Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
TRAETHODAU.
News
Cite
Share
TRAETHODAU. ATHROFEYDD Y BEDYDDWYR YN T SIR FYNWY.. T': n. .(.'Tii o •• G A N R U F U S (Parhad.) SWYDDOGION ATHROFA Y FENNI. i; Athraw. Parch. Micah Thomas, o Ionawr laf, 1807, hyd Clorphenaf laf, 1836. Am 29 mlynedd a 6 mis. Ysgrifenyddion. O'r fl. hyd y fl. Bl. Mr. Isaac Wyke, Fenni 1807 „ 1823 16 J. H. Morgan, 1823 1826 3 James Daniei, 1826 1827 1 J. Fozer a'r Pareh. D. Phillips, Caerlleoii 1&27 „ 1836 9 i,j m W: Trysoryddion,- iS Q'r a. hydy B. BI. Mr. J. Harries, Fenni, 1807 „ 1817 10 „ J. Jenkins, Caerlleon 1817 „ 1819 2 Geo. Conway, Fenni.. 1819 „ 1823 4 Isaac Wyke, Fenni 1823 „ 1827 4 W.Gonway,Ysw,Pontnewydd 1S27 1829 2 W.W.Phillips, Ysw., Pont- ypwl 1829 „ 1836 7 Oddiwrth y daflen uchod, fe welir mai Mr. Thomas fu unig Athraw y sefydliad o'i ddech- reuad hyd ei symudiad o'r Fenni i Bontypwl. Bu i'r sefydliad bump o Ysgrifenyddion, ac am y 9 mlynedd olaf ddauysgriienydd yn gwasanaethu gyda'u gilydd. Bu i'r Athrofa chwech Trysorydd, ac am yr olaf, gwasanaeth- Qdd y swydd i'r sefydliad yn Mhontypwl hyd ei farw yn ddiweddar. Fe welir oddiwrth y dafleni Mr. Wyke fod yn y swydd fel Ysgrif- enydd am 16 mlynedd, a phan ei rhoddodd i fyny, cymmerodd at y swydd o fod yn Drysor- ydd, a bu yn y swydd hono am 4 mlynedd. Felly, gwasanaethodd y sefydliad am 20 mlyn- edd. Yr oedd Mr. Wyke yn ddyn da a gweithgar, yn teimlo dyddordeb yn y sefydliad, j ac yn dwyn mawr ofal am dano. Bu yn gyfaill calon a diffuant i Mr. Thomas am y blynyddau hyny, ac yn gydweithi\yr ag ef. Yn yblynydd- au 1817-18, cawn iddo draddodi cyfreso ddar- lithiau i'r myfyrwyr (yn rhad i'r sefydliad) ar "Athroniaeth Naturiol," &c., ac yn derbyn diolehgarwch y pwyllgor am ei lafur. Gwnaeth bethau cyffelyb cyn ac wedi hyn. Y mae yn gofus gan Dr. Ellis Evan6, Cefnmawr, medd un wrthyf ag sydd yn adnabyddus a'rDr., am Mr. Wyke yn gwneyd pethau felly yn ei amser Athrofaol ef, sef tua 1811-12, a'i fod yn ei experiments yn peru cryn. ddigrifwch i'r myfyrwyr, a digrifwch y myfyrwyr yn peru cryn ddigrifwch iddo yhtau. Dyweaasom yn barod mai Mr. Thomas oedd unig Athraw y sefydliad ond nid ydym wrth hyny yhmeddwl nad oedd ereill a roddent wersi yn awr ac eilwaith i'r myfyrwyr, neu i, rai o honynt. Yn y Mynegiad cyntafi sef yr un tair-blynyddol, yr ydym yn cael enw un Mr. Lewis—y Rarch. James Lewis, gweinidog Llanwenarth, feddyliem—yn cael ei alw yn "Welsh Tutor," ac yn derbyn £ 5 am y fl. 1808. Yr oedd Cymraeg, cofier, yn ogystal a Saesneg a ieithoedd ereill, yn cael sylw yn y Fenni, a Chymdeithas Addysgy Bcdyddwyr ") ¡' Cymreig a Seisnig y gelwid y sefydliad. Yn y flwyddyn 1827, pasiwyd y penderfyniad a ganlyn,—" Fod y Gymraeg, o hyn allan, i gael mwy o sylw y myfyrwyr nag oedd yn ac wedi gael." Yn y fl. 1817, cawn un Mr. John Rowland yn rhoddi gwersi i'r myfyrwyr