Hide Articles List

4 articles on this Page

DYDD NADOLIG YN LLANELIAN.

News
Cite
Share

DYDD NADOLIG YN LLANELIAN. Mae yr ardal hon wedi bod er's blynyddoedd bellacli yn enwog am foesau da a chrefyddoldeb ei thrigolion ond ychydig iawno sylw a arferid dalu i lenyddiaeth yma. Fodd bynasj, ychydig fisoedd yn oi, dyma hysbysleni yn cael eu gwasgaru ar hyd y gymmydogaeth, yn mynegu fod Eisteddfod bertbynol i Ysgolion Sul y Bedyddwyr yn Llan dulais a Llanelian i gael ei chynnal yn Nghapel y Llan, dydd Nadolig, a bod yr holl blant o dan hedair ar ddeg oed i gael tocynau rhad, ond pawb ereill i dalu swllt yr un ac yr oedd ar yr hysbys- leni enw Thos. Oldfield, Yaw., Bettws, i fod yn Llywydd; y Parch. J. Jones, Bala, i fod yn Feirn- iad y Traethodau; Lienor o'r Llwyni, ac Irwel Min Elwy, i fod yn Feiroiaid y Farddoniaeth a Mr. Richard Williams, Llanfair, yn Feirniad y Gerddoriaeth. Fe gynnyrchodd hyn ychydig o gyffroad yn y He; yr oedd rhai yn methu a deall fath beth yw Eisteddfod ereill yn condemniQ cyfarfodydd felly fel pethau niweidiol; ond yr oedd y bobl gallaf yn edmygu y dyben yn fawr, er yr ofnent y gallai droi yn ti'aeledd am y tro cyntaf. Deallwyd wedi hyny fod yno bwyllgor gweithredol tu cefn i'r mudiad, yu cael ei wneyd i fyny o atlirawon ffyddlon y ddwy ysgol, yr hwn oedd vn ddigon cryf a phen- derfynol i weithio ei ffordd yn nilaen beth bynag fyddai y canlyniad. Pan ddaeth dydd Nadolig, gwelid y bobl yn llifo tua Lianelian i'r Eisteddfod, nes oedd y capel yn orlawn erbyn deg o'r gloch. Yr oedd yr adeilad wedi ei addurno yn hardd, stage gyfleus wedi ei pliarotoi, a lluaws o fagiau bychain prydferth yn honsjiau o'r tu cefn i'r gadair, yn ymddangos mor ddymuiiol, yn ddigon i swyno pob un oedd yn tadlo i benderfynu cael y dorch. Yna cododd y Parch. J. James i fyny, i ddarllen llythyr oddiwrth T. Oldfield, Ysw., yn cynnwys ymddiheirad dros ei absenoldeb o'r Gadair, yn nghyd a phunt o danys- grifiad at yr Eisteddfod; felly dewiswyd Mr. Jamesi lanw y gadair am y dydd. Ar ol cael anerchion gan y Cadeirydd, a chan y beirdd, a thon gan gor Llanelian, cawd cystadleu- .aethmeanadrodd Gweddi Plentyn (Emrys). "Gwobrwywyd J. Williams.. Yna darllenodd Mr. Jones, Bala, ei feirniadaeth ar y eyfieithiad o Genius and Fame." Buddugol, Elachistatetes" (John Jones); ac wedi cael anerchiad gan Lienor o'r Llwyni. cawd cystadleuaeth mewn adrodd lIinellau ar "lesu yn Gethsemane" (Golyddan). Gwobrwywyd jane Williams. Ar ol hyny, adrodd- wyd Bobl y Bottns a Phobl y Llymru (Ceiriog). Gwobrwywyd David Davies. Cystadleuaeth mewn canu Codiad yr Ehedydd. Buddugol Margaret Hobson." Yn nesuf, cystadleuaeth mewn darllen gan fechgyn,dan ddeg oed. Gwobrwywyd John Jones. Adroddwyd