Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

AMERICA.

News
Cite
Share

AMERICA. New York, Awst 19. Derbyniwyd adroddiad o Amddiftynfa Monroe yn hysbysu fod galluoedd M'Clellan wedi ymadael o Harrison's Landing ar foreu yr 1-6eg. Cyrhaeddodd ei ragwylwyr ar vr un amser yn ddiogel i Williamsburg. Mynega y newyddion a dderbyniwyd o New Orleans hyd Awst lOfed, fod y Cad- fridogion gwrthryfelgar Breckenridge a Clarke, gyda gallu o 15 catrawd a 10 magnel, wedi ymosod ar y gallu Undebol yn Baton Rouge. Gyrwyd y gwrthryfelwyr yn ol gyda cholled drom. Cyfrifir colled yr Undebwyr oddeutu 70 o laddedigion, a 250 0 glwyfedigion. 0 Hysbysa y newyddion a dderbyniwyd o Clarendon, Arkansas, fod y Cadfridog Un- debol Hovev wedi gorchfygu y gwrthryfel- wyr, gan gymrneryd 700 o garcharorion. Dyoddefodd y ddwy ochr yn drwm. Y mae y gwrthryfelwyr wedi llwyddo i dori cymundeb ffordd haiarn a Nashville, ac wedi cymmeryd dau negesydd Undebol. Dywedir fod gallu gwrthryfelgar o dan y Cadfridog Stevens rhwng Nashville a Mur- freesburgh. Rhydd y newyddion oddiwrth y Cadfrid- og Pope ar ddeall' ei fod ar fin ymladd a'r gelyn. Yr oedd pob peth yn barod i groesi y Rapidan. Ar y lieg o Awst symudodd Pope ei bencadlys yn nes i'r wyneb. Y mae y "gwrthryfelwyr yn parhau i fyned i Gordonsville. Y mae y Milwriaid Corcoran a Willcox wedi eu ihyddhau, ac wedi cyrhaedd i Washington. Y mae Corcoran wedi cael ei appwyntio yn brif-gadfridog. Cadarnheir yr adroddiad am ddinyscr yr hwrdd-beiriant Arkansas. Mae gorchytnyn cyffredinol o'r Swyddfa Ryfel yn gwahardd appwyntiad chwaneg o gadfridogion politicaidd. Yr unig rai a appwyntir o hyn allan fydd swyddogiou a enwogant eu hunain ar faes y frwydr. New York, Awst 19 (prydnawn). Y mae ymadawiad llwyddiaonus y Cad- fridog M'C.'ellati o Harrison's Landing, llwyddiant yr Undebwyr yn Baton Rouge, cynnydd dirfawr yr ymrestriad, a'r dysgwyl- iad y coronir cynllun Halleck i ymosod ar Richmond, wedi cydymuno i roddi ton fwy siriol i deimlad y cyhoedd, ac y mae ysbryd mwy gobeithiol yn ffynu yn gyffredinol. Hysbysir yn swyddol fod y drafftio i ddechreu yn ddioed. Mae 40 o gatrodau wedi eu fiurfio yn Nhalaeth New York. Y mae yr ymrestriad yn myned yn mlaen yn ffafriol. Aeth cyfran ofvddin M'Clellan arfyrddau llongau yn Harrison's Landing, ond encil- Z5 iodd y rban fwyaf dros y tir trwy Williams- burg. Cariwyd pob peth ymaith o Harri- son's Landing. Tybiryrerys cryn nifero fyddin M'Clellan ar yr orynys, ond fod y rban fwyaf i gyd- weithredu a Pope. Ofnir i'r gwrthryfelwyr wneyd ymosodiad ar Suffolk. Y mae ymladd ac ysgarmesoedd yn par- hau yn Nwyreinbarth Tennessee. Dywedir fod y gwrthryfelwyr wedi medd- iannu amryw leoedd newyddioll yn Kentucky, ond dirgelir enwau y lleoedd gan yr awdur- t5 dodau milwraidd. Hysbysir fod tair mil o wyr meirch y gwrthryfelwyr mewn lie tua 25 o filltiroedd i'r deheu o Lexington. Y mae y Cadfridog Butler wedi anfon llon- gyfarchiad