Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

DYLEDSWYDD RHIENI I RODDI…

News
Cite
Share

DYLEDSWYDD RHIENI I RODDI ADDYSG I'W PLANT. YN gyssylltiedig a rhoddi addysg i'r plant, i raddau helaeth yr ymddibyna heddwch pob teyrhas, llwyddiant pob masnach, cysur pob teulu, a dedwyddwch yr ieuenctyd eu hunain. Y mae dysgeidiaeth, os bydd iddi gael ei chyf- ranu y modd y dylai gael ei chyfranu, yn fwyd ac yn ddiod i'r meddwl, yn wenwyn i ledrad, ac yn gyfeilles ffyddlon a gwresog i onest- rwydd. Gwna osod y dyn ar yr iawn ffordd i gyrhaedd parch, anrhydedd, cyfoeth, a ded- wyddwch. Rhaid mai un isel a gwael iawn fydd y dyn hwnw na. all ddirllen brawddeg mewn unrhyw iaith, nac adnod yn y llyfr dwyfol. Pe buasai rhieni Cymru wedi talu fwy osyhv i'r pwnc hwn, sef addysg i'r plant, tuhwnt i bob dadl y buasai ei thangnefeddffyn helaeth- acb, ei chysuron yn lluosocach, a'i henw yn anwylach i deuluoedd a chenedloedd y ddaear. Rhaid yw cyfaddef ein bod, fel cenedl, lawer ar ol ein cymmydogion, y Saeson a'r Ysgot- iaid, mewn gwsbodaeth gylfredin. Yn ddi- ammheu fod hyn i'w briodoli i ddifaterwch ein rhieni, canys nis gallwn briodoli hyn i amddifadrwydd y Cymry o alluoedd meddyl- iol i ddysgu gwahanol elfenau dysgeidiaeth. Na, y mae cynnyrch meddwl Williams, awdwr yr Oraclau Bywiol;" ysgrifau ami a lluosog Dr. Owen gweithiau awdurol Gomer 0 Abertawe ysgrifeniadau P. A. Mon cyn- nyrchion awenyddol Dafydd Ionawr a Dewi Wyn 0 Eifion, ac amryw eredl ag y gallaswri eu henwi, pa rai sydd yn dystion fod gan y Cymry alluoedd i'w cystadlu ag unrhyw genedl pa bynag,- dim ond iddynt gael y man- teision addysgiadol hyny ag sydd a thuedd ynddynt i wrteithio'r meddwl. Y mae gan y- plant hawl i ddysgwyl am addysg oddiwrth eu rhieni. Y mae awdwr natur wedi eu cyssylltu mor agos, fel nas gellir dattod y berthynas. Rhan o hom nt eu hunain yw eu plant cnawd o gnawd ac asgwrn o asgwrn ei riaint yw v plentyn. Eithriad i'r rheol yw i'r plant gasglu cyfoeth i'r rhieni. Gorphwys addysg yr oes ddyfodol ar yr un bresenol, ac y.nddil>yna addysg y plant ar eu rhieni. Nid gorchwyl melus ydyw cyhuddo rhieni am beidio rhoddi addysg i'w plant. Dengys yr ymchwiliad a wnaethpwyd yn 1847 nad oedd genym seiliau i acbwyn ar ein cymmydogion, y Saeson, pan y galwant ein tywysogaeth "yri nawddle an. wybodaeth, a'r trigolion yn negroaid diddysg." Y mae yr ymchwilwyr yn y man hyn wedi gwneyd annghyfiawnder mawr a ni fei cenedl. Yn y flwyddyn 1833, yn ol adroddiad Lord Kerry, yr oedd cyfartaledd Cymru a Lloegr yn un ysgolhaig o bob un ar ddeg o'r trigol- ion ond ar ol cynnyddu dros gan mil mewn rhifedi, yr oedd C)mru yn 1847, arolpedair blynedd ar ddeg, yn: waetb ei chyflvvr nag oedd Lloegr yn 1833, gan nad oedd ond un plentyn yn yr ysgol i bob tri ar ddeg o'r trigolion. Mae y cynhwrf aachosoddy llyfrau gleision wedi gwneyd Iles mawr, yn nghyd ag ym- drechion diflino ein cydwladwyr; ond y mae yn ymddangos i mi fod gan rieni Cymru lawer i'w wneyd etto cyn y bydd iddynt ddyrchafu eu gwlad i'r man y dylai fod, fel ag y gwelir oddiwrth yr ystadegau canlynol, pa rai sydd yn rhoddi rhif yr ysgolheigion yn 1851 11 Poblogaeth. Ysgolion. Cyfartaledde Poblogaeth. Ysgolion. Cyfartaledd# Gogledd Cymru.. 