Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

DYDD GWENER.

News
Cite
Share

DYDD GWENER. Boreu heddyw, cvchwynodd tualOO ogantorion, derwyddon, a beirdd, i gopa Eryri, er canfod yr haul yn codi. Dywedir fod yr olygfa yn ardderchog iawn. Wedi i'r cvfeillion ddychwelyd o'r Eryri, ffurfiwyd gorymdaith, ac awd i'r Castle-square, lie y cynnaliwyd Gorsedd, dan lywydrliaeth Gwalch- mai. Urddwyd y personau canlynol DERWYDDON. Y Parch. Newman Hall, Ll.D. (Dunawd). W. Hicks Owen (Owain Bradwen). Wedi hyny, cyflwynodd y Parch. J. Griffiths, Nedd, Miss Maria Hughes, merch y General Hughes, a nith W. Bulkeley Hughes, Ysw., a gwisgwyd hi a'r ysnoden las a dywedodd ei fod yn teimlo yn anrhydedd cael gwneyd hyny. Ei henw barddonol yw Maria M3n. Yna daeth Mr. Bulkeley Hughes yn mlaen, a gwnaed ef yn ofydd ac adroddwyd y llinellau canlynol ar yr achlysur Llawen b'o Gw:lym Llywarch Yn mri y beirdd, a mawr ei barch. Yna galwyd ar W. Griffiths (Tydain), a chym- merodd y teitl o Bencerdd," yr hwn a roddwyd iddo, megys y derhyniodd y radd arall yn Aherdar, fel cydnabyddiaeth am y gwasanaeth gwerthfawr a dalodd i Gerddoriaeth Gyrnreig. BEIRDD. William Hughes (Huws Arfon). Richard Francis (Rhydderch Mai). Lewis William Lewis (Llew Llwyfo, Pencerdd). John Price, Caerlleon (loan Machno). John Jones (loan Glan Cledr). Ellis Roberts (Eos Meirion, Cerddor y Gogledd). Llewellyn Williams (Cerddor y De). William Hayden (Ehedydd Eryri Cerddor). Brinley Richards (Cerddor Tywi). J. Ambrose Lloyd (Emrys Llwyd, Pencerdd). J. E. Thomas, Rhiwabon (Erawnt Maelor). OFYDDION. Robert Stephens (Moelwynfab). Alban Griffith (Alban Allgo). John Owen (Glan Marchlyn). William Howell, Casnewydd (Gwilym Ddu). Robert Roberts (Llew Gias). John Hughes (Ioanfryn). William Evans (Gomer). John Evans (Arthur). William Griffith, Ty Mawr (Hu Gadarn). J hn William Jones (Barlwyd). Thomas Hughes (Didyuius Ogwen). William G. Owen (Tanad). Thomas Pierce (Eos Caledfryn). Wedi gorphen y ddefod hon, aed i'r Castell, pan y cymmerodd y Milwriad Pennant y gadair ac ar ol iddo draddodi araeth gyfaddas i'r amgylchiad, galwodd ar awdwyr y gwahanol bapyrau i'w darllell. Darllenwyd amryw hapyrau galluog ar bynciau dyddorol; ond ni chaniata ein gofod yn bresenol i ni eu gosod gerbron ein darllenwyr. Y TRAETHAWD HANESYDDOL. Yn ganlynol cafwyd beirniadaeth E. Davies, Yswain, LLD., Nefydd, a Gweirydd Ap Rhys, ar y traethodau," Hanes Llenyddiaetii Cymru o'r cyfnod boreuaf hyd yr amser presetiol, gyda sylwadau beirniadol a chyinliariaetliol ar farddoniaeth y gwa hanol gyfnodau hefyd, Buclulraethiadau hyrion o'r prif feirdd. Un traethawd a cldaeth i law, sef Gwallter Mecliain ond barnai y beirniaid ei fad yn teilyngu y wobr. GaIwyd Gwallter yn mlaen, sef Mr. William Davies (Gwilym Tei!o), Llandilo- fawi a gwisgwyd ef gan Mrs. Rector Griffiths, o Gastellnedd, a'r ysnoden a'r pwrs hardd, yr hwn a gynnwysai y cheque ar y banc am y triugain punt, wedi ei anfon gan Mrs. Williams, o Ynyscyunon, Aberdar. Fel hya, terfynwyd yr Eisteddfod fawreddog hon ac y mae clod mawr yn ddyledus i'r ysgrifen- yddian a'r pwyllgor lleol, am eu trefniadau doeth ar yr achlysur. V.S. — Ymddengys Nodiadau ein Gohebydd Neillduol ar yr Eisteddfod yn y rhifyn nesaf.

HANESION CYFFREDINOL.

ATHROFA if GOGLEDD.