Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

TRAETHODAU.

News
Cite
Share

TRAETHODAU. LLITH DYN Y LLEUAD. Gwyl Bartholomew mewn dwy ganrif. Tua chanol yr unfed ganrif ar bumtheg, yr oedd sefyllfa grefyddol Ffrainc yn gynhyrfus ac ansefydlog. Yr oedd y Diwygiad Protes- tanaidd wrth ymweithio rhag ei flaen o Erfurt a Wittemberg, a chael derbyniad amryfaeth mewn gwahanol leoedd, wedi dyfod igyttyrdd- iad ag amgylchiadau yn y wlad hono, y rhai oeddynt i raddau helaeth yn effeithiau yr un egwyddorion ag oeddynt wedi cynnyrchu yr adfywiad yn Germani, ac felly yn ffafriol iawn i dderbyniad cyffredinol a cbalonog o'r gwir- ioneddau mawrion oeddynt yn cyfansoddi ei ysbryd a'i ddylanwad. Yr un egwyddorion ag oeddynt wedi dal i fyny yr Albigensiaid a'r Waldensiaid yn erbyn rhyfelgyrch gythreulig Innocent III. a Simon de Montford yn y ddeu- ddegfed ganrif, er yn nghanol fflamiau yr er- lidigaethau canlynol, oeddynt hefyd wedi bod yn sail gadarn i wroldeb santaidd a phender- oldeb digryn Martin Luther yn ngwyneb gel- yniaeth Rhufain a gwrthymdrechion gallu y tywyllwch. Nid rhyfedd ynte fod Calvin a a Beza wedi derbyn cydymdeimlad cyffredinol yn mhlith disgynyddion y merthyron Wal- densaidd, a bod yr Huguenotiaid (fely gelwid Protestaniaid Ffrainc y pryd hwnw), dan nodded Henry o Navarre,a rhai o brif enwog- ion y deyrnas,wedi dyfod yn ddigon lluosog a dylanwadol i arddelwi eu hawliau cvmdeithasol ac arnddiffyn eu rhyddid crefyddol. Ond peth anhawdd ydyw dyhyspyddu adnoddau erlidigaethus a gormesol yr eglwys Babaidd. Pan fyddo gallu cyhoeddus ac awdurdod lyw- odraethol yn pallu, y mae yn aros fytb ymad- ferthoedd amrywiol celwydd, a dichell, a brad. Felly, er fod y brenin Francis i. wedi myned i ffordd yr holl ddaear, ac o herwydd eiddilwch meddyliol ei feibion, y llywodraeth wirioneddol yn Haw yr hen frenines, yr ormesol Catherine de Medici, etto oblegid fod yr hen Huguenot- iaid mor lluosog a chyfrifol, yr oedd yn rhaid gwisgo gwyneb teg, a defnyddio cynlluniau hudoliaethus, Cyhoeddwyd iddynt tua'r flwyddyn 1750, ryddid i addoli yn ol eu cydwybodau, a hawl i fwynhau eu breintiau gwladwriaethol, ac heb fod yn hir daeth pethau i ymddangos mor heddychol a ded- wydd i hen deuluoedd y dyoddefiadau a'r arteithiau nes y penderfynwyd fod Henry o Navarre, prif noddvdd y.Protestaniaid, i dder- byn llaw un o'r tywysogesau mewn glan bri- odas, ac felly fod i'r hen elyniaeth rhwng yr erlidvvyr a'r erlidiedig gael ei chladdu mewn ebargonant bythol. Pennodwyd fod y sere- moni ddedwydd i gymmeryd lie yn Paris ar ddydd gwyl Bartholomew yn y flwydayn 1752. Erbyn yr adeg hono, gwahoddwyd yn nghyd, i fod yn llygad-dystion o'r dygwyddiad bodd- haol, holl brif ddynion y deyrnas. yn enwedig pleidwyr a phroffeswyry grefydd ddiwygiedig. Dyna adeg gyneus Dyna bigion a goreuon yr Huguenotiaid gortlirymedig, ond galluog a dylanwadol, i gyd yn yrun lIe-i gyd o fewn cyrhaedd-i gyd yn anarfog—i gyd yn gariadus a difeddwi-ddrwg Onid oedd yna gyfle i waredu y lan eglwys o afael ei gelynion ? Onid yw hon yn adeg pan y gellir sicrhau buddugoliaeth yr eglwys Apostolaiad ar ei holl elynion Protestanaidd a Schismaticol Llawer annogaeth ddirgelaidd oedd wedi cael ei rhoddi o Rufain i Catherine a'r Duco Guise i enwogi eu hunain,a sicrhau ffafr dragwyddol y Forwyn Santaidd,a Thywysogyr Apostolion a'r holl seintiau er hyrwyddo eadwedigaeth eu heneidiau, trwy liollol waredu y wlad oddi wrth surdoes "sehismaliciald." Yn awr yw yr adeg gymmeradwy! Rhoddwyd cynlluniau yr eglwys apostolig ar waith. Ac ar hanner y nos ybugwaedd?"