swyddol i'r milwyr Undebol am eu buddugoliaeth ar y gwrthryfelwyr yn Baton Rouge, a haera eubod wedi cymmeryd tair magnel. Y mae y Llyngesydd Farragnt wedi dinystrio Donaldsville, ger New Orleans, o herwydd fod minteioedd gwrthryfelgar wedi tanio ar y llynges oddiar lenydd yr alon. Y mae byddin y Cadfridog Pope wedi gwersyllu ar hyd glenydd y Rapidan. Nid oes un milwr gwrthryfelgar o fewn deng milltir i fynyddoedd Cedar. Credir fod y Cadfridog Jackson wedi myned i gyfeiriad arall. Rhoddwyd gwledd fawreddog i'r Milwriad Corcoran yn Washington, yn mha un y tra- ddododd efe araeth, yn mha un yr annogai y Gwyddelod i orphen eu gwaith yn America, ac wedi darfod y caent gyfleustra iddynt eu hunain mewn lie arall. Y mae yr Archesgob Hughes wedi traddodi pregeth yn annog y llywodraeth i barhau i godi gwirfoddolion neu ddrafftio i'r dyben o orphen yr ymdrechfa trwy nerth milwraidd vn unig. Niddylidgoddef cyfryngiadtramor, meddai,ond yn unig mewn ffordd o haelioni, ond dylai pawb ymuno i wrthsefyll cyfryng- iad arfog. Newyddion o Efrog Newydd, dyddiedig Awst 24, a'n hysbysant fod y gair yn cael ei daenu fod y Cadfridog Pope wedi llwyddo 1 uno ei lu ag eiddo M'Clellan, ger Acquia Creek, a bod y Llywodraeth yn parhall i beidio rhoddi hysbvsiaeth o barthed i fyddin Pope; ond fod sefyllfa y lluoedd gwrthgyferbyniol yn Nytfryn Virginia yn arwain i'r dybiaeth fod y rhyfel naill ai wedi neu i gymrneryd lleyn fuan. Dywedir fod yr oil o'r fyddin wrthryfel- gar wedi symud allan o Richmond yn nghyteiriad Dyffryn Virginia, a'u bod yn gwneyd symudiad o Grordonsville yn nghy- feiriad Fredericksburg. Y mosododd y G-wrthryfelwyr ar Edge- field, Tennessee, ond trechwyd hwy. Yr oeddynt ar encil hefyd o Lexington, yn er. iynedig gan yr Undebwyr. Cymmerwyd Clarkesville, Tennessee, gan y gwrthryfel- wyr, ac yr oeddynt yn cychwyn ar Fort Donnelson, yr hwn oedd wedi ei waghau gan yr Undebwyr. Newyddion dyddiedig Awst 25, a ddy- wedant fod Pope a'i fyddin wedi croesi y Rappahannock yn llwyddiannus. Y maey Gwrthryfelwyr yn dal glanau yr afon, gyda llinell o fagnelfeydd o ddim llai na phum- ,theg milltir o hyd. Ymosodwyd ar yr Un- debwyr amryw weithiau pan yn croesi yr afon,ond trechwyd y Gwrthryfelwyr bob tro. Dywedir ddarfod i 2,000 o'r Gwrthryfelwyr gael eu cymmeryd yn garcharorion ar ol iddynt groesi pont, yr hon a losgwyd ganyr Undebwyr ar ol iddynt groesi, ac felly tor- wyd ymaith eu hencil. Dysgwylid brwydr gyffredinol yn Virginia. Dywedir y bydd i'r Cadfridog Halleck gymmeryd yprif lyw- yddiaeth cyn gynted ag y bydd y byddin- oedd Undebol wedi cydgyfarfod yn Virginia. Y mae lladdfa ddychrynllyd o wyr gwynion gan gaethion wedi cymmeryd lie yn Fort Ridgely, Minnessota—500 wedi eu lladd. Gwnaeth y Gwrthryfelwyr ymosodiad trwsgl ar brif-gyrchfan Pope yn Cutter's- station, a chymmerasant ymaith unswyddog, dodrefn y^Cadfridog, mapiau, ac ainryw bapyrau gwerthfawr o barthed i'r feiawd.

SYMUDIAD GARIBALDI.