Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
TY YR ARGLWYDDI.I
News
Cite
Share
TY YR ARGLWYDDI. Chwtf.lh.—Rhoddodd larll Derby rybydd y byddai iddo, yn absenoldeb Ardalydd Normandy, ofyn cwestiwn i'r Ysgrfenydd Tramor, gyda go)"g ar broclamasiwn a gyhoeddasid yn newyddia iuron Naples. Iarll Russell.-A fydd ei arglwyddiaeth gystal a hysbysu i mi yn mha le y ceir y proclamasiwn ? Iarll Derby.—Derbyniais ef o newyddiadur Ital- aidd. Y mae hefyd mewn newyddiadur Ffrengig. Yr ydwyf yn credu nad oes un ammheuaeth am y ffaith. Bydd yn dda genyf ei aufon i'w arglwydd- iaeth cyn dydd Iau. Hysbysa y proclamasiwn na chaiff un person roddi ei draed i lawr mewn dos- parth pennodol ar ol diwrnod pennodol; fod pob t £ bwthyn, ac adeilad o bob math, i gael eu gwneyd yn gydwastad a'r llawr acyrymddygir at breswyl- wyr pob amaethdy y ceir mwy na digon o ymborth am ddiwrnod, fel gwrthryfelwyr, ac y sathrir hwynt yn ddioed. Iarll Russell.-Ni dderbyniais un hysbysrwydd oddiwrth weinidog ei Mawrbydi yn Turin, nac ychwaith oddiwrth ein consul yn Naples, a byddaf yn ddiolchgar i'w arglwyddiaeth am gopi o'r pro. clamasiwn. Chwef. 27.-Dywedodd Arglwydd Derby ei fod wedi synu wrth glywed yr adroddiad a wnaed gan Iarll Russell dydd Mawrth, i'r pwrpas nad oedd ef wedi clywed y proclamasiwn a anfonasid allan gan yr awdurdodau Italaidd yn nhiriogaeth Naples. Yr oedd efe (Arglwydd Derby) wedi gweled y newydd- iadur Italaidd oedd yn ei gynnwys, ac yr oedd pob lie i gredu fod yr ysgrif yn awdurdodedig. Cytunai larit Russell ac Arglwydd Derby nas gallai dim fod yn fwy creulawn nag anfon allan y cyfryw broclamasiwn, yr hwn oedd yn condemnio y diniwed i ganlyn yr euog. Ond nid oedd ganddo etto un sicrwydd fod y cyhoeddiad yn un awdurdod- edig. Yr oedd ef wedi anfon bryseb at Syr James Hudson, ond nid oedd wedi derbyn atebiad. Chwef. 28.—Dywedodd Iarll Russell ei fod yn ewyllysio gwneuthur eglurhad ar y proclamasiwn yr oedd Iarll Derby wedi cyteirio ato y nos o'r blaen. Yr oedd y proclamasiwn wedi ei anfon allan gan y swyddog oedd yn llywyddu yn y dosparthheb yn wybod i'w uwch-swyddogion, y rhai oeddynt wedi gorchymyn ar unwaith iddo gael ei alw yn ol. Dywedodd Iarll Derby fod atebiad ei arglwydd- iaeth yn hollol foddhaoi. Mawrth 3.—Cynnygiodd Arglwydd Cranworth ail ddarlleniad yr ysgrif er hyrwydrio Trosglwydd- iad Tir, ac a eglurodd yr amcan a fwriedid ei gyr- haedd. Wedi i ereill siarad ar y mater, darllenwyd yr ysgrif. Mawrth 4. — Cyflwynodd Esgob Rhydychain ddeisebau yn erbyn y Code newydd ar Addysg, a llefarodd yn erbyn y cyfnewidiadau a fwriedid eu gwneyd. Amddiffynodd Iarll Granville cwrs y Llywodractb. Wedi i amryw ereill siarad, rhodd- wyd heibio y pwnc. Mawrth 6.—Ychydig amser fu eu Harglwydd- iaethau yn eistedd heddyw. Gwthiwyd amryw ysgrifau gam yn tnhellach yn mlaen, ac yna gohir- ioddyTy. Mawrth 7. — Rhoddodd Ardalydd Normanby rybydd, y byddai iddo dydd Gwener nesaf, alw sylw y TO atyr erlidigaeth yn Turin. Cynnygiai Argl. Lyttleton gyfres o benderfyn- iadau o berthynas i'r Code newydd ond wedi rhai sylwadau oddiwrth Iarll Granville, ac Argl. Belper, tynodd hwynt yn ol.
