Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
PRIODAS. Chwef. 28ain, yn Nghapet y Methodistiaid Calfinaidd, Abergele, gan y Parch. J. H. James, Llanddulais, yn mhre- senoldeh Mr. T Owen, cofrestrydd, Mr. Kyffin Roberti a Miss Mary Roberts, merch y Parch. J. Roberts, Llangerniw, y ddau o Langerniw. MARWOLAETH. Chwef. 25ain, Thomas, mab ieuengaf Mr. Ebenezar a Keturah Griffiths, Eisteddfa, plwyf Llangwnwr, yn bunt mlwydd oed.
HANESION CARTREFOL.
News
Cite
Share
HANESION CARTREFOL. GOHBBIAETH ooniWRTir MR. D. T. JONES.— II Mawrth 4, 1862.—Anwvl Frawd,-Wele fi yn ol eichdymumadynanfbnichwiwybodaeth pa fodd y codwyd fi i bregethu wel, ar dir edifeirwch o'm bai; ac y mae y bai wedi ei wella. Yr wyf wedi cael ar ddeall fod rbyw un wedi dweyd wrthych fy mod wedi mypnd a llythyr i America ag enw Mr. Price, Aberdar, wrth y llythyr; y mae bvny yn anwiredd—nid oedd genyf yr un llythyr nac enw. Yr ydych vn gofyn a j'dwyf yn gwybod am lythyrac enw William Evans, Aberdar, wrtho; nis gwn ddim am dano, mwy nag y gwyr y twrch daear am newidiad y lIoer. Dvnajy gwir- ionedd i chwi, Yr eiddoch yn gywir, D. T. JONES. New York, America.[Ar eglwys Mouotainash oedii y bai i gyd, meddai ein cyfaill yn ei lythyr cyntaf atom; ond yn awr, mae wedi ei adferyd ar ei edifeir- wch am ei fai" ei hun. Nid ydym yn galln cyssoni petbau ac amgykhiadau y cyfaill hwn o gwbl. Beth bynag, dyna ei ateb i'n gofyniadau o flaen y cyhoedd— a ydynt yn dderbyniol nen beidio, nis gwyddom. Gallem ni feddwl fod ei ateb yn un cloff iawn.—Goi..] YSTALYFERA.— Dymunaf, trwy gyfrwng S!!RE\ CYMRU, dalu y diolchgarwch gwresocaf i'm cydwejth- wyr a'm cymmydogion yn y lie uchod am eu cvdym- demilad amiyny brofedigaethchwerwa ddaeth i'm cyf- arfod yn ddiweddar. Mae cystuddiau a marvvolaetliau wedi ymweled a'rn teulu yn ystod yr ychydig fisoedd sydd wedi myned heibio, nes oeddwn wedi fy llethu Ran amgylchiadan bydol i anialwch oorslyd anobaith. Cymmerodd Mr. Owen Francis ar ei galon i fyned &'m hachos o flaen fy nghyd-weithwyr, a myned o arogylch i ofyn eu caredigrwydd i'm cynnorthwyo i ryddhau o'r cynwr annedwydd ag yr oeddwn wedi syrthio iddo. Yr ydwyf yn diolch yn barchus i Mr. Francis am ei dra- ffertb, ac i'm cyfeiilion oil am eu caredigrwydd yn cvf- ranu morewyllysgar.—WILLIAM JAMES, YStalVera.
HANESION CREFYDDQL.
