Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

—♦■...■■ EISTEDDFOD ZOAR,…

News
Cite
Share

— ♦ ■ ■■ EISTEDDFOD ZOAR, DIN\S, MEDI, 1861. Beirniad Parch. H. W. HUGHES. Y Feirniadaeth. Mr. Llywydd,—Derbyniwyd i gystadleuaeth yr eisteddfod hon, heblaw adroddiadau a chystadleuon, w, th a deugain o draethodau. caniadau, ac englyn. ion ac y mae yn llawenydd nid bychan genym fynegu fod nifer mawr o hbnynt yn glod i'w hawd- wyr, ac yn anrhydedd i'r gymmydogaeth. Mae 5 o draethodau, 5 o ganiadau, 8 o farwnadau, a 30 o englynion; ac y mae \n llawenydd mawr genym allu myii,igu fod teilyngdod mawr yn per- thyn i lawer o honyntpe na byddai i'r eisteddfod hon wneyd dim mwy o les ni chynnyrchu y eyt- ansoddiadau a dderbyniwyd, byddai yn fvvy na chy ;bwys i'r draul a'r drafferth o'i chynnal. Y mile eisteddfodau yn hen sefydliadau, ac o urddas ac enwogrwydd mawr. Y maent wedi bod yn brif lysoedd ?wtadot a lien ddol yr oes hon, ac wedi cynnal bri Prvdain am oesoedd; ic y mae yn achos o lawenydd neillduol i ddyngarwyr yn gyff- redinol, fod y sefydliad eisteddfodawl yn debvg o gymmeryd ei le unwaith etto yn mysg prif symud. iadau yr oes. Y mae llawer yn cynniwijiir, a gwybodaeth yn ainlhau," a'r eisteddfodau yn cael eu cefnogi yn galonog a gwresog !)ao flaenoriaid y genedl-gan fawrion penaf y deyrnas. Llwydd iddynt. traethodau. Ar yr annltehyrlolrwydd i Ddi/n gael ei Gynnyrchu gan Natur. —Derb.vniwyd pedwar ar yr uuhod. sef yr eiddo Philologos, Descartes, Cristion, a Meddyl- iwr Anwybodus. Y mae y tri blaenaf, set yr eiddo Philologos, Descartes, a Cristion yn ysgrifau cryno, ac ystyried nad ydynt yn adnabod athroniaeth y testun. Gormod o haeriadau sydd ynddynt ar ,I ciestun o fath hwn. Y maeut yn gynnyrchion glew iawn o'r pcth ydynt. Ysgrifau brysiog ac arwynebol, ac yn rhy fyrion o lawer i'w gosod yn y glorian gyda thraethawd Meddyiiwr Anwybodas, yr hwn sydd bron gymmaint a'r tri yn nghyd, ac yn cyn- nwys athroniaeth y testun mor bell ag y mae yn myned, a'r hyn beth nid yw y lleill wedi ond prin cyffwrdd. Mae y traethawd hwn, er ei fanylrwydd a'i feith- der, yn dwyn delw efrydydd ieuanc, canys nid yw yn gallu cerdded ond ychydig heb fod yn llaw rhyw dad athronyddol neu gilydd. Pwne cyntaf y traethawd hwn yw chwilio allan sylfaen bodotaeth ac wedi cael gafael ami, dechreua aoeiladu. Mae Meddyiiwr Anwybodus wedi llafurio yn faith ac yn fanylaidd am elfenau cyntefig defnydd ac ysbryd, neu feddwl, a'u dwyn i oleuni, a'u gosod gerbron i sefyll o'n blaen ar eu penau eu hunain, yn hollol annghydrywiol ac annibynol. Dilyna yr awdwr hwn ddoleriau y gadwyn resvmiadol, gan ddilyn y profion (a priori ac a posteriori; i lawn a chyf- lawn weithiad yn eu cyssylltiad a'r testun. E; dditfyg yw peidio dwyn ei gasgliadau yn ddigon un- iongyrehol i berthynas a phwnc ei draethawd. Mae yn gadael ei ymchwiliadau athronyddol. heb eu cymhwyso. Y mae yn fedrus mewn cyssylitu dolenau y gadwyn resyrniidol a'u gilydd ond y mae yu fynych yn esgeuluso eu cyssytitu a'r testun, a thrwy hyny yn colli ei atnean. y Tybiwn fod yr awdwr wedi goilwng amryw gyf- leusderau gwerthfawr i golli, trwy beidio dwyn cys- sylitiadau y ddadl, yn gystal a'i hanfodolion i sylw. Gallasai yn naturioj, droion, arwain peirianyddiaeth anifeilaidd i mewn. Mae efe wedi profi yn bender; fynol yr anmhosiblrwydd i fater, fel y cyfryw, gyn" nyrchu meddwl; ond nid yw wedi cyffnrdd a," cwestiwn, Pa un a all peirianyddiaeth wneyd hyny • Gosodir pwys mawr ar hyn gan y gwrthwynebwyr w a diau yw ei fod o'r pwys mwjaf, yn enwedig