Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

. Y DDWY FIL A'R DRYSORFA…

News
Cite
Share

Y DDWY FIL A'R DRYSORFA FENTHYCIOL. MR. GOL.Trwy eich caniatad, yr wyf yn cyflwyno ychydig ystyriaethau yn eich colofnau i sylw Bedyddwyr Cymru, er dangos y man. teision anmhrisiadwy a ddeilliai i'r eglwysi oddiwrth drysorfa ar yr egwyddor uchod. Gan fod un hanner o'r drysorfa a benderfyn- wyd arni yn nghwrdd Merthyr i gael ei neill- duo er ffurfio trysorfa er cynnorthwyo yr eg- lwysi i dalu eu dyledion ar yr un egtfyddor a'r Loan Fund ag sydd yn Lloegr,' gallaj y byddai yn lies i'r drysorfa hon rniosodgerbrony cyhoedd yr ennill dirfawr a ddeillia i'r eglwysi ps gellid cael ychydig filoedd i'r drysorfa hon. Yr egwyddor y gweithredir arni gyda'r Loan Fund yw rhoddi benthyg yr arian yn ddilog i'r eglwysi, ar yr ammod eu bod i gael eu talu yn ol yn dalranau (instalments) yn ol deg punt y cant bob blwyddyn am ddeng mlynedd. Gall y rhai sydd yn adnabyddus a chyfrifiaeth weled y manteision deilliedig, ond eu gweithio yn ol compound interest yn ol ten per cent; ond roae ar y cyhoedd angen am gyfrifiaeth mwy syml a dealladwy, yr hyn a amcenir ato yn y Hinellau hyn. Gwnawn ein cyfrifiaeth ar dry- sorfa. ofil o bunnau; ac er mwyn bod yn ddealladwy, edrychwn ar sefyllfa pethau o flwyddyn i flwyddyn. Y flwyddyn gyntaf, rhodder y mil punnoedd yn fenthyg i ddeg o eglwysi, mwy neu lai, ar yr ammod eu bod i'w talu yn ol yn dalranau o ddeg punt ar bob cant. Yn mhen y deng mlynedd, bydd y cyfan wedi eu talu yn ol. Yr ail flwyddyn, derhynir y talranau cyntaf, yr byn ar fil o bunnoedd a gyrhaedda y swm o gant punt. Rhodder benthyg y cant hyn i ryw eglwys arall, a rhwng y ddwy flynedd bydd £ 1,100 wedi eu rboddi yn fenthyg. Y drydedd flwyddyn, derbynir talranau ar ^1,100, yr hyn, yn ol deg punt y cant, a gyr- haedda .£110. Rhodder cant o'r rhai hyn i eglwys etto, gan gadw deg punt mewn llaw, a bydd £ 1,200 wedi eu rhoddi yn fenthyg. Y bedwaredd flwyddyn bydd y talranau yn £ 120, yr hyn at y deg punt oedd mewn llaw a wna j&lJ30. Rhag rhoddi llai na banner cant yn fenthyg, cadwer 930 mewn llaw, a rhodder benthyg £100, a bydd y benthyg oil o'r dechreu yn £ 1,300. Y bummed flwyddyn, talranau £ l 30, mewn Haw er y flwyddyn o'r blaen £30, yr oil £160. Rhodder benthyg £ 150, a bydd deg punt mewn Haw, a £ 1450 wedi ei roddi yn fenthyg o'r dechreu. Y chwechfed flwyddyn, talranau £145, yr hyn at y deg punt mewn llaw er y flwyddyn or blaen a wna £155. Rhodder benthyg £1.50, a bydd y benthyg oil yn X 160,), a £ 5 mewn Ilaw. Y seithfed flwyddyn, talranau £160, yrhyn at y L5 mewn llaw, a wna £165. Rhodder benthyg £ 150, a chadwer XI,5 mewn llaw. Benthyg oil, ft 750. Yr wythfed flwyddyn, talranau £175, yrhyn at y L15 mewn ilaw, a wria ,€190. Rhodder benthyg X150 a bydd y benthyg oil yn L1900, a X40 mewn llaw. Y nawfed flwyddyn, talranau Xi go, yr hyn at y £40 mewn Haw, a wna £230 Rhodder benthyg .€200, gan gadw £30 mewn llaw, a bydd y benthyg oil yn .£2100. Y ddegfed flwyddyn, talran X210, yr hyn at y jS30 mewn Haw, a wna £240, Rhonder benthyg £200, gan gadw 240 mewn llaw, a bydd £2300 wedi eu rhoddi yn fenthyg. Yr unfed flwyddyn ar ddeg, talranau £230, yr hyn at y .