Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

AMERICA.°

News
Cite
Share

AMERICA. PAROTOADAU RHYFELGAR. Y mae y newyddion diweddaraf o'r wlad hon yn dra phwysig. Hysbysasom yn ein Rhifyn diweddaffod Caro- lina Ddeheuol wedi encilio o'r Undeb ac y mae i'w ofni fod rhai o'r Talaethau ereill wedi ei dilyn cyn yn hyn. Bernir yn gyffredin yn awr fod cytundeb wedi ei wneyd rhwng y Taleithiau Caethion, os dewisid Lincoln yn Llywydd, y byddai iddynt ymneillduo. Fodd bynag y mae y Llywydd Buchanan fel wedi deffroi o gwsg, ac yn benderfynol i wneyd ei oren i ddiogelu yr Undeb. Y mae efe wedi gwrthodgofyniadau y Ddirprwyaeth, ac wedi hysbysu iddynt nid yn unig ei fod yn bwriadu casglu y cyllid a gweinyddu y cyfreithiau, ond hefyd amddiffyn eiddo yr Unol Daleithiau gyda'r holl allu sydcl at ei wasanaeth. Yr oedd dwy agerlong rhyfel i gael eu hanfon yn ddioed i Charleston. Taenid y gair fod yr boll leoedd pwysig yn y Dehau i gael eu hadgyfnerthu yn ddioed. Yr oedd cartreflu Columbia i gael eu hadffurfio. Yr oedd Mr. Macintire, o New York, wedi ei appwyntio i fod yn gasglwr y cyllid yn Charleston. Taenid y gair fod amddiffynfeydd ae arfdai y Uywodr- aeth wedi cael eu cymmeryd yn Carolina Ogleddol a Georgia. Yr oeddynt yn gwneyd parotoadau rhyfelgar yn Carolina Ddebe uol. Yr oedd senedd talaeth New York wedi pasio pender- fyniad, yn awdurdodi y llywodraethwc i gynnyg gwasan- aeth 10,000 o gartreflu i'r weinyddiaeth gynghreiriol i ddarostwng y gwrthryfel yn y Deheu. Dywed bryslythyr o Washington, dyddiedig yr ail o Ionawr:—" Cefnogir Anderson gan y Llywydd, ac y mae efe wedi gwrtliod cydnabod dirprwywyr Carolina Ddeheuol. Y mae yr encilwyr yn siomedig ac yn ddych- rynedig iawno herwydd sefy Ilia newydd pethau, Y tnaey Llywydd yn cwyno o herwydd fod pobl Charleston wedi cymmeryd meddiant o eiddo yr Unol Daleithiau, ac y mae yn galw arnynt yn daer i'w dychwelyd. Dywed hefyd fod yn rhaid casglu y cyllid; ac y mae yr holl gyf- rin-gynghor, oddieithr yr ysgrifenydd cartrefol, yn ei gefnogi ef yn awr. Os bydd i'r Caroliniaid wneyd ym- osodiad ar Major Anderson, neu ar amdditfynfa Sumpter, anfonir llongau rhyfel a milwyr yno. Dywed un hanes fod y bryslythyr diweddaf a anfonwyd gan ddirprwywyr Carolina ddeheuol at y llywydd wedi ei ddychwelyd ganddo heb ei agoryd, a dywed hanes arall ei fod wedi ei ddychwelyd ef heb un gafr o esboniad. Edrychai y dirprwywyr ar y weithrediad hon o eiddo y llywydd fel yn gyfystyr a chyhoeddiad o ryfel, ac yn yr ysbryd hwn yr ymadavvsant i Carolina Ddelieuol ary 3ydd o'r mis hwn. Taenir y gair fod cvnllun ar droed er cymmeryd medd- iant trwy drais o Washington, ar neu cyn y 4ydd o Fawrth, i attal gosodiad Mr. Lincoln yn ei swydd, ond y mae yr amser heb ei benderfynu etto. Y mae y Cadfridog Scott, modd bynag, yn brysur ffurfio symudiadau gwrth- weithiol, ac y mae yn debygol y dyrysir eynllulliau y bradwyr. Y mae Talaeth Efrog Newydd wedi arwyddo ei pharod- rwydd i gefnogi y llywydd yn y defnyddiad o'i awdurdod. Y mae llywodraethwr y dalaeth hon yn siorad am y Carol- iniaid fel rhai euog o deyrnfradwriaeth, ac y mae yn galw ar ddeiliaid y dalaeth i roddi holl bwys eu dylanwad fel un gftr o blaid diogelwch yr undeb. Y mae rhai yn barnu nad ydyw y taleithiau caethion oil yr un mor awyddus am yrmaniad ag ydyw Carolina ond mai dyben penaf eu hymneillduad ydyw tyneru y Taleith- iau Gogleddol, a'u gwneyd yn aeddfed i wneyd rhyw gy undeb a hwy a fyddo yn fwy Safriol i'r fasnach.

[No title]

Y GWARCHAE AR GAETA.