wedi i ddifyniaeth elfenol (transcendental anatomy) gael ei dwyn i mewn. Y mae rhai cCr traethodwyr ereill yn dwyn hyn i sylw, ond nid ydynt yn dangos dim adnabyddiaeth ag athroniaeth y gangen bwvsig hon o'r ddadl. Mae peirianiaeth anifeiliol wedi bod mewn gweith- rediad er ys miloedd o flynyddoedd, ie, efallal, er ys mitoedd o oesoedd, fel y prawf yr olion peirianol a geir yn ngwahanol hanau y bellen ddaearol dichon nad yw yn ormod i ddweyd fod y process hyn wedi bod mewn gweithrediad am filiwyau o oesoedd, ac etto, nid ymddengys ei fod ddim nes i esgor ar allu ymresymol yn awr nag yn y dechreu. Mae yn sicr fod gwahaniaeth dirfawr rhwng gwedd- illion anifeilaidd (fossils) pob liaen a ddarganfyddir a'u gilydd, a bod gwahaniaeth llawn cymmaint rhyngddynt oil a'r anifeiliaid sydd ar wyneb y ddaear yn awr; etto i gyd, nis gellir profi fod dim tebyg i ddadblygiad o uwcfiraddoldeb peirianyddol yn ganfyddadwy. Nid yw peirianiaeth anifeilaidd hyd yma wedi rhoddi yr arwydd lleiaf o reswm ac adfeddyliad, er ei fod yn gweithredu vn ddidor er ys miliynau o flynyddau. A oes rhyw argoel yn rhywle fod y march, yr ycll, a'r ddafad, neu unrhyw anifail arall, yn debyg o ddyfod i siarad ac i ymres- ymu ? Dim mwy nag oedd y foment gyntaf y crewyd hwynt. A ydyw meirch cerbydau Victoria yn gallach na meirch cerbydau Pharaoh ? A ydyw ychain yr oes hon yn gallach nag ychain y cynddi- luwiaid ? A ydyw hyrddod y Dinas yn fwy gwy- bodus nag oedd hyrddod Nebaioth bedair mil o flynyddau yn ol?—Dim. Mewn traethawd ar y fath destun a hwn, dylai Daeareg (Geology), Dansoddiaeth (Physiology), a Difyniaeth (Transcendental Anatomy) gael eu priodol ystyried, a'u heffeithiau eu dwyn i gyssyllt- iad yniarfei-ol hlr pvvne. Pe buasai y wobr am y traethawd goreu ar y testun hwn yn gyfartal i'w bwysigrwydd, ni buasai y goreu o'r rhai a dderbyn- iwyd yn deilwng o honi, o herwydd y pethau a nodwyd ond gan nad ydyw y wobr ond byehan, y mae Meddyiiwr Anwybodus yn deilwng o honi, a rhagor am ei lafur. Hyderwyf y bydd iado ail gyfansoddi ei draethawd cyn ei gyhoeddi, a gwneyd i fyny ei ddiffygion. Traethawd xMeddyliwr An- wybodus yw y gorea. Yr ydys yn cymmeryd y cyfleustra presenol i syiwt, y credwn na ddichon peirianyddiaeth anifeil- iol byth gyrhaedd gallu ymresymgar, a bod y meddylrith ei hun yn wrthun. Mynai amddiffyn- wvr y dyb wrthwynebol ein harwain vn ol idryblith yr athrawiaethau paganaidd, y I'ha: nid oeddynt yn cyfattal annefnyddioldeb yr enaid dynol. Ond ni fynwn ein tywys i'r tryblith astrus hwnw. Os rhaid i'r gwrthddadleuwyr gael myned yn ol dair a phedair mil o flynyddoedd i gaddug Paganiaeth, y a aent hwy, ninnan a ddilynwn yn mlaen yn ngyrfa gwybodaeth. tin harwyddair fydd, Awn rhagom at berffeithrwydd." Rhyfedd y duedd sydd mewn rhai dynion i fyned yn ol i'r hen oesoedd, a Ilusgo dynolryw yn wysg eu cefnau i anialdiroedd didduwiaeth, i rywle allan o olau efengyl, er mwyn cael lion rdd i gyflawnu an3 tfrwythlawn weithredoedd y tywyllwch. Mae dyn;, ion i'w cael a ddywedant mai epaod oedd dynion yn y dechre^aad, ond eu bad o dipyn i beth wedi colli eu cynffonau Peth rhyfedd! mae'n well gan ambeU un fod yn fwnci na bod yn (iristion. Y r ddiau, y mae trueni dyn yn fawr arno Y nesaf.yw Traethawd ar y Manteision Deilliedig oddiwrth yr Ysgolion Brytanaidd (British Schools) a rhwymau neillduol rhieni i wneyd defnydd o honynt.-Un a dde.rhyniwyd ar y testun hwn, sef yr elddo Don Pedro. Mae y traethawd hwn yn agor gyda sylw byr ar ardderchogrwydd y creadur o

0. ELUSENDOD THOMAS HOWELL,…