Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

YMNEILLDUAETH GYMRIIIG.

News
Cite
Share

YMNEILLDUAETH GYMRIIIG. Y Pwysigrwydd o lawn Ddefnyddio Nerth Ymneillduaeth Gymreig er Rhyddhau Crefydd oddiwrth Nawdd a Rheolaeth y Wladwriaeth. Parhad oV Rhifyn diweddaf. GELLID dwyn yn mlaen lawer o ystyriaethau i gyfiawnhau yr ymdrech aool, prysur, ac ymosodol ag yr ydym yn ei gymmeradwyo. Eithr y rheswm mwyaf ei bwys yn ngolwg y rhan fwyaf o bobl Gristionogot Cymru a Lloegr yw, cymmeriad anysgrythyrol ac effeithiau niweidiol sefydliadau eglwysig. Pan osoder y rheswm hwn yn d6- ger- bron dynion o argyhoeddiadau dwysatheim- ladau gwresog at grefydd, maent yn sicr o deimlo ei rym. Yn hynyrna yr wyf fi yn hollol gyduno. Mae y mater hwn wedi bod i mi yn destun myfyrdod dwys er ys mwy n& phumtheg mlynedd ar hunain yn y weinidogeth; ac yr wyf yn addef fy Uwyr argyhoeddiad, ag y sydd yn cryfhau fel yr wyf yn heneiddio, fod yr undeb rhwng eglwys a gwladwriaeth yn groes i ewyllys ddadguddiedig Duw-yn wrthwynebol i ryddid cydwybod—yn an- nghydweddol ag ysbrydolrwydd teyrnas Iesu Grist—ac yn niweidiol i wir les dynol- ryw.. Nid wyf am wneyd y G-ynnadledd yn gyfrifol am fy ngolygiadau na'm hesboniadau fy hun ar yr Ysgrythyr; ond goddefer i fi sylwi na fedr neb o lywiawdwyr y ddaear byth efelychu y ffurf-lywodraeth luddewig, ac na all y ddwyflywiaeth hono fod yn gyn- llun rhyw gyfundraeth gymmysgedigo wlad ac eglwys ag sy'n seiliedig ar ddeddfau dynol, wedi ei ffurfio trwy ddyfais dynol, yn cael cynnaliaeth trwy drais, acyn sefyll trwy gospau a gwobrwyon bydol. Ceir gwir gyn- lluniau yr undeb rhwng eglwys a gwladwr- iaeth yn yr hen fyd paganaidd, lie y canfydd- ir offeiriaid bydol, dan nawdd breninoedd a ffafr pobloedd, yn addoli eu duwiau yn nhemlau gorwych yr Aifft, Assyria, Babilon, Groeg, a Rhufain neu ynte yn nheyrnas wrthgiliedig Israel, lie y gwnawd Jeroboam, fab Nebat, yn ben ar bob achosion gwladol a chrefyddol, ac y gwnaeth efe i Israel bechu trwy sefydlu y Lloi yn Dan a Bethel. Mae hanes ysbrydoledig a phrophwydoliaeth yn cyd-dystio fod v wir Eglwys, sefy." briodas- ferch, gwraig yr Oen," yn cadw ei ffyddlon- deb i'w Harglwydd, ac nad yw yn ymuno mewn crefydd "a breninoedd y ddaear." Mae prophwydoliaethau Daniel, Paul, a loan, yn nghyd ag hanesyddiaeth, yn rhoi goleuni mawr ar y pwnc hwn. Yn ngweJed- igaethau mawrwych Daniel a'r Dadguddiad, canfyddwn yn y bwystfil ofnadwy, o liw vs- garlad, a saith pen iddo, a deg corn, ar wyddlun amlwg o'r gallu bydol neu'r amher- odraeth wladol cyn ac ar ol Cystenyn Fawr ac yn y wraig ryfedd ar gefn y bwystfil, wedi ei dilladu a phorphor ac ysgarlad, ac wedi ei gwychu ag aur a pherlau, wedi meddwi ar waed y saint a'r merthyron, a chanddi gwpaiJ aur yn ei llaw" i feddwi breninoedd a chen- edloedd y ddaear, nyni a welwn arwyddlun eglur o offeiriadaeth dan enw Gristionogol, neu Eglwysyddiaeth ddiryioedig, yn byw a bod ar gefn y wlad, ac yn wrthodedig, nid yn unig am ei heilunaddoliaeth, and am ei "phuteindra gyda breninoedd y ddaear." Ysbryd balch a hunanol arglwyddiaeth offeiriadol a ddechreuodd weithredn yn ddirgel yn yr oes Apostolaidd, ond ni allai ddangos ei nerthoedd tra y parhaodd yr off- eiiiadaeth baganaidd mewn cyssylltiad a'r amherodraeth Rufeinig. Ond pan dj nwyd ymaith y rhwystr hwn trwy ddadymchwel- iad yr amherodraeth mewn undeb ag eilun- addoliaeth, a phan gymmerodd offeriadaeth Gristionogol le y glwyslywiaeth baganaidd, yna y dadguddiwyd "dirgelwch yr anwir- edd," annghrist, y dyn pechod, rnab y goll- edigaeth, yn eistedd yn nheml Duw, yn honi priodoleddau. dwyfol, ac yn derbyn addoliad dwyfol. Dyma ddechreuad ac