—yfathwaedd I Gwaedd oedd yn ddigon i beri i wynebau cythreuliaid welwi! 0 black, black Bartholomew Hun- odd y diwygwyr yn dawel gydallon ragolygon ar ddyfodiad o wynfyd a llnnyddwch ar ol eu maith ddyod'lefiadau. Ni siomwyd eu go- beithion! Erb n dranoeth yr oedd gwaed ugain mil o Huguenotiaid yn oeri a cheulo ar wyneb y tir! Hwythau a gawsant eu g wynfyd !—Ond nid fel yr oeddynt yn lion ddysgwyl am dano y nos o'r blaen. Yn agos i gan ndyneddyn ddiweddarach yr oedd dygwyddiadau mawrion a phwysig yn cymmeryd lie yn Mhiydain. Yr oedd y chwyldroad yn erbyn Siarl I. a goruchafiteth y Senedd, yn nghyd a dienyddiad y brenin di- egwyddor, trawsiatch,dwi, ond anffodus hwnw, wedi rhoddi dyrnod effeithiol i deyrn-ormes a Phabyddiaeth dan hug uehel, eglwysyddiaeth ar yr un pryd. Dan arweiniad meddwl tywys- ogaidd ac athrylith ddihafal Oliver Cromwell, yr oedd agwedd grefyddol y deyrnas, yn gystal a'i chyflwr gwleidiadol, wedi dyfod i wisgo gwedd newydd. Diau fod llawer o an- mherffeithderau yn bod er yr oU, ond y syn- dod yw fod cymmaint o wellhad wedi ei eff- eithio mewn cyn lleied o amser. Yr oedd cewri ar y ddaear y pryd hwnw," ac fel y syl- wyd, cewri yn ofni Duw oeddynt hefyd." Yn sefyllfa grefyddol y wlad hon, ni allasai dadgyssylltiad Harri vm. wneyd un eyfnew- idiad gwirioneddol-mewn gwirionedd yr oedd yr amgylehiad hwnw yn un politicaidd yn hytrach na chrefyddol. Ond oddiar y canrif- oedd cyntaf, pan yr oedd yCuldeaid yn enwog ar greigiau Icolmkil yn Scotland, a Bangor Iscoed yn anfon allan genadwyr i efengyleiddio y byd, yr oedd olvniaeth braidd ddidor o gre- fyddwyr wedi bod yma, y i-bai, ereuhollgam- syniadau a'u chfeiliornadau oeddynt yn dys- taw ddymuno ufyddhau i Dduw yn hytrach nag i ddynion. Yn y bedwerydd ganrif ar ddeg, rhoddwyd cyfeiriad, ac adgyfnerthiad, a chorffoliad i grefyddoldeb y rhai oeddynt yn gwir ddymuno gwasanaeth Duw wrth ei fodd," trwy athrylith, a dysgeidiaeth, a duwiol- deb Wickliffe. Oddiar ei amser ef y mae yn y deyrnas hon ddwy blaid grefyddol fawr-ei olynwyr ef yn gwneyd i. fyny y rhai sydd yn sefyll dros hawliau Crist yn ei Eglwys yn erbyn traisfeddiant pob gallu dynol ac allanol, a phlaid y gwrthwynebwyr.y rhai a amddiffyn- ant lywodraeth ddynol o'r eglwys-yn mherson y Pab hyd amser Harri viii. ac yn mherson y Brenin oddiar yr amser y truckiwyd pen yr eglwys, hyd yn bresenol. Yr oedd Cranmer, Latimer, Hooper, a'r hen ddiwygwyr, wedi bod mewn ysbryd duwiolfrydig a difrifol yn ceisio puro ac iachau yr hen sefydliad crefyddol, ond gan nad oeddynt hwy a'u canlynwyr etto wedi dod i ddeall ysbrydolrwydd a gwir lyw- odraeth yr eglwys, ac am fod y rhai oeddynt ag awdurdod yn eu dwylaw, ac yn