yn absenoldeb yr Athraw, ae un Mr. Rees Davies yn gwneyd yr un peth yn y fl. 1820, ac yn derbya. diolch- garwch y pwyllgor am eu gwasanaeth. Yn absenoldeb yr Athraw "—yr oedd yr absenol- deb hwn yn cael ei achosi, feddyliem, drwy fod Mr. Thomas yn casglu at yr Athrofa. Dywed Mr. Lewis yn ei Gofiant i Mr. Thomas "Gorfu iddo deithio llawer drwy Gymru a Lloegr yn achos y Co!eg, na'r byn nid oedd dim braidd yn fwy anhyfryd ganddp. Onder pob blinderau, o bob rhyw natur, parhapddyn ffyddlawn hyd nes cyrhaedd ei amcan, sef sefydlu yr Athrofa, bodoliaeth yr hon a gredai yn gydwybodol ydoedd yn gyssylltiedig a Iles dyn a gogoniant Duw." Yn y fl. 1820, cawn y boneddwr dyngarol hwnw, Thos. Edwards, Ysw., o Southampton, tra yn aros am beth amser yn y Feqni, yn gwersi yn y Ffrancaeg i un o'r myfyrwyr, sef Mr. John Jones, o'r Cefnmawr, a hyny yn rhad. Yn y fl. 1819, cawn y pwyllgor yn pender- fynu wd un o'r myfyrWyr henaf i belpa yr Athraw drwy roi gwersi i'r myfyrwyr ieu- engaf yn yr Athrofa. Ond Mr. Thomas oedd yr Athraw, sylfaeaydd, ac unig {ywydd y sefydliad. I'r sawl a garent wýbmt manylion am Mr. Thomas, cyfeiriwn hwynt at y Cofiant rhagorol o dda a ysgrifenwyd iddo gan Mr. Lewis, Rumni, yn Seren Gomer am 1855. Gosodwn rhai brawddegau ohono gerbron darllenwyr Seren Cymru Yr oedd ei gorff ef yn syth a llednais, eilygaidyn dreidd- r gar, ei ysbryd yn wrol, a'i ysgogiadau yn fpneddigaidd. Yr oedd y dyn oddifewn, i raddau anarferol, yn cael ei ddarlunio yn y dyn oddiallan." Mr. Rowe mewn llythyr at Mr. Lewis a ddy wed Yr oedd Mr. Thomas wedi ei lunio gan Dduw i feddwl, ac i feddwl yn annibynol ar bawb a phob peth ond y Beibl. Myfyriai, pfegethai, ac ymddygaifel dyn yn nono yn ngrymdwyfolwirionedd." Yroedd efe yn ofalus iawn yn mharotoad ei bregetbau. Ysgrifenai hwynt yn gyffredin yn llawn, a gwnai y cwbl mor hardd a chywir fel pe bu- asai llygaid dysgedigion byd i edrych arnynt, a'u dyfal chwilio. Darfu i Mr. Thomas bre- gethu yh ei tywyd fel y eanlynGartref, 4,445 o weithiau; oddicartref, 1,046 o weith- iau cyfanswm, 5,491 o bregethau I a bedydd- iodd tua 401 o ddysgyblion. Yroedd yn ddyn dysgedig. Heblaw yn y Gymraeg a'r Saesneg, yr oedd yp dra byddysg yn y Lladin. Groeg, a'r Hebraeg ac nid oedd yn hpllol ddyeithr i rai tafod-ieithoedd ereill hefyd. Arferai am y 47 riilynedd olaf o'i fywyd ddarllen y Testa- ment Groeg drwyddo unwaith yn y flwyddyn. Yr oedd Mr. Thomas hefyd yn dd^r- llenwr manwl, dwfn, a diwyd.Yr oedd hefyd yn banesydd enwog, yn ymresymwr gwrol, ac yn mawr hoffi athronyddiaeth natur- iol, yn nghyd a rhyfeddodau y dwyfol Fod.yn y bydoedd uwchben," Fel Athraw," medd Mr. Jones, o'r Tongwynlas, mown llythyr at Mr. Lewis, "yr oedd yn benderfynol yn ei gynlluniau pa fodd yr oeddem i fyned yn mlaen A'n gwersi; ac nid oedd gwyro oddi- wrthynt pe mynttsenr. He knew how to rule '0'
HAINT Y TRI ENW.
