Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Hide Articles List
7 articles on this Page
,'"AT BREGETHWYR TEITHIOL.
News
Cite
Share
AT BREGETHWYR TEITHIOL. HYN "ydd i'ch hysbysu, ein bod fel eglwys yn y Tabernacl, Pembre, wedi cael ein gorfodi gan ein hamgylchiadau. yn nghyd a phethau ereill, i wneyd penderfyniad, na fydd i ni o hy* allan dderbyn neb pwy bynag, ond yn unig gweinidogion parchus ac adnabyddus, a myfyrwyr ein Hathrofeydd. Arwyddwyd, dros yr eglwys, HENRY WATKINS, "J JOHN LEWIS, Diaconiaid. DAVID WILLIAMS. J
- IICAERSALEM, VICTORIA.
News
Cite
Share
CAERSALEM, VICTORIA. Y mae yr eglwys hon yn bysbysu na fydd iddi gyhoeddi neb pwy bynag i bregethu yma ond casgl- vvylr rheolaidd,a'r rbai y byddom yn galw am danynt. Y mae cynnal ein gweinidog yn gymmaint a allwn wneyd ar hyn o bryd, tray mae ysbryd holiol ddileu ein dyled wedi gorphwys arnom. Arwyddwyd, dros yr eglwys, gan i THOMAS HARRIS, "J R,UL3 DAVID WILLIAMS, I R,. r.- JOHN JONES, > Dtaconmd. c-f! r, h- JOHN WATKINS, J
AT BREGETHWYR TEITHIOL.
News
Cite
Share
AT BREGETHWYR TEITHIOL. Mewn cwrdd eglwysig a gynnaliwyd yn Mhonty- Pridd, nos lau, Ion. 23, 1862, penderfynwyd na dderbynir cyhoeddiadau neb o hyn allan ond gwein- ldogion parchus, a Myfyrwyr yr Athrofeydd felly ofer fydd i grwydriaid anfon eu cyboeddiadau yma; ac 03 anfonant hwy, gwelt fydd iddynt beidio dyfod ar eu hol, oblegid ni fydd derbyniad iddynt. THOS. EDWARDS, 'I JOHN GRIFFITHS, I AARON COLE, F- Diaconiaid. NOAH MORGAN, | •• "• THOS. RICHARDS, J Pontypridd, Ion. 23, 1862.
GAIR AT BREGETHWYR TEITHIOL.
News
Cite
Share
GAIR AT BREGETHWYR TEITHIOL. Yr ydym ni, fel enwad o Fedyddwyr, yn Nghyd- *eli a Glanyfferi, yn hysbysu, na fydd i neb gael ei gyhoeddi i bregethu gyda ni, ond casglwyr rheolaidd yn ol trefn y Gymmanfa, a gweinidogion adnabyddus i ni. Arwyddwyd dros yr eglwysi uchod, JOHN MALIPHANT,} JAMES EVANS, J JOHN ROBERTS, 1 N.. JOHN EDWARDS, F D™omatd. JOHN THOMAS, | MORGAN KINO. J ,<I £ -i !dri'f7-
DYGWYDDIAD ARSWYDUS MEWN PWLL…
News
Cite
Share
DYGWYDDIAD ARSWYDUS MEWN PWLL GLO. DYGWYDDODD un o'r amgylchiadau mwyaf ar- swydus a thorcalonus a glywwyd erioed son am dano ar yr 16eg o lonawr, yn ngwaith glo Hartley, ger Newcastle-upon-Tyne. Yr oedd dau cant a plied war ar bumtheg o ddynion a bechgynach, wedi darfod eu diwrnod gwaith, yn dysgwyl cael eu cludo i fyny o'r pwll. Yr oedd wyth eisoes ar eu ffordd i fyny, pan yn annysgwyliadwy y torodd trawst mawr y peiriant, yr hwn oedd yn pwyso deugain o dunelli, un hanner o'r hwn a gwympai i'r pwll, gan dynu ar ei ol yr boll waith coed a haiarn, nes llanw y pwll i uchder mawr. O'r wyth oedd ar eu ffordd i'r lan, lladdwyd pump yn y fan, a niweidiwyd y lleill i raddau mwy neu lai. Gan mai dim ond un shaft oedd i'r gwaith, y trueiniaid yn y gwaelod, yn canfod eu cvflwr truenus, a ddeclireuasant symud y carneddau