Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
DYDD NADOLIG YN LLANELIAN.
News
Cite
Share
DYDD NADOLIG YN LLANELIAN. Mae yr ardal hon wedi bod er's blynyddoedd bellacli yn enwog am foesau da a chrefyddoldeb ei thrigolion ond ychydig iawno sylw a arferid dalu i lenyddiaeth yma. Fodd bynasj, ychydig fisoedd yn oi, dyma hysbysleni yn cael eu gwasgaru ar hyd y gymmydogaeth, yn mynegu fod Eisteddfod bertbynol i Ysgolion Sul y Bedyddwyr yn Llan dulais a Llanelian i gael ei chynnal yn Nghapel y Llan, dydd Nadolig, a bod yr holl blant o dan hedair ar ddeg oed i gael tocynau rhad, ond pawb ereill i dalu swllt yr un ac yr oedd ar yr hysbys- leni enw Thos. Oldfield, Yaw., Bettws, i fod yn Llywydd; y Parch. J. Jones, Bala, i fod yn Feirn- iad y Traethodau; Lienor o'r Llwyni, ac Irwel Min Elwy, i fod yn Feiroiaid y Farddoniaeth a Mr. Richard Williams, Llanfair, yn Feirniad y Gerddoriaeth. Fe gynnyrchodd hyn ychydig o gyffroad yn y He; yr oedd rhai yn methu a deall fath beth yw Eisteddfod ereill yn condemniQ cyfarfodydd felly fel pethau niweidiol; ond yr oedd y bobl gallaf yn edmygu y dyben yn fawr, er yr ofnent y gallai droi yn ti'aeledd am y tro cyntaf. Deallwyd wedi hyny fod yno bwyllgor gweithredol tu cefn i'r mudiad, yu cael ei wneyd i fyny o atlirawon ffyddlon y ddwy ysgol, yr hwn oedd vn ddigon cryf a phen- derfynol i weithio ei ffordd yn nilaen beth bynag fyddai y canlyniad. Pan ddaeth dydd Nadolig, gwelid y bobl yn llifo tua Lianelian i'r Eisteddfod, nes oedd y capel yn orlawn erbyn deg o'r gloch. Yr oedd yr adeilad wedi ei addurno yn hardd, stage gyfleus wedi ei pliarotoi, a lluaws o fagiau bychain prydferth yn honsjiau o'r tu cefn i'r gadair, yn ymddangos mor ddymuiiol, yn ddigon i swyno pob un oedd yn tadlo i benderfynu cael y dorch. Yna cododd y Parch. J. James i fyny, i ddarllen llythyr oddiwrth T. Oldfield, Ysw., yn cynnwys ymddiheirad dros ei absenoldeb o'r Gadair, yn nghyd a phunt o danys- grifiad at yr Eisteddfod; felly dewiswyd Mr. Jamesi lanw y gadair am y dydd. Ar ol cael anerchion gan y Cadeirydd, a chan y beirdd, a thon gan gor Llanelian, cawd cystadleu- .aethmeanadrodd Gweddi Plentyn (Emrys). "Gwobrwywyd J. Williams.. Yna darllenodd Mr. Jones, Bala, ei feirniadaeth ar y eyfieithiad o Genius and Fame." Buddugol, Elachistatetes" (John Jones); ac wedi cael anerchiad gan Lienor o'r Llwyni. cawd cystadleuaeth mewn adrodd lIinellau ar "lesu yn Gethsemane" (Golyddan). Gwobrwywyd jane Williams. Ar ol hyny, adrodd- wyd Bobl y Bottns a Phobl y Llymru (Ceiriog). Gwobrwywyd David Davies. Cystadleuaeth mewn canu Codiad yr Ehedydd. Buddugol Margaret Hobson." Yn nesuf, cystadleuaeth mewn darllen gan fechgyn,dan ddeg