Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
GOLYGYDD Y GREALACHWRDDCHWAR-TER…
News
Cite
Share
GOLYGYDD Y GREALACHWRDDCHWAR- TER SWYOD GAERFYRDDIN. Ymddengys fod golygydd y Greal yn wybodol fod ei nodyn yn aneglnr, ornte, ni buasai yn trafferthu cym- maint i'w esbonio ar amlen Greal Rhagfyr. Os ydyw ef yn filluog i ysgrifenu ei feddwl yn eglur, paham na buasai yn gwneyd liynv ar unwaith wrth ymyraeth rhwng "brodyr swydd Gaerfyrddin" ac eglwys St. Clears? Ond os nad ydyw yn aIluog i wneyd hyny, goreu pa leiaf aysgrifena. Mae yn dda genym gael ar ddeall, trwy gyfrwng ei esboniad ar y nodyn, ei fod mor iach yn y ffvdd ° barthed cymmundeb afreolaidd i un difedydd.. Nid oes, yn ein tyb ni, fwy o gytfelyb- rwydd rhwng ei nodrn mewn dadl, a bod golygwyr ein cyhoeddiadau yn gyffredin yn dweyd "nad ydyut yn ystyried eu hunain yn gyfrifol am olygiadau eu goheb- wry" nag sydd rhwng Castell-dinns-bran a choescaib. Bydd yn ddigon buan i'r brodyr "gael digon o hunan- ymwadiad i alw en penderfyniad yn ol, pan welo Gol- ygydd y Greal yn dda roddi gwybodaeth pa gam- ddealltwriaeth a fu rhyngddynt ag eglwys Sion, St, Clears.-JoHN WILLIAMS, Aberduar. DAMWAIN ANGEUOL.—Cyrnmerodd damwain angeuol le yn ngwaith glo Rhyd-y-defaid, ger Abertawe. Fel yroedd dau ddyn, o'r enwau Dafydd Bevan, 56 mlwydd oed, a Thomas Evans, 45 ml. oed, yn gweithio yn y talcen glo, daeth carreg fawr yn ddirybydd arnynt eill dau; a phan ddaeth y tramwr i mewn, yr oeddynt yn hollol farw. Cladd- wyd y ddau dydd Sabbath, y 29ain o Ragfyr. Cyn cvchwyn a chorff Thomas Evans, pregethodd y Parch. R. A. Jones am 9 y bore, yn bwrpasol ac effeithiol fel arfer. Cyn cychwyn a chorff Dafydd BevBn, pregethodd y Parch. William Humphreys yn ddylanwadol iawn, gan rybyadio yr afreolus i droi at y gwir. 0, fy nghvdlforddolion i fyd arall! dyma rybydd unwaith etto am i ni fod yn barod-i ymofyn am wir grefydd cyn yr elo hi yn rhy ddiweddar. BANCIAU CYNNILO Y LLYTHYRDAI.-Y mae nifer banciau cynnilo y llythyrdai sydd yn awr mewn gweithrediad trwy Gymru a Lloegr, yn cyr- haedd i 1,700. Bwriedir estyn y gyfundrefn yn mis Chwefror i'r Iwerddon ac Ysgotland. Y mae amryw o'r hen fanciau cynnilo wedi rhoddi eu masnach i fyny yn wirfoddol, ac wedi rhoddi pob cyrnhorth i'r personau oedd wedi rhoddi arian i mewn ynddynt i drosglwyddo eu cyfrifon i fanciau y Myth vTUy. TAITH TYWYSOG CYMRU I'R DWYRAIN.—Yr oedd trefniadau wedi eu gwneyd cyn marwolaeth y Tywysog Cydweddog fod i'w Uchelder Breninol Tywysog Cymru dreulio rhai o fisoedd y gauaf yn y Levant a Syria, gan ymweled wrth gwrs, a Malta a Corfu ar ei daith. Yr ydym yn deall na wneir un cyfnewidiad yn y trefniadau byn, a bod ei Uchelder Breninol yn bwriadu cychwyn yn ddioed i'r Dwy- rain, gan ddychwelyd mewn pryd i gymmeryd rhan yn agoriad yr Arddangosiad mawr. COFADAIL I'R TYWYSOG CVDWKDDOG.—Y mae yr* Arglwydd Faer yn cymmeryd mesurau i ffurfio syrnudiad cyhoeridus i godi rofadail i'r di- weddar Dywysog Cydweddos; mewn rhyw ran gyf- addas o'r biif d<iinas. Dydd Mercher diweddaf, cynnaliwyd cyfarfod cyfrinacnol yn y Mansion House, ac ymddengys fod prif fancwyr a masnach- wyr y ddinas wedi amlygu cymineradwyaeth UII- frydol o'r symudiad. Cynnelir cyfarfod cyhoeddus o'r dinasyddion ddydd Iau nesaf.
