Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

AR YR ANNHEBYGOjLRW YOD I…

News
Cite
Share

eu cymmhlethu trwy ein cyfansoddiad. Y maent mewn rhyw ystyr yn wisg am danom. Nid oes gofod a gynnwysai flaea nodwydd nad ydynt hwy yno yn barod i gludo unrbyw neges ar banner am- naid tuag eisteddfa y teimlad; a dychwelyd tyst- iolaetli o dderbyniad y neges ar banner amnaid arall. Cylchrediad y gwaed etto, sydd fyth yn dwyn yr un arwyddion o fwriad. Y galon, fel yr ydys wedi dweyd yn barod, yw ysgogydd y gwaed ac y mae ceisio dirnad pa fodd y mae peiriant o natur mor llibinaidd-dim ond talp o gig, yn ymgynnal wrth gyhiryn main, yn gallu cyflawnu y fath orchwyl eang a phwysig, mor ddiludded a didreuliedig,—y mae ceisio ystyried ffaith fel yma yn ddigon i daro creadur o wybodaeth derfynol fel ag yw dyn a syn. dod mud. Cura y galon dros gan mil o weithiau bob pedair awr ar ugain, gan yru holl waed y corff yn mlaen wyth modfedd bob curiad trwy filoedd o gangenau, rhedwelyau, a gwytbienau. Y mae yn y galon bedwar ceudod gwahanol; gelwir y ddau fwyaf yn godenau, a'r ddau leiaf yn glustenau. O'r codenau y gyrir y gwaed allan i'r rhedwelyau, a derbynir ef yn ol o'r gwythienau i'r clustenau. Nid anmhriodol dweyd yma fod y ffrwd o waed sydd yn disgyn o'r wythien ganol, yn rhedeg i gyf- arfod ffrwd arall sydd yn esgyn i'r galon o gyfeiriad gwahanol, a gallai dwy ffrwd felly yn cyfarfod a'u gilydd ymddangos yn attalfa i gylchrediad, ac fel yn peryglu bywyd ei hun. I ragflaenu y perygl, y mae chwyddiad allan wedi ei ddarparu rhwng y ddwy wythien, sydd fel hyn yn arllwys ar gyfer eu gilydd, sydd yn gwasgaru y gwaed oddiarno acoddi- tano heb beru un annghyfleusdra na niwed. Y mae yr un uchaf yn cael ei droi i glusten ddeau y galon, a'r un isaf yn ol i'r goden." Yma y gwelir medr- usrwydd dioed, bwriad pendant, a daioni perffaith yn cydgyfarfod, er trefnu yn y modd manylaf ddar- pariaeth rhag damweiniau allasai beryglu ein bodol. aeth a'n cysur. Pan gofiom fod cant o gyhyrau ar waith bob tro yr anadlwn, onid yw yn ffaith dra rhyfedd ein bod yn gallu anadlu mor ddirwystr a didaro. Mewn gwirionedd, derbynir y "fendith hon bob moment" genym yn ein hanwybodaeth, megys. Dyn a'r asthma," meddai Dr. Paley, yn unig$yr ei gwerth." Efallai mai y rhan gywreiniaf o'r peir. iant anadlu, yw pilen dryloew yr ysgyfaint, trwch ba un sydd gyfartal i fil ran o fodfedd; a mesura ei harwynebedd bumtheg troedfedd ysgwar, yr hyn a fyddai ddigon i guddio gwyneb allanol y corff. Cynnwysa rhedwelyau a gwythienau heb rif, drwy y rhai y gyrir gwaed "gan y peirianwaith mwyaf cyw- rain a rhyfeddol." A yw yn gredadwy y plygir y Hen eang hon yo ddifwriad, yn y fath fodd fel ag i'w gosod yn ddianaf, yn ddifeth, yn nghuddfan dyfnaf a mwyaf dirgelaidd y peirianwaith anifeilaidd? Ar bob anadliad wneir genym, derbynia yr ysgyfaint ddengain modfedd gubaidd o awyr; ac fe erys yn yr ysgyfaint oddeutu pum chwart o awyr yn