Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

EGLWYSIG. ---'-

News
Cite
Share

EGLWYSIG. JOHN MILES—HEN GAPEL ILSTON -A'R DRYSORFA GOFFADWll- IAETHOL. MAE y cyfarfod hynod a gynnaliwyd yn adfeilion hen gapel John Miles yn Ilston, dydd Mercher, Medi 3ydd, 1862, yn un na annghofir byth mo hono gan rai ag oedd yno. Er mwyn rhai o'n darllenwyr ieuainc, ni a ddywedwn air am John Miles. Mab oedd ef i Walter Miles, o'r Drefnewydd, yn Swydd Henffordd. Ganwyd John yn y flwyddyn 1621. Derbyniwyd ef yn fyfyr- iwrynmhrif Athrofa Rhydychain pan yn bumtheg oed, yr hyn ar unwaith a brawf ei fod wedi cael y manteiston goreu pan yn ieuauc, onite nis gallasai gyrhaedd y fath ddyrchafiad mor fnan. Efe a lvryddodd yn y yr ymholiad am matriculation yn ngholeg Brasenose Mawrth 11, 1636. Wedi gor- phen ei yrfa yn y Brif Athrofa, efe a sefydl- odd fel offeiriad plwyfol yn Ilston. Yn y flwyddyn 1649, aeth John Miles a Thomas Proad, offeiriad Cheriton, i Lundain, a bed- yddiwyd y ddau, a derhyniwyd hwy i undeb yr eglwys Fedyddiedig yn y Glasshouse, Broad Street, Llundain. Ar ei ddychweliad yn ol i Ilston, casglodd Miles y Bedyddwyr gwasgaredig yn ardal Abertawe, Mynydd- bach, Sketty, a phlwyfydd y Browyr, a ffurfiodd eglwys o honynt, yn Eglwys Fed- yddiedig bur a digymmysg, Hydref 1, 1649. Hon oedd yr Eglwys gyntaf o Fedyddwyr digymmysg a sefydlwyd yn Nghymru, wedi y diwrnod mawr pabyddol. Hon felly yw mam holl eglwysi pur a digymmysg Cymru y dydd heddyw. Rhwng.y flwyddyn 1649 a'r flwyddyn 1660, bu John Miles yn dal ei fywioliaeth fel offeiriad plwyfol, ac hefyd yn weinidog gweithgar ar yr Eglwys Fed- yddiedig. Cymmerodd efyr arweiniad mewn planu eglwysi Bedyddiedig- yn Nghymru. Yr oedd yn hynod o ddiwyd a gweithgar, ac yr oedd yr un mor bynod o aiddgar a selog dros yr athrawiaeth bwysig a Beib aidd n y C, sydd yn gofyn proffes bersonol, a ffydd yn y Gwaredwr, ac ufydd-dod personol i fedydd yn ffordd Daw cyn cael eistedd wrth fwrdd yr Arglwydd, er cofio am farw Calfaria. Yn y flwyddyn 1660, rhoddodd John Miles i fyny ei fywiolaeth yn Eglwys blwyfol Ilston, ac yn nghylch 1661, neu ddechreu 1662, cawn ef, a nifer luosog o aelodau yr eglwys Fedyddiedig yn Ilston, yn ymfudo i Am- erica, er dianc o afael yr erlidigaeth ag oedd yn awr yn dechreu o dan Siarl II. Sefydl- oedd Miles a'i gyfeillion yn Nhalaeth Mas- sachusetts, a ffurfiwyd eglwys o Fedyddwyr pur a digymmysg yn y lie a gyfeuwasaut Rehoboth. Dyma fam holt eglwysi Bedydd- iedig America. Y Cymro o Ilston, sylfaenydd eglwys Ilston, yn awr o Abertawe, a mam eg- lwysi pur trwy Gymru, a gafodd y fraintyn y byd newydd i sylfaenu yr eglwys Fedydd- iedig gyntaf, ac erbyn heddyw y mae ar gyfandir America filoedd o eglwysi, yn y rhai y rhifir dros ddwy filiwn o aeIodau-oll wedi tarddu allan fel cynnyrch y dyrnaid yd a hauwyd gan John Miles &'i gymdeith- ion yn 1663. Cafodd Miles ei erlid yn America vn awr gan yr Independiaid. am ei fod yn rhy hoff o ryddid, ac yn ormod o Fedyddiwr. Ar yr ail o Orphenaf, 1667, gwelwn John Miles a Brown yn sefyll o flaen ynadon yn Plymouth, am gynnal cwrdd yn groes i drefn y dalaeth. Church and State I oedd hi yma etto. Dirwywyd Miles a Brown i dalu 95 yr un, ac i ymadael, hwy a'r holl eglwys, o Plymouth cyn pen y mis. Mae hyn yn dangos y perygl o gyssylltu rrefydd a'r awdurdod wladol. Pechod John yn awr oedd, ei fod yn bedyddio. Mewn canlyniad prynodd Miles a'i gyfeill- ion ddarn mawr o dir anianol-digon pell oddiallan i gyich y dynion hyn. Galwasant y lie Swanzey (hen ddull o sillebu Swansea), o barch i Abertawe. Sefydlwyd eglwys Fedyddiedig yma < tto, ac un arall yn Boston. Am dymhor bu Miles yn weinidog ar y