Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
FFRAINC. •
News
Cite
Share
FFRAINC. • Y dydd cyntaf o'r lfwyddyn bresenol, fel arfer, rhoddodd yr AmherawdwrN apoleon dderbyniad ir corfF diplomyddol yn v Tuileries. Cyflwynodd Count Kisseleff longyfarchiadau unedig y cyrff diplomyddol i'w Pawrhydi. Attaliwyd Arglwydd Cow- ley rhag bod yn bresenol. Mewn atebiad, diolchodd yr Amherawdwr i'r corff diplom- yddol am eu hewyllys da; ac a ddywedodd fod y flwyddyn ddiweddaf yri un hynod ar gyfrif y dygwyddiadau pwysig oeddynt wedi ysgwyd amryw o lywodraethau, ac achosi gattar mawr yn mhlith rhai teuluoedd penadurol. Gobeitbiai ei Fawrhydi y bydd y flwyddyn bresenol yn fwy llwyddiannns i'r bobl, fcd i'r teuluoedd penadurol. "Dywedir fod yr amherawdwr yn hWriadu cahiatau chwaneg o ryddid cyfansoddiadol. Dywed.M. Gueroult, nad ydyw gwaith yr amherawdwr yn ymwrthod a rhai o'i hawl- iau cyllidol ond yn unig y cam cyntaf tuag at lywodraeth Seneddol. Tybiti ei fod yn gweied, yn y petrusder gofidjus" gyda golwg ar achos ftaly, a phynciau pwysig ereill, arwydd fod yr amherawdwr wedi blinoary cyfrifoldeb presenol sydd wedi gorphwys yn drwm arno ef am y deng mlynedd diweddaf; a'i fod yn bwriadu gadael i'r wlad,- o hyn allan, lywodraethu ei hun. Iteblaw hyn, nid oes un petho bwys neillduol yn nghyfarchiad yr Amherawdwr. Y mae Napoleon yn enwog bellach gyda golwg ar gadw y bobl yn y tywyllwch o berthynas i'w weithrediadau yn y dyfodol.
..MEXICO.
News
Cite
Share
MEXICO. Yn ol y newyddion diweddaraf a dder- byniasom o'r wlad anffodus hon, ymdden- gys nad yw y llywodraeth yn meddu digon oalIu ae awdurdod i alluogi unrhyw lyw- odraeth dramor i gychwyn ymdrafodaeth a hi-fod nifer mawr o'r boblogaeth, wrth weled sefyllfa ymranedig a helbulus y wlad, yn ffafriot i gyfryngiad Lloegr a Ffrainc; ond fod eu gelyniaeth at Yspaen mor fawr, fel y maent yn benderfynol, os bydd i iilwvr Yspaen lanio yno, o ymddwyn atynt fel gelynion. Credir y bydd i'r Cad- lywydd Serrano, yr hwuo herwydd rhyw reswm, a gychwynodd o flaen ei gynghreir- iaid, gyfyngu ei hun i weithrediadau Hyng- esol hyd ddyfodiad galluoedd Lloegr a Ffrainc. Modd bynag, os bydd idido lanio ei filwyr ar unwaith, nid ydyw yn annhebygol na orchfygir ef. Yr oedd llywodraeth Mexico wedi chwanegu ei helbul trwy ddal a charcharu goruchwyliwr cyfrinachol y Llywydd Davis. Drwgdybir Yspaen, nid yn unig o goledd rhyw fwriad drwg gyda golwg ar Mexico, ond hefyd o gydweithredu yn llechwraidd a Thaleithiau Deheuol America.
INDIA.
