Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

HANESION CARTREFOL.

News
Cite
Share

HANESION CARTREFOL. PROFEDIGAETH GYDA BOREUFWYD.—Un boreu yn ddiweddar, tra yr Oedd yr enwog Barch Lewis Powell, o Gaerdydd, yn mwynhau ei foreufwyd, cyrnmerodd at dori fty, er mwyn ei fwyta ond yn yr fty yr oedd cyw bach, yr hwn agyferchidgan Mr. Powell fel v c Ianlyn Boreu da i chwi, Syr, ond bydd yn well genyf gwrdd a chwi yn amser ciniaw nag yn awr." LLA NELLI.—Caredigrwydd Victoria. Da n fDn- oddein Grasusaf Frenines dai-rpunt yn ddiweddar i wraig Dafydd Lodwick, o'r Forge, Llanelli, yi hon a roddodd enedigaeth i dri o blant er ys tua misynol. Y mae boneddigion a marsiandwyr y gymmydogaeth wedi bod yn haelionus iawn tuag y teulu. Mae y fam a'r tri phlentyn yn dyfod yn tnlaen yn rhagorol. GLYN EBWY.—Y mae amryw ddamweiniau pwysig wedi dygwydd yn ddiweddar yn Nglyn Ebwy. Syrthiodd un o'r enw Daniel Griffiths wrth ddytod i lawr i risiau ceryg, y rhai oeddynt wlybion ar y pryd, a tharawodd ei ben yn y fath fodd, nes y buwyd yn ofni am rai dyddiau na byddai byw; ond y mae yn gwella yn awr. Syrthiodd careg fawr ar lowr o'r enw Samuel Cox, gan anafu ei ben a'i wyneb yn dost. Cafodd glowr o'r enw Richard Aator hefyd ei niweidio yn fawr, pan gyda'i waith, drwy i brfdd a eheryg syrthio arno. BRYNMAWR.—Y mae y rhyfel cartrefol yn America wedi taflu pob peth i'rdyryswch mwyaf- y gwaith yn brin, y cyflogau yn isel, a'r hwyd yn ddrud, fel y mae cvflwr y wladyn isel isuvn. Ond i wneyo y drwg yn waeth, y mae gwaith haiarn Llanelli wedi sefyll er's tnisoedd bellach. k Lied araf yr oedd y gwaith hwn yn myned yn mlaen er's amser maith; ond erbyn hyn y mae ycwht wedi sefyll. Yr oedd tua 1,500 o drigojion Llanelli yn dibynu am eu cynnaliaeth ar y gwaith hwn. Erbyn heddjrwr y ?iae y lie wedi- ei ddiboblogi braidd.. •/ '-j). y DAMWAIN' Dyd'^Iiti'FCYNy cjiwerfd- af, fel yr oeddgweitHwyr miVn Bryn Gwiog, yn Sir Fflint, yn hrysur wrth eU gwaith, aethant trwy y mur ag oedd yn gwahanu eu gwaith hwy a hen waith yr Hendre, ytbwn oedd yn Hawn o ddwfr. Ffrydiodd y dwfr allan ar unwaith, trwy y toriad, a boddwvd un ar bumtheg o'r gweithwyr. Yr oedf 17 wedi mytted ilawr, ond mewn rlxyw lwybr gwyrthioV, achubwyd un. Y mae yr amgylchiad wedi peru llawer o ofid yn y gymmydogaeth. W AUNARLWYDD.-Ðydd Iau, y 9fed o'r mi, hwn, bu farw merch o'r enw Sarah Jenkins, yn 71 mlwydd oed, yn nbgeibfRwdJahn Jenkins, yn y lIe uchod. Mae yn debyg nad oedd hon, fel y mae yr hen lattcesau yn gyffrodin, v n gofaluyn dda alll,dal)i ei h^nan; yr oeddyn well ganddi hi fod ar ben ei hunau na chyda cwmpeini. Byddai yn arfer cysgn mewn tai allan, o flaeny gwartheg, yn y gwair, &c. a byddai perchenogion y tai yn gorfod eu tynu i llrWr, cyn y byddai yn ymadael o hohynt; an er fod ganddi ddillad, ni fuasai yn gwisgo