Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
BARDDONIAETH.
News
Cite
Share
BARDDONIAETH. t CAN Ar effeithiau Cariad, feZ rhwymyn Cymdeithas. Mae deddf a rwym aneirif lu Pob seren yn y wybren lias, Pob llychyn yn y ddaear fras, Pob defnyn yn yr eigion du. Ac i gymdeithas dros y byd, O'r un lie uchel deddf a roed, I wneyd yn un pob gradd, pob oed, Mewn cariad byddwch byw yn nghyd, Y pen coronog ar ei sedd, Y gweithiwr ar ei aelwyd lan, A phawb cyd-rhyngddynt fawr a man, Cyd-drigent mewn hapusaf hedd. Pe llanwai cariad pur bob bron, Nes toddi gwahaniaethau i lawr, A chydgylymu bach a mawr Yn rhwymyn cydymdeimlad lion. Fe beidiai Divstyrwch cas, Cenfigen roddid yn y bedd, A blodau o hawddgaraf wedd Agorent ar au donen las. Fel ysgafnheid baich y tlawd, Trwy fod llaweroedd yn cyd-ddwyn! A chan bob un ryw gysur mwyn, I weini i drallodus frawd. Y weddw svdd a'i grudd yn wleb, Wrth gofio am y marw pell, Hi allai ddwyn ei chroes yn well, Pe'n gwybod na chai gam gan neb. Pe bwrir y tyddynwr gwan I brinder chwrw gan groes ffawd, Cai bob cymmydog iddo'n frawd, Ac o'n byd helaeth dderbyn rhan. Ac 0, ni chai'n henafgwr llwyd Fu'n ddiwyd hyd ei fywyd blin, Ddyoddef bar gauafol hin, Ac yn ei henaint, eisieu bwyd. Tawelwch drigai yn mhob bro, Cartrefai megys yn y nef, Paradwvs fyddai gwlad a thref, Pob dig a chas ar fythol ffo.. Ni rwygid un gymdeithas gan I Annghydfod brodyr ffyrnig gau, Cadwynid cynhen yn ei ffau, Gwir frodyr pawb mewn llyøa llan. Ac o addfwynaf Iesu mâd Dy eglwys flodeuai mwy, lacheid hi o lawer clwy' A'th enw folid yn mhob gwlad. Yn muchedd dyn, sy waith dy law, Ceid darlun gwan ar hedd fellli, Sy'n harddu gwedd dy drefnau Di, Ein tad! y Cariad dibendraw. p. OiiiyjiR Edwards.
HELAETHIAD SEREN CYMRU.
News
Cite
Share
HELAETHIAD SEREN CYMRU. GAN ein bod wedi myned i'r draul o helaethu SEREN CYMRU, hyderwn y gwna ein cefnogwyr bob ym- drech galluadwy i ddyblu rhif y derbynwyr, ac an- fon Hysbysiadau iddi o bob man. Y mae cylchredr iad y SEREN yn dra helaeth yn bresenol, ac yn cael ei gwasgaru drwy bob parth o'r Dywysogaeth, ao yn mysg y Cymry yn Lloegr; gan hyny, gellir yrnddir. ied ei bod gyda'r eyfrwng goreu yn Nghymru i daemi hysbysiadau o bob math. Pris SEREN CYMRU yw 2g. y Rhifyn; a dys. gwylir i bob derbyniwr dalu bob tri mis yn ddiffael.
AT EIN GOHEBWYR A'N DARHENWYE..
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR A'N DARHENWYE.. Ein derbyniadau,-Ap Gwilym—Parch. S. Jones* Garn-Un o'r Sling-Delta-Capten Simon. Rufus—Parch. J. Jones-Moses Williams— Jenkin Parry-Mosasem-Un sydd yn teimld —Myfyrwyr Athrofa Pontypwl — Parch. M. Evans, LlulJdain-Gweno-Rees Edwards— Gwrgant—M. R.—J. Evans-Llwynolf Cocb, Manceinion-Thomas Edwards-Parch. D.O. Edwards. RUFUS.—Bydd yn dda iawn genym gael y gweddill o'r ysgrifau arlAthrofeydd y Bedyddwyr yn Sir Fynwy. Gwyddom y byddant yn ddyddorol i gannoedd o'n darllenwyr. CYNWYD GLAN LLYFNI a geisa gan y Parch. N. Thomas, Caerdydd, i roddi ei esboniad goleu. bwyll ar fod santeiddrwydd yn addurn neu yn goron ar yr holl Briodoleddau ya Nuw." YMOFYNYDD, BALA.-Tri, sef Gwilym, Gomer, a Gwladus. Mae y tri yn Gymry glan gloyw, ac yn deilwng o'u rhiaint. J, MORGANs.-Pontypridd yw yr enw swyddogol ar eich tref chwi. Dyna yr enw a ddefnyddlr gan y Llythyrfa Gyffredinol, a dyna yr enw a raid ei ddefnyddto mewn pob ysgrif gyhoeddus mwy.
