Hide Articles List

2 articles on this Page

IGOHEBIAETH 0 LUNDAIN.

News
Cite
Share

GOHEBIAETH 0 LUNDAIN. Achos y Trent a Slidell a Mason—Llyw- odraeth Lloegr a Llywodrcieth yr Unol Daleithiau ar y pwnc—Eglwysi yr -In- nghydffwrfwyr a Chyflafareddiad-Cym- deithasau JBraivdgarol a'u hawliau. MAE y newydd hir-ddysgwyliedig o'r Amer- ica o'r diwedd wedi ein cyrhaedd, ac y mae wedi achosi teimladau eymmysg o lawenydd a syndod yn y brif-ddinas—llawenydd, fod Llywodraeth America wedi bod mor ddoeth a rhoddi i fyny Mason a Slidell, a thrwy hyny ochelyd rhyfel rhwng y ddwy wlad yn y cyfnod presenol-syndod, fod Llywodraeth Lloegr wedi bod mor annheg a chela oddi- wrth y wasg ac oddiwrth bawb y fryseb a ddanfonwyd gan Mr. Seward, Ysgrifenydd America, at Mr. Adams, Llysgenadwr y wlad hono yn Llundain, yr hon o'i chyhoeddi a fyddai wedi tawelu pob meddwl y tu hwn i'r dwfr o barthed y rhyfel ag America. Yn wir, mae y teimlad yn erbyn y Llywodraeth yn gadarnach nag un o syndod ;-mae y gym- deithas ddinesig yn dangos ei dannedd yn ei chwerwder, o herwydd celiad gwir ystyr a chyflwr pethau gan y Llywodraeth, a diau y dygir Iarll Russell a My Lord Palmerston i gyfrif am eu tawelwch pan y dylasent lefaru, pan ymgyferfydd y Senedd yn Chwefror nesaf. Er mwyn gosod pethau yn drefnus gerbron eich darllenwyr, gyda'ch caniatad, Syr, ail-adroddaf rai pethau sydd yn hysbys eisoes iddynt. Y mae yn wybyddus iddynt oil ddarfod i Gadben Wilks, llywydd un o longau rhyfel America, sef y San Jacinto, wedi iddo gael ar ddeall fod dirprwywyr o'r Gogledd ar fwrdd Mail Steamer Brydeinig, o'r enw Trent, fyrddio y llong hono, a chym- meryd Mason a Slidell a'u dau ysgrifenydd oddiar ei bwrdd yn garcharorion. Pan gyr- haeddodd y newydd o hyn y wlad hon, mawr oedd ystwr pleidwyr y Gogledd—yr oedd yn rhaid sychu ymaith yr anfri a roddwyd ar y Human Brydeinig a gwaed-yr oedd yn rhaid myned i ryfel ag America yn union, os na fyddai iddi roddi y dirprwywyr i fyny gydag esgusawd priodol. I'r dyben i beru i tyw- odraeth Washington beidio eu rhoi fyny, taflid pob insult a feiddiai haerllugrwydd i wyneb yr Americaniaid. Y Times, y Morning Herald, y Post, a'r llu o bapyrach sydd yn tynu eu hysbrydoliaeth o golofnau y newydd- iaduron uchod, a ymddifyrent yn y gwaith bawlyd o gynhyrfu yr Amerieaniaid i ym- ladd; ac edrychai y Llywodraeth gyda chrechwen ar eu hymddygiad, pan y gallasai Russell a Phalmerston ddofi eu cynddaredd ag un gair. Pan glywodd Mr. Seward am yr amgylchiad a grybwyllwyd, efe yn union a ddanfonodd fryseb at Mr. Adams yn Llun- dain, yn yr hon y gorchymynid iddo yn gyntaf i wneyd yn hysbys i'r Llywodraeth Brydeinig fod y Cadben Wilks wedi gweith- redu yn