ddwy eglwys ond o'r diwedd cyfyng- odd ei wasanaeth i'r eglwys vn Swanzey. Bu farw yno Chwefror 3, 1683. DYIl anwyl gan Dduw a'i bobl oedd John Miles. Ei olynydd yn awr ar eglwys Ilston yw ein brawd anwyl, y Parch. R. A. Jones, Aber- tawe. Ilston sydd le yn gorwedd wyth milltir i'r gorllewin i Abertawe. Mae capel Miles, a'r eglwys Fedyddiedig gyntaf, yn sefyli mewn dyffryn tlws a hardd, rhyw chwech neu saith cant o latheni ar y tu dehau i'r ffordd fawr sydd yn myned o Abertawe i'r Browyr. Mae yn amlwg fod y fan wedi ei ddewis yn herwydd ei sefyllfa o ddirgelwch. Mae yn annichonadwy i weled y capel cyn dyfod i'w vmyl. Arweiniwyd ni iddo dydd Mercher, Medi 3, 1862, gan ein hybarch dad, y Parch. John Pugh, o'r Scetty. Dangosodd i ni y dirgel lwybrau o dri neu bedwar cyfeiriad i 0 gyrhaedd y capel; a hyd y nod y tri many buasai y gwylwyr yn cy mmeryd eu safleoedd i wylio rhag y gelynion, tra yr oedd yr eg- lwys yn addoli; dangosodd y ffordd y gall- ent ddianc wedi cael eu rhybyddio, ac ym- guddio yn yr allt fawreddog gerllaw.. Dyma ni yn sefyll ar lawr Capel v Drindod-y capel cyntaf wedi yr erlidiga;th-y capel a gyssegrwyd gan ddagrau, gweddian, a dy- r_l n n n oddefiadau y cyn-gristiouogion. Llawer «5SEBa0Bte canwaith yr aeth Bedyddwyr tref Abertawe a'r cylehoedd o'r dref tuag Ilston, wedi ban- ner nos nos Sadwrn, er addoli Duw ar ei ddydd, a dychwelyd liw nos nos Sal, rhag tynu sylw yr yspiwyr mileinig oedd yn eu gwylied. Edrychasom yn fanwl ar ad- feilion yr hen gapel. Mae mur y talcen pellaf oddiwrth Abertawe yn sefyll yn awr -mae y lie tån a'r grisiau i'w gweled yn amlwg-mae y bedyddfan yn y pen arall i'r capel, ac o fewn i'r muriau. Mae nant o ddwfr pur fel y grisial yn rhedeg dan y mur i'r bedyddfan, ac yn myned allan dan y mur arall. Yr oeddynt yn alluog i dynu math o glawr dros y bedyddfan, pe dyg- wyddasai i'r gelynion ddyfod ar eu gwarthaf yn sydyn. Mae muriau y t% ond y taleen gorllewin ol, ar lawr, oddigerth rhyw ddarn, o droedfedd i dair troedfedd o uchder. Yr oedd y ty gynt yn mesur 24 troedfedd wrth 18 troedfedd. 0 fewn rhyw 20 neu 30- Uathen i'r Gogledd, y mae annedd-dy, yr hwn sydd hefyd ar lawr, ond fod rhan o'r muriau i fyny. Mae y cwbl yn sefyll rhwng dwy alltfawr o goed, a gallt dew anferthoi o'r tu gogleddol. Rhwng y gelltydd hyn y mae ,waen, neu dd61 fechan, yn rhyw ddwy erw o dir a'r hon, yn ymyl yr ochr ddwyreiniol, y saif y capel, a'r annedd-dy, yn awr heb neb i'w hawlio yn gyfreithlon. Nid oedd gan neb deitl iddynt heddyw. Mae yn ddiddadl mai eiddo y Bedyddwyr -mai eiddo eglwys Bethesda, Abertawe- yw y dd61 a'r adfeilion swynol hyn; ond dichon ein bod ni ymayn debyg fel yr oeddem yn Trefangor, heb weithredoedd i brofi yr hyn sydd yn gyfiawn yn perthyn i'r enwad, yn mhersonau aelodau Eglwys Abertawe. Am ddau o'r gloch edrychwn o'n harn- gylch, wedi sychu y dagrau ag oeddynt yn Iledradaidd wedi lIen wi ein llygaid-yn wir, vr oedd rhyw fath o ofn parchus a duwial wedi ein Ilanw-a chawsom fod yno dorf wedi dyfod yn nghyd o fewn muriau, ac ar furiau y capel. Gwelsom yn mhlith ereill ag oeddem yn adnabod :—Y Parch. John Pugh, a Mrs. Pugh y Parch. Titus Jones, a Mrs. Jones; y Parch. Benjamin Evans, Castellnedd y Pardi. R. A. Jones, a Mrs. Jones, Abertawe, a Jonny bach efo nhw; y Parch. David Evans, Dudley; y Parch. David Davies, Glandwr; y Parch. Thomas Rhys Evans, Leicester y Parch. T. Cole, Penybont; y Parch. B. Thomas, Tabernacl, Castellnedd y Parch. T. Price, Aberdar; v Parch. John Lloyd, Merthyr; y Parch. David Evans, Cenadydd; Mr. William Evans, FferyUydd, Tredegar; Mr. Manning, o'r Daily Leader, a Mrs. Manning; Mr. rorath, a Miss Yorath Mr. John Thomas,