Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

YSPEILIO YR AMDDIFAID.

News
Cite
Share

YSPEILIO YR AMDDIFAID. PENNOD II. 'DDAW henaint ddim ei bunan." Dyna fel y dywedodd Jacob v gof wrth Evan or Berth- hir boreu dranoeth i'r nos y bu farw Edward Lloyd. Beth sy'n awr, Jacob ?" gofynai Evan mewn prysurdeb. A glywsoch chwi, Evan, ddim am yr hyn a ddygwyddodd yn y Llys neithiwr ?" "Naddo'n siwr. Beth, Jacob, rhoddwch wybod i gyfaill." "CyfailI neu beidio," ebe Jacob; 'does dim dirgelwch yn bod, nac eisieu iddo fod yn ddir- gel chwaith; dyna yw, mae Edward Lloyd wedi marw." Wedi marw meddai Evan mewn syndod. Pa fodd y bu, Jacob ?" Nis gallaf roddi i chwi y m,aiylion o'r amgyl* hiad torcalonus yn rheseno]; a pheth arall, nid wyf mewn sefyllfa o ran fy meddwl i ateb llawer o ofyniadau y boreu hwn." SafaiJacob uwchben yr eingion, a'r morthwyl yn ei law, a llawes ei grys wedi torchi i fyny fel pe byddai yn barod i waith, ond fod y meddwl yn gymmysgedig. Yr oedd gwahan- iaeth dirfawr rhwng y adau ddyn a safent yn awr o bob tu i'r eingion o ran corff a meddwl. Dyn bach o gorffolaeth ydoedd Evan-yn llawn bywiogrwydd, ond yn hollol ddiwaith; doedd dim cariad rhyngddo a'r gaib a'r rhaw yr aradr na'r anifeiliaid, dolydd na maesydd. Ond wrth wrando ar Evan yn yr efail, gallesid meddwl mai efe oedd y dyn goreu yn y plwyf. Meddwl cul iawn oedd gan Evan am bawb a phob peth, os meddwl hefyd, gan nad yn mha le byddpi-nid gwaeth pa gymdeithas, uchel neu isel, gwybodus neu anwybodus gan nad pa bwne bynag fyddai testun yr ymgomiad, mynai ddodi ei dafod i mewn, ac ya ami iawn ar draul gwnevd ffwl o hono ei hun. Yroedd ei diliogi, ei ragrith, ei ragfarn, ei feddyliau ansefydlosr, a'i ddymuniadau drwg tuag at ei gymmydogion, wedi llwyddo i'w wneyd yn wrthddrych sylw y wlad. Y gwirionedd yw, yr oedd ymarferiad a phethau annymunol, a choleddiad meddyliau drwg, wedi newid ei natur a pheru iddo annghofio eiddyledswyddau tymhorol, heb son am yr ysbrydol. Methai Evan gael neb yn y piwyf na'r nesaf ato i fyny i'w safon oruehel-nis gallai weled anifeiliaid neb yn y farchnad yn gyfail i'w rai ef. Tybiai mai y Berth-hir oedd paradwys y byd; nis gallai weled gwyrddlesni yn nolydd neb fel ei ddolydd ef, na meusydd neb wedi eu har- edig, nac yn dwyn ffrwythau yn gyfartal ag eiddo y Berth, pan mewn gwirionedd yr oedd Evan a'i Berth yn destun siarad a chwerthm i hob hogyn yn y gymmydogaeth. Pan fyddai ffermwyr y plwyf yn y gwanwyn yn dwyn yr aradr i ddiddosrwydd, dyna y pryd y clywid ac y gwelid Evan yn prancio ac yn llywodrHethu y gwas hwn a'r forwyn arall, ac yn dechreu areithio y mynai ef hyn a'r llall, ae na oddefai neb diog o gylch ei dy. Pan yn ei lawn hwyl, a'r araeth yn dylanwadu nes cvnnyrchu crechwen, dyna Deio bach yn personoli ei hun, ond nid cynt y gwelai Deio druan, nag y dechreuai bentyru mil o feian ar ei ben, a'i anfon i ffwrdd i gyrchu hen aradr oedd yn y Cae Pant er y flwyddyn o'r blaen. Gyru ar y ci a gerddo," meddai Deio, dan fwmian wrtho ei hun. 'Doedd gan Evan, drwy drugaredd, ddim teulu ond gwraig, yr hon oedd yn gorfod byw, ymddyddan, a gweithredu, fel pe byddai yn rhwym wrth gadwyn. Perthynai y Berth-hir i Owain Lloyd or Llys, ac oni bai fod tad Evan a thad hwnw wedi byw dan henafiaid parchus y Llys am gynnifer o flynyddoedd, buasai wedi gorfod gwneyd ei becyn er y 's llawer dydd. Yr oedd Evan yn eithaf ymwybodol nad oedd dim parch gwreiddiol gan ei feistr tuag ato, o herwydd ei fod mor annhrefnus gyda gwrteithio ei dyddyn, ac mor barod a hyf ar ei dafod yn mhob man ac ar bob ach- lysur; mynych y byddai yn gorfod gwrando ar yr hen wr boneddig yn tystiolaethu iddo ei gamwedd, ond 'doedd waeth yn y byd beth a ddywedid na pheth a wnelid, Evan oedd Evan wedi y cwbl. Yn gyffredin iawn mae dynion diog, neu ddynion o'r un stamp ag ef, yn greaduriaid am- gylchiadau lliw y dw'r, nerth yr awelon, &c., yw eu safon, ond nid felly yn hollol gyda gwr y Berth hir. Yr oedd gan Evan ryw fath o gynllun i fyw ac i ymlwybro yn y byd—bob boreu ar ol cael ei wala a'i weddill o fara, gad- awai ei dy a'i orchwylion am efail y gof, byddai yn rryned trwy y pentref tua naw o'r gloch bob boreu, ond dydd marchnad y Dre- fawr a'r Sabboth. Prif ddyben Evan ydoedd hel ystoriau o bob math, gwir neu anwir, nid gwaeth beth, ond cael rhyw beth i siarad. Nis gallasai Jacob y gof. ac Evan gytuno ond

TRAETHODAU.