ond ychydig aco dani. Taa phum wythnos yn ol, daeth i dy ei brawd, a gwnaeth ei hystafell yn y, Ile bychan o dan y grisiau sydd yn srwain i'r llotit, lie yr oedd y teulu. yn arfer cadw glo, ac yno y Ilettyodti hyd awr ei marwolaeth, heb gael ond ychydig iawn o ymgeledd. Dydd Llun, y 13eg, cyunaliwyii tiengholiad ar y corif o flaen y treng- holwrCollinll. Wedi holi Uawer ar y teulu a'r cymmydogion, ac i feddyg medrus y plwyf wneu- thur ymchwiiiad oddifewn ac oddiallan, cafodd ar ddeall fod elefyd dyeithr wedi ei thori i lawr, nad ydyw yn adnahyddus i lawer o feddygwyr etto- Felly^da^jtliiy ribeithwyr i'r penderfyniad o Farw- olaeth Naturiol.—ALPHA. MERTHYR TYDFiL.—Mae cymdeithas wedi ei sefydlu yn Merthyr, er cael blwydd-dal i Robin Ddu Eryri. Traddodwyd y ddarlith gyntaf er cynnorthwyo y symudiad yn neuadd Ddirwestol Merthyr, gan Robin Ddu. Yr oedd y gynnulleidfa yn dra Iluosog. Deallwn fod y darlithydd am ym- weled a gwahanol fanau yn y Gogledd i ddarlithio mewn cyssylltiad a'r symudiad hwn. LLEIDR DEFAID DIGYWILYDD.—Tua phedwar mis yn ol, collidd Mr. Lloyd, Wynnstay Arms, Machynlleth, 20 o ddefaid, i ac hyd yn ddiweddar, yr oeddys yn methu dal y Heidr. Ond y mae wedi ei ddal a'i brofi yn euog. Y 29ain o Ionawr, oddeutu Heg o'r glooh, gorlanwyd neuadd tref Machynlleth, pan ddeallwyd fod ei dreial i gym- meryd lie. Enw y lleidr ydyw John Stephen Jones—" Jac y defaid" y gelwir ef yn gyffredin. Un o Sir Feirionydd ydyw. Dygodd ddefaid Mr. Lloyd yn y nos, wth gwrs, tua chanol mis Hydref diweddaf. Aetb a hwynt yn nghyfeiriad Dolgellau. Aeth trwy dollborth Dinasmowddwy heb dalu ond wedi myned ychydig tudraw i'r tollborth, an- fonodd y tal gyda un o ddynion y Red Von Inn. Aeth mab y tollborthwr ar eiol, gan feddwl, feallai, nad oedd wedi talu digon dros y defaid, a cherdd- odd gydag ef am yspaid o ffordd dan siarad, a dy- wedodd wrth hwnw mai eu gyru dros ddyn o'r Cemes yr oedd. Aeth a'r defaid yn mlaen ac wedi myned mor bell a'r Garnedd Wen yn nghyf- eiriad y Bala;, daeth i gyffyrddiad a dau ddyn o Benmachno oedd yn arfer prynn defaid, a gwerth- odd hwynt iddynt. Aeth y ddau ddyn dan sylw a'r defaid vn milaen i'r Bala, a gwerthasant hwy yno i Mr. Thomas Jones, Pen isaf y Llan, gerllaw y Bala. Yn mhen ychydig, daeth gwas Mr. Lloyd, MachynHeth, i ddeall fod y defaid gan Mr. Thomas Jones; ac felly, yno y cafwyd hwy. Wrth gwrs, gafaelwyd yn y ddau ddyn oedd wedi eu gwerthu i Mr. Thomas Jones, a hwythau yn dywedyd mai wedi eu prynu gan S. Jones yr oeddynt. Ond rwan y daliwyd y lleidr. Yr oedd pedwar o dystion yn ei erhyn yn y llys, sef gwas Mr. Lloyd —perchenog y defaid, y ddau ddyn o Benmachno, a mab y gftr oedd yn nhollborth Dinas. Yr oedd pob peth yn hollol amlwg yn ei erbyn a chafodd ei ddedfrydu i sefyll ei brawfyn y chwarter Sessiwn.

HANESION CREFYDDOL.