Pennillionar Ddyngarwch (Ceiriog). Buddugol Elinor Evans. Cawd Ton gan Gor Llanelian, ae ymadawwyd o gyfarfod y boreu. Cyfarfyddwyd eilwaith am ddau o'r gloch, ac ar ol cael annerchion gan y Cadeirydd a'r Beirdd, adroddwyd Gofynodd Eneth Dlos (H. Myllin). Goreu Eunice Davies. Yna darllenodd Mr. Jones ei feirniadaeth ar y traethodau ar Hawliau yr Vsgol Sabbothol ar yr Eglwys. Buddugol Oliver Cromwell rr.. H. Morris). Cystadleuaeth mewn canu Frank Bridge, gan y Corau. Gwobrwywyd Cor Colwyn. Beirniadaeth Lienor o'r Llwyni arv Pennillion i'w canu yn yr Ysgol Sul ary Don, "0 Dewch i'r Myn- yddoedd." Y goreu oedd Hen Athraw, Joseph o Golwyn. Yn ddilynol, adroddwyd yinddyddanion y Felin. Gwobrwywyd John Jones ac Edward Evans. Beirniadaeth y Traethawd ar Hanes y Bedyddwyr yn Llanelian. Gwobrwywyd Hanes- ydd, sef William Williams. Cystadleuaeth mewn darllen gan Fechgyn o dan ddeunaw oed. Gwobrwywyd T. H. Morris. Yna cawd ton gan Mr. Foulkes (cymmeiadwyaeth). Cystadleuaeth mewn Gramadeg Seisnaeg. Rhan- wyd yviobr rhwng John Jones, ac Elinor Evans. Erbvn hyn yr oedd yn amser te, ac ymadawwyd. Cyfarfyddwyd etto am chwech. Cawd Ton gan gor Colwyn, yna annerchion gan y beirdd. Yn nesaf. adroddiad llinellau o waith E. W. Wysfai. Buddugol Hugh Hughes. Yna ton gan y ddwy Fiss Lloyd (cymmeradwyaeth). Cystadleuaeth mewn darllen gan ferched o dan ddeunaw oed. Gwobrwywyd Elinor Evans. Gwobrwywyd Araiah Jones mewn Gramadeg Gymraeg. Yna darllenodd Lienor o'r Llwyni ei Feirniadaeth ar Englynion i Eryr Moelfre. Gwobrwywyd Joseph o Colwyn, a chanodd Eseciah Jones, a Hugh Hughes, Bedd y Dyn Tlawd." Yn nesaf, adroddwyd Ti wydd- ost beth ddywed fy Nghalon (Ceiriog). Budd- ugol Edward Wiliiams. Ton gan Robert a Mary Jones, gyda hwyl. Darllenod(i Lienor ei feirniad- aeth ar y Ddadl. Neb yn deilwng o'r wobr. Araeth byrfyfyr. Gwobrwywyd Araiah Jontg. Beirniadaeth Irwel Min Elwy ar yr Englynion. Gwobrwywyd Hywel Cernyw a Robert Roberts, Llangerniw. Adroddiad Ymson Myfanwy. Budd ugol, Elizabeth Jones. T6n, gan Mr. Foulkes. Araeth gan Mr. Jones, Bala. Beirniadaeth y Traethodau ar y Sabboth Cristionogol a'i Hawliau. Buddugol, Abercrombie (Edward Evans). Ad- roddwyd y Tren (Ceiriog). Goreu, Elias Davies Cystadleuaeth y Corau ar 0 dowch i'r Mynydd- oedd." Buddugol Cor Colwyn. Wedi talu diolch- garwch ilr Cadeirvdd, y Beirniaid, y Cantorion, a phawb a fu yn cynnorthwyo yr Eisteddfod, ymad- awwyd trwy ganu God Save the Qaeen." Treul- iwyd y dydd gyda phob symlrwydd a dyddordeb. Bydd y Feirniadaeth yn y nesaf, a chyhoeddir y cynnyrchion bud,dugol yn SERENCVMRU. a'r Greal." oscaniatay Golygwyr.—ELACHSTATEROS

HANES DAU GYFARFOD TRA HYNOD.

CYLCHWYL FLYNYDDOL Y LONG…

LLANGWNWR A'R CYLCHOEDD.