Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

MAES Y FRWYDR.

News
Cite
Share

MAES Y FRWYDR. MARWOLAETH MILWR. Yn ddiweddar daeth gwybodaeth am farwolaeth Wm. H. Denning, o'r 13eg gatrawd. Saethwyd ef ar frwydr y 26ain o Fehefip, ar y Peninsula, a bu farw ar faes y frwydr ar y 27ain. Mae cyfaill oedd gydagefpandderbynioddei glwyf, yn ysgrifenu fel y canlyn :— Darfum ynidroi ar ol y gatrawd, ar ol lddi adael y gwaith, yn nghyfeillach William H. Denning. Ni wnaethom ond cychwyn nad oedd y gwrthryfel. wyr 'ar y gwaith i gyd ond y lie yr oeddem ni yn sefyil ynddo, He nad allent ddyfod o herwydd coed mawrion oedd wedi syrthio nid aethom dros bump o gamrau nad oeddem wedi ein clwyfo. Saethwyd Denning yn ei gefn, a syrthiasom ein dau ar ein gwynebau wrth ochrau ein gilydd. Gofynais i Denning pa le y saethwyd ef, ac efe a ddywedodd, a dywedais innau pa le y clwyfwyd finnau. Dywedodd ef ei fod mewn poendirfawr, er na roddodd yr un cwynfan. ■■ Tra yr oedd yr ychydig fynydau hyn yn myned heibio, nid oeddwn i.eb edrych pa beth oedd yn myned yn y blaen. Yr oedd yr ergydion yn tori brigau y coed, ac yn rhwygo y ddaear o'm cylch, ond nid oeddwn yn cymmeryd fawr sylw o hyny, nac o'm clwyf yr ydoedd fy sylw i gyd yn cael ei dynu at swyddogion y gwrthryfelwyr, y rhai oedd- ent yn ceisio cael gan eu dynion idd eu dilyn i'r bryn. Mae yr Yankees wedi eu enro-y maent yn dianc—yn mlaen fy nynion." Tynodd un swyddog ei lawddryll, gan ddywedyd, Mi saethaf yr un dyn o lionoch 08 beiddia betruso." Yr yd 'edd y swyddogion, a'r dynion hefyd yn hyfion jmudasant yn mlaen i fyny'r bryn, erfeddarfui mi sylwi ar rai yn sefyll yn llonydd, ac fel fy hunan a'm cyfaill, wedi eu clwyfo, a rhai wedi eu lladd. Pasiodd tair mintai 6, mewn llinell i frwydr. Yn fuan ar ol iddynt fyned heibio, yr Is-gadben Cooley, o Gwmni C, a aetlvbeibio o dan warchaei Richmond. Ni adawent iddo ymddyddan a mi, na sefyll. Yn fuan wed'yn, milwr o'r enw Highland, a'm pasiodd, yr oedd yntau yn garcharor. Gofyn- odd un o'r miJwyr gwrthryfelgar i mi newid dau ganteen ag ef, a dywedais y gwnawn, ynacym;r,er- odd ef ei bun i ffynnon ac a'i llanwodd i mi a dwfr, ac wedi dychwelyd efe a aeth i'n knapsacks, y rha oeddynt ychydig bellder oddiwrthym, ac a ddaeth a gwrthban i Denning a minnau. Yr oeddent drwy y nos yn cario ymaith eu meirw, a'r rhai oedd wedi eu clwyfo. Yr oedd fy ngblwyfau yn fy mhoeni gymmaint fel yr oedd civsg yn mhell oddiwrthyf. Yn ystod y nos, yr oedd Denning wedi gweithio ei hun o gylch pumtheg troedfedd oddiwrthyf fi. Gofynais i un o'r gwrthryfelwyr ei roddi ar wrthban i orwedd, ac efe a wnaetli felly. Trodd Denning ataf fi, a dy- wedodd ei fod yn methu gweled. Mi a edrychais arno, a gwelais ei fod yn marw, ac mewn ychydig fynydau yr oedd ei enaid wedi pasio i fyd yr ysbryd- oedd, a'r corff yn unig oedd yn aros, i fedd milwr. Gofynais i un o'r gwrthryfelwyr daflu gwrthban drosto. Mae mam a chwaer Denning ieuanc yn byw yn Washington Mills, ac mae ganddo berthynasau yn Utica. Yr oedd yn ddyn ieuanc gobeithiol a gwy- bod us, ac y mae cystudd mawr o herwydd ei far- wolaeth gynnar.-Amserau Americanaidd.

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CAERNARFON,…

TRYSORFA COFFADWRIABTH Y DDWY…