News
Cite
Share
HANESION CREFYDDQL. GWLEDD DE.—Cynnaliwyd gwledd de yn Login ar y 17eg 0 Chwefror, pryd y cyfranogodd yn agos i ddan cant o'r danteithion, ar draul gwirfoddolion yr ardal, a rhoddodd Madam Powell, Maesgwynne, deisen ddanteithfawr ato. Yr oedd y cyfan wedi ei barotoi yn gyflawn erbyn prydnawn y dydd crybwylledig. Dyben y wledd hon oedd talu plant yr ysgol am eu llafur a'u hymdrech, ac befyd fel y byddai mwy ° awydd mewn rhai ereill i ddod iddi. Rhwng dau a thri o'r gloch y prydnawn, dechreuodd y gweinyddwyr alw ar btant yr y«g°'i gael te, yn^^ nghyd a bara brith danteitbiol ac ychydig o deisen frau Madam Powell ar y diwedd. Gwasanaethwyd yn ardderchoggan wragedd a meiched y lie, ac wedi i bawb gyfranu o'r pethan uchod, gwnaeth yr ysgol ei hymddangosiad ar yr oriel, nryd yr oedd y llawr wedi ei orlenwi gan wrandawwyr, ac wedi i'r hybarch weinidog ddarllen a gweddio, galwyd ar E. Thomas i adrodd "Cyagn mewn addoliad." "Ym- ddydan yn nghylch myned i'r ewrdd ar foreu Sabboth," gan A. Davies, M. Davies, ac E. Thomas. Yna ad- roddwyd dernyn gan Ann Evans. Yna "Dadl y Plant," gan E. James, W. Lewis, G. Thomas, D. Davies, a P. Davies. Yna, "Gwraig y dafarn a gwraig y meddwyn," gan P. Thomas, M. James, a J. Ihomas. Yna canwyd Bedd y dyn tlnwd," gan M. Mathias E, Mathias, a M. Davies, yn cael eu harwain gan I. E. James. Yna''Dadl yn nghylch yr ysgol Sul, gan W. Thomas a D. Evans. Yna '« Belsassar a Daniel," gan B. Davies a T. James. Yna dernyn gaii J. Morris. "Timotheus Bach," gan E. James, L..James, a Afargaret Phillips. Yna canwyd eilwaith Beth sydd hardd," gan M. Thomas ac M. Davies, yn cael eu harwain gan T. E. James. Yna •« Dadl arall ar yr ysgol Sabbothol,gan Hees Davies a William Edwards, a gorphenwyd ttwy adrodd y "Ddadl Hyfryd." gan B. Thomas a W. Gibbon. Diweddwyd y cyfarfod hwn trwy gann Bethlehem, a phregeth bwr- pasol ar yr achlysur gan ein gweiuidog, D. Davies, sef ar yr "Ysgol Sabbothol," oddiar Selm 34. n, mewn modd doniol ac athrylithgar iawn ao wedi canu yr Hen Ganfed mewn modd soniarus, aeth pawb adref wedi cael eu mawr foddloni gan gyflawniadau'r pryd- nllwn.W. EDWARDS. CAERSALEM, YSTALYFE R A.- Sabbath a'r Lion, Mawrth 2il a'r 3ydd, cynnaliodd y Bedyddwyr yma eu cyfarfod blynyddol, pryd y pregethodd y Parchediaion J. Emlyn Jones. A.C., Caerdydd R. Richards, Docks, Caerdydd T. E. James, Glynnedd a Charles Wil- liams Soar. Casglwyd yma yn dda at ddileu rhan o'r ddyled arosedig ar y capel. Da ",enym am yr undeb a'r cydgordiad a ffyna rhwng y ddwy eglwys Fedyddiedig yma o dan ofal gweinidogaethol Mr. Williams a Mr. Ed wards.-Go U EBVDD. GWEDDI HYNOD.—Dygwyddodd i mi, J. JoMS, cTlfi? j. addo1^ y Trefnyddion Calfinaidd un boreu Sabboth yn ddiweddar, pryd yr oedd y brodyr yn cynnal cwrdd gweddi. Yr oedd un o'r brodyr oedd yn cynnal y cyfarfod wedi bod yn lied wael er ys mis yn ol, ac yn ystod yr amser y bu yn wael aeth ystori allan i'r wlad ei fod ef (E. Jones), yn myned i briodi yn lied fuan; ond yr oedd y priodi yma yn mhell o feddwl E. Jones. Modd bynag, y weddi oedd fel y canlyn :-Arglwydd mawr, mae rhywbeth yn fy nghnawd i er's dros fis yn awr yn fy rhwystro i ddyfod i dy d £ i'th addoli, ond diolch i ti, dyma fi wedi cael dyfod i dy dy linwaith etto; ac hefyd, Arglwydd mawr, maent yn dweyd fy mod am fyned i briodi, ond celwydd i gyd ydy o. Ar- glwydd mawr, 'dydw i ddim am briodi efo neb ond efo'ch di.