HANESION GREFYDDOU
News
Cite
Share
llywyddu y cyfarfodydd, ac yn cnel ei gynnorthwyo gan Mr. J. Bevnon, ysgrifenvdd yr ysgol. Dvmunol oedd cael clywed gan yr ysgrifenvdd ar ddiwedd y cyfarfod prydnawnol, fod vr Ysgol Sabbothol hon wedi cvnnyddu yn y misoedd diweddaf o yn agos i 40 i 200; ac y mae yn fwy dymunol byth weled amryw o'r ieuengtyd perthynol i'r ysgol yn dyfod yn mlaen i ymofvn am le yn nhy vr Arglwydd. Yr oedd y fath gyfarfodydd yn fwy tarawiadol yn v lie hwn 0 her- wydd mai dyma y rhai cvntaf o'r fath a gynnaliwyd genym. Gan mai dydd Llun Sulgwyn yw yr amser i wobrwyo plant yr ysgol hon, trwy roddi iddynt de a theisen, llyfrau, &c., ni wnawd vn amgen y dydd hwn na rhoddi o gant a hanner i ddau cant o eurafalau (oranges) iddvnt, y rhai a dderbvniwyd gan y plant gyda gwir hyfrydwch, ac ymadawent yn lion ar ol gwaith y dydd, ac yn neillduol yn y rhagolwg ar y Sulgwyn dyfodol. Bydded i'r ysgol hon gvnnyddu etto yn y misoedd dyfodol fel yn y rhai diweddaf. Mae yn deilwng 0 sylw, fod ysgol Bethania wedi dechreu ar gangen o Ysgol Sabbothol yn y Cimle, tua milldir allan o'r dref, a bod dau le arall gan- ddi etto i wneyd yr un peth.-HYFFORDDWR PLANT. PBNXJERFVNIAD CWDDD CHWARTER CASTJJLL- NEDD.—'Mewn cyfarfod 0 Weinidogion perthynol i'r Bedyddwyr, yr hwn a gynnaliwyd yn Nghastellnedd yn ddiweddar, penderfynwvd ar yr hyn a ganlyn:— Fod y cyfarfod hwn yn dymuno i B. Evans, Ysgrif- enydd Cymmanfa Bedyddwyr Morganwg, i agor go- hebiaeth a Chofiaduron gwahanol Gymmanfaoedd, a Chyfarfodydd Trimisol y Bedyddwyr yn Nghymru, yn nghyda. phersonau ereill 0 ddylanwad perthynol i'r en wad, er gwybod eu barn 0 barthed y modd y dylai y Bedyddwyr wneuthur coffa effeithiol yn y flwyddyn ddvfodol o'r ddwy fil o weinidogion tra chydwybodol, y rhai a gymmerasant eu taflu allan o'u bywioliaethau yn y flwyddyn 1662, yn hytrach na chydymffurfio, yn groes i'w cydwybodau, a Deddf yr Unffiirfiaeth. Gan! fod 11awer o honynt yn Fedydd wyr egwyddorol a di- ledryw, ymddengys ir eyfarfod hwn na ddylai y Bed- yddwyr fod yn ol i un enwad pa bynag mewn parch i'w coffadwriaeth, na goddef i'r dybiaeth fyned ar led fod gan unrhyw enwad neu enwadau ereill fwy 0 hawl yn yr enwogion hyny—y rhai a fuont o gymmaint gwas- anaeth i Ymneiilduaeth yn gyffredinol-nag sydd gan y Bedyddwyr." COLEG Y BEDYDDWYR, HWLFFORDD.—Ym- ddengys fod y Myfyrwyr canlynol wedi derbyn gal- wadau oddiwrth yr eglwysi a nodir, ac yn pender- fynu dechreu ar waith pwysig y weinidogaeth yn fuan :—Mr. J. G. Davies i Beulah, sir Fynwy Mr. D. Mathias i Bantycelyn, Salem, a Llanwrtyd, sir Frycheinog; Mr. D. James i Bontestyll, sir Prycheiniog a Mr. John J. Jones i Lanfair- caer- einion, swydd Drefaldwyn. BWICHNEWTDD.