News
Cite
Share
hyn i neb i ddweyd yn ei erbyn. Ond y mae yr achos sydd genyf mewn Haw1' yn hollol wiihanol, ac yn un y teimlwyf y dylid ei godi i sylw yn ei berthynas a'n pregeth- wyr ieuainc, y rhai cyn hir, lawer o honynt, a fyddant yn cario dylanwad pwysig ar gym- deitbas; a'r rhai v mae o'r pwys mwyaf iddynt fod yn siamplau i ereill, nid yn unig mewn bywyd santaidd a Ilaftir cref., yddol, ond hefyd mewn gwrthwynebu ffu- antrwydd, coegni, a balchder dwl, ac mewn meithrin golygiadau a theimlad synwyrol, a theilwng o ddynion. Y peth sy'n blino yr ysgrifenydd yw, Mr. Gol., nid y tri enw, ond eu hargoelion, a'r afiechyd sy'n eu peru. Maent yn ar- goelion, i'm tyb I, fod y bechgyn yn dod yn fwy o fops nag o wyr. Onid yw lleyg- wyr call ein heglwysi yn ffieiddio y fath ddandyism? A. ydyw ein dynion ieuainc yn tybied fod tri enw yn fwy tebyg o sicr- hau iddynt enwogrwydd ac effeithioldeb gweinidogaethol na dau ? Os ydynt, y mae yn gamgymmeriad rhyfeddol. A wna tri enw y tro yn lie talent a gweithgarwch ? A ydynt yn help i dalent ? Yn y gwrth- wyneb onid ydyw y mabwysiad o honynt, yn y dull a gondemnir, yn ymgodi oddiar ddiiiyg neu wendid meddwl ? ie, yn arwydd o feddwl ysgafn, bas, a gwamal ? Sylwer, nid ydys yn y gradd lleiaf yn cyfeirio at y trindodiaid gwreiddiol, sef y rhai y mae eu rhieni wedi rhoddi tri enw iddynt, eithr at y rhai y mae eu gv:agedd eu hunain wedi eu mabwysiadu. Pe gallwn gael clust pob bachgen ieuanc, a dim ond dau enw ganddo ar ei fynediad i'r Athrofa, mi a hoftwn ddweyd yn garedig wrtho, "Fy machgen I, cymrrier gynghor gan un sydd wedi bod yma ei hunan, ac oddiar hyny, wedi sylwi ychydig ar y byd, plid a gwneyd ffwl o honot dy hunan gyda y tri enw yma, oblegid y mae gormod o ffyliaid felly wedi myned allan oddiyma yn barod." Yr wyfyn meddwl yn ddifrifol y byddai gwers yn awr ac eilwaith oddiwrth ein hathrawon proiiadol a dirodres ar yr yn- fydrwydd y cyfeiriwn ato yn debyg o fod o les mawr i ddynion ieuainc. Mae ambell un, yn ddiau, yn ei ddiniw- eidrwydd, yn syrthio i aniryfusedd ,y tri enw, heb fod dim yn neillduol mewn golwg, heblaw. rhyw feddwl diniwed ybyddai. yn ymddangos yn fwy respectable. Ddynion ieuainc, byddwch wyr," ac na roddwch eich hunain yn nwylaw neb fel testunau gwawd, trwy dybied fod tri enw yn help i eiddilwch, neu yn debyg o ych- wanegu at eich maintioli. Etto dywedaf, "Byddwch wyr." Cymro. Bydd i ni adael y llythyr yna i wneyd ei ffordd,' gyda gwneyd un nodiad pellach. Mae ysgrifenydd y llythyr hwn yn gyfaill calon i'r myfyrwyr, yn wr boneddig, ac yn lienor aeddfed. Mae ei gynghorion felly yn werth ein sylw; ac ni a hyderwn y cant eu effaith briodol ar y cyfryw ag ydynt yn debyg o gael eu blino gan Haint y tri ettw." # ■ "f 1. t-