ar waelod y pwll, ac a ymosodasant ar y gorchwyl gydalu boll egni, fel y vwna dynion yn gweithio am eu bywydau. Clywwyd eu sftn yn gweithio, ond nid oedd modd rhoddi help iddynt. Danfonwyd ar unwaith i'r gweitbfeydd cvmmyd- ogaethot am gynnorthwy, acyn fuan yr oedd y dyn- ion mwyaf profiadol o bob un o honynt ar eu ffordd at olygfa yr alanastra. I lawr yr aethant, ond yn anffodus cafwyd na ellid danfon y carneddau i fyny, ac na ellai fwy na dau ddyn weithio ar y tro yn y gwaelod, ac i'r dyben i'w galluogi i wneyd hyny, yr oedd yn rhaid eu bongian wrth raffau gan mor beryglus oedd y lie. Yr oedd yr olygfa yn y gym. mydogaeth drwy ystod dydd Gwener, a'r diwrnodau canlynol, yn un o'r mwyaf torcalonus y mae yn bosibl i ddychymmygu. Yr oedd y newydd erbyn hyn yn mhell ac yn agos, ac yr oedd y bobl o wa- hanol fanau yn llifo i mewn yn ffrydiau. Wrth enau y pwll, yr oedd gan yr heddgeidwaid gymmaint a fedreut wneyd i gadw y bobl yn ol, er rhoi chwareu teg i'r gweithwyr yn eu hymdrechioni glirio y pwll, ond yr oedd prudd-der dwys yn cartrefu ar bob gwynebpryd, a phawb megys yn sefyll dan gysgod rhyw anffawd drychinebus. Aeth diwrnodau a di- wrnodau heibio, ond heb lwyddo gael cymmaint ag un o'r pydew erchyll. O'r diwedd, dyn dewr o'r enw Adams, wedi iddynt glirio rhywfaint o'r earn- eddau o'r gwaelod fel ag i oddef i un fyned i lawr i ran o'r pwU, a aeth i lawr. Fodd bynag, ni fu yn y gwaelod yn bir-yr oedd yr awyr afiach yn rhy gryf; ond desgrifiai olygfa a lenwai bob mynwes a braw-yr oedd wedi canfod dros gant o gyrff meirw yno Ar ol cyfwng blin o saith niwrnod, cafwyd fod yr oil o'r glowyr druain wedi syrthio yn ebyrth i'r nwyon afiach yn y pwll! Adams wnaeth y dar. ganfyddiad arswydus. Y mae yn hawddach dych- ymmygu teimladau y bobl na'u desgrifio-hanner y pentref fel hyu wedi eu hysgubo yn ddisymmwth i dragwyddoldeb. Pan glywodd ei Mawrhydi am yr amgylchiad, danfonodd delegram yn union i ofyn os oedd gobaith y gellid achub rhai o'r trueiniaid, ac ysgrifenwyd llythyr o gydymdeimlad a'r perthyn- asau yn ei henw wedi hyny, ac ynddo ddau cant o bunnau. Danfonodd Arglwydd Hastings, perchen y gwaith, ddirprwywr i lawr i Hartley, a chanddo awdurdod i dynu faint bynag o arian a fyddai yn angenrheidiol er diwallu anghenion y perthynasau ac yr oedd Esgob Durham, yr ofFeiriaid, a phregeth- wyr pob enwad,yn gwneyd a allent i gynnorthwyo a chysuro y sawl oedd yn sefyll mewn angen o hyny. A ganlyn yw cyfrif y swyddogion plwyfol o'r rhai sydd wedi eu hamddifadu drwy yr amgylchiad Gwragedd 103 Plant. 257 Chwiorydd a gynnelid gan frodyr 27 Amddifaid 2 Rhieni a gynnelid gan feibion 16 Modryb a gynnelid gan nai 1 Nain a gynnelid gan ftyr 1 407 Boreu dydd Sul, y ^6ain, y dygwyd y diweddaf o'r cyrff i fyny. Adwaenid pob un o honynt yn ddidrafferth, Be y maent oil wedi eu cladduyn awr.
RUMNI A'I CHYMMYDOGAETH.
