i fod yn waharddedig yn ngair Duw, ac y dylent gael eu dysgyblu. Ond yn ngwyneb dy gyhuddiadau oil, yr.wyf yn credu mai un o'r creaduriaid hyny wyt ti sydd yn hoffi byw ar fyrgynod, agof hen ar. chollion, sugno hen glwyfau, ymborthi ar granon godreu dynoliaeth, ac nad ydwyt ond math ogannibal moesol, yn ymhyfrydu i fwyta cymmeriadau dynion da, a haeru nad wyt yn gwneyd drwg i neb ond i ti dy hun Nid oes modd i hyny fod mwy nag y mae modd i'r haul dywynu heb ddylanwadu, i ryw raddau, ar y ddaear, a phaid a herio yn ynfyd dy fod yn well n&'r crefyddwyr fel yr ydwyt. Gwell ? M. Yr wyf yn llawer gwell na hwy hefyd bob dydd yn nghyfrifDuw a dynion, nid oes aroaf ofa dywedyd. Dyna i ti, Dafydd. D. Morgan, cymmer bwvll i ystyried y peth a ddywedi. Dichon dy fod wedi clywed y dywediad yna yn fyrbwyll gan ryw rai o'r blaen, ond rhyw freuddwyd o eiddo cydwybod gysglyd ydyw, ac wedi ei dihuno yn dymuno iddi fod felly, hyd nes o'r diwedd y mae y breuddwyd wedi cael lie gwirionedd yn dy fynwes ond, datguddir i ti bethau gwell y dydd a ddaw, ac hyderaf y gallaf finnau ddangos i ti bethau gwell yn awr, fod hyd y nod y crefyddwr gwaelaf yn well na'r gwrth- giliwr goreu. Dyna fy ngosodiad. Profaf hyn yn gyntaf drwy reswm. Dyna bwll wedi ei gloddio yn 100 llath o ddyfnder y mae dau ddyn yn gweithio ynddo, ac y mae yna ysgol yn ei ochr iddynt ddianc o hono, pe gwelant rhyw berygl, ac y mae rhaff yn ei ganol at wasanaeth arall; ond ar unwaith, y mae'r dwfr yn tori i mewn iddo. Gwelwyd y perygl ganddynt, a chymmerodd y naill a'r llall afael yn y rhaff, er ceisto dyfod i'r wyneb, yn lie yn yr ysgol. Wedi dringo un llathen, ymollyngodd un i lawr. gan feiu ei flaenorydd, ei fod yn gwneyd blinder iddo, a boddoda yn y fan—dyna'r gwrthgiliwr. Dringodd y llall hyd nes oedd o fewn llathen i'r wyneb, pan y canfyddodd mai rhaff y broffes oedd yn sefyll ami, ac nad oedd wedi ei threfnu iddo gael diangfa ar hyd-ddi; llanwodd y dwfr, a bodd- odd yn y fan—dyna'r crefyddwr gwael. Yn awr, pa un o'r ddau a ganmolir fwyaf? Onid yr un a ddaliodd ei afael hyd y diwedd? er nad oedd nn o honynt wedi defnyddio y moddion priodoI-yr ysgol, trefn rasol Duw i arwain y pechadur o bwll llygredigaeth. Rheswio arall-dvi-in ddau ddyn yn myned i'r gwaith am chwech o'r gloch y boreu; gweith- iodd un yn dda hyd wyth, pan yr aeth i dy ei feistr i ymofyn ei foreufwyd, ac ni ddychwel- odd. Glynodd y llall yn y gwaith hyd y nos, ac ychydig a weithiai. Yr oedd y ddau yn cael eu cynnal trwy'r dyrld gan y meistr mewn bwydydd, diodydd, a gwisgoedd. Pa un o'r ddau a dderbyniai y ganmoliaeth uwchaf gan y meistr yn yr hwyr? Parod wyt i addef mai yr un a ddaliodd yn y gwaith trwy'r dydd. —Dyna'r rhagrithiwr, a'r llall yw'r gwrthgil- iwr ac yn y ddau oleu yna y mae y crefydd- wr gwaelaf yn well na'r gwrthgiliwr goreu. M. Ie, Dafydd, nid wyf i sefyll neu syrthio o flaen yr hyn a elwi di yn reswm." Tyr'd di ag adnod i brofi dy haerllugrwydda, os gelli ei chael. Yr wyf yn tybied nas gelli. 1). Bydd di yn amyneddgar, ti gai adnodau yn y man, yn Jle adnod. Mae yn ymddangos i mi dy fod dithau yn dywyll iawn yn ngair Duw, os nad ydwyt wedi gweled llawer adnod at y pwrpas hyny; neu dy fod yn feddiannol ar yr haerllugrwydd hwnw ag y gweli yn dda ei briodoli i mi. Ond gad i ni edrych. Beth feddyliet ti am yr 2il bennod yn ail lythyr Pedr. Y mae hono drwyddi yn gwrthwynebu y gwrthgiliwr, ac yn dingos ei dynged yn v byd hwn a'r un a ddaw. Ie, hyd y nod angylion, ac nas gwyddom pa gymmaint o ddaioni a wnaethant yn flaenorol. dros eu Crewr; ond pan y troisant yn fradw}"r iddo, nid oedd yn ewyllysio dangos mwy o barch iddynt na'u taflu i uffern, a'u cadwyno mewn tywyllweh hyd nes rhoddi cospedigaeth drym- ach arnynt. Dyna dynged y cynddiluwiaid. Os cadwwyd un o feibion Noah, fel rhagrith- iwr, yn yr arch, fe foddwyd yr oil a wrthod- asant fyned iddi yn y diluw. Fe drowyd gwraig Lot yn golofn halen dan farn Daw ar