Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

,Y PYTHEFNOS.

News
Cite
Share

Y PYTHEFNOS. Y COLIER! Ie, y Colier a'i heryglon Dyma y peth pwysicaf o lawer ag sydd wedi denu ein sylw yn ystod y pythefnos hon. Mae un o'r anflodau dychrynllyd hyny sydd yn awr ac yn y man yn taflu y wlad i ddygn drallod, wedi cymmeryd lie, yn ystod y pythefnos diweddaf, a dyma y dygwycldiad mwyaf torcalonus o lawer ag sydd wedi cyrnmerydlle er's blynyddau lawer. Gerllaw Castellnewydd-ar-y-Tyne, mae pwll glo o gryn faintioli, o'r enw J-Iertley New Pit, Boreu dydd Iau, lonawr 16eg, cymmerodd yr anffawd Ie. Mae beam sydd yn gys- sylltiedig a'r peiriant sugno (pumping engine) y mwyaf ag sydd mewn ymarferiad trwy Loegr—yr oedd yn pwyso deugain tunell. Boreu y dydd Iau, torodd y beam yn y canol. Syrthiodd y naill banner i lawr i'r pwll, ac yn ei daith i waered Uaddodd bump o ddynion ag oeddynt ar ei ffordd yn dyfod i fyny. Dyma oedd dechreu gofidiau y dydd. Ond yn fuan cawd mae dechreu yn unig oedd. Darfu Frhanner beam, gyda y pethau ereill a chwyrn-daflwyd i waelod y pwll, gau i fyny y ffordd i'r gweithfeydd, a chau i fyny yr unig lwybr i'r dynion ag 0 13 oeddynt yn y gwaith i ddyfod allan. Yr oedd yn y gwaith y pryd hyn ddim llai na 215 o eneidiau yn wyr a bechgyn ond nid oedd modd i un ddyfod allan, na modd i neb fyned atynt hwy. Yr oedd dau berygl o'u blaen yn unioogyrchoI--y dwr yn cryn- hoi yn ngwaelod y pwll, ac yn bygwth eu boddi; y gas yn ymgasglu yn rhan uchaf y gwaith, ac yn bygwth eu dinystrio trwy eu 0 y mygu. Ac yn y man yr oedd y gelyn arall yn debyg o'u ewrdd-newyn. Bu y 2].5 t5 hyn yn gloedig yn y gweithiau am wyth niwrnod, er fod pob peth yn cael ei wneyd, heb ofalu am gost na thraul; ac yn y cyf- amser, yr oedd rhai o'r peirianwyr goreu yn y wlad, a llawer o'r dynion mwyaf gwybodus ac ymarferol, wedi dyfod i gynnyg eu cyn- northwy, heb i neb allu myned atynt; a phan awd i mewn trwy wythien uwchlaw i'r manau lie yr oedd y gweithwyr, cafwyd YR OLL WEDI MEIRw-Ïe, dyna yr oil wedi myned dros y terfyngylch beb adaeI cymmaint ag un, fel yn amser Job, i ddy- wedyd beth oedd eu teimladau yn eu carchar tanddaearol. Mae yn rhy gynnar etto i ffurfio barn gywir ar y tro bwysig hwn. Nid ydym am ddywedyd mewn byr-bwylldra fod bai ar neb, ond nis. gallwn lai na rhy- feddu fod pwll glo o faintioli Hartley New Pit, a dim ond un shaft iddo. Mae hyn wedi ein synu. Pe buasai ,yno ragor nag un shaft yna tebygolrwydd yw, y buasai y 215, y wedi dianc rhag angeu. Ond gwell genym aros byd yr ymholiad swyddogol cyn dadgan ein barn. Nid oes un newydd cartrefol arall o unrhyw bwys. Mae Mr. Gladstone wedi bod yn Scotland yn areitbio o blaid ac ar ran eglwys wladol Scotland; tra mae Mr. Beresford Hope wedi bod yn areithio o blaid caethfeistri Deheudir America; mae Palmerston wedi cael gwared o'r gymmal- wst, ac wedi cilio oddiwrthi i Broadlands tra mae Iarll Russell yn gwylied symud- iadau y galluoedd tramorol, yn barod ar bob llaw i amddiffyn yr iawn, a cheryddu y drwg. Mae prawf Wyndham yn para etto, ac yn debyg o wneyd eyhyd ag y parhao y stad. Mae y prawf hwn yr hwyaf a glyw- wyd son am dano er ysblynyddan. Mae America yn hawlio ein sylw blaenaf yn mhlith y galluoedd tramorol. Mae yr agwedd a gymmerwyd gan y weinyddiaeth hon ar bwnc y Trent wedi cael yr effeithian mwyaf dymunol ar dymher y. bobl yn Am- erica. Mae llawer wedi beio y weinyddiaeth am fod mor frysiog i anfon