News
Cite
Share
RUMNI A'I CHYMMYDOGAETH. Y mae gwyr Eglwys Loegr yma yn ddi. wyd iawn; y maent yn ymdrechu a'u holl egni i wneyd Proselytiaid, ac wedi iddynt gael un, mawr yw eu llawenydd. Nid eu hamcan yw dyrchafu Crist a'r gwirionedd; pethau ail law yw y rhai yna, ond codi yr eglwys-" Our Church yw y peth mawr mewn golwg. Y mae Eglwys Loegr er ys blynyddau yn gwneyd ei goreu i ladd Ym- neillduaeth; i gyrhaedd hyn rhoddir gwobr- wyon, cymhellir pob oed i'r eglwys, eir o dt i dy i ofyn a geir taenellu ar y plant bach, &c. Ond, ofer yw amcan yr ucnel-eglwys* wyr, fe fydd Ymneillduacth fyny pan fyddo yr hen eglwys yn ei beddrod, canys rhaid yw cael pob cyfeiliornad i'r llawr cyn y gall leau fod yn ben ar y ddaear. Y peth mwyaf galarus yma yw, fod llawer o rai fu gyaa'r Annibynwyr, y Trefnyddion, &c., wedi ym- aelodi yn yr eglwys. Beth allasai fod eu hamcan wrtn wneyd hyn nid ydym yn myned i ddweyd, ond gwyddom y pethau canlynol: —Fod y cyfryw ddynion wedi myned o well i waeth eu bod yn gwneyd eu goreu i ddi- galoni y rhai fuont unwaith yn bleidio eu bod yn annheilwng iawn o'r hen dadau Ym- neillduedig, y rhai a ddyoddefasant lawer dros yr egwyddorion ag y mae y bodau dan sylw yn sathru dan draed; eu bod yn pechu yn fawr yn erbyn Duw y dylent ediferhau a dychwelyd; ac os na wnant, fod amser gerllaw ag y bydd llwyth ofnadwy o ond ac euogrwydd yn dirwasgu eu cydwybodau. Y mae yma hefyd Ymneillduwyr diofal am eu hegwyddorion. Gadawant eu plant i fyned i ysgol yr eglwys, ac i'r eglwys hefyd; -r Yr ydym wedi clywed fod yma Drefniedydd ac Annibynwr yn bwriadu codi pob o 'ffeirad; os gwir hyn, y mae yn hen bryd dangos j drws iddynt. O Ymneillduwyr gofalwch am eich plant; gwell fyddai i chwi fod heb y gwobrau mae y plant yn gael am fyned i ysgol yr eglwys na gwerthu eich egwyddor- ion, a pheryglu eich enaid am oes yr oesoedd. Y mae Eglwys Loegr yn arwain i Rufain, ac y mae Khufain yn arwain i'r "lie poenu# hwnw." Mynwch ysgol i'ch plant ag y byddo rhyddid crefyddol mewn cyssylltiad & hi. Dinunwch! dihunweh!! Dechreuwyd yma yn ddiweddar achos; Seisnig gan y Bedyddwyr; ac y mae arwydd- ion yr k yn mlaen yn llwyddiannus. Cor- ffolwyd yr eglwys Sul, Ionawr 12, pryd v pregethodd y Parchedigion T. Lewis a J. Lewis, Tredegar. Neillduwyd dau frawd i'r swydd ddiaconaidd, ac mae yno 21 o aelodau. Y mae yma hefyd Ysgol Sul dra lluosog. Dymunem heddweh a chydweithrediad yn mnlith y brodyr, a llwyddiant mawr yn y gwirionedd. Y mae yma wrthwynebiad i'r acbos hwn gan rai; ond er hyny, ein harwyddair yw, "We will serve our God, and do all unto his glory." Y mae rhyw frodor oddiyma, yr hwn a gyfenwa ei hun," Y gwalch a sonir am dano," wedi danfon llythyr yn ddiweddar i'r Cymro, ar yr hwn y gwnawn rai sylwadau. Gan fod yr enw Y Gwalch," &c., yn rhy hir i'w ddefnyddio yn ami, ni a roddwn enw bach pert yn ei Ie, sef Bob Tom; gan hyny, bydd l ni sylwi ar lythyr Bob Tom yn y Cymro diweddaf. Ehy w greadur by chan ac hunanol dros ben yw Bob; pe buasai Martin Luther "vis..1 U
. GAIR AT EGLWYSI A GWEINIDOGION…
News
Cite
Share
eich casgliad i ofal yr ysgrifenydd,—M. Evans, 55, Sswardstan Road, Victoria Park, East London. Goheithiaf nad anngbofiwch hyn o beth. Da genyf eich hyshysu fod ugeiniau o Gymry a Saeson yn y brif ddinas yn teimlo llawer o ddyddordeb yn yr achos hwn. Y mae y Gymdeithas wedi cyfnewid ychydig yr. y dull o gario y gwasanaeth yn mlaen yma eleni, yr hyn, yn ddiammeu, fydd o les mawr i'n henwad yn mhlith y Cymry yn Llundain, sef cymmeryd eglwys fechan Tottenbam Court Road o dan ei nawdd am beth amser, hyd nes y daw yn alluog i gynnal gweinidog. Nid oes gan y Gen- hidaeth yn awr ond Tottenham fel unigr station. Y mae yn penderfynu rhoddl cymhorth i'r eglwys fechan hon, nes y daw yn ddigon cryf i fyw yn an. nibynol ar y G-enadiaeth, ac y mae arwyddion ffafr- iol y daw hi felly yn fuan. Nid gwiw diystyru dydd y pethau bychain." Dymunir arnoch i gasglu mor gynted ag y galloch, os gwelwch yn dda. Moorfieids, Llundain. M. EVANS. Ion. 24, 1S62.