TY Y CYFFREDIN.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN. Chwef. 25.—Rhoddodd Mr. Walpole rybydd o'i twriad i ddwyn yn mlaen ei gynnygiad ar y Code newydd, ar ddydd Mawrth, y 25ain o Fawrth. Rhoddodd Mr. Horsfall rybydd y byddai iddo, ar ddydd Mawrth, yr lleg o Fawrth, brofi fod sefyllfa bresenol Cyfreithiau y Gwledydd, cyn belled ag y mae yn dal perthynas ag iawnderau pleidiau mewn rhyfel a gwledydd canolog, yn aneglur ac yn an- foddhaol. Rhoddwyd caniatad i Syr (i. Grey i ddwyn ysgrif i mewn i godi y taliadau i dystion mewn erlyniadau troseddwyr. Chwef. 26.—Cariwyd y trydydd darlleniad o ysgrif Mr. Hadfield i ddileu y datganiad wrth gym- meryd swyddi gwladol trwy fwyafrif o 13. Dyma yr ysgrif ryddfrydig gyntaf a basiwyd yn yr eistedd- iad presenol. Collwyd ysgrif Mr. Collier gyda golwg ar gludiad etholwyr gan fwyafrif o 30. Y Code Newydd. Chwef. 27.—Cwynai Mr. Ayrton o herwydd y cwrs y bwriadai y Llywodraeth ei fabwysiadu gyda golwg ar y Code newydd. Ni chynnygid gwneyd dim ond gofyn opiniwn y T' mewn pwyllgor pan y gofynent am y bleidlais at addysg; ond yn ol rheolau y gweithrediadau mewn pwyllgorau arianol, attelid aelodau anrhydeddus rhag cynnyg awgrym- iadau a dadleu manylion y cynllun. Ewyllysiai ofyn a foddlonai y llywodraeth i gynnyg Mr. Wal- pole i ystyried y Code newydd mewn pwyllgor o'r holl D^ ? Os gwnai, ewylUsiai ofyn hefyd i'r boneddwr hwnw a osodai efe ei benderfyniadau ar y bwrdd ? Gwrthdystiai Syr G. Grey yn erbyn y ewrs a fabwysiadwyd gan yr aelod anrhydeddus. Nid oedd y Llywodraeth yn barod i ddweyd pa beth oedd ei barn gyda golwg ar benderfyniadau Mr. Waipole, hyd nes y caent wybod eu tuedd a'u nodwedd. Gofynodd Mr. Bernal Osborne i Mr, Walpele bennodi amser i osod ei benderfyniadau ar y bwrdd. Dywedodd Mr. Walpole ei fod wedi glynu yn ffyddlawn wrth arferiad y Tg. Nid oedd efe yn ewyllysio gosod un cynllun pennodol o'i eiddo ei hun gerbron, ond rhoddi cyfleusdra i'r Tg i ddadleu holl fanylion y pwnc. Dywedodd Mr. Lowe y dylai y Llywodraeth gael hysbysrwydd yn nghylch penderfyniadau Mr. Walpole. Nid oedd Mr. Disraeli yn deall y cytunai y Llywodraeth a'r cynnygiad i ymffurfio yn bwyllgor. Os gwnaent, dylent gael digon o rybydd am y penderfyniadau ac yr oedd efe yn gobeittuo na ddadleuid y cwestiwn mewn ysbryd plaid. Ar ol rhai sylwadau gan Mr. Cardwell a Syr J. Packington, Dywedodd Mr. Walpole, os cytunai y Llywod- raeth i ymffurfio yn bwyllgor, y rhoddai efe iddynt bythefnos o rybydd am ei benderfyniadau. Os na wnaent, bwriadai gynnyg ar y 25ain o Fawrth fod i'r T^ ymffurfio yn bwyllgor ar ddiwrnod dyfodol. Ar ol ychydig sylwadau gan Mr. Bankes Stan- hope ac Arglwydd J. Manners, Dywedcdd Syr G. C. Lewis y derbyniai y Llyw. odraeth y cwrs gwreiddiol a fabwysiadwyd gan Mr. Walpole. Chwef. 28.—Rhoddodd Mr. Gregory rybydd y byddai iddo dydd Gwener nesaf alw sylw y Tp at warchae porthladdoedd Talaethau Deheuol Amer. ica. Gofynodd Mr. Wylde i Brif Arglwydd y Dryserfa a oedd Llywodraeth ei Mawrhydi wedi gohebu a Llywodraeth yr Unol Dalaethau ar y cwestiwn o gymmeryd y llynges Americanaidd o lenydd Alirica ac a oedd rhyw fesurau wedi eu harfer erdarostwng caethfasnach. Dywedodd Arglwydd Palmerston fod y gwiblong- au Americanaidd wedi eu cymmeryd ymaith o len- ydd Affrica, ac yr oeddid wedi gohebu a Llywod- raeth yr Unol Dalaethau ar y mater; ond dywedid
HANESION CYFFREDINOL.