—TreHliais ran o'm Nadolig diweddaf yn y lie hwn i wrandaw y gwahanol ysgol- ion oedd wedi dod yn nghyd i adrodd rhanau o'r Ysgrytbyrau Santairid, ac i ganu rhai darnau pur gampus. Dechreuwyd trwy adrodd Saliu gan un o blant ysgol Elim yna gweddiwyd gan Mr. Lewis, o goleg Caerfyrddin, ac holwyd plant ysgol Elim, Ffynnonddraill, gan y Parch. W. Thomas, gwein- idog y lie, ar Hanes Dafydd. Holwyd ysgol Elim gan y Parch. M. Davies, Blaenycoed ysgol yr Aber gan Mr. Lewis ac ysgol Bwlchnewydd gan y Parch. W. Morgan, Union-street. Adroddasant a chanasant oil yn lied dda; ond fe ddarfu i mi glywed y don oedd gan ysgol Elim, sef ton fudd- ugol Manchester, o'r Drysorfa Gorawl, ac nid wyf yn meddwl i mi glywed gwell canu erioed nag a glywais y tro bwn gan ysgol Elim; mewn gair, canasant yn arddercliog. Yn rrlaen yr elont, yw dymuniad—UN OEDD YNO. PRICE, ABERDAR, YN MIDDLESBRO' Mae darllenwyr SEREN CYMRUwedigweledyn y rhif- ynau diweddaf, fod y dyn hynod hwn, yn ngliyd a'i allwyl frawd J. G. Owen, Rhyl, wedi talu ymweliati a'u cydgenedl yn Ngogledd Lloegr. Nid ydym ar hyn o bryd yn meddwl son am yr holl orchestion a gyfiawnwyd ganddynt tra yn aros yn y wlad; ond ein bv\riad yw son gair am ddarlith ar Garibaldi, yn Middlesbro'. Yr oedd cryn bryder yn meddyliau y cyfeillion yma 0 herwydd marweidddra yr amser, yn nghyd a bod y tocynau yn swllt yr un, rbag o'n y buasai yn troi allan yn fethiant; ond nid felly y bu. cawsom gynnulleidfa dda o bobl serchoga char. uaidd. Wedi dewis Mr. T. Mathews i'r gadair lywyddol (yr hon a lanwodd yn anrhydeddus), rhoddodd anerchiad byr a bywiog; yna efe a alw- odd ar Mr. Price at ei orchwyl; ac yn mhen tua tbair awr » hanner, yr oeid pohl Middlesbro' yn gwybod rhywbeth nail annghofiant yn fuan. Ni fyddai yn ddoethineb ynom i ddweyd dim am y dar- lithydd, ond digon yw dweyd mai Price, Aberdar, oedd ef yma.—J. GLAN TEES. ARGOED. MYNWY.—Fel y mae yn arferiad yn ein gwlad i gadw dydd Nadolig yn ddydd gwyl, ac i wledda a rbodiana o fan i fan, a difyru ein bunain ar bethau gwael a diwerth er arbed y pethau yna, penderfynodd aelodau yr ysgol Sabbothol yn y He hwn i gwrdd a'u gilydd yn y capel tua dau o'r gloch i adrodd y damau detholedig ag oeddynt wedi eu dysgu ac wedi i un o blant yr ysgol adrodd rhan o Air yr Arglwydd, canodd y cor, a gweddiodd Mr. D. George, myfyriwr o Bontypwl, ac yna ad- roddodd y plant yn ddarhagorol; ac am 4 o'r gloch, terfynwyd trwy weddi a maw). Am 6 o'r gloch, daethom yn nghyd eilwaith, ac adroddodd un o'r plant ran o Air yr Arglwydd, a chanodd y cor, a gweddiodd Mr. D. George; ac wedi i'r cor ganu etto, adroddodd y plant ac ereill y darnau dethol- edig oeddynt wedi eu dysgu yn dda iawn. Wedi adrodd 72 o ddarnau, terfynwyd trwy weddi a mawl. Fel yna, treuliasom y dydd gyda phethau da, gan ddymuno bendith y Nef arnynt i wneutfcur daioni, ac i ddwyn eneidiau at lesu Grist.