cymmeryd arnynt fod amddiffynwyr yr eglwys yn meddu ar natur drahausfalch, ormesol, a phen- derfynol, gorfu arnynt ynfvnych, wrth ym- drechu cadw y canologrwydd priodol rhwng cefnogwyr arferion pabyddol a'r annghydffurf- wyr eithafol, arddangos ansefydlogrwydd ac anwadalwch annymunol a niweidiol. Ond na fydded ond anrhydedd fythol i goffadwriaeth yr enwogion hyny Hawdd ywyn awr arbed eu diffygion, pan mae wedi myned yn ddydd; ond tra yr oedd hi ond dechreu gwawrio," pwy ond hwy eu huoain oedd yn feddiannol ar olwg ddigon clir i weled cyn belled ag y gwnaethant hwy ? Darfu i rag-rith a Phariseaeth Slams i., yn nghyd a hunanoldeb, a gormes, a chelwydd ei fab Siarl I., ae ystrywiau dichell- gar y dyhirod anfad oeddynt yn eu ham- gylchynu. ddwyn sefyllfa rhyddid gwladol a chrefyddol y deyrnas i'r fath gyfwng o berygl ofnadwy a brawychus. nad oedd un ffordcl i'w gwaredu ond trwy chwyldroadybobl a chleddyf Cromwell. Dan ddylanwad iachusol a chryf- haol hwnw, darfu i'r genedl symud llawer iawn yn mlaen ar ei gyrfa galed tuag at ryddid ac annibyniaeth. Ar fy 01 i y daw y diluw," meddai Matternick; gallasai Cromwell ddweyd yr un peth gyda mwy o wirionedd. Pan fu efe farw, ymollyngodd y genedl oedd wedi bod yn ymddiried ) n ei fraich gadarn a'i enaid mawr ef, i sefyllfa o ddyryswch a diamad- ferthedd drachefn. Ond yn ystod ei ddydd dysglaer, yr oedd cymmeriadau byth-enwog wedi cael chwareu teg i ymffurfio ac ymadfeddu. Er mor rhyddfrydig oedd llywodraeth Crom- well, y mae yn amlwg fod dylanwad anunion- gyrchol oddiwrth ei grefydd bersonol ef ^'i gynghorwyr wedi gweithredu ar sefyllfa gre- fyddol y deyrnas. A gadael allan o ystyriaeth bob rhesymau uwch, yr oedd hyny yn ddiam- mheu i raddau helaeth yn peri fod Puritaniaeth mor uehel ac enwog yn y deyrnas ar ddiwedd ei yrfa ef. Yr oecld bron yr oil, o leiaf y mwyafrif o lawer, o ddynion mwyaf y deyrnas yu Buritaniaid. Cofier nad ydvm yn siarad ond am yr Aristocracy of mind, wrth ddweyd hyn. Dynion oedd y rhai hyn nad oedd y byd yn deilwng o honynt, a dynion oedd y byd o ganlyniad yn barod i'w herlid a'u diraddio. Yn 1660, adferwyd Charles II. i'r orsedd a lenwid ac a ddianrhydeddwyd gan ei dad. Anfad-ddyn oedd Charles, cwbl ymroddedig i gyflawnu pob pechod yn un-chwant, a'r un cymmeriad oedd gan ei gyfeillion. Anhyfryd iawn i'r cyfryw ddynion oedd yr hen dduw- iolion Puritanaidd. Penderfynwyd ar yr Act of Uniformity, er cael gwared o honvnt. Gwyddid fod y dynion hyn yn rhy oleu i bleidio egwydd- orion Pabyddol, ac yn rhy aydwybodol i dyngu yn gross i'w crediniaeth, Ffurfiwyd y Llyfr Gweddi Cyffredin o dan yr ystyriaethau hyn, a rhoddwyd cyhoeddiad allan fod i bob un, er mwynhau bywiolaeth eglwysig, wneyd llw cy- hoeddus ryw bryd cyn dydd Bartholomew 1682, ei fod yn credu o'i galon yr oil a gyn- nwysir yn y Llyfr Gweddi Cytfredin," &c. Dyma ddydd Bartholomew dywyll a du un- waith etto Dacw fwy na dwy fit o'r dynion galluocaf, dysgedicaf, a duwiolafy mae genym braidd hanes am danynt-pob un ar ei ben ei hun,heb yn wybod i'w gilydd-ar yr un pryd, yn rhoddi i fyny yr oil a feddent yn y byd

,',..CAPELI MEWN PERYGL!!