Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

TRAETHODAU.

News
Cite
Share

TRAETHODAU. ATHROFEYDD Y BEDYDDWYR YN SIR FYNWr. GAN RUFUS. Mr. GOL.,—Os boddlavvn fydd genycb, ac y meddyliwch y byddai hyny yn dderbyniol gan ddarllenwyr Iluosog y SEREN, addawwngasglu yn nghyd rai ffeithiau hanesyddol o barthed i'r ysgolion uchod, a'u gosod at eu gilvdd mor gryno a threfnus ag y medrwn, a'u cyfUvyno i SEREN CYMRU. Dichort y bydd i'r geiriad uchod o'r testun ymddangos ychydig yn ddyeitbr i lygad, a swnib ychydig yn hynod ar glust, ambel) un a hyny, am nad yw wedi ymarfer meddwl ond am un Athrofa gan y Bedyddwyr yn y sir uchod. Gwir nad oes yn awr, ac na fu o'i blaen, ond un Athrofa yn sir Fynwy gan y Bedyddwyr, na neb ereill, ar a wyddom ni, ar yr un amser. Ond i'r cyfarwydd yn hanes y Bedyddwyr yn y Dywysogaeth, y mae yn eithaf gwybodus mai y trydydd sefydliad ath- Tofaol yn Mynwy ywyr un presenol yn Mhont- ypvyl, neu y drydedd ddolenyn yr un gadwen; canys edrychwn ar y tair ysgol fel yr un sef- ydliad yn mhlith yr un bobl, neu yr un medd- ylddrych yn cael ei weithio atlan mewn gwa- hanol fanau, ac ar wahanol amserau. Yr oedd mwv o gyssylltiad, mae'n wir, rhwng vr ail a'r drydedd, nag a fuasai rhwng y gynt If a'r ail Athrofa, canys yr ail wedi eisymud i Bont ypwl yw y drydedd.. Ond yr un oedd yr angen mawr a deimlid, a'r un oedd cymmeriad y bobl a gynnygient fesurau at gael y fath sef- ydliadau. Y tair Athrofa ag y bwriadwn ysgrifenu ychydig yn eu cylch (os caniata y Golvgydd), ydynt Athrofeydd Trosnant, Fenni, a Phonty- pwl. Ni a ddechreuwn gyda HANES ATHROFA TROSNANT. Mae yn deilwng o sylw yma, fod yn Nghymru i'w cael rai eglwysi o Fedyddwyr er ys mwv na dau can mlynedd yn ol. Yr oedd Bedyddwyr i'w cael yma cyn hyny, ac yn wir, gorchwyl rhy anhawdd fyddai i neb enwi un oes, a phrofi nad oedd yn Nghymru rai yn proffesu bedydd y Testament Newydd, byth wedi dyfodiad yr efengyl i'n gwlad; ond oddi- yma n ol—mor bell yn ol a ilau can mlynedd, yr \dym yn cael eglwysi rheolaidd o Fedydd- wyr yn Nghymru, megys Olchon, Ilston, Llanharan, &c., neu fel eu aelwir yn awr, Capelyffin, Abertawe, Hengoed, &c. Yroedd yr eglwysi hyn yn selog dros egwyddorion y Beibl, yn. amddiffyn yn wrol y ffydd Gristion- ogol, ac vn barod i, ac yn goddef llawer am Air Duw ae am Dystiolaeth lesu Grist. Yr oedd i'r eglwysi hyn eu gweinidogion rheolaidd a sefydlog, pa rai oeddynt wyr dewr o galon, ac enwog mewn duwioldeb, dvsg, a dawn. Yr oedd yr eglwysi hyn, mewn blynvddau di- weddarach, yn enwog am godi dynion ieuainc duwiol i fyny, a'u hannog i ymarferya eu doniau, &c. Yn y fl. 1720, yn y gymmanfa a gynnaliwyd yn y Trosgoed (a elwir yn awr Maesyberllan), cawn fod cynghorion difrifol yn cael eu rhoi