—UN 0 FBCHGYN YR YSGOL. BETHEL, GLYN NEDD. — Dydd Nadolig di- weddaf, cynnaliwyd ymagyfarfod llenyddol gan yr ysgol Sabbotbol a'i chefnogwyr diffuant. Cynnal- iwyd dwy oedfa—un am ddau, a'r Hall am chwech o'r gIoch. Cymmerwyd y gadair a llanwyd hi yn anrhydeddus, gan y Brawd caredig a selog T. H. Thomas, Yswain, Cwmgwrach, un 0 feibio ysbrydol Mr. Price, Abeidar; ond er ys blynyddau yn aelod ffyddlawn ac haelionus yn Bethel. Cym merwyd hefyd at y Feirniadaeth yn y dull mwyaf buddiol a galluog gan ein haelionus gyfaill, John Thomas Yswain, Llythyrdy Glyn Nedd, clod yr hwn sydd fawr yn y lie, ac yn mysg gweinidogion a tienorion mewn llawer parth o'r Dywysogaeth. Y mae Eglwys Bethel o'i dechreuad hyd yma o dan rwymau arbenig i gydnabod ei haelioni parhaus ef a'i anwyl briod. Nid annghofus yw hefyd egnion a doethineb y brawd Hafurus John Tasker, yn rhwyddhau ffordd bodoliaeth a chyn- naliaeth y cyfarfod. Gwobrwywyd yr yrndrechwyr goreu a llyfrau addas a gwerthfawr. Mewn d^rllen Saesoneg, yr oedd pump yttigeisydd ;-y goreu, Mr. Benjamin Morgan. Mewn Darllenyddiaeth Cymreig etto, tri-ar-ddeg o ymgeiswyr, ond y goreu oedd Mr. W. Griffiths. Araeth hanesyddol o'r Genadaeth Fedyddiedig; un ymgeisydd, ond hwnw yn dda iawn, sef Mr. Jobn Richards. Yr adroddiad goreu o'r Pennillion "Beth yw Oyn 1" Pedwar ymgeisydd y goreu oedd baehgen hach o'r enw John Evans. Gogoniant y Nefoedd j" un ymgeisydd, s?f John Richards. "Marwotiteth Baban un ymgeisyddes, sef Mary Evans. Araeth ar Enedigaeth Crist; un ymgeisydd, sef Mr. Gri- ffith Griffiths. "Ynigom yn Llys Midian." Y hwn oedd yn^trafod y gynnadledd ddifyrus hon oedd y Brodyr Benjamin Morgan, Samuel Jones, John Francis, John Owens, a William Anthony (leu.). Adroddwyd hefyd ddarnau annghystadleuol ar- dderchog, er boddhad y cyfarfod; megys. II Cân Nadolig," gan John Francis Brawdlys Calfaria," gan John Richards; "Gair at y Bobl leiiainc," gan David Rowlands, a Chan Nadolig arall a ad- roddwyd yn y dull mwyaf effeitbiol a thoddsdig gan y Brawd William Mathias. Anerchwyd goisedd gras ar ddechreuad y ddau gvfarl'od gan y Brodyr Griffith Griffiths a W. Mathias. Yr oedd y capel yn orlawn o bobl, ac ymddengys fod pawb wrth fodd eu calon. Yn ychwanegol at ddyddordeb y cyfarfod, gwobrwywyd y Brawd John Richards am ei draethawd rhagorol ar Ddyledsivydd Eglwys Dduw atyr Ysgol Sabbothol. Yr oedd traethodau ei g) dymgeiswyr yn dda; ond Richards a ennillodd y dorch. Y cyfarfod nesaf i'w gynnal nos Lun Sulgwyn, pryd y rhydd Mr. Thomas, y Beirniad, ddeg swllt am y Traethawd goreu ar Ddaioni (?) Cenfigen." Deallwn fod gwobrwyon ereill yn dechreu dyfod i'r golwg, Ymadawsom mewn teimladau rhagorol, wedi cael gwledd feddyliol o'r fath oreu. Edrychwn yn awyddus at y cyfarfod nesat, os ar dir y byw.-T. E. JAMES.