Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Y LOCUSTIAID YN NEHEUDIR AFFRICA.

News
Cite
Share

ffodd y tan, fel yr a y gweddill drosodd yn ddiogel." f..Pa sawl math o honynt sydd, Hans?" gofynai yr ail fab. Clywais am rai heb adenydd ganddynt." "Y mae amryw fathau o honynt, ond rhenir hwynt yn gyffredin i ddau ddosparth mawr," oedd yr ateb. "Y dosparth cyntaf fig adenydd, a'r ail hebddynt; ond yr wyf fi yn meddwl mai y pryfyn heb ei berffeithioyw y rhai heb adenydd, a'u bod yn myned drwy gyfnewidiadau, fel amryw bryfed ereill, a'u bod yn eu sefyllfa ddiweddaf yn meddu aden- ydd. Clywais fod y rhai heb adenydd yn mudo ar dymhorau yr un fath a'r rhai ereill, ac nad oes dim bron a'u rhwystra i gyrhaedd eu hamcan, ond croesi afon. Wrth groesi afon, fint ymaith gyda'r llifeiriant, a boddir miliynau o honynt. Cynneuir tan weithiau i'w hattal, ond ant yn mlaen yn wrol, a llosgir Iluoedd o honynt i'w osod allan, ac aiff y gweddill dros gyrff eu cyfeillion yn ddiogel i'r ochr draw; ant dros furiau yn yr un modd, ond y mae y fantais gan y rhai sydd ag adenydd ganddynt, oblegid gallant ehedeg dros afonydd a muriau, ae ofer fyd,dai i ni geisio eu battall" Beth yw y rheswm eu bod yn myned gyda'r gwynt, a'u bod yn symud fel hyn'?" gofynai Jan bach. "Wel, v rheswm eu bod yn symud yw," meddai, fod y bwyd yn darfod. Deuant o'r anialwch mawr sydd y tu gogleddol i ni, ae ar y tymhorau gwlawog y mae math o laswellt yn tyfu arno, ar yr hwn yr ymborthant; ond pan ddaw y tymhor sych, crasir hwn i fyny, a gor- fodir hwy i symud i chwilio am ymborth. Mae yn debyg nad allant symud yn erbyn y gwynt; ond beth bynag am eu gallu, gyda'r gwynt yn ddieithriad yr ant, ac y mae byny wedi dystrywio llawer o honynt. Clywais am un amgylchiad pan ddygwyd haid anferthol o honynt gan y gwynt i'r mor, ar yr ochr ddwyreiniol i ni, taf- lodd y Ilanw hwynt i'r lan yn bedair troedfedd o drwch, a thros banner can milldir 10 draeth, ac aroglid eu sawr gant a hanner o filldiroedd i fewn i'r wlad."i "Yr oedd trwynau da gan y bobl hyny," ebe Jan bach. Oedd fachgen," ebe'r tad, ac yr wyt tithau yn peru i mi gofio am y locustiaid a ddygwyd fel pla ar yr Aifft, fel yr anfonodd yr Arglwydd wynt cryf o'r gorllewin, ac a'u bodd- odd oil yn y Mor Coch. Gobeithio y bydd iddo yn ei drugaredd symud y rhai hyn ymaith yr un modd." "Gan eich bod wedi dwyn y Beibl dan sylw," meddai Hans, ni welais erioed ddarluniad mwy cywir a barddonol o honynt nag sydd yno. Hol y Beibl, Jan, a darllen y brophwydoliaeth. Mae yn yr ail bennod o lyfr Joel." Gyda bod Jan yn darfod darllen, daeth Swart- boy, y gwas du, i fewn, a chydaid o rywbeth ar ei gefn. Pa beth sydd genyt yna, Swart ?" gofynai Heinrich. "Mi bod allan yn casglu locust; mi bwyta locust, nhw dda iawn, dyn du hoffi ohw," atebai Swart. Mi glywais," meddai Hans, "fod llwythau gogleddbarth Atfrica yn eu bwyta hwynt, ond wyddwn I ddim fod y llwyth sydd yn preswylio yn y parthau hyn yn gwneyd hyny. Mae yn debyg fod pob math o anifeiliaid yn eu hoffi, ac yn bwyta llawer o honynt. Y mae rhai duw- inyddion am i ni gredu mai gwir ystyr y gair a gyfieithir genym ni locust am ymborth loan Fedyddiwr yw y pren locust, ac mai ar ffrwyth