Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

HANESION CYFFREDINOL.

News
Cite
Share

HANESION CYFFREDINOL. PORTBBAD EOLWYS RHUFAIN.—Tynodd offeir- ad Pabaidd yn Germany gneuen Ffrengig allan wrth bregethu, ac a alwodd sylw y gynnulleidfa ati. Mae y plisgyn," meddai, « yn ddiwerth ac yn ddiflas-dyna eglwys Calvin. Mae y croen yn chwerw ac aaarchwaethus-dyna eglwys Luther. Yn awr, mi a ddangosaf i chwi ein Heglwys Lan Gatbolic ni ein hunain." Efe a dorodd y gneuen, ac er ei ddirfawr siomedigaeth, efe a'i cafodd oddi. fewn wedi pydru, ac yr oedd yn ddangosiad eywir ac annysgwyliadwy o Eglwys Rhufain. 0 BWYS I BAWB SYDD YN CANU.—Oddiwrth S. Pearsall, Ysw., Ficer CorawlEglwys Gadeiriawl Lichfield.—" Wedi i foneddiges o radduchel ddwyn i'm sylw rinweddau ARLEDENAU GWRTHGERIOL DR. LOCOCK, tueddwyd fi i wneyd prawf o flych- aid o honynt, ac, oddiwrth y prawf hwn, mae yn dda genyf roddi fy nbystiolacth o'u plaid. Cefais allan drwy adael i'r arledenau (a gymmerwn yn ystod y dydd) i doddi yn raddol yn y genau, deuai fy llais yn glir, ac o don llawn o hyglyw. Y maent yn ddiau y goreu a ddefnyddiais erioed." Rhydd Arledenau Dr. Lncock ryddhad buan, a gwellhad sicr i ddiffyg anadl, darfodedigaetb, peswch, a phob anhwyldeb o eiddo yr anadl a'r ysgyfaint. Pris Is. He., 2s. 9c., ac Us. y blwch. Y mae eu bias yn hyfryd. Ar werth gan yr holl Fferyllwyr. RHYBYDD.—Y mae. pob blwch a gynnwysa y fedd. yginiaeth wirioneddol a'r geiriau" DR. LOCOCK'S WAFERS," mewn llythyrenau ar lawr coch, ar stamp y llywodraeth ac os na fydd y eyfryw eir- iau i'w canfod, y maent yn ffugiol. BIRKENHEAD. — Damwain. — Yn ddiweddar, syrthiodd bacbgen, 13 oed, o'r enw Thomas Hughes, i graving dock, deugain troedfedd o ddyfnder, yn ngwaith Meistri Clayton, a chym- merwyd ef yn ddioed i'r ysbytty, ond yr oedd wedi cael y fath niwed, fel. y bu farw yn mhen yr awr wedi myned i mewn. BANCIAU CYNNILO. Ymddengyr, oddiwrth adroddiad y Dirprwywyr er Lleihau y Ddyled Wladol, fod 513 o Fanciau Cynnilo yn Lloegr a Chymru. Cedwir y sefydliadau hyn ar draul flynyddol o £ 112,336 10s. Nifer y depositors ydyw 1,360,355, yr hyn sydd oddeutu y drydedd ran ar ddeg o holl boblogneth Lloegr a Chymru, a chyfanswm yr arian oedd ganddynt i mewn oedd jE36,353,164 2s. 2c.; o ba rai y mae £36,123,242 13s. 10c. wedi eu rhoi i Ddirprwywyr y Llawod- raeth. Y mae y ffigyrau hyn yn brawf fod y wlad, ar y cyfan. mewn modd llwyddiannus. Y mae Banciau Cynnilo y Llythyrfa yn cymmeryd lie yr hen fanciau cynnilo yn brysur, gan fod eu diogel- wch yn llawer mwy. MASON A SLIDELL. — Un o newyddiaduron Lloegr yn gofyn pa fath wahoddiad ydym yn myned i roddi i'r dynion hyn, a sylwa fel y canlyn Bydd y llancod hyn yn fuan yn un o'n porthladd- oedd. Fel llawer o'n cydwladwyr, y maent hwy yn barnu eu bod o bwys annhraethol i'w hachos. Er byuy, ni ddylasid anngliofio mai y caffaeliad mwyaf diwerth a dynwyd erioed o enau y llew Americanaidd ydyw y