Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

-¡ d) AMERICA. v

News
Cite
Share

¡ d) AMERICA. v Y NEWYDD mwyaf ei bwys o America ydyw neges arbenig y Llywydd Lincoln i'r Congress, yn yr hon y mae yn cynnyg fod y Gogledd yn cynnorthwyo y Taleithiau Caeth i ryddhau y caethion yn raddol, drwy roddi help arianol iddynt er gwneyd hyny. Dywed y Llywydd os na fydd i'r cynnyg gael cefnogaeth y Congress a'r wlad yn gyffredinnl, ei fod yn darfod yn y man; eithr os bydd yn derbyn eu cymmeradwy- aeth, ei fod o bwys fod yr holl Daleithiau yn cael eu hysbysu o hyny fel y caffont amser i ystyried pa un a dderbyniant y cyn- nyg ai peidio. Byddai y fath fesur yn un ag y buasai prif lesiant y Llywodraeth Undebol ynddo, gan mai hwn fyddai y moddion goreu o hunan-amddiffyniad. Rhyddhad graddol, ac nid disymmwth, fyddai oreu i bawb, medd y Llywydd. Mae arweinwyr y gwrthryfel yn gobeithio 0 y y gorfodir y Llywodraeth i gydnabod anni- byniaeth rhyw ran o'r Taleithiau gwrthry- felgar, ac yna bydd i'r holl Daleithiau fydd yn goTwedd i'r gogledd o'r rhanau hyny, ddweyd, Mae yr undeb dros yr hwn y buom yn ymdrechu wedi dinans; yr ydym yn awr yn dewis" myned gyda'l' Deau.' I'w hamddifadu hwy o'r gobaith hwn fyddai rhoddi terfyn ar y gwrthryfel. Byddai dech- reuad rhyddhad y caethion yn eullwyr am- ddifadu hwy. Y dyben mewn golwg yw argyhoeddi y Deau na fydd i'r taleithiau svdd yn ffinio ar y rhai Gogleddol byth uno a. hwy. Byddai costau y rhyfel yn ddis:on i brynu yr holl gaethion yn unrhyw Dalaeth; eithr nid yw y cynnyg yn honi yr hawl i'r Llywodraeth i ymyru a chaethiwed o fewn terfynau y Dalaeth, gan ei fod yn fater o hollol rydd-ddewisiad pa un a dderbynir y cynnyg ai peidio. Mae'r rhyfel yn parhau i fod yn foddion anhebgorol er adteru yr undeb. Byddai cyfaddefiad gweithredol o awdurdod cenedlaethol yn gwneyd rhyfel yn ddiangenrhaid. Os parheir i wrthryfela, rhaid i'r rhyfel b^rhau.aey mae yn anmhosibl i ragweled yi holl bethau a ddilynant ryfel. Rhaid i'r cyfryw foddion a ddichon ym- ddangos yn anhebgorol, neu yn fwy addas er dwyn y rhyfel i ben, gael eu mabwysiadu." Barna y New York Times na etyb y cyn- nyg y dyben. Mae y New York World yn cymmeradwyo y neges. Mae yr Herald yn barnu y derbynir y neges yn roesawgar gan yr elfen geidwadol yn y De a'r Gogledd. Y mae y Tribune yn mawr gymmeradwyo y cynnyg, ac yn barnu ei fod yn selio tynged y gwrthryfel. Gohebydd y New York Herald, yn ys- grifenu o Washington, a ddywed fod y cyffro yn y ddinas hono o herwydd neges y Llywydd yn cynnyddu. Mae y neges wedi dod ar bawb yn ddiarwybod. Dywedir fod y Cadfridog Buell wedi am. gylch-ogylchu y Gwrthryfelwyr yn Mar- freesbro', gan roddi iddynt ddau ddiwrnod i wneyd eu meddwl fyny, pa un a roddant eu harfau i lawr yn ddiammodol ai peidio. Mae y Cadfridog Banks (o'r llu Undebol) wedi croesi y Potomac o ddaudy Hook i Harper's Ferry, gan feddiannu Bolivar a Charleston,' a'r wlad o amgylch y ddwy ochr i'r afon Shenandoah. Nid oes un cynnyg wedi ei wneyd i'w rwystro. Credir fod byddin fawr y Potomac ar symudi weithredu, gan fod newyddion mil- wriaethol o Washington yn cael eu gwa- hardd. Jefferson Davies, llywydd y Taleithiau Gwrthryfelgar, yn ei neges at y Congress Deheuol a ddywed:—"Er fy neges ddi- weddaf i'r Congress, mae dygwyddiadau wedi profi fod y Llywodraeth Darparol wedi cynnyg gwneyd mwy nag oedd yn alluog; yr ydym yn ddiweddar wedi dyoddef yn fawr. Nid oedd genym ar y dechreu fodd i gario y rhyfel yn mlaen ar y fath gynllun helaeth agyr ydym wedi bod yn gwneyd. Nid ydym etto wedi derbyn adroddiadau swyddogol o'n colledion ar Roanoke Island, na thrwy syrthiad Amdditiynfa Donnelson. Gwydd* om ddigon am roddiad i fyny Ynys Roanoke i'n gwneyd i deimlo ei fod yn dra daros- tyngol." Mae Jefferson Davies yn canu yn isel iawn drwy ei holl neges. Dichon ei fod yn gweled erbyn hyn fod dyddiau y gwrthryfel a'i ddyddiau yntau wedi eu rhifo. Hysbysir ni fod y gwrthryfelwyr wedi ymadael o Nashville, a bod yr Undebwyr wedi ei meddiannu. Ond dywedid. hfefyd fod y Cadfridogion Johnstone, Pillowa, Floyd, gyda'r ffoedigion o amddiffynfa Don- nelson, yn parotoi i ymladd brwydr mewc lie oddeutu deuddeg milltir i'r Gogledd i Nashville. Ar yr 22ain o Chwefror, gosodwyd Jeff- erson Davies yn y swydd o Lywydd y De am chwe blynedd. Yn ei anerchiad, ar ol adolygu dygwyddiadau y gwrthryfel, efe a ddywed:—" Er nad yw yr ymdrechfa wedi terfynu ettt), ac er fod y llanw ar hyn o bryd yn ein herbyn, nid yw ein llwyddiant yn y diwedd yn ammheus. Y mae yr amseir gerllaw pan y rhaid i'r Gogledd suddo o dan faich o ddyled sydd yn sicr o wasgu ar genedlaethau dyfodol. Os yw cydsyniad gwledydd tramor a'r gwarchae wedi ein hamddifadu o fasnach dramor, y mae yn pin gwneyd yn gyflym yn hunan-gynnaliol ac annibynol. Y mae yr ymdrechfa bre- senol yn dal perthynas$'g ereill heblaw ni. Y mae agoriad marchnadoedd y De yn dal a perthynas a manteision y byd yn gyffredinol, v rhai, ar ol i annibyniaeth y Taleithiau De- heuol gael ei gydnabod, a gynnygant y

HANESION CYFFREDINOL.