hwnw yr ymborthai loan Fedyddiwr ond y mae'n well genyf ein cyfieitbiad ni, gan fod y locust yn cael ei fwyta mor gyfFredin. Pafodd wyt yn eu coginio, Swart?" "Chiarostipynbach, chi gwel'd 'nawr," meddai. Ar ol hyn, aeth yn mlaen ajchoginio ei swper. Gosododd, y crochan ar y tan gydag ydhydig o ddwfr ynddo. Llanwodd ef a locustiaid, gad- awodd hwynt iferwi nes oeddynt yn ddigou. Arllwysodd y dwfr ymaith, a sychodd hwynt; yna ysgydwodd hwynt yn dda i gael eu.coesau .1 a'u adenydd yn rhydd. Wedi hyn, nithiodd hwynt i symud yr aelodau hyu ymaith. Gosod- odd hwynt ar y bwrdd, gydag ycbydig halen, ac yr oeddynt yn barod. Malir hwynt weithiau yn flawd ar ol gwneyd yr uchod, a chedwir hwy am fisoedd, pan y gwneir math o uwd o honynt. Ar ol bwyta rhan o swper Swart, vr hon oedd yn flasus, aethant allan i gael golwg ar eu hym- welwyr newydd. Ar ol eerdded chwarter mill- tir, cyrhaeddasant ymyly gwersyll. rhyfedd hwn. Yr oedd goleu leuad hyfryd ganddi, a gwelent y locustiaid yn ymestyn am filldiroedd, y cwbl yn edrych fel daear newydd aredig. Ond yr oedd gobaith y buasai yn parhau i chwythu o'r un cyfeiriad, ac y caent eu gwared oddiwrth- ynt yn y boreu, a thrwy hyny achub y cnwd haidd a'r anifeiliaidi Aethant yn ol i'r ty, rboisaut eu gofaU'r Arglwydd am y nps, ac aeth pawb i'w wely, ond ychydig gysgodd y pen teulu y noswaith hono. Y GWYNT YN TROI. Boreu dranoeth, cododd Heinrich gyda'r wawr, ac aeth i weled pa fodd yr oedd pothau. Gydaei fod allan, gwelwai ei wyneb—yr oedd y gwynt wedi troi i'r gorllewin. Nid oedd dim gobaith achub y cnydau, nac aros yn y llanerch hono mwy. Gyda chodiadyr haul, buasai y locustiaid yn dechreu symuel i ch-,vilio am ym- borth, a gwyddài y buasent yn dystrywio pob glaswelltyn a phob dalen las a ddeuai ar eu ffordd. Ni fuasai ymborth i ddyn .nac anifail i'w gael yn eu llwybr hwy. Galwodd y teulu, a bwytasant eu boreufwyd mewn prudd-der, pawb ond Swart, ddylaswn ddweyd. Yr oedd ef yn symlrwydd ei galon yn methu deall pwy eisieu gofidio oedd-yr oedd yno ddigon o locustiaid i'w porthi am flwyddyn gyfan, ond ni wnawd sylw o hyny, ac ni chasglwyd ychwaneg o locustiaid. 0 r, Aethant allan ar ol eu boreufwyd, a gwelent y locustiaid yn ymgodi i'r awyr, ac yn ymsymud yn mlaen tua'r gorIlewin-yn hollol grOes i'r cyfeiriad y nos o'r blaen. Symudent yn hollol reolaidd. Elai y rhai blaenaf yn mlaen, a dis- gynent, ehedai y rhai ereill drostynt, a disgyn- ent drachefn yn hallol reolaidd, fel y caffai pawb eu digoni. Yr oedd yn ddiwrnod tywyll du, diwrnod cymylog a niwlog, fel pe buasai y wawr wedi ymwasgaru ar y mynyddoedd," oblegid er fod yr haul wedi codi yn ddysglaer a thanbaid y boreu hwnw, ychydig o'i oleuni oeddyndyfoddrwy y cwmwi tew oedd uwch eu penau. Nid oedd o un dyben i droi yr aui- feiliaid allan y boreu hwnw, oblegid buasent yn ymwasgaru ar hyd y gwastadedd, ac ni fuasai 9 amser i'w casglu drachefn, obtegid yr oedd yn rhaid «ymud i rywle yn union. I ba Ie ? "Nhad," galwai Hendrich, "y maent yn dechreu disgyn ar y c»e yd. Beth wnawn ni ? Ni fydd dim ymborth i'r anifeiliaid. "Nafydd; y mae yn rhaid i ni symud i rywle heddyw. Welaist ti ddwfr yn y gorllewin yna, Hans? gofytiai'r tad, "Ddim o fewn deugain