News
Cite
Share
ganol yr haf nesaf. Cyfrifir fod y cyllid oddeutu £ 500 yn y flwyddyn, gyda thy a gardd. Y FEIBL GYMDEITHAS FKYTANAIDD A TilDA- MOR.—Y mae y gymdeithas hon wedi pleidleisio rhodd o f2,000 i Feibl Gymdeithas America. Y mae hon yn weithred ragorol a phrydlawn o gyd- ymdeimlad brawdol, ac o duedd uniongyrchol i ddangos i'r Talaethau Gogleddol fod Cristionogion Prydain yn eydymdeimlo & hwynt fel cydweithwyr yn achos Cristionogaeth. Y FREEMAN."—Newyddiadur wythnosol per- thynol i'r Bedyddwyr yw yr uchod. Sefydlwyd ef tua saith mlynedd yn ol, ac yirddengys fod cyf- lawnder ei newyddion, ei drafodaeth alluog a materion yr enwad, a'i ysbryd rhyddfrydig, yn rhoddi boddlonrwydd cyffredinol i'w ddarllenwyr. Mewn eyfarfod o foneddigion a gynnaliwyd yn ddi- weddar yn yr ystafell berthynol i Gymdeithas Gen- adol y Bedyddwyr yn Llundain, datganwyd cym- meradwyaeth wresog i'r egwyddorion ar ba rai y dygir ef yn mlaen, a phasiwyd penderfyniad yn erfyn ar weinidogion, diaconiaid, ac aelodau eg- lwysi y Bedjddwyr wneyd ymdrech egniol yn ystod y flwyddyn bresenol i gynnyddu ei gylchrediad. DARGANFYDDIAD HEN GOPI O'R TESTAMENT NEWYBD—Mewn cyfarfod cenadol a gynnaliwyd yn ddiweddar yn Lyndon (America), dangosodd Dr. Perkins gopi o'r Testament Newydd a ddar. ganfyddodd efe yn Persia, yr hwn oedd yn 700 mlwydd oed. Yr oedd wedi ei ysgrifenu yn yrhen Syriaeg (yr un ag a lefarid gan lean Grist pan ar y ddaear) ar femrwn, gyda chorsen. Wrth gwrs, yr oedd y gyfrol yn fawr, er nad mor fawr ag y tyb- iasid y buasai Testament wedi ei wneuthur yn y dull hwnw. Dywedodd Dr. Perkins fod y Testa- ment Newydd hwn yn mhob peth pwysig yr un a'r Gair sydd genym ni yn awr, yr hyn sydd yn brawf hynOd o ddilysrwydd ein Beibl. TVSTIOLAETH 0 DU ARLADENAU DR. LOCOCK. -G weinidog enwog gyda'r Wesleyaid, sef y Parch. W. H. Evans, yn ysgrifenu Bywgraffiad ei dad yn yr Eurgraum Wesleyaidd am Rhagfyr, 1859, a ddywed Blinid ef yn fawr gan y fogfa a phes- wch poenllyd eithr drwy ddefnyddio Arladenau Dr. Locock, symudwyd y rhai hyn, fel v galluogwyd ef i fwynhau esmwythdra yn ei ddyddiau diweddaf, yn rhydd oddiwrth y peswch sydd mor gyffredin yn blino hen weinidogion." CYLCHBE!StAU.—CynnaHwyd eyfarfod hynod 0 ysmala, ond dyddorol, yn ddiweddar, gan fonedd- igesau Tyburnia, yn Llundain. Dyben y cyfarfod oedd sefydtu cymdeithes er dileu yr arferiad o wisgo crinolines, sef y cylcbbeisiau anferth sydd yn y ffasiwn yn awr. Er fod y cyfarfod wedi ei alw yn nghyd gan foneddigesau oedd yn symud mewn cylch uchel, a bod ganddynt foneddiges fel ysgrif- enydd, etto, llywyddid y cyfarfod gan foneddwr, yr hwn a ddywedai yn hyf fod y ffasiwn bresenol o wisgo cylchbeisiau yn flinbeth ac yn gasbeth i gymdeithas yn gyffredinol, yn un peryglus i'r sawl oedd yn eu gwisgo, ac yn un costfawr befyd. Wedi dyfynu geiriau Arglwydd Palmerston, ac awdur- dodau uchel ereill, llongyfarchai y cadeirydd y cyf- arfod ar bresenoldeb cynnifer o foneddigesau wedi ymgasglu i'r dyben o gundemnio yr arferiad ffol. Anerchwyd y eyfarfod gan yr ysgrifenyddes ac amryw foneddigesau ereill, y rhai a ddangosent y perygi mawr o wisgo cylchbeisiau, yn enwedig oddiwrth dan, a'r annghyfleustra yr oeddynt yn ei achosi i'r rhai a'u gwisgent; ond cafwyd un fon- eddiges ieuanc yno i amddiffyn ei chrinoline, yr hon a ddywedai y gellid eu cael yn fire-proof yn awr, a'u bod yn cael eu gwneyd yn ysgafnach ac yn fwy cyfleus. O'r diwedd, penderfynwyd fod arfer- iad cylchbeisiau yn anngbyfleus, yn ddirmygus, ac yn dra pberyglus ac y dylid arfer moddion i osod y ffeithiau hyn gerbron y cyhoedd, er mwyn diddymu y ffieidd-beth. Ffurfiwyd cymdeithas dan yr enw Anti-Crinoline Society," i'r perwyl byny, ac yna gohiriwyd y cyfarfod,