mewn perthynas i alw gwyr ieuaine i waith y weinidogaeth." Tua'r amser hwn, ac am rai blynyddau arol hyn, teimlid yn fawr y dymunoideb o gael rbyw fFordd, neu rhyw fath o sefydliad er cvf- ranu addysg i'r gweinidogion ag oeddynt heb feddu manteision ■ gwybodaeth, ae i'r bobl ieuaine a ymroddent i'r gwaith o efengylu. Nid am nad oedd neb o'r gweinidogion yn deall neinawr am dduwinyddiaeth a gwybod- aetbau ereill, ond am nad oedd y cyffredinol- rwydd o honynt yn medduar gymmaint o wy- bodaeth ag a allesid ddymuno canys yr ydym yn cael, fel yr ydym wedi erybwyll yn barod, fod rbai o'r gweinidogion yn yr amseroedd hyny yn wyr cyfritol, yn bregethwyr gaduog, ad yn ddynion dysgedig megys, JohnMyles, Ilston, D. Davies, M.A.. Hengoed, Lewis Thomas, am yr hwn y dywedir mai "y gwr mw, af ei ddéfnydJHoldeb yn mhlith y Bed- yddwyr ydoedd," John Jenkins o Rydwilym, un o brif ddynion ei dytijhor," yr enwog Enoch Francis o Aberduar, a Morgan Griffiths, trydydd weinidog hen eglwys barchus Hen- goed. Am dano ef, dywed Mr. LI. Jenkins, Yr oedd nid yn unig yn gyfarw.ydd &'i iaith ei hun, ond hefyd yn alluog yn y Saes- neg; a phregethodd gryn dipyn yn Ltoegr, yn enwedig yn Nghaerodor, lie yr oeddynt yn dra hoff o'i glywed." Y desgrifiad a rydd Mr. Joshua Thomas o hono fel pregethwr yw, Fod ei bregethau yn gyffredin yn fyr, yn drefnus, yn ddeallus, ac-yn gynnwysfawr iawn, etto yn felas ac yn dderbyniol, yn eglur a hawdd eu cofio. Yr oedd ei ymadrodd yn serchog a thoddedig, ac yn ennillgar iawn." Yr oedd y dynion da hyn, yn ughyd a ilawer ereill, yn teimlo awydd cr\ f igodl'r weinidog- aeth, ac am i bregethwyr ieuainc g&el meddu manteision dysgeidiaeth. O'r diweda, gwawriodd yr adeg i'r antur- iaeth gael ei nwneyd, ac ymddangoltodd y gwr ag oedd i dori v garw ac rJÍd anturiaeth fach na gorchwyl dibwys, yn enwedig yn y blyn- yddau hyny, oedd codi y fath sefydliad ag un athrofaol Yroedd yn gofyn Ilygad treiddgar, calon ddewr, a pbenderfyniad didroi yn ol. SEFVDLIAD ATHROFA TKOSNANT. Tua'r ii, 1732 (?) darfu i un Mr. John Grif- fiths renti ty yn Nhrosnant. yn ymyl Ponty- pwl, a'i agoryd i'r ddau ddyben canlynol:— Pregethu efengyl Crist yn achlysurol, ac add- ysgu gwyr ieuaincaymioddenii'rweinidogaeth. Amcenid at gael yno vsgol wir dda, ac os byddai i Dduw lwyddo'r amcan, bwriedid gwneyd y sefydiiad yn wir ddefnyddiol i'r Bedyddwyr yn y Dywysogaeth. Dysgid yn yr ysgol hon y ffordd i ddarllen ac vsgrifenu y Gymraeg a'r Saesneg gyda chywirdeb. Rhoddid i'r myfyrwyr feddyl- ddrych am yr ieithoedd gwreiddiol, a chyfar- wyddid hwynt yn ngwahanol gancbenau gwy- bodaeth ag a fyddai ddefnyddidl iddynt yn ol llaw. Mae yn deilwng o sylw mai dyma yr AtH- rofa reolaidd gyntaf yn mhlith y Bedyddwyr yn Nghymru