Advertising
Advertising
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR AWENYDDOL. GWALCH, LLYNVI.—Nid ydyw eichllinellauyn ein boddloni. Y mae eu barddull yn rhy henafol a chyffredin, a'r pennillion drwyddynt yn bur eiddil. CYFAILL DIDWYLL IDDO, MATTHAT.-Gellw Y ddau yma eu cyfansoddiadau yn Englynion,ond nid oes gan yr un o honynt ddim "yn debyg englyn. Gresyn yw cynnyg peth mor wael yo ganmoliaeth i wrthddrychau teilwng. IORWERTH GLANTAF. Y mae y cyfaill yn y dwymyn garu, a hyny yn drwm iawn. Fel y mae dynion yn gyffredin mewn twymynau yo surddanu, ys dywed gwjr Morganwg, felly y mae yntau yn siarad am ei gariad. Hyderwn yn gryf fod llawer mwy o brydferthwch a go- goniant yn perthyn i'w Rian nag sydd o fardd- oniaeth yn y darlun a anfoncdd Iorwerth i 01 o honi. Dymafe: Y mae'r edrychiad tnwyaf hardd Yn ei gwynebpryd tirion, Yn ddigon i ymotvyno'r bardd, Tra'n gwel'd ei gariad gwiwlon." DAVID DAVIES, LLANDYFAEN.—Un cynnyg ettw, machgen I, gan wylio rhag corfanau cloffion, megys y llinell gyntaf yn y pennill cyntaf, y gyntaf yn y trydydd, y gyntaf yn y pummed, &c., &c. Glanhewch eich eyfieithad hefyd oddiwrth y fath ansoddeiriau anmhriodol$ neuadd rydd, dyddiau clyd, eithriad syth, &c., &c. Wedi i chwi goethi eich cyfieithad oddK wrth y beiau uchod a'u cyffelyb, caiff ymddan- gos yn SEREN CYMRU. Os nad ydych wedi cadw copi, gyrwch i ni geiniog bapyr, a dycb- welwn yr un a anfonasoch i ni. GWERFYL.—Y mae rhai o'ch englynion ar farwol. aeth Llewelyn Twrog yn bur dda. Cant ym- ddangos yn eu tro. Daeth eyfansoddiadau barddonol Eisteddfod Un* debol Aberdar i law. Diolch am danynt. D. 0. EDWARDS. — Lied dda. Y maent yn r Swyddfa. Ymdrechwch i roddi yn eich cyfan. soddiadau feddyliau Tennysson, yn crystal ag <;felychu ei hoff fesur. ff
Y GATH YN YSGRABINO EI CHYNFFON.
News
Cite
Share
gael eu gosod i 'sgrabino y gynffon mor druenus a hyn. Gwell fyddai—a chyda llawer mwy o bryd- ferthwch—i'r pen dori y gynffon yn grop ymaith r ar unwaith, trwy ddywedyd nad yw y" brodyr teilwng ac ymdreehgar, &c. yn addas i osod pin ar bapyr," na gwneyd dim a'r wasg, a hyny am eu bod yn anrhydedd i'r areithfa, yr esgyn- lawr, ar gynnadiedd," yn hytracli na'u gwaedu hwynt fel hyn mor ddychrynllyd. Ond, bydded i ni edrych yn fwy neillduol. Beth yw meddwt yr Anerchiad dan sylw, pan yn dy- wedyd nad yw y brodyr teilwng ac ymdrechgar, sydd yn anrhydedd i'r areithfa, yr es^ynlawr, a'r gynnadledd," yn addas, ond yn iselhau eu hun. ain wrth ymdrin a'r wasg, &c.? Wei, nid yw y fath ddywediad yn cynnwys llai na hyn, sef fod gweinidogion yr efengyl-er yn addas i bob dim, yn ol y cyfaddefiad uchod-etto yn gwbl ddyeithr i leoyddiaeth y wtad, &c. Yn ol y fath ddywed- iad, yr oedd Harris, Abertawe Evans, gynt o Bontrhydyryn a H. W. Jones, Caerfyrddin, yn hollol anngbymhwys i fod yn Olygwyr SEREN GOMER, am mai brodyr teilwng—yn anrhydedd i'r areithfa, &c., oeddynt. Mae Golygwyr pretenol SERaN GOMER yn anaddas i'r pin a'r papyr," am eu bod yn anrhydedd i'r areithfa, yr esgyn. lawr, a'r gyinadiedd I I" Mae Golygwyr presenol y Great, yr Athraw bach, SEREN CYMRU, a braidd Golygwyr yr holl gyhoeddiadau misol, chwarteiol, pythefnosol, ac wythnosol, perthynol i bob enwad, yn Lloegr a Chymru, America, a chyfandir Ewrop, yn ngbyd a manau ereill o'r byd, yn annghymhwya hollol i osod "pinarbapyr," am mai "brodyr teilwng, ag sydd yn anrhydedd i'r areithfa," &c., ydynt. Pwy a glybu y fath beth a hyn o'r blaen ? Pwy a ddarganfyddodd y dirgelwch hwn ? Golyg. wyr y Bedyddiwr ydynt y darganfyddwyr; ie, a hwythau hefyd yn frodyr teilwog-yn anrhydedd i'r areithfa," Ac. Beth yw y canlyniad ynte ? 