£40 mewn llaw, a wna £270. Rhodder benthyg jE250, gan gadw 220 mewn llaw, a byddir wedi rhoddi yn fenthyg o'r dechreu £2550. Gwir y bydd y ddegfed tal- ran ar y fil gyntaf wedi eu derbyn y flwyddyn hon, ond bydd £ 1550 yn aros heb eu cwbl dalu, a chan hyny bydd tairanau y flwyddyn ganlynol yn £ 155. Gwelir bellach v byddir ar vr unfed flwyddyn ar ddeg sef y flwyddyn. y derbynir talran diweddaf y fil a roddwyd al.lan y flwyddyn ij^h°^,(l| yn fenthyg y Swm mawr o £ 2550, wedi cwbl glirio tua mil a hanner o ddyledion capeli a mil o bunnau, a'r mil yn aros fel y berth heb ei difa, yn para yn fendith i'r eglwysi ar y ffordd, yn brysur vn lleihau eu beichiau yn y blynyddoedd dytodol yn ol y cyfartaledd o rhwng £t50 a £ 200 y flwyddyn Meddyliais osod y ffigyran i lawr i ddangos hyn am y deng mlynedd dyfodol, ond rhag cymmeryd gormod o'ch gofod, yr wyf yn attal. Ond nid dyma yr oil a wnelai y cyfryw drysorfa. Arbedai swm anferth o log arian. Ar y mil punnoedd a roddwyd y flwyddyn gyntaf am ddeg mlynedd yn 0195 y cant, ar- bedai 2500 ar y cant a roddwyd yr ail flwyddyn am naw mlynedd, t45 ar gant y drydedd flwyddyn am wyth mlynedJ, £40; ar gant y bedwaredd flwyddyn am saith mlynedd, 235 ar gant a hanner y bummed flwyddyn am chwe blynedd, 945 ar gant a hallner y chwechfed flwyddyn am bum mlynedd, £:i7 a 10& ar gant a banner y seithfed flwyddyn am bedair blynedd, £:30; ar gant a hanner yr wythfed flwyddyn am dair blynedd, 222 tOs ar ddau cant y nawfed flwydrlyn am ddwy flynedd, £ 20; ac ar ddau cant y ddegfed y^gifyd — aWr' cyfri^r y rhai hyn ^>•500 + 45+40 + 35 + 45 + 37 10s.+30+ 22 10s.+ 20-f-10= £ 785. Fel hyn, nid yn unig- bydd v mil punnoedd wedi 0 ddylsdion, ond byddhefyd wedi arbed t785 o log arian mewn deng mlyn- edd o'r amser y rhoddwyd y fil gyntaf allan, ac yn para i arbed pum punt y flwyddvn ar bob cant fydd i maes; ac nl waeth y geiniog a arbedir na'r geiniog *a ennillir." Rhwng talu ac arbed, bydd y mil punnoedd wedi gwasanaethu yr eglwysi i'r swm mawr o jE2345, a bydd y mil punnoedd yn aros yn fenthyg. Bydd yr holl ariaa a roddir yn fenthyg ar ben y cldegfed flw, ddyn yn £2550; bydd £20 mewn Haw, a JE785 olog arian wedi eu barbed. Gwna hyn y swm anferth o £ 3355 fel y lies a wnelai mil o bunnoedd i'r eglwysi afbeny ddegfed flwyddyn. Beth pe byddid yn gallu codi trysorfa o bum mil ? A phaham naall, ac na wna y Bedyddwyr hyn, a'r fath ennill mewn golwg? Pe gwnelid hyn, byddai ein holl ddyledion bodoledig, er cymmaint ydynt, gydag ychydig ymdrecliion cartrefol, wedi eu talu cyn pen ugain mlynedd, a'r pum mil pun- noedd yn aros heb eu difa, i dalu dyledion newydd, ac i adeiladu capeli newydd, neu i ryw ddybenion ereill, er lies yr enwad a he- laethiad teyrnas y Messia. Rhaid tewi y tro hwn, Mr. Gol., rhag difa eich gofod, heb wneuthur un comment pellach^ ond gadael i'r ffigyrau weithio eu IFordaf' Dichon y syna y darllenydd, ac yr ammheua gywirdeb y gyfrifiaeth, pnd pwysed ef yn fanwl cyn ei gondemnio. Byddaf ddiolchgar am i hyn gael ymddangos yny rhifyn dyfodol. Feallai v bydd genyf air etto cyn hir. Yr eiddoch yn gywir, Pontypridd. EDWARD ROBERTS.

ATHROFEYDDY BEDYDDWYR YN SIR…

TRAETHODAU.