oed. Gwobrwywyd John Jones. Adroddwyd Pennillionar Ddyngarwch (Ceiriog). Buddugol Elinor Evans. Cawd Ton gan Gor Llanelian, ae ymadawwyd o gyfarfod y boreu. Cyfarfyddwyd eilwaith am ddau o'r gloch, ac ar ol cael annerchion gan y Cadeirydd a'r Beirdd, adroddwyd Gofynodd Eneth Dlos (H. Myllin). Goreu Eunice Davies. Yna darllenodd Mr. Jones ei feirniadaeth ar y traethodau ar Hawliau yr Vsgol Sabbothol ar yr Eglwys. Buddugol Oliver Cromwell rr.. H. Morris). Cystadleuaeth mewn canu Frank Bridge, gan y Corau. Gwobrwywyd Cor Colwyn. Beirniadaeth Lienor o'r Llwyni arv Pennillion i'w canu yn yr Ysgol Sul ary Don, "0 Dewch i'r Myn- yddoedd." Y goreu oedd Hen Athraw, Joseph o Golwyn. Yn ddilynol, adroddwyd yinddyddanion y Felin. Gwobrwywyd John Jones ac Edward Evans. Beirniadaeth y Traethawd ar Hanes y Bedyddwyr yn Llanelian. Gwobrwywyd Hanes- ydd, sef William Williams. Cystadleuaeth mewn darllen gan Fechgyn o dan ddeunaw oed. Gwobrwywyd T. H. Morris. Yna cawd ton gan Mr. Foulkes (cymmeiadwyaeth). Cystadleuaeth mewn Gramadeg Seisnaeg. Rhan- wyd yviobr rhwng John Jones, ac Elinor Evans. Erbvn hyn yr oedd yn amser te, ac ymadawwyd. Cyfarfyddwyd etto am chwech. Cawd Ton gan gor Colwyn, yna annerchion gan y beirdd. Yn nesaf. adroddiad llinellau o waith E. W. Wysfai. Buddugol Hugh Hughes. Yna ton gan y ddwy Fiss Lloyd (cymmeradwyaeth). Cystadleuaeth mewn darllen gan ferched o dan ddeunaw oed. Gwobrwywyd Elinor Evans. Gwobrwywyd Araiah Jones mewn Gramadeg Gymraeg. Yna darllenodd Lienor o'r Llwyni ei Feirniadaeth ar Englynion i Eryr Moelfre. Gwobrwywyd Joseph o Colwyn, a chanodd Eseciah Jones, a Hugh Hughes, Bedd y Dyn Tlawd." Yn nesaf, adroddwyd Ti wydd- ost beth ddywed fy Nghalon (Ceiriog). Budd- ugol Edward Wiliiams. Ton gan Robert a Mary Jones, gyda hwyl. Darllenod(i Lienor ei feirniad- aeth ar y Ddadl. Neb yn deilwng o'r wobr. Araeth byrfyfyr. Gwobrwywyd Araiah Jontg. Beirniadaeth Irwel Min Elwy ar yr Englynion. Gwobrwywyd Hywel Cernyw a Robert Roberts, Llangerniw. Adroddiad Ymson Myfanwy. Budd ugol, Elizabeth Jones. T6n, gan Mr. Foulkes. Araeth gan Mr. Jones, Bala. Beirniadaeth y Traethodau ar y Sabboth Cristionogol a'i Hawliau. Buddugol, Abercrombie (Edward Evans). Ad- roddwyd y Tren (Ceiriog). Goreu, Elias Davies Cystadleuaeth y Corau ar 0 dowch i'r Mynydd- oedd." Buddugol Cor Colwyn. Wedi talu diolch- garwch ilr Cadeirvdd, y Beirniaid, y Cantorion, a phawb a fu yn cynnorthwyo yr Eisteddfod, ymad- awwyd trwy ganu God Save the Qaeen." Treul- iwyd y dydd gyda phob symlrwydd a dyddordeb. Bydd y Feirniadaeth yn y nesaf, a chyhoeddir y cynnyrchion bud,dugol yn SERENCVMRU. a'r Greal." oscaniatay Golygwyr.—ELACHSTATEROS
HANES DAU GYFARFOD TRA HYNOD.
