Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
ANRHEGU EGLWYS GAN WEIN1DOG.
News
Cite
Share
ANRHEGU EGLWYS GAN WEIN1DOG. Efallai ybyddambell un yn medd.wl fod yma gamsyniad, pan yr ydym yn dywedyd H Anrhegu Eglwys gan Weinidog," oblegid mai fel arall y mae yn dygwydd fynychaf; ond yn awr, dyma eithriad i'r rheol gyffredin, ac fel y cyfryw yn teilyiigu sylw neillduol darlleuwyr SEREN CYMRU. Y Rhoddwr yw y Parch. D. Davies, gweinidog parchns eglwys y Bedyddwyr yn Glandwr, ger Abertawe, yr hwn a fu or ymweliad a'r Cymry gwasgaredig yn Ngogledd Lloegr yn ystod yr liaf diweddaf, ac a fu yn pregethu yn amrywiol fanau yn y wlad hono yn ystod ei arosiad byr yn y lie. Ond os byr oedd, ennillodd iddo ei hun barch mawr fel dyn, Cristion, a gweinidog da i Iesu Grist; a phri- odol iawn y gellir dywedyd am dano, fod iddo air da gan bawb, a chan y gwiriouedd ei hun. Y Rbodd-Beibl mawr 4 plyg, wedi ei rwymo yn hardd, ac yu adtlas i'w osod ar areithfa unrhyw eglwys yn y deyrnas ac fel y cyfryw, yn bwrpasol jawn i'r Cymry yn y parthau pellenig hyn o wlad ei genedigaeth. oblegid pan yr oeddem gartref yn Nghymru, y Beibl oedd y llyfr a arferem yn ein ysgolion a'n teuluoedd, ein cymmydogaethau a'n eglwysi; pregethutr Beibl fyddaj ein gweinidogion, athrawiaethau'r Beibl a gredid gan ein cyndeidiau, a thrysorau mawr cynnwysedig yn y Beibl sydd wedi gwneyd miloedd o honynt yn etifeddion an- llygredig y gogoniant; ac o ran gwybodaeth Feibl. aidd, credwn fod y Cymry yn sefyll yn uwch ¡;¡â'r un genedl arall. Felly, priodol y gellir dweyd am y rhodd hon, The right gift to the right people." Cyflwynwr y Rhodd oedd v Parch. T. Price, Aberdar. Gwnaeth hyn mewn ychydig o syhvadau byr, ond pwrpasol iawn, a phregethodd y bregeth gyntaf o hono ar nos Sul, Rhagfyr laf, oddiar Esec. 37. 9, 10. Afraid yw dweyd dim am y Cyflwynwr, oblegid mae ei glod trwy yr holl eglwysi. Derbynydd y Rhodd oedd eglwys y Long Row, Witton Park, a'r hon yn fwyaf neillduol yr ymwel- odd ein hanwyl frawd Davies, a brodyr da ereill o Gymru. Mae yr eglwys fechan hon wedi gwneyd ymdrech neillduol dros burdeb gweinidogaethol, a theimlir fod yr Arglwydd wedi bendithio yr ymdrech yn mhell tuhwnt i ddysgwyliad y frawdoliaeth a phawb ereill; ac yn awr, y maent yn dymuno cyf- lwyno trwy gyfrwng y Ilinellau hyn eu diolchgar- wch gwresocaf i'r Parch. D. Davies a'i briod hawdd- gar, a phawb oil o gyfeillion Glandwr, am y rhodd werthfawr hon. Taer erfyniwn am i Awdwr y Rhodd roddi i ni mewn gwlad estronol gymhorth i fyw yn deilwng o'r Rhodd ac os na chawn y fraint o weled ein hanwyl frawd Davies etto ar dir y byw, hyderwn y cawn gyd-gyfarfod ar fryniau an- farwoldeb, i gydganu am y fuddugoliaeth fawr a gaed ar Galfari, am ba un y daethom i wybod trwy gyfrwng y Beibl. Arwyddwyd dros y frawdoliaeth, "SIMON JOHN, 1 ROGER SMITH, j"-D"lC0",au** W. GRIFFITHS, Ysg.