y fath lu o fil- wyr i Canada, cyn gwybod beth fuasai ateb America. Mae y tuchanwyr hyn yn an- nghofio beth yw ansawdd ac hinsawdd Canada. Pe buasai y llywodraeth yn colli tri diwrnod buasai yn rhy ddiweddar i anfon milwyr i Canada cyn toriad i fyny y gauaf. Ond trwy ddoethineb a phenderfyniad y Weinyddiaeth, taflwyd miloedd o filwyr i Canada cyn i'r rhew gloi fyny y St.Lawrence; a thrwy hyn cafodd ein cyfeillion yn Am- erica weled fod Canada yn ddiogel, a bod Prydain yn barod ar fynyd o rybydd, ac yn benderfynol i amddiffyn eu hawliau ar dir a mor. Mae yn wir i hyn gostio £ 2,250,000; ond gwell talu hyny yn awr, na thalu y deg cymmaint mewn costau rhyfel, a thywallt afonydd o waed yn y favgen. Nid oes un- rhyw ddadl yn eiu meddwl yn awr wrth edrych ar yr holl amgylchiadau, nad agwedd r, Lloegr a drodd y fantol 6 du heddwch. Ncu paham yn enw pob svnwyr y caniataodd y Llywydd Lincoln, a Mr. Seward, i'r Cadbea Wilkes gael eilyfu a'iluo, ei ganmol a'i foli, a phawb, o'r Bwrdd Llyngesol i'r Senedd, yn plygu y glun, ac yn gwaeddi abrec o'i flaen pan, yn ol tystiolaeth Seward ei hun, yr oeddynt yn gwybod ei fod wedi tori cvf- reithiau y gwledydd ? Ond pan gododd y Llew, ac ysgwyd ei fwng, a gosod ei bawcn yn y tir, deallwyd ei bod yn rhy beryglus i'w symbylu yn hwy yna cawn Mr. Seward yn enw y genedl yn gwaeddi, Pecavi, a dyna ddiwedd ar y twrw. Mor wahanol yr oedd ymddygiad Seward yn ol Haw; mae tri achos cyffelvb iawn i eiddo y Trent wedi cymmeryd lie wedi hyny. Prif cbwareu y Capteniaid Americanaidd oedd ceisio yn mhob modd sarhau Lloegr. Dyma -dair llong, un ar ol y llall, yn cael eu byrddio alu hyspeilio o dan y eyffelyb amgylchiadau a'r Trent; ond yn mhob amgylchiad, mae Mr. Seward, heb un cais oddiwrtbym ni, wedi condemnio gweithredoedd y Capteniaid am daflu anfri ar longau Lloegr, ac wedi danfon ar bob adeg hysbysiad i Loegr ei fod wedi gwneyd hyny. Nid oes ond ychydig o newyddion o faes y rhyfel. Mae y llynges yn ennillen- wogrwydd mileinig am ddinystrio y porth- laddoedd yny Dehau, trwy suddo llongau ar draws y gwddwg yn llawn o geryg. Mae McLellan yn aros yn dawel, heb symud llaw na throed. Nid oes dim o un man arall yn werth ei gofnodi. Mae gwir gyf- lwry wlad yn dechreu dyfod i'r golwg. Mae arian yn prinhau i raddau dycbrynllyd. Mae y JIywodraeth newydd daflu i'r farchnad werth X20,000,000 o arian papyr-mwy nag sydd gan y Bank oj England rnewn cylchrediad trwy y byd Mae arian celyd (cash) yn awr yn 5 uwchlaw par, a berniry bydd yn 10 cyn pen dau fis, ac y bydd yn 50 cyn Mehefin, os bydd i'r rhyfel bara cyhyd. Mae hyn yn dywedyd yn ofnadwy ar y weinyddiaeth. Dyna, er siampl, ganddi i fenthyca £100,000,000; ond gan fod aur yn 5 uwchlaw par, dyna y can miliwn ar unwaith yn myned yn gant a phum miliwn. Heblaw hyn, mae yn agos yi holl ariandai trwy y Gogledd yn gystal a'r Dthau, wedi ymattal rhag talu ond mewn papyr yn unig. Mae y sefyllfa hon yn rhwym o ddwyn y rhyfel i derfyniad buan, neu ddinystrio pob masnach a phob trafodaeth yn America. Mae ein gofod yn rhy gyfyng i fanylu ar newyddion o'r gwledydd ereill. Mae man- ylion wedi ein cyrhaedd o China. Gadaw- odd yr Amherawdwr diweddaf y wraig- mae un yn fwy ac o flaen y lleill oll-yn ddiblant ond yr oedd ganddo fab o wraig arall israddbl i'r wraig gyntaf. Yn awr, mae y ddwy yma o'r Tywysog Kung yn gweinyddu yn enw y bachgenyn tra maent wedi crogi dau o'r cyngynghreiriaid. Maent

Advertising