News
Cite
Share
HANES DAU GYFARFOD TRA HYNOD. Cynnaliwyd y ddau gyfarfod uchod ar yr un dydd, sef yr 20fed o'r mis diweddaf. Y blaeriaf a gaf enwi a gynnaliwyd yn Nebo, Cefncribwr, o berih- ynas i lease y Capel. Yr achos o'r cwrdd hwn oedd, fod pedwar neu bump o'r brodyr wedi codi lease ar y Capel yn ddiarwybod i'r lleill, fel y gwelwch yn SEREN CYMnu am Hydref diweddaf ofyniadaty Parch. T. Price, Aberdar. Atebwyd y gofyniad gan Mr. Price yn gydwybodol, pa fodd i ymddwyn tuag atynt, fel y mae yn arfer bob amser yn deil- wng o hono ei hun, ac liefyd wrth fodd fy nghalon innau. Yr oedd dysgwyliad mawr ar Mr. Price i'r cyfarfod yma, ond o herwydd fod galwad neillduol arno i le arall, methodd a dyfod. Y gweinidogion oeddynt yn bresenol yn y eyfarfod oedd, 0. Michael, o Benybont; J. Jones (Mathetes), Pisgah, Pil; 8e R. Davies, ei gweinidog. Cariwyd y cyfarfod yn mlaen gan ygweinidogionyn fonedd- igaidd a phwyllog, ac yn hollol gydweddol a chyf- arwyddiadau Mr. Price. Cafodd y personau hyny a gododd y lease y fraint o fod yn atebol am dani, a gorfa arnynt drosglwyddo y lease yn y fan yn ddioed er ei diogaiu yn feddiant i'r enwad y y pertbyna iddynt; ac y mae yn ddymunol genyf hysbysu fod y frawdoliaeth ar y nbrdd i faddeu iddynt, ar yr addewid iddynt beidio pechu mwyach. Etto, yr oedd cyfarfod ar yr un dydd mewn lie, yn yr ardal yma, a elwir Trelales. Cyfarfod oedd hwn, fel y galwant ef, o dalu y Gesmas. Mae yn art'erol gan y derbyniwr roddi deg ceiniog i'r gwyr a chwech ceiniog i'r gwragedd yn ol, i'r dyben i'w cyfnerthu a'u cysuro ar y Sbrdd, ac yr oedd yn rhaid eu gwario ol yny dafarn. Yn y cyfarfod hwn ni ganfyddwn drachwant yn gorchfygu eg- wyddor. Yr oedd yn eu plith nn wraig wedi gwneyd pledge o lwyr. ymwrthodiad a'r diodydd meddwol; ond o drachwant at y gin, torodd y pledge am werth chwech chen iog! Gobeithio y bydd hyn yn wers i bawb i beidio gadael trachwant i orchfygu egwyddor. Cefncribwr. ABRAHAM LLOYD.
CYLCHWYL FLYNYDDOL Y LONG…
News
Cite
Share
CYLCHWYL FLYNYDDOL Y LONG ROW, WITTON PARK. Cynnaliwyd cyfarfodydd mewn cyssylltlad a'r eglwys Fedyddiedig yn y lie uchod ar ddydd Sul, Rhagfyr laf a'r 8fed, pryd yr ymwelwyd a ni gan y brodyr anwyl a theilwrig, y Parchedigion T. Price, Aberdar, a J. G. Owen, Rhyl. Yr oedd yn ywlad hon ddysgwyliad mawr am ymwejiad ein brodyr a'r Cymry gwasgaredig yn y partbau hyn ac yn ol ein dymuniad, dyma hwy yn cyrhaedd yn ddiogel i Witton Park ar ddydd Gwener, Tachwedd y 29ain, ac ar ol iddynt gael rhyw ddwy awr o orphwys, dyma hwy yn gorfod (gan gymmaint oedd awydd y bobl am eu clywed) dechreu ar eu gwaitb, sef pregethu yr efengyl i'w cydgededl y Cymry. Felly, nos Werier, ymgynnullodd torf fawr yn nghydi'r capel, yna darllenodd a gweddiodd Mr. Price, a phregethodd Mr. Owen oddiar Heb. 12. 