YSGOL SABBOTHOL SILO, TREDEGAR.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
YSGOL SABBOTHOL SILO, TREDEGAR. Cynnaliodd yr ysgol uchod ei chvfarfod llenyddol y I cyntaf dydd Nadolig diweddaf. Dechreuwyd y eyfarfod cyntaf am ddau yn y prydnawn, drwy araeth fer, wresog, a chynnwysfawr, gan y cadeir- ydd, Mr. W. Evans, Fferyllydd. Yna galwodd ar Elizabeth Morgan i adrodd Pennillion ar Enedig- aeth Crist, yr hyn a wnaethai yn rhagorol. Yn nesaf, testunau cystadleuol; t, 1. Dadl rhwng y Cybydd a'r Meddwyn. Un ymgeisydd, laf Thos. Jones a'i gyfaill. 2. Croes Crist. Dau ymgeisydd. Goreu, Eliza- beth Evans. Anerchiad gan Samuel Thomas. 3. Araeth ar yr Ysgol Sul. Dau ymgeisydd. Goreu, Chas. James. 4. Ochenaid am Gymru. Un ymgeisydd, sef Thos. Jones a'i gyfaill. 6. Christ the Shepherd. Tri ymgeisydd. Goreu Elizabeth Davies. 6. Pa le mae y meddwyn ? Un ymgeisydd, sef Joseph Davies. 7. Yr ysgol Sabbothol. Un ymgeiiydd, sef, Elizabeth Evans. 8. Beth sydd Hardd? Dau ymgeisydd. Goreu Mr. Williams a'i gyfaill. 9. Araeth Difytyr. Pedwar ymgeisydd. Goreu, John Thomas. Felly terfynwyd cwrdd y prydnawn. Dechreuodd y cyfarfod nesaf atn chwech. Dat. ganodd T. Jones ychydig Bennillion ar y don a ehvir Llwyn On." 10. Y Ddau Blentyn Amddifad. Un yingeisvdd, sef Daniel Thomas. 11. Ymson Mam uwchben ei Mabau. Saith ym- geisydd. Goreu Elizabeth Evans. 12. Dadl ar Ddirwest. Un ymgeisydd, lef Thos. Jones yr ail a'i gyfaill. Adroddwyd yr 2it Bennod o Mathew gan ddau blentyn. Ton gan Mrs. Mary Williams. 13. Yr lesu a wylodd. Un ymgeisydd, sef Joseph Davies. Carol gan Mrs. Margaret Wil- liams, ues swyno y dorf. 14. Solo Bass. Tri ymgeisydd. Goreu, Llew- elyn Powell. 16. Follow Me. Tri ymgeisydd, sef Evan Wil- iams, Fredrick Evans, ac Enoch R. Evans. Rhan- wyd y wobr. Canodd Mrs. Mary Williams don etto yn rha- gorol dda. 17. Dydd y Farn. Un ymgeisydd, sef William Nichols. 18. Hen Wr y Cwm. Un ymgeisydd, sef Thos. Jones a'i gyfaill. Ton ddigrif gan L. Williams a'i gyfeillion. 11. Lecture on the Excellenoy of the Bible. Dau ymgeisydd. Goreu, Alfred Ë. Evans. 90. EdUeirwch y Meddwyn. Un ymgeisydd, sef George Jenkins a'i gyfaill. 21. Darilen Difyfyr. Nato ymgeisydd. Goreu Thos. Jones. 22. Araeth Ddifyfyr. Deuddeg ymgeisydd. Goreu William Jones. Yr oedd y cor bychan hefyd at wasanaeth y cyf- arfodydd. dan arweiniad John Gabriel; ac felly cafodd hwn orphen gwaith y dydd. Talwyd y diolchgarwch arferol i'r Cadeirydd a'r Beirniad, a gorphenwyd gwaith y dydd mewn hiraeth am y fath gyfarfod etto.-N. T.
FFRWYDRIAD MYNYDD VESUVIUS.
News
Cite
Share
FFRWYDRIAD MYNYDD VESUVIUS. Y mae y llosg-fynydd yma yn parhau i fwrw allan ei lava llosgedig, er dychryn mawr i'r trig- olion atngylchynol. Dyfynwn yr hyn a ganlyn o lythyr gohebydd y Times yn Naples, dyddiedig Rhag. 24 — Y mae Vesuvius byth er boreu dydd Sabbath yn bwrw ei gynnwysiad tanllyd allan yn fwy byw. iog ac erchyll nag erioed. Oddeutu canol dydd, neu yn fuan ar ol hyny, gwelem gwmwl du o fwg a y lludw yn ymddyrchafu yn uwch, uwch ac er nad oeddym ni yn Naples yn gallu canfod un arwydd arall o'i fywiogrwydd cynnyddol, teimlwyd yssyt- iad nerthol o ddaeargryn yn Torre dell Annunziata, yr hyn a gynnyrehodd ddvchryn mawr yn mhlith y bobl. Rhuthrodd y cynnulleidfaoedd allan o'r eglwysydd, ac yn eu brys a'u cyffro collodd Uawer eu llyfrau gweddi, a dywedir fod un foneddiges wedi cael ei gwasgu i farwolaeth. t Tua'r hwyr, yr oedd y ffrwydriad yn aruthrol, a'r fflainau yn ymdyrchafu yn golofnau mawreddog; a plian godasoin boreu ddoe, yr oedd yr holl flurfftfen wedi ei gorchuddio a chwmwl o fwg. Dygodd gwynt gogledd-ddwyrain gawod 0 ludw dros y ddinas. yr hwn a orchuddiodd ein heolydd, ac a dreiddiodd i'r tai. Gellwch ffurfio barn am y swrn o ludw a daflwyd allan, pan y dywedaf wrth- ych fod yr Exmouth, yr hyn sydd yn gorwedd oddeutu chwarter inilltir allan; wedi ei gorchuddio a chaeuen o ludw gwlyb, a bod y swyddogoedd yn gwylio am y noson, wedi cael ei olfodi i gymmeryd noddfa o dan y llywle. Yr oeddwn yn bwriadu myned drosodd i Torre prydnawn ddoe, ond af etto, ac anfonaffanytion newydd. Ar hyn o bryd, y mae yr holl fro wedi ei chuddio a chwmwl du bygythiol, ac y mae yn arclwg fod agoriad newydd wedi ei wneyd wrth droed yr hen agoriad. Y mae angenion y bobl yn fawrion iawn, «nd y mae arian yn dyfod i mewn, ac y mae'r awdur- dodau yn gwneyd ymdrech egniol i liniaru y dy. oddefaint, ac i ddarparu gwaith i'r miloedd sydd allan o waith, ac wedi colli eu tai, a phob peth oedd ganddyut. Nis gallsf lai na ciiymharu y gweinyddiad gonest o'r cyflenwadau ar yr achlvsur hwn, a'r anonestrwydd a'r twyll a arferwyd ar achlysur y ddaeargryn fawr yn Potenza. Casglwyd yn agos i filiwn o dducats y pryd hwnw y drydedd ran 0 ba rai a gyflwynwyd at adferiad yr eglwysydd, rhoddwyd y drydedd ran i'r tai cretyddoi, ac nid oes ond Duw a Aryr pwy a lyncodd y drydedd ran arall-yn sicr ni chafodd y dyoddefwyr hi."