News
Cite
Share
INDIA. Mae y newyddion o'r wlad hon yn dra boddhaol. Y mae'r wlad mewn cyilwr iachus, trafnidaeth a masnach yn cynnyddu, cotwm yn cael ei blanu yn helaeth, a hedd- wch yn ffynu drwy yr holl dir. Y mae y taleithiau Gogledd-orllewinol, y rhai oedd- ynt yn dyoddef yn ddiweddar o herwydd newyn yn doedig gan gnydiau gobeithiol, a'r bobl yn llawen ac uwchben eu di on. Mae Arglwydd Canning wedi rhpi heibio ei fwriad o ymweled a Godävery, ac wedi pen- derfynu dychwelyd yn union i Loegr. Efallai maiy tipyn mwyaf dyddorol o new- ydd yn yr hysbysiad yw fod yr adyn Nana Sahib wedi cael ei ddal yn Kurrachee. Y mae ychydig o ammheuaeth pa un ai efe ai. peidio ydyw; ond y mae y dystiolaeth mai efe ei hun ydyw yn lied gadarn. Y mae llofruddiwr Major Burton a'i feibion wedi cael ei,ddienyddio yn Koath, lie y cyf- lawnai ei weithredoedd erchyll. Y mae yn ddrwg genym i hysbysu ddarfod i Lieuten- ant Steward, o'r 28ain Gatrawd, gael ei lof- ruddio yn ei gwsg gan ei was, yr hwn wedi saethu cynnwysiad llawddryll drwy ymen- ydd ei feistr, a enciliodd i fwthyn, ac a derfynodd ei fywyd ei hun yn yr un inodd. Nid annyddorol i'n darllenwyr fydd cry- bwylliad o'r modd y daliwyd Nana Sahib. Y mae ei weithredoedd annynol yn Cawn- pore yn ystod y rhyfel heb eu dileu etto o gof pobl y wlad hon. Pan oedd yr adyn ar ei daith drwy Kurrachee i Muscat, wedi ymwisgo fel masnachwr, cafwyd gafael ynddo; ond yr oeddys ar ei ryddhau dra- chefn, gan feddwl fod camsynied wedi dyg- wydd yn y dyn, pan y daeth y meddyg o'r ysbytty yno, o'r enw Mr. Nugent Sullivan, i'w hysbysu fod uu o ddeiliaid yr ysbytty wedi bod yn ngwasanaeth y Nana yn Bithoor, yr hwn a'i hadwaenai, os efe ydoedd. Dygwyd hwy at eu gilydd, a phig- odd y clafddyn Nana Sahib allan o blith amryw ddynion, gan haeru a thaeru mai y Nana ydoedd, er gwaethaf ei gelwisg. Prof- wyd tystiolaeth y dyn mewn pob ffordd, a chadarnhawyd hi mewn dull go hynod. Yr oedd nod neillduol ar y Cain hwn. Dywed- odd un o'r gwyddfodolion, Mae gan y Nana dwll ar ben ei glust." "Os felly," atebai y clafddyn, mae gan y dyn hwna dwll yno, canvg hwn ydyw y Nana; ed- rychwch drosoch eichhunain." Edrychwyd, ac yr oedd twll yn ei glust. Mae gyrfa ddaearol y Nana Sahib, yn ol pob tebygol- rwydd, bron ar ben.
MANION. '
News
Cite
Share
MANION. Dydd Nadolig, rhoddwyd ciniaw i rhwng 40,000 a 50,000 o dlodion yn ngwahanol dlottai Llundain. Y mae yllywodraeth yn cydnabod y pwysigrwydd 0 osod Liverpool mewn sefyllfa o amddiffvni d. Yr unig longau rhyfel yn bresenol yn y Mersey ydyw y Majestic, 80, a'i thender; ond bwriedir anfon pump ereill yno yn ddioed. Hysbysa y Journal du Havre fod brenin newydd Madagascar wedi aml-ygu ei fwriad i Father Jean, cenadwr Pabaidd a chvfaill neillduol i'w Fawrhydi, i ddyfod yn Babydd. Yrydym yn credu nad ydyw yr hysbysiad hwn yn gywir. Y mae y Porte wedi rhoddi pension o dBlffO yn y flwyddyn i deulu y Parch. W. Graham, cenadwr yn Damascus, yr hwn a lofruddiwyd yn greulawn yn ystod y gwrthryfel diweddar yn Libanus. Collvtyd un o esgobion Canada mewn rbyw ran 0 Canada. Cyfarfu y rhai a aethant i chwilio am dano ef a mintai o Indiaid anwar, i'r rhai y gofyn- asant a oeddynt wedi gweled yr esgob yn rhyw