12, 13. Nos Sadwrn, traddododd Mr. Price ddarlith ar. dderchog ar Garibaldi." Cymmerodd y ddarlith hon dair awr a hanner i'w thraddodi, a'r 4&rHthydd parchusyn ei Uwyliau goreu; a phe byddem yn amcanu rhoddi y ganmoliaeth ddyladwy i'r ddarlith hon, sicr yr ydym na chyrbaeddena y nod hwnw, oblegid ar laaer adeg teimlem fel pe bai ein calon yn llamu o'n mewn wrtit wrando ar Mr. Price yn myned dros hanes bywydGwron Rhyddid, ac edrych ar amddiffyniad Rbagluniaeth o hono yo yr amrywiol beryglon ag y bu yr.ddynt yn ystod ei fywyd. Pe buasai yma rhyw un o'r un ysbryd maleisddrwg, enllibaidd, ac erlidgar a'r ysgerbwd corffaidd hwnw o'r Rhyl (Junius), nid hir meddwn y buasai y Cymry yn y parthau hyn cyn ei hwtio o'r wlad, canys erioed ni chlywwyd y fath ffndlif o hyawdledd a ffraethineb yn bwrlwmi allan am gyhyd o amser, ar unrhyw bwnc gan unrbyw ddyn yn y parthau hynag oedd yn y ddarlith hon. Yr oedd fel pe bai wedi gwefreiddio y dorf fawr ag oedd yn ei wrando, a thystia pawb na fuasent yn blino pe byddai yn parhau am dair awr arall. Ar y Sabboth canlynol, am ddeg o'r gloch, pre- gethodd Mr. Price oddiar Luc 10. 25—37. Am 2, yn y prydnawn, darllenodd a gweddiodd y Parch. Isaac Thomas (W.); a phregethodd y brawd ieuanc W. Davies, oddiar 2 Cor. 8. 9, a Mr. Price oddiar Luc 19. 28—40. Am 6 yn yr hwyr, darllenodd a gweddiodd R. Edwards, o Kelloe, a phregethodd Mr. Price oddiar Esec. 37. 9, 10. Nos Lun etto, traddoiiodd Mr. Price ddarlith gampus yn Saesneg ar Y Beibl." Parhaodd hon etto am dair awr, a digon yw dweyd am dani yn ngeiriau ugeiniau a Saesdn. y lie, na chlywsant y fatb beth erioed o'r blaen, ac ebe llawer o bonynt am danom fel Cymry, Welshmen have no need to be ashamed of their public men for the future; if Mr. Price is a fair specimen of the talent of the Cymry, we shall have something to do to keep on a par with them. A better lecture we never heard, and it has given universal satisfaction." Teimlwn yn falch fod genym ddynion yn Nghymru yn hawlio y fath sylw, hyd y nod gan estroniaid. Nos Fawrth, pregetbodd Owen a Price yn Walker, a nos Fercher yn Berry Edge, i gynnull- eidfaoedd mawrion o Gymry, a nos lau etto yn y Long Row, Witton Park; ac ar y Sabboth, Rhagfyr 8fed, am 10, pregetbodd Mr. Owen. Am 2, yn y prydnawn, aethom yn dorf fawr i lah yr afon Wear, er gweled yr ordinhado Fedydd yn cael ei gwein-
LLANGWNWR A'R CYLCHOEDD.
News
Cite
Share
boreu i ystafell y gyfrinfa, ac aethant oddi- yno yn orymdaith hardd a lluososr i'r Llan, a sein- dorf Marks yn eu blaenori. Wedi cael pregeth dda, ao araryw anerchiadau adeiladol, aryrach- lysur gan J. Griffiths, Ficer y lie, awd heibio palasau boneddigion gwladgarol a gyfranant yn barhaus er cryfhau y gymdeithas. Mae yn dda genyf allu dywedyd fod y gymdeithas hon yn dra llewyrchus, a'i bod yn cynnyddu yn gyflym mewn cyfoeth ac aelodau. Dymunaf iddi hir oes a llwyddiant mawr er lies y radd weithgar yn grff. redinol.IDRIs WYN.