hollol heb awdurdod na gwybodaeth y Llywodraeth Americanaidd; yn ail, deisyf arnynt i fod yn dymherus dan yr amgylchiad, gan y byddai iddynt hwy, sef Llywodraeth America, wneyd pob peth a allent i ochelyd rhoddi achos tramgwydd i Loegr; ac yn drydydd, nad oedd achos ofni y buasai i America i fyned i ryfel a Lloegr am bwnc mor ddistadl. Pythefnos ar ol dygwyddiad yr amgylchiad, gwnawd y pethau uchod yn hysbys i Lywodraeth Lloegr gan Mr. Adams, ac etto yn ngwyneb y sicrwydd a gyfleid iddynt fel uchod o barodrwydd America i gyfarfod a'r anhawsder mewn ysbryd teg a chyfeillgar, beth oedd ymddygiad gweinidog- ion ei Mawrhydi ? Ni ynganwyd gair gan- ddynt o barthed i'r fryseb a osodwyd o'u blaen, ond aethant yn mlaen i barotoi yn helaeth ar gyfer rhyfel ag America Gorch- ymynwyd ar i'r holl longau rhyfel gael eu harfogi! Danfonwyd y Guards i Canada Gwariwyd miloedd ar filoead o bunnau ar yr hyn ydoedd hollol ddiangenrhaid! Beth oedd y canlyniad ? Y newyddiaduron a grybwyllwyd yn gweled parotoadau y Llyw- odraeth, ac yn dewis dangos eu loyalty a'u hymlyniad diysgog wrth y British Flag, p'un ai right or wrong, a ymosodasant yn eu holl ffyrnigrwydd ar yr Americaniaid druain, gan fynhyrfu teimladau y werin yn y wlad hon efyd yn eu herbyn hyd eithaf eu gallu. Ond fe'u siomwyd oil. Trowyd eu cynllun- iau yn ddyryswch, a'u cynghor yn ffolineb ac yn awr, pan y mae'r bobl mewn meddiant o wir ffeithiau yr holl amgylchiadau, y mae eu teimladau wedi eu troi yn hollol o du America, a'r unig eithriad ydynt y sawl a chwennychent er mwyn budr-elw fyned i ryfel. Y mae' llais croch yn cael ei godi yn y brif-ddinas yn erbyn y Llywodraeth am gelu yr hyn a ddylasai fod wedi ei gyhoeddi drvry hyd a lied y wlad. Dywedir ei fod yn gymmaint pechod i gelu y gwir ag ydyw i dyngu celwydd. Dywedir fod ymddygiadau Llywodraethau mewn materion fel hyn yn esboniadwy i raddau helaeth gan y ffaith fod lluoedd o berthynasau gwancus gan bob un o honynt, cyflwr tymhorol y rhai a well- heid gan ryfel. Sicr yw, fod drych Iled ddrwgdybus ar y Llywodraeth yn awr. Er gwaethaf y wasg ryfelgar, yr oedd llais cryfach gan yr eglwysi, y newyddiaduron cymmedrol, a'r gwir wladgarwyr a phe bu- asai yr ateb boddhaol a gawsom heb ddyfod o America, yr ydym yn meddwl y buasai y llais hwnw yn ddigon cryf i attal a ffrwyno y rhai sydd yn dda ganddynt ryfel. Yr oedd y cofebau ag oedd yn cael eu danfon at Ar- glwydd Palmerston yn erbyn rhyfel, yn dyblu bob dydd, a phe buasai Mason a Slidell heb eu rhoddi fyny, byddai hyny yn I. mhen ychydig amser yn ddigon i roi stop ar waith y Llywodraeth. Yn mhlith amryw o eglwysi ereill, danfonwyd cofebau gan yr eg- lwysi canlynol yn y brif-ddinas :—Cynnull- eiafa y Bedyddwyr yn Bloomsbury (Parch. W. Brock); cynnulleidfa yr Annibynwyr yn Kingsland (Parch. T. W. Aveling); y Parch. N. Hall a'i gyfeillion yr eglwys Wesleyaidd yn St. George-in-the-East; eglwys y Bedydd- wyr, Deptford; yr Eglwys Gynnulleidfaol, Camberwell; eglwys y Bedyddwyr, Borough Road a'r eglwys W esleyaidd, Battersea. Gan fod Cymru mor enwog am ei Chym- deithasau, dichon na fydd yr hanesyn can- lynol allan o le yn fy llythyr. Y chydig ddi- wrnodau yn ol, gwnaeth cyfreithiwr o'r enw I. Mr. Binns gais am summons yn erbyn Fred- erick Franklin, diweddar ysgrifenydd i ganghen o gymdeithas yr Haiarn-wneuthur- wyr, er peru iddo roddi rheswm dros ei ym- ddygiad yn peidio rhoddi fyny rhyw lyfrau perthynol i'r gymdeithas. Dygwyddodd hyn yn y Police-court, yn Southwarlt, o flaenMr. Combe, yr ynad. Dyma'r ffeithiau-Yr oedd Franklin wedi bod yn ysgrifenydd i'r gymdeithas dros saith neu wyth mlynedd hyd Tachwedd diweddaf, pryd yr etholwyd un Robert Siddel yn ei Ie. Gwnawd cais ar ol cais arno i roi y llyfrau fyny rhoddwyd rhai, ond ni roddai y rhai mwyaf eu pwya a'u gwerth-Ilyfrau y eyfraniadau, y taliadau, &c. Danfonodd Mr. Binns lythyr ato yn gorchymyn eu rhoddiad i fyny, gan fygwth cyfraith os na chydsyniai a'r cais, ond yn ofer: a'r canlyniad oedd y cychwyniadau presenol. Wedi cael tystiolaeth yn cadarn- hau y ffeithiau uchod, Mr. Edwin, dros Franklin, a ddywedai fod y llyfrau, gan eu bod yn hen, wedi cael eu dinystrio, rhag iddynt syrthio i ddwylaw gwerthwyr ymenyn a sebon. 0 herwydd hyn, yr oedd yn an- mhosibl eu rhoddi fyny. Atebai yr ynad, Mr. Coombe, pe byddai hyny yn wir, nid oedd gan Franklin awdurdod i adinystrio y llyfrau, gan mai nid ei eiddo ef oeddynt. Ac mor bell o fod yn hen, yr oedd yn amlwg fod llyfr y cyfraniadau yn un hollol newydd. Ei orchymyn ef ydoedd ar i'r llyfr hwnw gael ei roddi fyny yn ddiatreg. Atebai Mr. Edwin nad oedd Franklin yn alluog i wneyd hyny. Yna ynte, meddai Mr. Coombe, mi a'i airwyaf ef o £ 10. Symudwyd Franklin o'r llys gan yr heddgeidwad, ac yn fuan fe dalwyd y ddirwy, pryd y dygwyd ef o flaen yr ynad drachefn, ac y dywedodd Mr. Coombe wrtho ei fod yn sier fod y llyfr yn ei feddiant, a'i fod yn penderfynn ei orfodi i'w roddi fyny i'r gymdeithas, onide, efe a'i tra- ddodai ef i garchar. Fodd bynag, i'r dyben i roddi iddo gyfleusdra i gydsynio a hyn, efe a'i gollyngai yn rhydd dan feichniaeth ei hun mewn £ 5, i ymddangos dranoeth am 12 o'r gloch i roddi fyny y Ilyfr; ac os methai yn hyn, y traddodid ef i garchar am dri mis. Boreu dranoeth ddaeth, ond ni ymddangos- odd Franklin na'r llyfr, a gwnawd warrant maes i'w ddal a'i gymmeryd i'r carchar.

CWMIFOR YN AMSER Y IGWYLIAU.