barhaos. Pa ofod (space) mor gyfyngedig arall a allai gyn- Bffys y fath swm. Rhaid, rhag meithder, fyned heibio heb ond enwi y cylla, yn nglyn a pha un y mae dwy ffaith dra nodedig, sef, yn gyntaf, y drefn ddoeth sydd yn amlygedig yn ngwaith sudd y cylla yn peidio dys- trywio dim ond yr hyn fwytawn. Distrywia bob ymborth a gymmerir i'r cylla, ac y mae hyny yn hanfodol er treuliant; ond ni wna y niwed Ilciaf i'r cylla ei hun, hyd ar ol marwolaeth y corff, pryd y try yn ddistrywydd buan ar y cylla. Pa fodd y rhesymir yn ngwyneb hyn ? Os priodolir y ffaith i ryw alia gwrthgyferbyniol 0 eiddo rhyw ranau ereill o'r cyfansoddiad, megys yr anadliad, cylchrediad y gwaed, neu rhyw beth arall perthynol i'r corff, ni byddai hyny yn ddim amgen na symud yr anhaws- der gam yn mhellach. Nid yw y cwestiwn yn cael ei ateb, ond ei ysgoi. A'r ail ffaith yw, troad ein hymborth yn waed. Y mae defnydd ein porthiant mor eaug ac amrywiol ag yw y greadigaeth lysieuol braidd, a rhan helaeth iawn o'r byd anifeilaidd. Gwneir ein pryd bwyd i fyny 0 adnoddau 0 ansawdd hollol wahanol i'w gilydd weithiau; etto,'medda y cylla gymbwysder i weithredu ar yr holl amrywiaeth ar unwaith, ac heb deimlo yr anhawsder lleiaf. Try y chwerw o'r melus, yr halenaidd o'r croyw, y gwlyb a'r sych, yn hylif o waed pur er cyflenwi y porthiant y Mae treuliad cysson ein cyrff yu galw am dano. Eir heibio y teimlad, a'i ddeugain par giau, y rhai sy'n wasgaredig trwy holl ranau y corff. Y chwysiad a'i dri chan mil ftliynaa o chwysdyllau, adewir gyda'i goffs yn unig. Felly y ddwyfron a'r ceudod. Y Mae y llygad etto yn amlygu dealltwriaeth, medrusrwydd, a bwriad rhyfeddol yn ei wneuthur- iadau. Ond ni oddef terfynau y traethodyn hwu i mi nodi ond tra ychydig o'r wybodaeth eang a feddwn am y llygad a'i weithrediadau byth ryfeddol ar wrthddrychau allanol natur. Oeall pa fodd y gall golygfa o ddegau 0 filltiroedd o arwynebedd, gyda milfyrddiwn o wrthddrychau; pa fodd y gallwn dderbyn golygfa mor eang ac amrywiol i mewn drwy dwll mor fychan ag yw canwyll llygad, sydd wy- bodaeth na feddwn y crafangiad lleiaf ami. Nid oes eisieu dweyd wrth y rhan amlaf o ddynion yr oes hon, gallaf feddwl, na fedd y llygad allu canfod ynddo ei hun, ond mai trwy y ddarpariaeth 0 oleuni sydd ar ei gyfer y gwel bob peth y Mae yn weled, neu yn ol Hamilton, y gwel y meddwl, trwy gyf. ryngdod y llygad, wrthddrych allanol. Ac y Mae y rbai hyny sydd wedi astudio adeiladwaith y llygad a phriodoleddau goleuni, yn rhesymu mai yr un awdwr wnaeth y ddau; mai awdwr goleuni yw adeiladydd mawr y llygad hefyd. "Rhaid," meddai Arglwydd Brougham, "ei fod (y llygad) wedi ei lunio gyda gwybodaeth am briodoleddau goleuni." Dyma hefyd oedd barn Dr. Dick, ac amryw ereill. Teithia y goleuni yn ol y cyflymder dirfawr o gant a phedwar ar hugain a phumtheg o filoedd o filltiroedd mewn eiliad o amser; a dy- wedir fod y fath gyflymdra yn hanfodol er gweted j ac mai i leihau y cyflymder