Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

Advertising
Cite
Share

RHYTHGUCH.—Mae y ddeddf y cyfeiriwch ati wedi ei diddymu—Deddf 18 & 19 Vic. C. 63. Mae yn ffaith bwysig fod degau o brotTeswyr y gyfraith yn hollol anwybodus o-weithrediadau y deddfau sydd ynllywodraethu y Cymdeithasau Cyfeillgar. Y ddeddf gyntaf a wnawd er rheoleiddio ycymdeith- asau oedd 33 Geo. 3, C. 54; o hyny hyd yn awr y mae 18 o gyfreithiau wedi eu mabwysiadu, yn dal perthynas a'r Cymdeithasau Cyfeillgar, ond y mae 16 o'r 18 wedi eu diddymu, ac nid oes ond dwy mewn gwlrionerid mewn grym yn awr. and nid peth anàml fydd clywed cyfreithiwr yn ceisio ein Jlusgo yn ol at ddeddfau yr hen Georgiaid a Wil- liam IV., pan y dylent hwyfod yn gwybod eu bod wedi eu llwyr ddileu, mor belled ag y maent yn perthyn i ni fel aelodau o'r Urddau dirgelaidd. J. JONES —Pwy sydd i dalu y costau yn achos prawf Mr. Wyndham ? Ystad Mr. Wyndham ei hun sydd yn ateboI am y costau yn y ddwy ochr. Mae y costau yn debyg o fod o £70,000 i £ 80,000. Bydd hynyn agos gwerth yr etifeddiaeth. Mae yn hawdd iawn rhedeg i fyny y costau mewn prawf fel hwn. Mae y tystion ar y cyfartaledd wedi costio £]01,. Mae rhai o honynt wedi dyfod o Rwsia, Denmark, ae Itali. Mae y ddau brif ddadleuydd sydd gan Wyndham—Mr. Kerslakea Syr H. Cairnes—yn cael £ 500yr un fel retaining fee, yna 50 gini hob dydd fel refresher, h.y., ych- ydig o help iddynt gofio yn well. Cofier hefyd tnai wrth y dydd mae y rhai, hyn yn gweithio-iiid wrthy job nac wrth y Until. ANTIHUMBUH.—Gah eich bod chwi yn hyn mor agos i'r hwn sydd wedi peclui yn eich.: erbyn, gwell i chwi fyned ato fel boneddwr a Christion, agwneyd cynnyg o leiaf i symnd y tramgwydd. Mae dial eich llid trwy y SEREN o dan ffugenw yn annheil- wng o hono chwi ac yn annghyfiawnder ato yntau. DYSGTBL IEUANC.—Dysgybl i bwy i chwi wedi bod? Pwrc eich llythyr yw trin tipyn," fel y dywed- wch, ar y blaenor a'r corcunii yn eich cynnulleidfa, yn wha un y cawn y fath eiriau a Coegyn," '• Crachgerddor, Liliputian," Gwagsiol," "Penfeddal," Crinolinieid," "Perchen y cylchau," "Gafron." Ynmha le y buoch yn yr ysgol? Ai yn Billingsgate? Nid ydym yn gwy- bod am neb yn Merthyr a allasai eich dysgu fel yna. JOSEPH MORGAN.-Nid oes gyda chwi ddim i wneyd ond dyoddet. Mae y (h frinfa heb ei registro, ac y mae yr arian wedi eu pobi. tar* Mae D. T. Jones, gynt o Mountainash, wedi anfon copy i ni o lythyr cnnmeradwyaeth a gafodd efe gan eglwys y Bedyddwyr yn New .York, wedi ei arwyddo gan yrysgrifenydd, o'r en w Laban Lewis, yn ughyd a thri o'r diaconiaid, o'renw ReesLewis, Evan Griffiths, a John T. Davies. Nis gwyddom '1 paham yr aeth D. T. Jones i'r drafferth oysgrifenu copy i ni, a'r llythyr gwreiddiol yn ei feddiant. Beth bynag, mae yn rhaid i ni gael y llythyr, ac nid copy i'w gyhoeddi yn Y SEHEN. Nid yw yn bosibl i ni fod yn rhy onest mewn cyssylltiad & pheth fel hyn. AT EIN GOHEBWYR AWENYDDOL. ARDUDWT a LLEw O'R ALLT a ganant glod i Dr. Rogers, Cwmtwrch, feJ noddwr Eisteddfodau. Pa un aoedd y ddwy gan yma yn gydfuddugoI yn Nghwiritwrch ai peidio, ni wyddorn ni, ond gwy. ddom fod y Dr. Rogers yn deilwng o'r ganniol- iaeth uchi'laf, a gwyddom fod y ddwv gan yma yn annheilwng o'r testun ac o SEKEN CYMRU. Da chwi, gyfeillion, ceisiwch roddi ychydig o feddwl yn eich gweithiau. GWR A LAWN GARA EI LWYDD, A CHYFAILL CRE- FYUD.—j^nfonodd y bechgyn hyn atom eu hen- glynion cydfuddugol yn Eisteddlod Cwmtwrch, i'r Parch. J. Evaus. Nid ydym yn cofio i ni erioed weied dim ar lun barddoniaeth yn fwy hynod a gwrthun o ran ei gymhariaeth a'i syniadau nag englyn olaf Gwr a lawn gara ei Lwydd,— 0 Beulah dy feib hylon—a roddont Yn rhwydd o'u trysorion, Pw gadw y. JVghaergwydion, Yn deor tes i'th din ton." Caiff englynion Cyfaill Crefydd ymddangos yn eu hadeg. HELAETHIAD SEREN CYMRU. GAN ein bod wedi myned i'r draul o helaethu SEREN CYMRTJ; hyderwn y gwna ein cefnogwyr bob ym- drech galluadwy i ddyblu rhify derbynivyr, ac an- fon Hysbysiadau iddi o bob man. Y mae cylchred- •iad y SEREN yn dra helaeth. yn bresenol, ac yn cael ei gwasgaru drwy bob parth o'r Dywysogaeth, ac yn mysg y Cymry yn Lloegr; gan hyny, gellir ymddir- ied ei bod gyda'r cyfrwng goreu yn Nghymru i daenu hysbysiadau o bob math. Pris SEREN CYMRU yw 2g. y Rhifyn; a dys- gwylir i bob derbyniwr dalu bob tri mis yn ddiffael. TELERAU AM HYSBYSIADAU. Chwech llinell a than hyny, Is. y tro. Dros chwech llinell, dwy geiniog y llinell. Hysbysiadau am chwarter blwyddyn a throsodd, am brisiau llawer is. Pob archebion mewn perthynas i rif y der- bynwyr, neu hysbysiadau, i'w hanfon at y Cyhoeddwr, W. M. Evans, Seren Cymru Office, Carmarthen. Y Gohebiaethau i'w hanfon at y Golygwyr, yn ol y cyfarwyddiadau a ganlyn:— TRAETHODAU, &C.—Rev. T. PRICE, ABERDARE. HANES ION CREFYDDOL.—Rev. B. EVANS, PEN- YDREF HOUSE, NEATH. Y FARDDONIAETH. — Rev. J. R. MORGAN (Lleurwg), LLANELLI, CAR. Y GERDDORIAETH.—Mr. R. LEWIS, ADAM ST. CARDIFF.

Y PYTHEFNOS.