ddau byn. Y maent yn adnabyddus er ys talm fel caseion gwaethaf a dir- mygwyr atgasaf y wlad hon. Maent wedi gwneyd mwy na neb i gynhyrfu y rhagfarn afresymol hyny yn erbyn Lloegr sydd yn diraddio moesoldeb, ac yn dyrysu llvwodraethyddiaethau ) r Undeb. Casineb yn erhyn y wlad hon sydd wedi bod yn brif nwyddau eu masnach. Ar hyn y maent wedi ennill eu bj wioliaeth bolitiraidd, a cbyrhaedd eu safle bresenol. Drwy eu hir gasineb a'u difriad o Loegr, y maent yn awr yn dyfod drosodd yma yn eu swyddau presenol. Defnyddiad dyfal o'u casineb a'u hasfri sydd wedi eu codi yn ddirprwywyr. Gan tyny yr ydym yn byderu na fydd j'n cydwladwyr 11 <J. roddi iddynt unrhyw roesawiad cyhoeddus. Y moesgarwch sydd yn ddyledus i elyn mewn cyfyng- der yw'r cwbl aallant hwy ddysgwyl. Yr ydym wedi talu da am ddrwg iddynt hwy, ac yn wir buasai yn ddrwg genym eu gweled mewn sefyllfa i ddewis pa ddychweliad i wneyd am y daioni a wnawd iddynt yn awr. Buasem ni wedi gwneyd cymniaint er rhyddhau dau o'u caethion hwy a phe huasem wedi gwneyd hyny, buasai gan y negroaid gymmaint o hawl i arwyddion buddu- goliaeth a chymmeradwyaeth gwlai ddiolchgar ag sydd gan y llancod hyn. SOUTHAMPTON.—Y mae yn awr yn gorwedd yn Southampton ddwy long-un yw y Nashville, pertbynoli DdeheuAmerica, a'r llall yw y Tuscaro. ra, perthynol i'r Gogledd. Dywedir fod y ddwy long hyn yn gwylio eu gilydd-y Tuscarora yn dysgwyl i'r Nashville fyned allan i'r tnorermwyn ei chanlyn ac ymddial am losgiad barbaraidd un o longau y Gogledd ganddi. Dywedir fod y ddau gadben wedi danfon gwystlau ysgrifenedig i'r Llywodraeth na fydd iddynt dori yr heddwch tra fyddont yn Southampton, a'u bod hwy yn sicrhau na fydd iddynt hwylio o'r porthladd dan bedair awr ar bugain ar ol eu gilydd. Y mae llong ryfet ei Mawrhydi, y Dauntless, wi th angor yn yr afon, yn gwylio y ddwy. Va "ESSAYS AND REVIEWS."—Deallwn fod cynghaws wedi ei sefydlu yn yr Archlys yn erbyn y Parch. Henry Bristow Wilson, ficer Great Staughton, yn sir Huntingdon, yn esgobaeth Ely, awdwr yr erthygl yn y Ilyff uchod ar Yr Eglwys Wladol." Dygir yr achos yn mlaen gan y Parch. James Fendall, periglor Harlton, yn sir Rhyd- ychain, ac esgobaeth Ely; a sail y cyughaws ydyw yr athrawiaethau a'r opiniynau eyfeiliornus a gyt). nwysir yn nhraethawd Mr. Wilson. Cymmerwyd y gweithrediadau rhagarweiniol dydd Llun wyth. nos i'r diweddaf yn yr Archlys. Y GWRON»GAVAZZI.—Mewn Hythyr oddiwrth y gwron Gavazzi, dyddiedig Rhagfyr 27ain, dywed ei fod ef wedi cael ei gyhuddo yn ffurfiol wrth y Cyfreithiwr Cyffredinol, ac wedi ei wasanaethu a rhybydd am dreial rheolaidd, ar y cyhuddiad o ymosod ar grefydd y llywodraeth ar amrywiol bynciau pennodol. Yr oedd yr achos o dan ystyr. iaeth yr awdurdodau i edrych a ellir cael rheswm digonol dros fyned yn ei erbyn ef mewn treial cyhoeddus. Allan o saith o'i gyhuddwyr, y mae pump yn ddieitliriaid, a dau yn Wyddelod. CYFNEWIDIAD YN Y LLYFR GWEDDI CYFF. REDIN.