Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
famum tatwftrl
News
Cite
Share
famum tatwftrl GOGINAN.Damwain angeual.-Fel yr oedd bacbgen 13 mlwydd oedd, o'r enw Evan Jones, yn dilyn ei alwed- igaeth yn Goginan, troddy dram ar ei gefn, a niweidiwyd ef mor drwm, fel y bu farw mewn ychydig oriau. Cladd- wyd ef yn nghapel y Dyffryn, pryd y pregethoddy Palch. John Rees, Tregaron, ar yr achlysur, i dyrfa fawr o bobl. Cafodd ei ddwyn i fyny yn Eglwys Dduw o'i febyd, ac nid oedd dim amnjheuaeth gan neb am ei dduwioldeb. ABERDAR.-Damwain angeual.-Dydd LIun, Ion. 14eg, yn mhwll glo Ynvscynnon, perthynol i D. Williams, Ysw., (Alaw Goch), cyfarfu glowr o'r enw John Jones, 58 mlwydd oed, ag angeu trwy i ddarn 0 lo syrthio arno, a'i ladd yn y fan. Buytrancedig yn aelod ffyddlawn dros lawer o flynyddoedd gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Yr oedd yr vmadawedig yn frodor o Amlwch, sir Fon. MERTHYR TYDFIL.—Mae yn ddrwg genym hysbysu fod y gobaith a roddid i'r cyhoedd am adgychwyniad gwaith Pendaren wedi troi yn siomedigaeth, am yr amser presenol beth bynag, trwy wahaniaeth o rai railoedd o bunn'an, meddir, rhwng gofyniad y perchenog, a chynnyg- iad y cymdeithion a fynent ei brynu. Gresyn nad allasent gytuno. Mae safiad y gwaith hwn, ac amryw weithfaoedd ereill, wedi effeithio yn niweidiol iawn ar gyflogau yn y gweithfaoedd sydd yn myned rhagddynt fel cynt, drwy or- lenwad 0 ddwyluw, nes y maent ar ffordd eu gilydd. RISCA.—Mae y trengholiad ar gyrff y bobl anffodus a gollasant eu hywydau drwy y danchwa ddiweddar, yn cael ei gario yn mlaen yn barhaus. Hyderwn y galluogir ni i roddi y rheithfarn yn ein rhifyn nesaf. Cawsom y gyfres ganlynol 0 enwati y dynion a gyfarfyddasaut â'u liangeu
- fefgirkl
News
Cite
Share
Mr. Llewellyn Jones, o Athrofa Pontypwl, anesch gorsedd gras, dechreuodd Mr. Reeves ar ei ddarlith. Rhoddodd hanes Moses yn gryno a dealladwy darluniodd y modd neillduol oedd llaw Duw yn gweithio mewn cyssylltiad a diogeliad ei fywyd pan yn faban-y lies ddeilliodd iddo o fugeilio defaid Jethro—y gwersi pwysig ddysgodd wrth hyny-y swydd bwysig a gyflawnai wrth dywys plant Israel o'r Aifft i Ganaan —y gwaith mawr wnaeth Duw drwyddo-ei gladdedigaeth-y berthynas oedd rhyngddo a Christ—a'r gwersi a allwn ni ddysgu oddiwrtho. Mewn gair, yr oedd y ddarlith yn wir ddyddorawl. Prydnawn y dydd canlynol, sef dydd Nadolig, parotowyd te a theisen o'r fath oraf, gan y boneddigesau per- thynol i'r eglwys, i blant yr Ysool Sabbothol. Hwyr yr un dydd, adroddwyd amryw bennodau o'r Beibl, a darnau o bethau buddiol ereill, gan ddeiliaid yr Ysgol Sul. Y mae dyfodiad Mr. Reeves i'r lie wedi bod yn fendith fawr i achos y Gwar- edwr. Dymunem bob llwyddiant iddo.—A. B. LLYSFAEN.—Nos Lun, Rhagfyr 31ain, traddodwyd darlith yn Nghapel y Bedyddwyr, gan y Parch. R. Ellis, Cynddelw. Y testun oedd,—" Dychweliad yr Iuddewon." Er fod yr hin yn wlyb ae oer, daeth cynnulleidfa lied dda yn nghyd. Yr oedd y mynediad yn rhad, ond cesglid wrth y drysau wedi gorphen, a dangosodd y voluntary system ei hunan yn lied dda. Nid oes eisieu canmol y ddarlith (mae hyny yn hen beth bellach gan bawb), ond digon yw dweyd, fod Cynddelw yn traethu fel arfer yn ei ddiill ffraeth a medrus. Gan fod hon yn ddarlith newydd, car wn i ereill fynueichlywed. TRIALA W. PANTYCELYN.