CYLCHWYL FLYNYDDOL Y LONG…
News
Cite
Share
yddu yn ol y drefn Apostolaidd, ac ar ol i'r Parch. J. G. Owen anerch y gwyddfodolion yn Gymraeg a Saesneg oddiar Actau 8. 37, bedyddiodd bedwar o bersonau ag oeddynt wedi credu a derbyn y Gair yn ewyllysgar, ac o ganlyniad, yn chwennych ufyddhau i'w Harglwydd yn ei holl orchymynion. Yr oedd yn ddyddorol iawn edrych ar yr ordinhad yn cael ei gweinyddu y tro hwn, ac yn fwy felly, am fod un o'r bedyddiedigion wedi dyfod yn agos i Ugain milldir o du y dwyrain i Witton Park, a hyny er ufyddhau i Fedydd yn ol esiampl Crist ei hun ae fel yr eunuch gynt, yn y fan wedi ei fedyddio, yn myned i'w ffordd ei hun yn llawen. Am 6, yo yr hwyr, fe gaed Owen yn pregethu yn y Long Row oddiar Micah 7. 18-20; a chan dramwy, efe a efengylodd yn mhob dinas, hyd oni ymadawodd oddiyma i Gymra. Nos Lun, Rhagfyr 9fed, ymwelodd Mr. Owen a Kelloe, a phregethodd yno, a nos Fawrth pregeth- odd Mri. Price a Owen yno oddiar Mathew 20. 1-10, a loan 17. 1. Ar ol hyn, yr oedd ein hanwyl frodyr yn y wein- idogaeth yn ymadael a ni, wedi bod yn llafurio yn galed bob nos a dydd tra yn y wlad hon. Anwyl frodyr yn Nghymrii, dyna i chwi hanes for o'n ail gylchwyl, a da genym alia dweyd, fod y cyfarfod- ydd y fath nad annghofir byth gan y Cymry sydd yn y parthau hyn, a hyny feddyliem am fod yr Arglwydd gyda ei weision tra yn y lie, ac yn arddet y gwirioneddau o'u geneuau er adeiladaeth i'w Seion.ae argyhoeddiaS pechaduriaid yn adnewyddol. Dymunem gyflwyno ein diolchgarwch gwresocaf i eglwysi Aberdar a Rhyl am ganiatau i'n banwyl frodyr i ymweled a'r Cymry gwasgaredig yn y wlad hon, ac byedrwn y cawn ran yn eich gweddiau oil, a bendith yr Arglwydd arnom etto yn ein ym. drech dros burdeb gweinidogaethol, fel ag y byddo yn foddion i ddwyn yr enwad Bedyddiedig i'r safon ag y dylai fod yn y He hwn. Y mae yn dda genym allu dweyd fod yr Arglwydd wedi gwneyd i ni bethau mawrion, a rhyfedd yw yn ein golwg. Tra nad oeddem ond pedwar ar bum- theg o aelodau flwyddyn yn ol, yr ydym yn awr yn banner cant. Ein gweddi yw,— iwjuiwii. Dos yn mlaen, nefol dan, 1Î}.¡d Cymmer yma feddiant glan." :!i> --TI H Yr eiddoch, &c., 3A uaU# :?<i BEDYDOIWR TRWYADL. O.Y.—Cymmerwyd y gadair yn y darlithiau gan W. Lishman, Ysw., a ebymmerwyd rhan gyhoeddus ynddynt gan Nichol Raine, Ysw., y Parchedigion John Davies (T.C.), ac Isaac Thomas (W.) ac yr ydym yn wir ddiolchgar i bawb am eu caredigrwydd mawr i'r eglwys fechan hon.