—J.J., Godreu'r Grug. DINBYCH,—Cyfarfod cenadol ac anrhegu gwein- idog.-Nos Lun, y 24ain. o'r mis diweddaf,cynnaliwyd cyfarfod cenadol yn nghapet y Bedyddwyr yn y dref hon, pryd y pregethodd y Parchn. Evan Jones, Rnthin, a John Jones, Pandy. Wedi i'r brodyr orphen siarad am y genadaeth, a chymhf-H y bobl i gyfranu tuag ati, aethwyd at orchwyl arall, ac er mwyn cyflawnu y gorchwyl mewn trefn, cynnygiwyd ac eiliwyd Mr. R. Foulkes, draper, i fod yn gadeirydd. Wedi i'r cad- eirydd wneuthur ychydig sylwadau pwrpasol i'r am- gylchiad, efe a gyflwynodd y swm o X12 yn anrheg i'r Parch. R. Prichard. Diolchodd Mr. Prichard mewn modd caredig a theimlad wy i'r cyfeillion ag oedd wedi dangos eu ttimiadau da tuag ato yn ei hen ddyddiau. Y mae gwobrwyo teilyngdod yn ddynola Christionogol, ac y mae yn dda genym fod pobl Dinbychyn creduhyn, ac yn gweithredu yn ol eu cred. Mae ymdrechion Mr. Prichard er pan y mae yn Ninbych, mewn casglu tuag at dalu dyled y capel, 'a chyda phob rhan arall o achoayG wared wr mawr, wedi bod yn helaeth, nes yr pedd y brawd yn holiol deilwng o'r cydym- deimlad a'r parch a ddangoaodd ei gyfeillion trwy ei an- rbegu. Mae yn dda genym weled fod Mr. Prichard mor barchus a detnyddiol yn ei hen ddyddiau yn y dref He y cafodd ei eni a'i fagu. Yr Arglwydd a roddo iddo lawer o flynyddoedd etto i wasanaethu pobl garedig Oinbych, ac a roddo iddo lawer o gysur a dedwyddwch yn ei hen ddyddiau. Cynnygiodd y Parch. E. Jones fod diolchgarwch y cyfarfod i gael ei roddi i Mr. Foulkes, ac ereill oedd wedi bod yn ymdrechu gwneu- thur y dysteb. Eiliodd Mr. Prichard y cynnygiad, a therfynwyd y cyfariod trwy weddi gan y Parch. John Jones. BRYNTROEDGAM.—Dydd Llun, y 24ain o'r cyn* fis, cynnaliwyd cyfarfod cystadleuol am 2 ac am 8 o,r gloch yn Nghapel y Bedyddwyr, pan y cafwyd cynnull" iad lluosog, cystadleuaetli fywiog, ae arwyddion fod pawb yn yfed a derbyn ysbryd llenyddol yn helaeth yr adroddwyr, hwythau yn deall eu dyledswvdd. Mae yn dda genyf hysbysu darllenwyr SEREN CYMRU, yr oedd yno gystal offerynwyr concertina ag a glywais 1 erioed. 0 I yr oeddent yn swynol. Hefyd, cawsom yr hytrydwch o wrandaw gwahanol feirdd yn traddodi eu hanerchiadau barddonol a difyr a dy wedaf finnau, mawrtwyddiddynt.—GwALtWR GWYLLT. ORDEtNiAD GVVEIMDOG.—Cynnaliwyd cyfarfod nos Fa wrth a dydd Mercher, Mawrth 4edd a'r 5ed, yn Beulah, Mynvvy, er neillduo Mr. J. G. Davies, myfyr- iwr o Athrofa llwlffordd, i gyflawn waith y weinidog- aeth yn Beulah. Y noson gyntaf, dechreuwyd. trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. S. Williams, Nanty- glo; aphregethodd y Parchn. R. Johns, Llanwennrth, P8W1U W0VVL.A> Amddeg, dranoeth, dechreu- odd y Parch. M. Morgans, Trinant; a phregethodd y
AMERICA.