dirfawr hwn, y mae ei ronynau wedi eu tori mor annirnadwy fychain. yr hyn sydd yn attat i'r ymwelydd hyfryd hwn i fod ynun o'r elfenau mwyaf arswydus a dinystriol o fewn natur." Meddai Mr. Furgusson, Pe byddai gronynau goleuni mor fawr ag y byddai mil- iwn o honynt yn gyfartal i un tywodyn o ran maint, ni feiddiem agor ein Uygaid i'r isoleuni, mwy na goddef i dywod gael eu saethu iddynt o safn magnel." Cymhwysder arall hanfodol angenrheidiol er gwelediad, yw y gallu i adlewyrchu sydd gan wrth- ddrychau. Heb y cymhwyader hwn, byddai pob golygfa yn aneglar a choegus; ac heb yr amrywiaeth eang sydd yn mhelydrau goleuni, ymddangosai boll wrthddrychau y greadigaeth mewn un lliw pruddaidd ac annymanol. Y mae y fath gyfaddas- der ag sydd rhwng goleuni a'r llygad y fath gym- hwysder sydd gan y naill a'r llall, yn sicrwydd di- gonol i'r neb a fyn weled, mai o law yr Awdwr deallus a da y deilliodd y pethau hyn. Y maent yn dwyn delw yr un Cynlluniwr, yr un Trefnwr, yr un Adeiladwr, a'r un Gorphenwr perffaithgwbl, sef yr Hwn sydd Ollgn Oil yn ei holl weithredodd rhyfedd. Rhydd y desgrifiad cryno a chynnwysfawr a ganlyn, rhyw gipolwg o ardderchogrwydd cynlluniad, trefniad, a gwneuthuriad, y peiriant oll-gywreiniol hwn. Y rhan fwyaf allanol o'r llygad yw y glein.gorn (cornea), yr hwn sydd fel rhyw orchudd amddiffynoi i'r peiriant cywrain. Dan hwn, yn nghanol y llygad, y ceir y ganwyll, fel ei gelwir, yn ysmotyn dysglaer yr hwn nid yw ond agorfa er gollwog i mewn belydrau goleuni. 0 amgylch yr agorfa hon y mae enfys, yr hon sydd fath o gylch tywyllneu afloyw (opaque), yn gwasanaethu er crynhoi y goleuni i gylch priodol. Y Mae y cylch hwn o wahanol liwiau mewn gwahanol bersonau; weithiau yn ddu, brydiau ereill yn las, ac yna dra- chefn yn llwyd-ddu, neu lwyd las; o herwydd hyn gelwir ef yn enfys. O'r tu ol i'r ganwyll y mae casgliad o irnaws yn bod, yr hwn a elwir y crisnawt, (chrystalim humour) ffurfia hwn gorff argrwn (convex); ac y mae felly yn gwasanaethu cyd- dueddu y pelydron hyny o oleuni, y rhai a dreidd. iant trwodd i'r un focus, yn mharthau mewnol y llygad. 0 amgylch y ganwyll, ac hefyd rhyngddi a'r crisnaws hwn, y mae irnaws arall yn bod, yr hwn sydd 0 natur ddyfrllyd. Y mae hwn yn gwas- anaetbu yn fwy i ddiffyniad y ganwyll a'r crisnaws, nag i ddim arall. Y tu ol, hyny yw, tu fewn i'r crisnaws a nodwyd, y mae corff arall o irnaws yn bod, yr hwaa elwir y gloywnaws (vitreous humour) swydd yr hwn yw llenwi y llygad, fel ag i gadw ei holl ranau yn y pellder priodol oddiwrth eu gilydd ac y mae wedi ei wneuthur mor dryloyw, fel na. gall mewn un modd yn y byd ymyraeth gyda my- nediad goleuni drwyddo. Os gwna ddim, ychwanega at ei ddysgleirder. O'r tu fewn i hyn oil, ac yn y rhan gefn i'r llygad, ymleda yrhwydlen (retina), yr hon sydd fath o bilen wedi ei chyfaddasu er derbyn lluniau y pethau yr edrychir arnynt. Y fath yw y llygad ac y mae wedi ei ffurfio fel hyn yn gwneuthur i fyny