412,114 37,084 lobobll Deheudir Cymru 593,607 50,921 1 o bob 11 Priodol y gelwir yr oes hon yn oes y diwyg- iadau, ond trueni fod y Cymry yn hyn obwnc yn peidio diwygio. Mae ein manteision yn ychwanegu, paham y byddwn ninnau yn ddi- ymdrech, a pheidio defnyddio y manteision ag sydd yn ein gafael? Gwir fod deng mlyn- edd wedi myned heibio oddiar pan y cymmer- wyd y cyfrif uchod. Ol na fyddai i rieni Cymru yn gylfredinol ddyfod i weled eu dy- ledswydd, ac i roddi addysg ddyddiol a Sab- bothol i'w plant. Ni gawn ddosranu ein testun, er mwyn trefn, o dan dri neu bedwar o benau, pa rai fydd fel y canlyn :— I. Ei bod yn ddyledswydd ar rieni i roddi addysg i'w plant, am mai dyma'r cyfnodmwyaf manteisiol iddynt dderbyn addysg. 'Tis education forms the common mind, Just as the twig is bent the trees's inclin'd. POPE. Y mae yn'ffaith tuhwnt i bob dadl mai ieu- enctyd yw yr adeg oreu a mwyaf manteisiol i'r plentyn gael ei addysgu ac y mae yn ffaith anwadadwy hefyd, os bydd i'r plentyn gael ei esgeuluso yr adeg yma, a pheidio rhoddi addysg iddo, eithriad i'r rheol os na d^eulia ei oes yn anwybodus. Derbynia y plentyn y pryd yroa argraffiadatwoddiwrth yr hyn a glyw ac a wel» a'r argraffiadau a adewir arno y pryd yma, ni ddileir. Dyma y cyfnod, fynyehaf, y ffuifir ymarferion, y cyfryw rai a roddant sefydlog- rwydd i'n cymmeriadau. Yr addysgiadau a roddir y pryd yma ni annghofir, eithr gwnant dyfu gyda'r tyfiant, a chiyfhau gyda'r cryfder. Os yw rhieni am i'w plant gerdded y llwybr a ddylent, ac nid y llwybr a fynant, ac am fod yn llwyddiannns yn y gorchwyl, dyma'r adeg. Gwir fod llawer o wersi yn lied anhawdd iV dysgu, ond hawddach eu dysgu os dechreuir arni'n foreu. Y mae'n ofynol hefyd bod yn amyneddgar gyda'r gorchwyl, os byddir yn penderfynu cario'r peth i berffeithrwydd. Yr wyf yn cofio," dywedai John Wesley," clywed ty nhsid yn dweyd wrth fy mam, Sut yr ydych yn gallu bod mor amyneddgar a dweyd yr un peth wrth y dwl hwna ugain o weithiau dros- odd ?" "Wei," meddai hithau, "pe buaswn yn dweyd ond pedair ar bumtheg o weithiau, elai fy llafur oil yn ofer." Pe byddai mafnau Cymru i gymmeryd mam John Wesley yn esiampl iddynt, yn hyn o beth, byddent yn sicr o fod yn fendith iddynt eu hunain. Cartref ydy""r man He mae'r cymmeriad yn cael ei ffurfio, lie mae'r fam yn ysgolfeistres, a'r plentyn o dan ei dysgeidiaeth cyssegredig hi. Dyma'r man lie mae moesoldeb y genedl yn cael ei sylfaenu. sef ar yr addysg a roddir i r plant ar yr aelwyd. Ie, dywedwn etto, y bydd i ddedwyddwch, yn nghyd a threfnus- rwydd y byd, i^gael ei sicrhau, trwy fod pob un ) n cyflawnu y ddyledswydd arbenig ag sydd yn gorphwys arno yn ei deulu. Fel y mae gwaethaf y modd, y mae dynion i'w cael gwell ganddynt ofalu am yr hyn ag sydd yn perthyn i ereill yn hytrach na'r hyn ag sydd yn dal perthynas. â hwy eu hunain a cham- syniad hollol yw, y gall y cymmydog agosaf wneyd cyfiawnder a. theulu arall yn gystal a

TKAETHODAU.