News
Cite
Share
Maent wedi ei feio am gydnabod y South fel Belligerents; ond heb wneyd hyn, nid oedd modd cydnabod y Blockade, yr hyn oedd o lawer fwy o bwys i'r Gogledd. Heblaw hyn, onid yw y Gogledd o'r dechreu wedi eu cydnabod fel Belligerents, trwyymddwyn at y carcharorion fel carcharorion rhyfel, ac nid fel teyrnfradwyr. Paham ynte y con- demnir ni am wneyd yr un peth ag sydd wedi ei wneyd o'r cychwyniad gan Lywydd America ei bun ? Mae bai arall ar Loegr cydnabod y Privateers. Yna dylid adgofio y peth ag sydd yn dra hysbys i'r hanesydd -fad Lloegr er's blynyddau wedi ym- drechu yn mbob modd i gael cvfraith rhwnfg y gwledydd i gondemnio Privateers fel Pirates. Y tro diweddaf Ilwyddodd i gael pob gallu yn fbddlon ond America yn nghyn-1 nadledd Paris, yn 1856; ond syrthiodd y cwbl i'r llawr, trwy i America wrthod rhoddi fyny d hawl i roddi Letters of Marque, ac felly cren y llwyth nffernol a adnabyddir wrth yr enw Priveteers. Nid gonest yn awr yw ein beio ni am beidio gwneyd yr hyn y rhwystrwyd ni gan America ei hun. Achos y Trent etto sydd yn destun i bar- dduo Lloegr; ond yma mae y papyrau swyddogol o flaen y byd, a gallwn adael Lloegr yn llaw Mr. Seward ei bun ar y mater hwn. Mae ef wedi cyfiawnhau Lloegr ya ei esboniad o'r gyfraith, ac yn ei hawliau yn yr achos. Yn wir, er fod ein gweinyddiaeth ni wedi bod yn hollol ddi. flrwyth gartref am y tair blynedd diweddaf, nid oes genym ddim i ddiolch am dano, ond llawer i rwgnach o'i herwydd; ond yn Itali ac America maent wedi ymddwyn yn y fath fodd, fel pe byddai y pwnc yn cael ei roddi i bleidlais yfory, byddai 999 o bob l,000yn sicr o'i chymmeradwyo. Yrydymni yn gwybod y gallem fod yn fwy poblogaidd gyda rhai dynion pe darparem erthyglaunwydwyllt, gwrth-Bryd- einaidd, gwrth-Russellaidd ie, a gwrth- gref/ddoi. BIl Feargus O'Connor a Bron- treve O'Brien, yn boblogaidd iawn yn y ifordd hon gynt; mae I. M. W. Reynolds felly yn awr; ond attolwg, pa faint o les ny mae y dynion hyn wedi ei wneyd erioed, heblaw creu ysbryd anesmwyth a gwrth- grefyddol yn ieuenctyd y wlad ? Mae yn dda genym feddwl nadywdarllenwyr SEREN CYMRU yn ymofyn y fath ysgarthion yn ymborth. Ein hamcan ni yw, nid ceisio fporthi blys anifeilaidd ein d'arllenwyr, ond arwain eu meddyliau i'r iawn gyfeiriad. Nid yw o bwys genym ddilyn y lluaws bob amser; ond gwell genym gynnorthwyo yn i^ffurfiad meddwl y cyhoedd ar bynciau pwysag y dvdd; a chredwn ei bod yn llawer mwy ilynol ynom i ddweyd ein barn yn bwyllog a gonest am sefyllfa pethau yn America, na cheisio porthi eu nwydau, trwy drin ein gwlad a'i liywyddion, pan nafyddo un galw am byny. Dyma ein bwriad, a hyn « woawd os Duw a'i myn. >. ,o )