bellen ledgron gryno, lawn o ryfeddodau ae o olion y Dwyfol law. Y modd y dylanwada gwrthddrychau allanol ar y peiriant cywrain hwn sydd eglur a syml. Y mae- yn hysbys fod holl ranau gweledig pethau yn adlewyrchu, i raddau mwy neu lai, unrhyw oleuni ddisgyno arnynt. Yn awr, pan droir y llygad i edrych ar unrhyw wrthddrych neillduol, y mae yr holl belyd. ron hyny, y rhai a adlewyrehirgan y gwrthddrych hwnw, yn cael eu gollwng i mewn i'r llygad trwy yr agorfa a nodwyd, sef y ganwyll. Y pelydron hyny drachefn a gasglir gan y crisnaws, megys gan wydryn argrwn, i ffoc ar y rhwydlen ac felly saif arlun perffaith o'r gwrthddrych a olygir ar y rhwydlen. Wedi fel hyn egluro gweithrediadau jr llygad yn ei gyssylltiad a'r byd allanol, rbaid i ni etto grybwyll y modd drwy ba un y cyssylltir ef a'r byd mewnol, y meddwl. Oddiwrth odreu y rhwyddlen a nodwyd, y mae gieuyn yn rhedeg i'r ymenydd getwir hon y drennea (optic nerve). Swydd yrïeu hon yw cludo yr argraffiadau hyny a wneir ar y rbwydlen gan bethau allanol i'r ymenydd. Ac yn y modd hyny rhoddir i'r edrychydd feddylrith eglur a chywir o bartbed i'r pethau a olygir ganddo. Pertbyna i'r llygad amryw ddarpariadau cywrain ereill. Megys, yn un peth, trefniadau gogyfer ag ysgogiad rhwydd ac esmwyth i'r llygad. Buasai yn gryn anhwylusdod i ddyn orfod troi ei ben gyda'i lygaid i bob tro y chwennychai edrych; ond dar- parwyd ar gyfer hyn, trwy roddi chwech o gybyrau mewn cyssylltiad â'r llygad, er ei droi yn mbob eyf. eiriad. Un er ei djnu i'r ochr dde, arall er ei dynu i'rocbr aswy, y trydydd er ei dynu i fyny, y ped- werydd er ei dynu i lawr, y pummed er ei alluogi i chwareu yn rhydd yn ei fortais, a'r chwecbed er ei gadw yn sefydlog ar ei wrth- ddrych yn mhob un o'r eyfeiriadau hyn. Gellid nodi etto fel un arall o bynodion y peiriant rhyfeddol hwn, y gofal sydd wedi ei ddangos er ei amddiffyn a'i ddiogelu. Y mae ei fortais wedi ei llunio o 1m. gyfarfyddiad saith < wahanot esgyrn, yr hyn a rydd iddi hydwythedd ac ystwythder mawr. Y mae y fortais hefyd wedi ei harwisgo 0 amgylch iddi a phlygion 0 trasder, er ei gwneyd yn ystwythach ac yn fwy hwylus fyth. Gosodir y rhanau sylweddol o'r llygad i sefyll yn nghanol hylifau tyner drachefn, ar eu cadw yn fwy diogel 0 hyd. Oddiar y llygad, y mae yr amrantau wedi eu gosod i'w ddiffynu a'i gadw. Arfogir y rhai hyny a rhes 0 flew er cadw y llwch allan, ac er lleddfu tanbeidrwydd y goleuni, neu lymder yr awelon ar brydiau. Tan yr amran- tau dracbefn y mae llestri wedi eu gosod i gy wreinio, ac i ddal dwfr, er golchi y Uygad, a'i gadw yn ir; ac i gludo y dwfr hwn ymaitb, wedi gorphen o hono ei waith, y mae twll wedi ei ddarparu yn nghongl fewnol y llygad, trwy yr hwn y llifa i'r trwyn, ac allan trwy y ffroenau!" Wedi darllen y desgrifiad ymchwilgar a chraffus hwn, pwy na chy- tuna i ddweyd gyda Dr. Dick mai, Y llygad yw un o'r darnau cywreiniaf 0 beirianwaith ag ydichon y deall dynol fyfyrio arno,"