Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

?TY Y CYFFREDIN.

News
Cite
Share

? TY Y CYFFREDIN. Ebrill 7.—Cymmerodd Syr T. G. Hesketh, yr aelod a etholwyd yn ddiweddar dros Preston, y llwon a'i eisteddle. Mewn atebiad i Mr. Potts, yr hwn a ofynodd a oedd y llywodraeth yn bwriadu cynnyg swm o arian i godi cofadail i'r diweddar Dywysog Cyd- weddog, dywedodd Arglwydd Palmerston nad oedd yn arferiad i'r llywodraeth hysbysu ei bwriadau yn mlaen llaw gyda golwg ar unrhyw weithred neillduol; pnd gwneid holl fanylion ei chynllUn yn hysbys pan gynnygid ef. Wrth ymflurfio yn bwyllgor arianol, cododd Mr. Disraeli i wneyd ychydig sylwadau ar ein sefyllfa gyllidol, yr hon oedd yn peru cryn bryder iddo ef. Ymddangosai ein bod ar ddechreu y Mwyddyo heb weddill mewn llaw. Nid oedd hon mewn un modd yn sefyllfa foddhaol, yn enwedig pan ystyriwn farweidd-dra cyffredinol masnach, ac effeithiau niweidiol y rhyfel yn America ar ein cyllid, ac ni wyddid chwaith pa bryd y terfysgid heddweh Ewrop. Honai mai yr achos o ddiffyg gweddill oedd dilead y dreth ar bapyr, yr hon ni ddylasid ar un cyfrif ei diddymu. Yr oedd efe yn credu fod y Canghellydd wedi sylfaenu ei Gyllideb ar egwydd- orion twyllodrus, a'i fod yn sicr o gael ei siomi. Wedi i Mr. Bass lefaru ychydig eiriau yn etbyn y cynnygiad i symud y dreth ar hopys, a'i gosod ar gwrw, a rhoddi trwyddedau i ddarllaw, Cyfeiriodd Canghellydd y Drysorfa at y pwne olaf yn mlaenaf, gan ddweyd y gwneid peth crf- newidiad yn y cynllun o roddi trwyddedau. Y swm lleiaf a delid gan ddarllawwyr annghyhoedd fyddai 5s., ac yna codai ytâl i 4.0s., yn ot maint ardreth y tai, ac i 20s. i amaethwyr. Yna sylwodd ar yr, hyn a alwai yr araeth ar hanesiaeth gyllidol a dra- ddodasid gan Mr. Disraeli, gan boni fod yr un twyll ag oedd yn hynodi ei wladlywiaeth ef (Mr. Disraeli) a'i blaid, yo rhedeg trwy ei araeth. Yr oedd yn hollol amddifad o resymeg deg. Nid oedd amgen na meddyginiaeth i'r hyn a gondemnid ganddo fel drygau. Fodd" bynag, gobeithiai y byddai yn fodditn i alw syhv y wlad at yr angen- rheidrjvydd o leihau y treuliadau. Gyda golwg ar dreth yr incwm, barnai ei bod ynrhy fawr eisoes, ac nas gellid ei chynnyddu heb beryglu manteision y wlad. Nid oedd efe yn ewyllysio i, r dreth fod yn un barhaus. Os gellid llywodraethu y wlad a JE60,000,0000, gellid gwneyd hebddi; ond nis gellid gwneyd hebddi gyda thraul o ^70,000,000. Wedi rhai sylwadau gan Mr. Bentinck, ac aelodau anrhydeddus ereill, ymffurfiodd y T9 yn bwyllgor, a phssiwyd amryw bleidleisiau. Ebrill 8.-Rboddodd Mr. Walpole rybydd y byddai iddo, ar y 6fed o Fai, gynnyg fod i'r Ty ymffurfio yn bwyllgor i'r dyben o ystyried y rhodd i Goleg Maynooth. Dywedodd Arglwydd Palmerston os pasid pen- derfyniadau y Gyllideb erbyn dydd Gwener, y byddai i'r Ty obirio am wyliau y Pasg ar y diwr- nod hwnwf ac ail-ymgyfarfod ar yr 28ain o'r mis hwn. Mewn atebiad i Mr. Freeland, dywedodd Ar- glwydd Palmerston fod adroddiad Arglwydd Ho- bàrta Mr. Foster ar sefyllfa gyllidol Twrci wedi ei argralfu yn gyfriuachol at wasanaeth Cyfrin gyng- hor ei Mawrhydi; ond nis gallai ddweyd pa un a oedd llywodraeth Twrci wedi cydsynio ai peidio. Ebrill 9.