Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Family Notices

Family Notices
Cite
Share

GENEDIGAETH. Mai 27, priod Mr. John Watkins, Abyail, Llangynidr, ar ferch. PRIODASAU. Mai 23ain, yn nghapel y Bedyddwyr, Felinfoel, trwy drwydded, gan y Parch. M. Roberts, Cadben D. Thomas, a Miss E. Rees, Ystradyfai, y ddau o'r Felinfoel. Meh. 1, yn y Capel Newydd, gan y Parch. T. Evans, y gweinidog, ac o flaen Mr. W. Jarman, y cofrestrydd, Mr. Jno. Rees, Ceri, a Miss Ann Breeze, merch i Mr. John Breeze Llanidloes. Meh. 15fed, yn Mlaenywaen, gan y Parch. Daniel Davies, esgob (A.), Aberteifi, yn mhresenoldeb Mr. John Havard, cofrestrydd, Mr. Titus Lewis Jones, mab y Parch. H. W. Jones, Caerfyrddin, a Miss Sarah Jones, trvdeda ferch John James Jones, Alderman, Aberteifi. Tangnefedd eisteddo ar orsedd y galon, A chariad ddylifo o boni fel afon I Bendithion dyddanwch, eu nefawl rasnsau, A fyddo'n dyferu fel lr-wlith y borau. Aberteifi• AMNON. Mai 31ain, yn addoldy y Bedyddwyr, Dinbych,gan y Parch- Robert Prichard, drwy drwydded, a'r cofrestrydd, Mr. Ed. Gee, yn bresenol, John Samuel Hugh Evans, Ysw., a Miss Elizabeth Roberts. Y gwr ieuane sydd fab hynaf i'r di weddar David Evans, Ysw., Berthddu, Clynog, Sir Gaernarfon, a'r wraig ienanc yn unig ferch i Evan Roberts, Ysw. (gynt o Liverpool), Dinbych, a'r ddau yn aelodau teilwng o gyfenwad y Bedyddwyr. Boed bendith lor, ddymunafn, Ar y briodas hon Y ddau ddyn tirion, hardd eu gwedd, Mewn hedd fo'n byw yn lion Helaethrwydd mawr o bethau'r byd, 0 byd rhoed Duw i'w rhan; A gras i'w dysgu, er ei glod, 1 ■ -'s- I'w harfer yn mhob man. r 'g: Cymharns iawn o dan yr iau, Yw'r ddau, feddyliwn i, Pob un a'i brolfes yn gytun, 0 Grist a'i eiriau cu Llawenydd bywyd, gras, a hedd, Fo iddynt hwy o hyd A Duw a'u cad wo rhag pob drwg, Tra fyddont j-n y byd. CYFAILL I'R DDAU. MARWOLAETHAU. Mai lafed, ar ol dau ddiwrnod o gystudd caled iawn, Morris John, Yethen, yn 62 mlwydd oed. Dydd Mawrth canlynol, ymgasi;lodd tyrfa fawr er gweinyddu y gymniwvnas olaf iddo *f, pryd y dechreuwyd y cvfarfod drwy ddarllen agweddio gan y Parch. D. Davies, Bethel, a phregethodd y Parch. T. Jones, Penybryn, oddiar Salm 103. 15—18. Yna cychwynwyd i t'yned a'i ran farwol i Bethebara dechreuwyd y cyfarfod yno trwy drlarllen a gweddio gan y Parch. D. Price, gweinidog y lie a phregethodd y Parch. D. Davies, oddiar loan 5.28,29; ae areitbiodd y Parch. D. Price ar lan y bedd. Yr oedd y tranced;g yn aelod ffyddlon a hardd gyda'r Bedyddwyr yn Bethel, Monachlogddu. Bydded yr amgylchiad sydyn hwn fod yn foddion i ddwyn i feddwl Ilawer mai yn yr awr ni thybiom y daw Mab y dyn. MARW-GOFFA. John Morgan, nen Sion Morgan, Llansamlet," fel ei gal- wyd gan ei gydnabod, a fu farw yn ei annedd ei hun, yn agos l Gwernllwynchwith, Llansamlet, ar y 7fed y fis Mai, 1861 Tad oedd yr ymadawedig John Morgan i'r Parch. Phillip Morgan, Adulam, Llansamlet. Ganwyd John Morgan yn mis Rhagfyr, 177^, ar dir y Dderifach, yn agos i'r Glynhir, pa las teulu Dubison, plwyf Llandybie, swydd Gaerfyrddin. Enw ei dad oedd Thomas Morgan, gwehydd wrth eigelfyddyd. John oedd un o bump o blant, Ann, Rees, Morgan, John, a Catherine. En Ann a Morgan feirw yn ieuainc Rees a ym- fudodd i'r America, yn mis Medi, 1832, ae a wersyllodd yn Palmyra, Portage County, Ohio, North America, He y mae ef a'i blant, a'u teuluoedd yn aros hyl yn awr. Catherine oedd wraig i Dafydd Thomas, pa rai a fuont byw 25 mlynedd yn Moss's Row, Aberdar, Morganwg. John, sef gwrthddrych ein cofiant, a dreuliodd y 42 mlynedd olaf o'i oes yn ngwasan- aeth C. H. Smith, Ysw., Llansamlet, fel dyn o wir barch ac ymddiried yn nghyfrif pawb a'i hadwaenai. Bedyddiwr oedd Sion Morgan, ac fe arddelodd ei egwyddorion yn Llansamlet am lawer o fiynyddoedd, pan nad oedd cymmaint ag un Bed- yddiwr ond ei hunan yn adnabyddus yn y plwyf. Bedyddiwyd efyn afon Tawe, pan yn ddwy ar hugain oed parhaodd yn ddidroi yn ol, yn berffaith ffyddiog am driugain mlynedd a bu farw yn ei 82fed mlwydd o'i oedran, yn llawn o ddyddiau, mewn aeddfedrwydd teimlad i ymadael ae wedi gadael en^ parchus ar ei ol, fel dyn call, cymirydog cymmwynasgar, a ehrefydd wr da.—FEKEtUN.

Paiteswtt iartrefal.

CAVOUR.