am- lygiad boreuol y gyfathrach rhwng enw o G-ristionpgaeth a byd-lvwodraeth. Y mae holl hanes yr undeb hwn dros ystod pum- theg canrif, yn profi ei natur anysgrythyrol a dinystriol. Nid ydyw erioed yn un man wadi cyflawnu ei ddybetiion proffesedig mewngweinidogaeth santaiddacefengylaidd, athrawiaeth iachus, neu ddysgyblaeth eff- eithiol; nac ychwaith yn uerchafiad moesol y bobl, na liedaeniad gwir grefydd mewn gwledydd tramor. Ceir llawer o ddynion rhagoiol mewn eglwysi gwladol, i ba rai y rhoddwn yn ewyllysgar y parcha deilyngant; eithr ffurfiwyd eu cymmeriadau gau ddylan- wadau gwell nag eiddo eglwysyddiaeth wladol. Mae daioni mawr wedi ei wneyd gan filoedd o'r cyfryw gartref ac oddicartref, yr hyn a gydnabyddwn yn galonog eithr cyflawnwyd ef er gwaethaf tueddiad natur- iol eu trefniant, a thrwy weithrediad eg- wyddorion hollol wahanol. Ond mae y trefniant dan sylw yn waeth na ffaeliad. Yn mhob gwlad a phob amser, mae wedi bod yn ffynnon gyflawn o ddrygau i'r eg- lwys ac i'r byd. Mae wedi difoesoli Cler- igwyr, troi gweinidogaeth yr Efengyl yn fasnach ffiaidd, magu coel-grefydd ac an- ffyddiaeth, rhwystro sefydliad deddfau cywir, yspeilio cenedloedd o'u rhyddid a'u medd- iannau, a chynhyrfuerlidigaetbau dinystriol a rhyfeloedd gwaedlyd. Mae wedi cyfnewid yn gwbl gymmeriad yr Eglwys Gristionogol, a chreu marchnad ag eneidiau dynion sydd fwy gwarthus a pliechadurus na chaethwas.' anaeth a chaethfasnach a'u cyrff hWJnt. Mae wedi diddymu deddf Duw er cyrmal crefydd, gosod awdurdod dynol i arglwydd- iaethu ar gydwybod, a gwrthod i greadur- iaid cyfrifol yr hawl i farnu a dewis drostynt eu hunain yn y pethau mwyaf eu pwys iddyut vn bersonol. Hwn yw yr ysbryd drwg, yr hwn, drwy ddadl boeth yn nghylch y lleoedd santaidd yn Mhalestina, a yrodd genedloedd i'r rhffel diweddar & Rwsia, yr hwn a gostiodd iddynt filoedd lawer o fyw- ydau, a miiiynau lawer'o arian a hwn yw'r prif achos sydd yr awr hon yn cythryblu holl Itali, yn peryglu heddwch Ewrop, ac yn aflonyddu trosfudolion yn ein trefedigaethau pellaf. Yn ein gwlad ein hunain, hwn a ychwanega at hen gamweddau wrthwynebiad n n sirug i ysbryd diwygiad yr oes hon, a der- chafu i'r swyddau uwchaf yn yr eglwys enwedigion y llywodraeth, a ymrafaela ar feddiannau elusengar, a haera anileadwyredd swyddogaeth gwyr 116n, a attega gyfreithiau llymdost., hyd y nod y fath ddeddf annghyf- iawn a dichellgar a'r Act of Uniformity, ac a daer y mlvna wrth bob math o anwireddau eglwysig. Mae yn crafangu pedwar neu bum miliwn y flwyddyn o arian y wlad, ac yn eu gwasjtraffu ar Esgob- ion a phalasau, tra mae miloedd o lafurwyr teilwng braidd yn amddifad o angenrheid- iau bywyd, a llawer iawn yn ddiolchgar am fan roddion elusengar, neu anrhegion o hen ddillad. Mae yn gwyrdroi, i'w ddybenion sectaraidd ei hun, foddion addysg y llyw- odraeth yn ymladd dros y dreth eglwys, heb ddiystyru briwsion y Pasg-offrwm; ac ar yr un pryd yn clwyfo teirnladau, yn cymmeryd meddianuau, ac weithiau yn car- charu personau Annghydffurfwyr cydwy- bodol. Edrychwn yn awr ar Gymru. Pa beth y mae yr Eglwys Wladol wedi ei wneyd i gre- fydd ac i'n pobl ni, na wnaed yn llawer gwell hebddi ? Er fod cymmeriad personol, a galluoedd y pedwar Esgob, yn teilyngu parch, etto maent yn derbyn dros ddwy fil ar bumtheg o bunnau yn fiynyddol, heblaw tadogaeth (patronnge) amryw gannoedd o | fywioliaethau. Nid yw ein cydwladwyr, druain, yn medru amgyffred v lies o'r Ar- glwydd-esgobion hyn, a Phreswylgorddion n eu heglwvsi carleiriol; a phe diddymid eu Z3 swyddau, a phe byddai i'w henwau ddiflanu o blith Arglwyddi ysbrydol" Ty Uchaf y i Parliament, edrychai corff y bobl ar y cyf.