Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

TRAETHODAU.

News
Cite
Share

TRAETHODAU. ^HROFEYDD Y BEDYDDWYR YN SIR FYNWY.* GAN RUYUS. (Parhad.) Air. GOL.Crefwn eich maddeuant am fod cyhyd cyn eyflawnu ein haddewid i sef cyflwyno i SEREN CTMRU ein fysgnfar J HANES ATHROFA PONTYPOOL. trngylchiadau anragweledig, Honaid dwy- aw.0 waith da Ueol, yn nghyd A phethau ,ei" nad gwiw eu henwi, a d-darfu ein i ^ystro. Y lie y gadawsom ymaith ein .ysgrif ddiweddaf oedd gyda therfyniad Athrofa y Fenni. i <^n ^anes yr Athrofa, darfu i gyfnewid- 1RqQ Pwys'S gymmeryd lie yn y flwyddyn J? .> sef symudiad yr Athrofa i dref arall, jjoliad athraw newydd, a chodiad tV i'r A j-el y dangoswyd yn barod, yn Hanes j^hrofa y Fenni, fe ddarfu i'r Hvbarch Uiah Thomas, o herwydd fod henaint yn y«od yn mlaen, ei nerth yn pallu, a'i iechyd 11 dadfeilio, amlygu i foneddiuion y Pwyll- y flwyddyn Athrofaol 1835-6, ei Sto a'* ^awn fwriad i roddi heibio ei ydd bwysig fel Llywydd y sefydliad, yr Hif1 Swydd ydoedd wedi ei llanw am gyn- 6j?r.0 flynyddoedd, er cymmaint anrhyd- it d Iddo ei hun, er cymmaint boddlonrwydd tnr rhan luosocaf yn y dywysogaeth, er cym- gaalnt lIes had ac addysg werthfawr i dros 0 fyfyrwyr. Yn yr arngylchiadau hyn, rpi"Wywyr y gymdeithas a ddwys-deimlent y dvledswyddau a ddisgynent arnynt; rt» hy°y5 dan argraff ddofn o'u hatebol- "J galwasant yn nghyd Bwyllgor ar y ^e<l o Fawrtb, 1836, i'r dyben o ymddy- cynllanio, a phenderfynu y mesurau J)rei10 dan yr arngylchiadau ar y pryd. Py ^d Mr. Thomas yn ymgilio i neill- Vrvf yr oedd gwr o ddylanwad mavvr yn ?uddio o'r golwg, a rhaid oedd ymestyn i a f esu»"au cyfatebol i'r achlysur—mesurau liarf s*cr 0 lwyddo Sadw y sefyd- j. ar ei draed, ei gadw yn fyw, ac nid i ( njnpan yn hanner marw; ac, os oedd 0» A darparu moddion mwy effeithiol nag r. "'aeo i sicrhau cydymdeimlad yr eglwysi -1 ennill cyfeillion newyddion, a gosod y 8l>* Yn herwydd fod cynnifer o ysgrifau yn 08 eu tro, yr ydym yn gadael allan ein hysgrif ^ciniol, er cael lie i'r uehod.—GOL. sefydliad ar uwch footing nag oedd wedi bod yn ystod ei holl fodoliaeth. Lle y teimlid yr anhawsdra mwyaf gan foneddigion y pwyllgor oedd, yn newisiad athraw newydd — cael athraw galluog a medrus—un a fyddai yn mhob ystyr yn anrhydedd i'r enwad, yn enw i'r sefydliad, ac yn fendith i'r myfyrwyr. Lie y teimlid yr anhawsdra fwyaf gydag hyn oedd, fod y drysorfa yn dra isel ar y pryd. Yr oedd byehandra y casgliadau blynyddol yn ei wneyd yn anmhosibl iddynt alw athraw newydd-un o'r cymmeriad ag oeddent hwy yn ddymuno—heb fod hyny mewn cyssvllt- iad a gofal gweinidogaethol rhyw eglwys. Q-an nad oedd lie i un i weinidogaethu yn y Fenni, drwy fod y ddwy eglwys Seisnig a gweinidogion ganddynt, gwelwyd fod yn rhaid symud yr Athrofa o dref y Fenni i ryw dref arall-a pha dref gai hono fod ? Yr oedd hyn etto yn ddyryswch ond wedi peth meddwl- ac ymddyddan gan aelodau y Pwyllgor, cofiwyd ganddynt fod ymdrech deg yn cael ei gwneyd ar y pryd i godi achos Seisnig yn nhref Pontypool, ac nid oedd vno un gweinidog Seisnig; felly, meddyliwyd mai dygwyddiad tra rhaglun- iaethol oedd y peth, ac edrychasant ar y lie fel eu maes dyfodol i weithio. Yn ganlynol, daethant yn uniongyrchol i'r penderfyniad unfrydol i symud yr Athrofa i Bontypool. Wrth gofio am hen Athrota Trosnant, a sefydlwyd yn y dref hon tua'r flwyddyn 1732, ac iddi farw o eisieu cydymdeimlad a chynnorthwy, a meddwl am sefydlu yr