-Mewn cyfarfod o'r cyfrin.gynghor a gyn- naliwyd yn dd-weddar, gorchy mynwyd fod i'r geitiau Albert Edward, Tywysog Cymru," gael eu dodi yn y Llyfr Gweddi Cytfredin yn lie y geiriau "Albert, Tywysog Cymru." Y mae yr English Churchman yn grwgnach o herwydd y eyfnewidiad hwn. Nis gall weled ei ddyben na'r angenrheidrwydd am dano. Hwn ydyw yr ail orchymjn a anfonwyd i'r clerigwyr ar ol marwol. aeth y Tywysog Cydweddog. RHODD DEILWNG.—"V mae Ardalydd Westmin- ster wedi datgan ei fwriad i osod y swm mawr o £5,000 yn nwylaw ymddiriedolwyr, llog y rhai sydd i gael ei roddi i Gymdeithas Gyfeillgar Beibl. Ddarllenwyr Eglwys Lo^gr, i'r dyben o ddarparu pensions o dE36 yn y flwyddyn i Feibl-ddarllenwyr pan analluogir hwynt gan lienaint neu aHech) d i wneyd gwasanaeth pellach. Ychydig flynyddoedd yn ol cyfranodd Arglwydd Ebury, brawd yr ardal- ydd ardderchog, €500 tuag at yr un amcan hael- ionus. DINYSTRIAD PORTHLADD CHARLESTOWN.- Y mae gohebiaeth bwysig newydd gymmeryd He rhwngCymdeithas Perchenogion HongauLlynlleitiad ac larli Russell gyda golwgar ddinystriad porthladd Charlestown. Ymddengys fod llywodraeth ei Mawrhydi wedi hysbysu ei barn ar y pwnc hwn i Arglwydd Lyons ar yr 20fed o Ragfvr, gan ei gyfarwyddo i ddywedyd wrth ysgrifenydd llywodr- aeth yt Undeb ei fod yn edrych ar ddinystriad y porthladd hwnw, os cerid ef allan, fel mesur dial- gar, ac yn gyfystyr a chydnabyddiaeth o anallu i adferu yr Undeb canys, oni bai hyny, ni wnai y Cyfrin-gynghor benderfynu dinystrio un o brif ad- noddau llwyddiant y wlad. IWEKDUON.—Cymdeithasau Dirgelaidd.Nid yw y cymdeithasau dirgelaidd a gynnelir yn yr Iwer. ddon y dyddiau hyn yn tynu fawr o sylw yn Lloegr er hyny, y maent yn creu cryn gyffro yn yr Iwer- ddon. Y mae yr offeiriaid Pabaidd-d herwydd ryw resymau hysbys iddynt hwy eu hunain—yn condemnio y cymdeithasau Ribbonaidd dryg. ionus," ac yn rhybyddio y bobl o'r canlyniadan drwg oddiwrth eu gwatth yn cymmeryd eu hudo gan y bradwyr. Y mae Mr. Gray-aelod o'r pwyll- gor a appwyntiwyd mewn eyfarfod o'r National- istiaid, a gynnaliwyd yn ddiweddar yn ninas Dublin —wedi ymwrthod a'r symudiad, ac wedi cyhoeddi llythyr, yn rhybyddio y bobl i beidio cymmeryd eu hudo i ddwyn helbul arnynt eu hunain. CYFYNODER YR AMsERoBDD.-Dywed newydd. iaduron Manchester fod cyfyngder mawr, o her. wydd marweidd-dra masnach, yn nhrefydd llaw- weithfaol Blackburn, Accrington, Tonge, Roch. dale, &e. Y mae dirprwyaeth wedi ei happwyntio yn y lie olaf i ymweled a Bwrdd y Tlodion, i annog y swyddfa bono i awdurdodi rhoddi cymhorth arianol, i gael eu talu gan y der- by nwyr mewn amseroedd mwy llwyddiannus. CYFRYNGIAD LLOEGR A FFRAINC RHWNG- Y DE A'R GOGLEDD.-Dywed y Morning Advertizer fod llywodraetbau Lloegr a Ffrainc o'r diwedd wedi cytuno i gyfryngu rhwng y De a'r Gogledd, i'r dyben o roddi terfyn ar y rhyfel cartrefol sydd yn anJheitbio yr Unol Daleithiau, ac yn aiweidio mas- nach holl Ewrop.

Y RHYFEL YN AMERICA.