a Lloegr; ac y mae'n llawen genym ar y pen hwn allu dyfynu geiriau y Parch. Wm. Roberts, Blaenau, yr hwn sydd bellach yn hen enwog fel hynafiaethydd. Ei farn ef—acy.n ddios ar ol ymchwiliad manwl a phwyllog i'r pwnc—yw a ganlyn :—Mdr bell ag y gallaf ddeall, yr wyf yn meddwl mai yn Nghymru (yn mysg yr enwad hwn), y dechreuwyd y peth tebycaf i Athrofa reolaidd, sef y sefydliad uchnd" (yn Nhrosnant). "Yna gwnawd ymdrech lied debyg yn Mrystau, a bu B. Foskett, Hugh Evans, A.C., Caleb Evans, D.D., ac ereill, yn yrhdrechol yn cyfranu llawer o addysg lieuenctyd Cymru a Lloegr yno, cyn i Athiofa y Bedyddwyr gael ei seiydlu yn Stokescroft, gerllaw y ddinas hono, yr hyn a gymmerodd le yn y fl. 1770. Diau mai sefydliad yr Athrofa hon oedd yr aebos i Athrofa y Troannnt gael ei rhoddi i fyny." Parhaodd y sefydliad hwn yu Nhrosnant o'r fl. 1732 (?) hyd y fl. 1770-rhyw 40 mlynedd. Ond ni fu ar ei draed nac yu flodeuog o'i ddechreu i'w ddiwedd canys yn nghymmarfa Blaenau Gwent yn y fl. 1741, cawn mai" y peth mwyaf neillduol a fu dan sylw yn y cyfarfod hwnw, oedd y priodoldeb 0 sefydlu Athrofa i bregethwyr ieuainc yn Nhrosnant; ond rywfodd,nichafoddy cynnyg ddim cymmaint o gefnogtwyddag a fuasai yn ddymunol." Yr ymdrech ddiweddaf at gadw y sefydliad yn fyw ac ywch ben ei draed oedd yny fl. 1761, ac yn y blaen, ond syrthiodd, a bu farw yn 1770. Yn ddiamheu fod mwy nag un achos paham ,y bu y sefydliad farw. Yn y flwyddyn y bu yr Athrofa dan sylw cymmanfa Blaenau Gwent, nid oedd ond rhyw 15 neu 16 O'eglwysi yn yr Undeb drwy holl Gytnru ac heblaw fod yr eglwysi yn y dvddiau hyny yn tra-ra- gbri ar yr eglwysi yn y <iyddiau hyn mewn haelioni crefyddol, yr oedd yn anmhosibl i'r sefydliad i gael ei gynnal yn wych iawn. Heblaw hyny, yr oedd yn anh twdd iawn cael athrawon cymhwvs yno, fel yr oedd y sefyd- had, fel y dywed Mr. Joshua Thomas, megys pren a rhyw bryf yn wastad yn ei wraidd, yn peru iddo wywo, yn lie lledu ei wraidd, a blaijuro." Hefyd, ymadawodd llawer o'r myfyrwyr ar ol darfod tymhor ell hefrydiaeth yn Nhrosnant i fyned i Frystau, i dderbyn ychwaneg o addysg o dan arolyg- iaeth Foskett ac Evans, a tlieimlrd yn fawrgan ein heglwysi yn hervvydd hyn, a bod y gwyr ieuainc, ngos oil, ar ol darfod tymhor eu hefrydiaeth yno drachefn, yn arosyn Lloegr, neu yn myned i wledydd ereill, ac yn ymsef- ydlu yn weinidogion ar eglwysi estronol, yn lie dychwelyd yn ol i hen wiad eu genedig- aeth, ac at eu cydnabod i b'egcthu anchwil- ladwy olud Crist Parodd i'r sefydliad golli cryn dipyn ar ei ddyltnvrad a'r cymhorth ang- enrheidiol i'w gadw yn fyw true"'i oedd i sefydliad mor dda gael ei roddi i fyny. ATHHAWON ATHROFA TROSNANT. 1. Mr. John Griffiths, o Benygarn. Effl

CIPDREM AR Y BYD CREFYDDOL.