0, yr hyn a ddywedwyd eisoes, sef, fod y gath yn ysgrabino ei chynfFon ei hun yn ofnadwy. Dywed yr Anerchiad hefyd, fod yr ysfa" olygyddol yo myned yn mlaen yn bresenol, ac y byddwn cyn hir yn wawd i'n gwrthwynebviyr." Dyna ysgra- biniad dychrynllyd etto i'r gynffon. Ar bwy mae yr ysfa hon yn bresenol ? Wrth gwrs, ar ryw rai ag sydd newydd orchestu i gllel yr OLYGYDD- IAETH, Wel, pwy attolwg, yw y rhai hyny, gan fod y rhan fwyaf o olygwyr y cyhoeddiadau ag sydd dan nawdd y Bedyddwyr yn hen olygwyr?— felly ydynt olygwyr SEREN GomER, SEREN CYMRU, y Great, a'r Athraw. Nid oes ynte neb a'r ysfa" arnynt, ond y rhai a wthiasant eu hunain i'r swydd hon yn ddiweddar, a'r rhai hyn hefyd heb un angen am danynt, na rheidrwydd wrthynt, na chymhelliad iddynt gan neb, ond yn unig eu hawydd hwy eu hunain am yr anrhydedd hon. Mae y darllenydd o fy mlaen yn awr, ac yn gweled ar unwaith pwy yw y rhai sydd a'r ysfa olygyddol" arnynt, sef y rhai sydd newydd godi cyhoeddiad misol, o'r enw Bedyddiwr. Nid oedd neb yn ymofyn y cyhoeddiad—nid oedd neb yn gweled bwlch yn llenyddiaeth y Bedyddwyr, am nad oedd hwn yn bodoll-ac ar ol iddo ddyfod i fodolaeth, nid ydyw wedi llanw un bwlch gwag—mae wedi gwthio ei hun i le cyfyng i blith y cyhoeddiadau. ond heb un math o newydd-deb, ffraetbineb, na chylchrediad newydd yn perthyn iddo. Er hyny, yr oedd yn rhaid i bedwar neu bump o bersonau fwrw eu penau yn righyd i gael y cyhoeddiad hwn dan yr enw Bedyddiwr; ac am fod enw o'r fath wedi bod ar gyhoeddiad o'r blaen, yr oeddynt yn gweled y gallasai yr enw fod yn blyfyn, beth bynag, i ryw rai i afaelyd ynddo, os na fuasai dim arall o deil- yngdod ynddo. Ond, y cymhelliad mawr i gael y cyhoeddiad oedd, yr ysfaotygyddol," oherwydi nid oeddynt, gan amlaf, viedi cael y fath fraint erioed o'r blaen a dyna y ffordd, mae yn debyg, fod y naill o honynt dan grechwenu yn dangos y ffordd i'r Hall i osod GOL, ar ol pob peth a fuapent Atpy yn ei osod yn y cyhoeddiad, Wrtb edrych ar bethau fel hyn mewn cyssylltiad a'r Anerchiad, oni welir y gath yn lagrabino ei chyn- Aon i'r byw, ac yn gwaedu ei hun yn druenus ? Os caniatewch chwi, Mr. Golygydd, myfi a wnaf sylwar ran arall olr Anerchiad yn y SEREN ddy- fodol, sef ar y rhan hyny ag sydd yn dywedyd, mai y Bedyddiwr newydd hwn yw yr unig gyhoeddiad ag sydd gan y Bedyddwyr yn Neheudir Cymru, ac nad oes ond y Greal ac yntau gan y Bedyddwyr drwy holl Gymru. gyda yr eithriad o'r Athraw i'r plant!! Ni a fynwn weled peth fel hyn yn deg a theg, rhag, wrth i ni gredu peth fel hyn, fyned yn blant, a ffolach na phlant, ein hunain. Yr wyf yn deall fod yn yr Anerchiad hwn amcan hefyd i roi cic buwch i'r Gwyliedydd ar ei dwr. Ond, gan y credwyf fod y Gwyliedydd yn ddigon galluog ei hun i ddefnyddio ei chwip, mi a adawaf y rhan hon o'r Anerchiad iddo ef i wneyd fel y myno a hi. Gyda golwg ar yr Anerchiad yn seboni y Greal, bydd hyny yn dyfod dan sylw yn naturiol y tro nesaf. Wyf, &c., Y.