milltir," atebai Hans; i ond y mae yrio flFynnon hyfryd, a /glaswellt ddigon, os nad ydyw'r loeusttaid wedi bod yao yn eu ddifa. Wel, rhaid i ni gychwyn tuag yao dydy p ddyben yn y byd i ni fyned tua'r gogledd na'r dwyrain, oblegid yr ydym yn sicr fod y locust- iaid wedi bod yno beth bynag, ac ni fydd ya ddiogel i ni fyned yn nes i'r drefedigaeth. Pod yr ychain yn y fen, Swart," ebe'r tad. Yr oodd v fen hon yft un o weddillion ei eiddo yn y Cape. Yr oedd wedi ei gwneyd yn bwrpasol er teithio mewn gwlad 11$nad oedd heol, ty, nit thafarn i'w; gael. Gallai yr holl deulu gysgu ynddi. Llawer gvr-aith yn eu hamser llwyddiannus y gwelwyd y teulu yn myned i'r cyfarfod yn y ferk bon. ,Pry# k,.ia byddai Swart y gwas du yn ei ogoniant, yn, eistedd ar ypèn, blaen gyda ch^ip fawr dair llath o hyd yn gyru chwech, iau o ychain, oblegid ychain fyddai yn llusgo cerbydau yn y drefedigaeth yr amser hwnw. Yr oedd ceffylau yn brin ac yn werthfawr iawn. Nid oedd gan Heinrich ddim end pedwar o geffylau aryr adeg bresetud, 8cy,r oedd an gen y rhai hjjny i yru yr anifeiliaid. Felly, ieuwyd yr ychain, a llanwwyd y fe» a'r pethaw ra*fyaf angenrheid* iol. Gosodwyd y ddau blentyo ieuengaf ynddi, a Swart a) ei phen blaen, a chyda crac o'i chwip od fawrcychwyoodd yr orymdaith. Yr oedd y ddau fachgen a'u tad ar geffylau yn gyru yr anifeiliaid, er nad oedd fawr o berygl iddynt fyned ar gyfeiliern-nid oedd ypo ddim i'w temtio. Wrth daflu golwg yn ol ac yn mlaeo, nid oedd dim glas i'w ganfod—yr holl wastad- edd YII goch, felpe buasai tan wedi bod yn ysu arno. Yr oedd y locustiaid yn ymsymud yn gyflym tua'r dwyrain, ac yr oeddynt yn difapob glaswelltyn, deilen, ac hyd y nod rhisgl y coed. Nid oedd Heinrich yn isel iawn ei fwldwl etto, yr oedd wedi arfer symud, a gobeithiai gyrhaedd digon o ddwfr ac ymborth i'r anifeil- iaid eyn nos dranoeth. Hyderai yn Nuw, ac y buasai Ef yn gofalu am danp. Aethant yn mlaen drwy'r dydd heb gyfarfod a dim i gyf- newid yr oiygfa a phan ddaliodd y nos hwynt pcnderfynasant wersyllu, gan nad oedd gobaith i gyrhaedd dwfr na glaswellt cyn dranoeth. Felly, claclieuwyd yr ychain, cylymwyd y ceffylau wrth y fen, ae aeth pawb iddi i gysgu am y nos, heb adael neb i wylied, gan eu bod yn barnu na fuasai i'r anifeiliaid grwydro yn y fath anialwch a hwnw. Ond pan gyfodasant nid oedd yno un anifail. ilw weled ond y pedwar ceffyl. Gyras- ant oddiamgylch am filldiroedd i chwilio am danynt, ond metbasant a chael gafael yn un. Nid oedd dim i'w wneyd ond ceisio cyrhaedd y dwfr gyda'r ceffylau yn y fen, ac yna dych- welyd i chwilio am yr anifeiliaid. Cyrhaedd- asant y dwfr y noson hono, ond nid oedd modd dychwelyd cyn rhoddi ymborth i'r ceffylau. Pan gawsant yr anifeiliaid yr ail ddydd ar ol hyn, yr oeddynt i gyd wedi trengu, a'r creadur- iaid gwylltion wedi llarpio y rhan fwyaf o honynt. Yr oeddynt wedi dychwelyd y noson gyntaf i'w hen artref, ac wedi cael eu llarpio yno, tebygid, gan y llew, yr hyena, yjackal, a chrqaduriaid ereill sydd yn trigo yn y wlad. Dychwelodd Heinrich i'w artref newydd yn drwm ei galon. Ni ddilynwn ei hanes yn mbellach, ond gallwn ddweyd iddo droi yn heliwr elephant- iaid, y rhai a laddai er mwyn eu tusks. Estyn-