Athrofa hon yn awr ar Benygarn, yn yr un dref, yr oedd aelodau y Pwyllgor, un ac oil, yn barod i ddweyd o galon, "Boed i ogoniant y ty diweddaf hwn fod yn fwy na/r cyntaf." Gwyddom mai hyn ydoedd gweddi calon y gwr da ac hynod hwnw, W. W. Phillips, Ysw., Trysorydd y sefydliad ar y pryd, ac i lawr byd ei farw er ys ych- ydig amser yn ol. Gan fod cannoedd o ddarllenwyr lluosog SEREN CYMRU heb erioed wedi gweledtref Pontypool, a'i bod mor enwog ar gyfrif yr Athrofa, y mae yn llawenydd genym en hanrhegu a desgrifiad rhagorol o dda o'r dref fel y mae yn awr yn sefyll. Y desgrif- iad canlynol sydd eiddo ein cyfaill parchus, y Parch. Dl. Morgan, Blaenafon, ac a gaw- som ganddo mewn llythyr yn ddiweddar er mwyn ei osod yn ein hysgrif bresenol:— C3 "TREF PONTYPOOL." Nid ydym yn gwybod fawr am hanes Pontypool fel tref, ond gwyddom am amryw fanan a lleoedd ynddi, ac o'i chylch, sydd yn peru adgofion dyddorol iawn i'r henaf- iaethydd, ac i bob un ag sydd yn caru ei wlad a'i genedl. Y mae y dref hon yn gorwedd tua naw milltir i'r goglodd-orllewin o Gasnewydd-ar-Wysg. Nid oes golwg hardd yn y byd arni-y tai wedi eu gosod yn Iled annhrefnus a gwasgaredig, rhan o honi yn gorwedd yn nyffryn afon Llwyd, a rhan ar ochr bryn cyfagos. Nis gall fod yma un esgus dros gadw aflendid yn y lie, na chael afiechyd yn y dref, o herwydd diffyg drains, &c. Y mae digon o ori- waered yma, ac afon rhedegog yn pasio drwy'r !!e Water-works, Gas-works, &c., yn gwasanaethu i gysur a lies y gymmy- dogaeth. Y mae poblogaeth y dref tua phedair mil, a *gweithfeydd glo, haiarn, ac alcan, yn adnoddau i gynnaliaeth a chyf- oeth y lie. Y mae y dref wedi ei ffurfio yn ddwy heol, yn croesi eu gilydd tua y canol, a'r pedwar darn yn cyfeirio taag at y pedwar pwynt. Y mae yma heol arall wedi ei gwneyd yn ddiweddar, yr hon a elwir yn Albion Road, yn gorwedd i'r ochr ddeheuol o'r dref, yr hon sydd yn cyssylltu, wrth y toll-glwyd, a'r ffordd yr elid i Grumlin, a Z, man heolydd ereill yn cyssylltu y tai a'r prif heolydd. Y mae tair reilffordd yn pasio—dwy trwy y dref, sef y ffordd o Flaenafon i Gasnewydd-ar-Wysg, a'r un o Ferthyr i Fynwy, ac un arall yn gyfagos i'r y n dref, sef y ffordd o Gasnewydd-ar-Wysg i'r Fenni a Henffordd. Y mae tri ar ddeg o leoedd addoliad yma, rhwng hen eglwys plwyf Trefethin, heblaw dau o gapeli a fuont mewn gwasanaeth hyd yn ddiweddar, s«'f Providence, Capel yr Annibynwyr Seis- nig, y rhai sydd wedi ymuno a'r Cymry yn ddiweddar, a hen gapel y Crynwyr yn y Trosnant. Y mae pedwar o'r capeli hyn yn perthyn i'r Bedyddwyr, pedwar yn perthyn iWesleyaeth yn ei hamrywiol gang- henau, dau i'r Eglwys Wladol, un i'r Anni- bynwyr, un i'r Methodistiaid Calfinaidd, ac un i'r Catholiciaid. Fe fu gafael mawr iawn gan y Bedyddwyr ar y dref er ys blynyddau yn ol, ond nid oes gymmaint yn ddiweddar. Y mae eglwys Fedyddiedig Seisnig lied flodeuog yma, o dan arolyg- iaeth Dr. Thomas. n Nid yw yr eglwysi Cymreig mor llewyrchus ag yr ydys yn eu n zn cofio. Y mae y dref a'r gymmydogaeth yn myned yn Seisnigaidd yn gyflym, Cymry yn dwyn eu plant i fyny yn yr iaith Seisneg, gan esgeuluso eu dysgu yn hen iaith eu L' zn gwlad, ac feliy yn rhoddi y fanlais, gyda'r genedl ieuainc, i enwadau ereill. Y mae cael a mynu Cymraeg yn y pwlpud, a Saesneg ar yr aelwyd, ar yr heol, yn eu tai, ac yn yr Y sgol Sul, yn gwrthdaraw y naill yn erbyn y llall, a'r canlyniad yw, fod y I Gymraeg, fel iaith, yn cael ei cholli o'r