le. Pe buaswn yn cael hyd iddo ef," atebai an o honynt, "buaswn yn ei fwyta ef." Y mae cyfyngder mawr yn ffynu yn Blackbura- mewn canlynia(! i brinder gwaith. Cyfanswm y trethi lleol yn y Deyrnas Gyfunol yn 1860, oedd £14,902,090, o ha rai y talodd Lloegr a Chymru £11,613,363; Ysgotland £ 1,285.480; ac Iwerddon, £ 1,729,683. Pe eym- merid i mewn y degwm a'r dreth eglwys, byddai swm y trethi Ileol uwchlaw ^20,000 yn y flwyddYll: Dydd Llun, bu farw y Parch. J. Holloway, o'r llechedan, yn ngharchar. Y mae eili darllenwyr yn cofio fod y gwr parchedig hwn, yr hwn oedd yn berigior perthynol i'r Eglwys Sefydledig, wedi ei gael yn euog o amryw ledradau, ac yr oedd wedi ei ddedfrydu i ddyoddef deunaw mis o garchariad. Yr oedd y newydd wedi cyrhaedd New York fod yr agerlong Ddeheuol Vandurbilt wedi ri^deg y-. gwarchae, ac wedi glanio Meistri Hunter's Soule yu Havannah, y rhai a anfonwyd i Ewrop gan y. „ gwrthryfelwyr, yn lie Meistri Slidell a Mason. Yt'' oeddynt ar gymmeryd cludiad o St. Thomas, yn agerlong y Ilythyrfa. Ya ystod yr wythnos ddiweddaf, yr oedd dwy fil" a chwe chant o grefftwyr o wahanol gelfyddydau yn gweithio ar yr adeiliad yn South Kensington, a dywedir fod nifer y gweithwyr i gael ei chwanegQ etto, i'r dyben o'i wneyd yn barod, yn ol y cytun- deb, i dderbyn nwyddau ar y 12fed o Chwefror nesaf. Y mae yr atleilad eisoes yn ymddangos yn fawreddog, a bydd, pan orphenir ef, yn uu o brif ryfeddodau y deyrnas. Y mae y dug o swydd Devon wedi ei etbol yn ddi- wrthwynebiad i ganghellaeth prifysgol Caergrawnt. Caiff Ty vvysog Cymru yn awr-diolch i ofal a med- rusrwydd ei dad—fwynhau cyllid o £50,000 yn y flwyddyn, a hanner miliwn o arian parod, o gyllid Dugiaeth Cornwall. Y mae cyfarwyddiadau wedi cael en rhoddi i wyl- wyr y glenydd yn yr ararywiol orsafoedd i wylio dynesiad pob Hong y drwgdybir ei nodwedd a'i hamcan, ac i hysbysu ei symudiadau yn ddioed gyda'r pellebyr i'r raorlys, Dydd Llun cynnaliwyd trengholiad ar gorff David Davies, 67 .lwydd oed, yr hwn a fu farw o'r parlys, yn Ysbytty Bethlehem, Liundain. Y trancedig oedd 0 y gwr a wnaeth ymgais, yn 1818, i lofruddio Arelwydd Palmerston, trwy saethu pistol ato tra yn rhodio ar yr heo). Wedi dychwelyd o angladd yn ddiweddar, darlleft- wyd ewyllys y trancedig, pryd yr ymaflodd un O'l' meibion ynddi, gan ei thaflu i'f tan caniataodd Syr C. Cresswell yn union gopi o'r ewyllys sefyll yn lie yr un gyntefig. Dywedir fod Mr. Mills yn ei ymdrech am an rhy d- eddau Seneddol yn ddi weddar, wedi gwario X5,000, tra "a,d °edd y swm a gostiodd ei etholi'ad i Mr. Cox ond £ 160. Dysgwylir Tywysoges Goronog Prvvsia (merch henaf Mawrhydi"63 ^oesr yn *uan ar ymweliad a'i
COLUMBRIA BRYDEINIG. ' 1
News
Cite
Share
0' Bernir nad ydys etto wedidarganfod ond ychydig o gyfoeth manwl y wlad; ond fod yr hyn a ddadblygwyd eisoes yn brawf fod ei hadnoddau yn gvfoethog iawn. Y mae yno gyflawnder o ymborth, ac nid ydyw ei bris yn uchel iawn. Y mae yno filiynau o erwau o dir amaethyddol ffrwythlawn v gellir ei gael yn eiddo bythol am -Is. 2c. yr erw. Y mae y wlad yn awr yn drefedigaeth reolaidd, ac ynperthyn i goron Prydain. aredir yn awr bod ei daear yn fwy cyfoethog o aur na California ac Awstralia. t i