Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

"Y DDWY FIL."—CYFARFOD !

News
Cite
Share

"Y DDWY FIL."—CYFARFOD MERTHYR. YR ydvm yn awr yn Merthyr, gyda llawer o frodyr da o bell ac agos, y rhai ydynt mewn cynnadledd yn ystyried y llwybr gor' u i osod ar gof a chadw goffawdwriaeth ymddygiad hunan-ymwadol y DDWY FIL yn gwrthod aros yn offeiriaid yn yr Eglwys Sefydledig, ar y telerau a gynnygid iddynt gan v Brenin a'i gyfarwyddwyr. Dwy FIL o weinidogion yn dewis ymdaflu ar drugar- edd Duw a dynion yn hytrach na phlygu i ddeddf ormesol yr U nffurfiaeth Mae yn wybodus i'n darllenwyr i nifer o weinidogion a lleygwyr gyfarfod yn Nghaer- dydd ar y 3ydd o'r mis hwn, i ystyried pa beth i wneyd. Wedi cyduno ar nifer o ben- derfyniadau i'w cynnyg i sylw yr en wad o Fedyddwyr trwy Gymru, gohiriwvd y cyf- arfod hwn er rhoddi cvfle i holl eglwysi Bedyddiedig Cymru i ddatgan eu barn ar y mater. Pennodwyd fod y cyfarfod gohir- iedig i gael ei gynnal yn Merthyr Tydfil, ar ddydd Mercher, Chwefror 26ain, 1862. Dyma y diwrnod wedi dyfod, a lluaws o frodyr o bob cyfeiriad 'wedi ymgynnull i'r G-ynnadledd. Cvfarfyddwyd erbyn un ar ddeg o'r gloch yn nghapel eang Heol Fawr, pryd y gwelsorn, yn mhlith ereill, y brodyr canlynol:—Dr. Prichard, Llangollen J. Robinson, Rhydwyn Dr. Davies, Aber- afon Lewis, Rumni Evans, etta Wil- liams, etto Ellis, Sirhowy Jones, Aber- tawy Lloyd, Merthyr; Griffiths, etto Humphreys, etto; Evans, etto; Lewis, etto; Jones, Castellnedd; Evans, etto; James, Glyn Nedd; Jones, Caerdydd; Thomas, etto Morgan, Llanelli Williams, Hengoed Davies, Glandwr; Davies, Waen- trodau; Thomas, Llansawel; Williams, Ystrad; Roberts, Rhydfelen; Roberts, Pontypridd; Jenkins, Troedyrhiw; Phil-j lips, TreRbrest; Owen, Aberdar; Price, etto; Thomas, Castellnewydd Emlyn; Tho- mas, Berthlwyd; Jenkins, Paran Nick- olas, Aberaman; Davies, Beulah; Harris, Heolyfelin; Evans, Llangynidr Lewis, Dowlais; Evans, etto; Roberts, etto; Evans, etto; Jones, Pentyrch; Griffiths, Risca; Davies, Clydach; Jones, Tongwyn- las Morgan, Blaenafon Rowlands, Owm- afon; Williams, Y stalyfera Edwards, etto; Williams, St. Clears; Morris, Cefn- coedycymmer; Williams, Canton; Jones, Brynhyfrvd; Davies, Ynysyfelin; Johns, Llanwenarth Roberts, Bethel; Griffiths, Penderyu Roberts, Blaenau; Rees, Blaen- afon; Roberts, Merthyr; Hughes, Blaen- afon; Morgans, Abersychan; Hughes, Pisga Jones, Abercarn Davies, Spelters, gydag amryw frodyr gweinidogaethol ereill na chawsom eu henwau. Yr oedd yn dda genym hefyd i weled amryw o'n Myfyrwyr da yn y Gynnadledd, ac yn teimlo dyddor- deb yn y gweithrediadau. Yr oedd yno hefyd nifer luosog iawn o'n lleygwyr goreu, o wahanol barthau o'r wlad. Yr oedd hyn yn nodwedd ag oedd yn ein boddloni yn fawr iawn, ac yn dangos teimlad byw ein heglwysi yn y mudiad. Yn herwydd amgylchiadau anorfod, nid oedd ein brawd anwyl, y Dr. Thomas, yn wyddfodol; ac yn ei absenoldeb ef, dewis- wvd, gyda Lawenydd, y Dr. Prichard, Llan- zn gollen, yn llywydd y Gynnadledd. Yna dewiswyd Edward Gilbert Price, Yswain, West of England Bank, Aberdar, yn dry- sorydd i'r Gynnadledd.. Y pwnc oedd dar- lien y llythyron. Darllenodd ein brawd Lleurwg luaws mawr o lythyron, oddiwrth gyfarfodydd chwarterol, eglwysi, a bonedd- igion unigol. Mae y rhai hyn yn llawer rhy luosog i ni allu eu nodi yma yn un ac un. Bu llawer iawn o ymddyddan pwysig ar faterion perthynol i'r pwnc dan sylw. Ar ddechreu y Gynnadledd yn y prydnawn, cynnvgiwyd y seithfed penderfyniad o eiddo Cynnadledd Caerdydd ond wedi lIawer o ddwys ystyriaeth ar amryw gynnygion ereill, o'r diwedd, cydunwyd ar y prif ben- derfyniad,yr hwnoedd i'rperwyl canlynol:- Fod ymdrech yn caelei wneyd i godi trysorfa o ddim llai na £ 2,000, i'w cydranu rhwng y ddau beth canlynol :Y n laf, cyhoeddi llyfrau at wasanaetn yr enwad ac yn 2il, ffurfio trysorfa er cynnorthwyo eglwysi i gael arian at eu dyledion, heb dalu llog, ar yr un egwyddor a'r Baptist Build- ing Fund yn Llundain" Cymmeradwywyd hefyd y mudiad pwysig o gael Athrofa yn y Gogledd." Cydun- wyd yn unfrydol i gydymdeimlo, yn nghyd a chynnortlxwyo ein brodyr yn y Gogledd gyda y symudiad hwn. Cafodd amryw bethau ereill o bwys sylw y Gynnadiedd, ond nis gallwn yn awr eu nodi. Yr ydym yn gorfod gwneyd y nodion byrion hyn yn nghanol siarad ein brodyr da yn y cyfarfod. Mae Pwyllgor lluosog a dylanwadol wedi ei benodi er dwyn arncanion y Gynnadledd i weithrediad. Yn awr, niaddymunwn o'n calonbob llwydd i'r mudiad, a bendith Duw y Nef ar yr ymdrech, i fod er clod i enw yr Ion, ac er lledaeniad crefydd bur.

[No title]

GOHEBIAETH O'R GOGLEDD.