Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

ACHOSY" TRENT."

News
Cite
Share

ACHOSY" TRENT." Cynnwysa y Gazette fryslythyrau a gy- hoeddwyd o'r blaen. Y cyntaf ydyw oddiwrth Iarll Russell at Arglwydd Lvons, ac y mae wedi ei ddyddio Rhagfyr 19eg. Y mae yn rhoddi manylion ymweliad a Mr. Adams ar yr un diwrnod. Gofynodd Mr. Adams am ganiatad i ddarnen bryslythyr oddiwrth Mr. Seward. Cydsyniodd ei arglwyddiaeth, ar yr ammod, modd bynag, nad oedd yn cychwyn un ddadl gyda golwg ar achos Meistriaid Mas5n a Slidell. Sylwedd y bryslythyr hwn oedd, nad oedd y llywodraeth yn Washington wedi awdurdodi eu hattafaeliad, ac nad oedd un cyssylltiad swyddol rhyngddi ag achos y Trent. Yna rhoddodd Iarll Russell i Mr. Adams grynodeb o'r bryslythyrau yr oedd wedi eu hysgrifenu at Argl. Lyons ar y mater. Cyf- arwyddwyd Arglwydd Lyons i beidio ateb Mr. Seward, os byddai iddo ofyn pa beth a fyddai y canlyniad o wrthodiad ar ei ran ef i sydymffurfio a'n hammodau. Y cyfar- wyddiadau a roddwyd i Arglwydd Lyons oeddynt fel y canlyn Os bydd iddo ofyn pa beth fydd y can- lyniad o'i waith yn gwrthod cydsynio, yr wyf yn meddwl y dylech ddweyd eich bod yn ewyllysio ei adael ef a'r llywydd yn hollol rydd i gymmeryd eu cwrs eu hunain, a'n bod yn dymuno ymattal oddiwrth bob peth tebyg i fygythiad." Dywedodd larll Russell wrth Mr. Adams ei fod yn meddwl y gwnai yr eglurhad nad oedd llywodraetb. yr Undeb wedi awdurdodi yr attafaeliad y tro yn lie esgusawd. Z5 Dywed Iarll Russell, — Gofynodd Mr. Adams gwestiwn arall i mi, yr hwn, meddai, y gallwn beidio ei ateb, set, os deuai Argl. Lyons adref, a gyhoeddid rhyfel yn ddioed? yDywedais wrtho nad oedd dim wedi ei ben- derfynu ary pwnc hwnw. Ein bwriad oedd aros am atebiad o America, ac yna pender. fynu pa gwrs a ddilynem." Mewn bryslythyr dyddiedig lonawr lleg, hysbysa Iarll Russell i Arglwydd Lyons fod rhyddhad y carcharorion a'r eglurhad a roddasid gan lywodraeth yr Unol Daleithiau yn cyfansoddi yr iawn yr oedd gan ei Mawr- hydi a'r genedl Brydeinig hawl i'w ddysg- wyl. Ychwanegodd larll RusseU-" Y mae eich perthynasau cyfeillgar rhwng y ddwy wlad, wedi rhoddi boddhad nid bychan i lywodraeth ei Mawrhydi." Gyda golwg ar y pynciau a ddygwyd i mewn i fryslythyr Mr. Seward, dywed larll Russell, fod llywodraeth ei Mawrhydi yn gwahaniaethu oddiwrth Mr. Seward mewn rhai o'i gasgliadau; a chan y dichon iddo arwain i gam-ddealltwriaeth rhwng y ddwy genedl ar amryw faterion perthynol i gyf- reithiau y gwledydd, y rhai y gellir yn ystod yr ymrysonfa bresenol, neu ar ryw amser dyfodol, godi dadl yn eu cyleh, efe a ddy- wedodd y byddai iddo yn mhen yehydig ddyddiau anfon llythyr ar y pwne i g&el ei gyflwyno gan Arglwydd Lyons i Mr. Seward. Yn y cyfamser, efe a ddywed y bydd yn ddymunol cyfarwyddo IIywyddion gwib. longau yr Unol Daleithiau i beidio ail gyf- lawnu gweithredoedd ag y bydd yn rhaid i lywodraeth Prydain ofyn iawn am danynt, a'r rhai nas gall llywodraeth yr Unol Dal- eithiau eu cyfreithloni. Diolchir i Arglwydd Lyons am y doeth- iueb a'r dymher dda a amlygwyd ganddo yn achos pwysig y Trent.

MEXICO.

PRWSIA.

Y RHYFEL YN AMERICA.