-Cynnygiodd Mr. Buuverie fod i Ysgrif Gwaredigaeth Clerigwyr gael ei darllen yr ail waith, ac eglurodd mai ei hamcan oedd rhoddi gwaredigaeth i weinidogion ordeiniedig Eglwys Loegr oeddent ar oi hyny wedi newid eu barn, ac i'w gatluogi i ymryddhau oddiwrth holl rwymedig- aethau cyfreithiol eu swyddi. Barnai Syr W. Heathcote nad. oedd llawer o'r camweddau y cwynid yn eu herbyn ond dychym- mygol, a bod ereill yn ffrwyth gweithred bwyllog y personan eu hunain. Yr oedd yn dda gan Mr. Monkton Milnes fod yr ysgrif i gael ei rhoddi o dan ystyriaeth pwyllgor detholedig; canys er y gellid edrych ami fel gwobr i heresi, yr oeidd efe yn ciedu ei bod o duedd i wneyd lies i'r Eglwys. Cefnogodd Arglwydd Stanley yr ysgrif. Yr oedd efe yn credu y byddai personau gwrthwynebot i Eglwys Loegr yn fwy peryglus iddi yn ei gweinid- 9 p ogaeth nac allan o honi, »c yr oedd yn rhaid iddynt ddibynu ar opiniwn y cyhoedd i beidio gwneyd camddefnydd o'r breintiau a ganiateid gan yr ys- grif hon. Cefnogai Mr. Walter egwyddor yr ysgrif hon, ac ystyriai fod ei hamoan yn dda, a chredai na wnai un niwed i neb. Condemniai Mr. Hubbard yr ysgrif fel un 0 duedd beryglus i lwyddiant yr Eglwys, a honai nad oedd corff y clerigwyr yn cwyno o herwydd eu rhwymedigaethau presenol, nac yn gofyn am rydd- had oddiwrthynt. Yr oedd Mr. Newdegate o'r farn y dylid rhoddi tymhor hwy o brawf ar bersonau cyn rhoddi urddau ucliaf yr Eglwys iddynt; ond nis gallai. ysgrif i roddi modd i glerigwyr ymwrthod a'u rhwymedigaethau cyssegredig, heb genad yr Eglwys a'i hesgobion, lai na gwneyd niwed. Ar ol ychydig eiriau gan Mr. Ball, darllenwyd yr ysgrif yr ail waith, a gorchymynwyd ei rhoddi dap ystyriaeth pwyllgor detholedig. Llongau Cupola Cadben Cole. Ebrill IQ.-Gofynodd Arglwydd Robert Mon- tague pa bryd y darfu i Cadben Cole osod ei gyrt- Huoiau gyntaf gerbron y Morlys, ac a oedd ganddynt wrthwynebiad i osod y papyrau ar y bwrdd. Dywedodd Arglwydd C. Paget nad oedd ganddo ddim gwrthwynebiad i osod yr holl ohebiaeth rhwng y Morlys a Cadben Cole ar y bwrdd, ond barnai na ddylid ar un cyfrif gyhoeddi adroddiadau a wnaeth- id yn gyfrinachol i'r Morlys. Yr Arbrdwfiadau yn Shoeburyness: Gofynodd Mr. H. B. Sheridan ai gwirionedd oedd yr adroddiad fod ergydiau wedi treiddio trwy ochrau yWarrior yn Shoeburyness ar yr Sred o'r mis hwn; a pha un a fethodd ergyd 150 pwys dreiddio trwy y targed; a pha un a ellid gweithio 300 pwys Armstrong ar fwrdd Hong. Dywedodd Arglwydd C. Paget fod y prawf cyn. taf wedi ei wneyd ag ergyd 150 pwys, a 40 pwyl o bylor, mewn pellder o 200 o latheni. Gan fod y targed wedi ei wanhau yn ddirfawr gan y prawf- iadau blaenorol, nid oedd mor gryf i wrthsefyll a'r targed gwreiddiol, ac aeth yr ergyd gyntaf trwy y platiau haiarn, ond attaliwyd hi gan yr haiarn oddi mewn, yr hwn, modd bynag, a holltwyd gan yr ergyd. Ond aeth ergyd arall, gyda 40 pwys o bylor, trwy y targed yn y fath ddull fel yr achos- asid y dinystr mwyaf dychrynllyd pe buasai yn ochr llong. Ar gais Syr W. Armstrong, taniwyd y drydedd ergyd gyda 50 pwyso bylor, i'r dyben o sicrhau pa un a losgid y cwbl yn ddigon cyflym. Aeth yr ergyd hono drwy y targed. Y Code Newydd. Ebrill 11.—Mewn atebiad i Syr J. Pakington, dywedoddArgiwyddPatmerston y gosodid copi 0 gynnygiou y llywodraeth gyda goln 9 ar y Code newydd ar fwrdd y yn ystod y nos hon, acy dospatlhid hwy yn mhlith yr aelodau draitoeth. Cynnygiodd Arglwydd Palmerston fod i'r Ty pan godai ohirio hyd yr 28ain o'r mis hwn. Italy. Galwodd Syr G. Bowyer sylw y Ty at achos ltali, gan honi fod y llywodraeth hono yn rhy an- alluog i gadw trefn yn y wlad. Wedi i amryw aelodau anrhydeddus ereill siarad, syrthiodd y pwnc.

TY YR .ABGLWYDDI. <