—Nos Nadolig, am hanner awr wedi 6, eynnaliwyd cyfarfod adroddiadol gan yr ysgol Sabbothol yn y He hwn, pryd y traddodwyd amryw ddarnau addas a phriodol idd eu hadrodd ar y pryd. Dechreuwyd y cyfar- fod trwy adrodd Math. pen 2, gan I. Davies. Wedi anerch gersedd gras gan Mr. W. E. Jones, cynnygiwyd ac eiliwyd fod y Parch. W. E. Jones, gweinidog y lie, i gymmeryd y gadair, a llywyddu y cyfarfod, a'r hyn y cydsyniodd gyda'r parodrwydd mwyaf. Ar ol ychydig eiriau anerchiadol, galwodd ar yr adroddwyr yn nilaen yn y drefn ganlynol: i. Newyddion da o lawenydd mawr," gan R. Jones. 2. "Y dyn dedwydd," gan C, Arthur. 3. Testunau rhy- faddod," gan A. Pugh. 4. Y Lleidr a'r Ceidwad," gan J. Morgan. 5. Daioni ty Dduw," gan D. Price. 6. "Yr ysgol Sabbothol," ganW. Arthur. 7. Penderfyn- iad yr Edifeiriol," gan J. Arthur. 8. "Railway Bywyd," gan A. Jones. 9." Darostyngiad lesu," gan M. Jones 10 'Jlesuyn Frenin," gan R. Jones. 11. Marwolaeth. y Cristion," gan E. Richards. 12. Defnyddioldeb Car- iad," gan M. Protheroe. 13. Abia, mab Jeroboam," gan M. Evans. 14. Y ddwy fl'ordd a'r Mynegfys," gan C. Davies. 15. Dedwyddwch boreuol dyn," gan J. Davies. 16. C&n Miriam wrth wylio Moses," gan M. Davies. 17. "YBeibt," gan C. Herbert. 18. "Dadl y tri phregethwr, gan E. Richards, J. Richards, a T. Richards. 19. Y Pwysigrwydd o gyfranu addysg i'rieuenctyd," gan I. Davies, 20. Anerchiad mewn cyssylltiad a'r Ysgol Sabbothol," gan J. Richards. Wedi canu tôn gynnulleid- faol, terfynwyd y cyfarfod trwy weddi. Gallwn ddweyd yn ddiduedd fod cyfarfodydd o'r natur hyn wedi gwneyd lies mawr yn yr ysgol Sabbothol yn y lie hwn ac yroedd mwy o fedrusrwydd i'w ganfod yn y cyfarfod hwn nag mewn un yn flaenorol. Bendith a'i dilyno, yw dymuniad—1. AB DEWI. Eos GLYNNKDD YN LLANDILO FAWR.— Hwyr Nad- olig, I860, cynnaliwyd cyngherdd yn Nghapel y Bedydd- wyr yn Llandilo. Yr oedd y corau o Gwmifor, Cwmdu, a Phenrhiwgoch, yn bresenol; ac wedi iddynt ganu bob un eu ton ddewisol, er boddlonrwydd i'r gwyddfodolion, gwnaeth yr Eos," sef Miss Rowlands, Glynnedd, ei hym- ddangosiad ar yr esgynlawr, yn nghanol banllefau o gym- meradwyaeth. Yna bu y corau a'r Eos wrthi am dros ddwy awr. Dangosodd y corau chwaeth a gallu mawr, a mwy o lawer nag a ddysgwyliasem yn y rhan hon o'r wlad. Ond er cystal oedd y corau, ac er eu bod yn llawer ar gyfer un, yr oedd yr Eos ei hun yn uwch na'r oil, fel nad oedd yn anhawdd gan y corau eu huuain ddywedyd yn rhwydd mai yr Eos aeth a'r goron o ddigon. Yr oedd ei Uais a'i thonau destlus ar yr amgylchiad, gyda ei holl blyg- iad a'i symudiadau boneddigaidd yn gwefreiddio pob llygad a chalon o'r dyrfa, yr hon a orlenwai hen gapel mawr Llandilo. Cafwyd gan yr Eos aros dros yr ail nos, ac yr oedd y capel agos mor llawn o bobl yr ail nos a'r nos gyn- taf. Bu y cantorion 04r dref yn ei chynnorthwyo yr ail nos a mynodd y trefolion ddangos eu parch a'u rhwymau i Miss Rowlands, trwv gyflwyno iddi galenig am y gwas- anaeth, yn ychwanegol at y tal oddiwrth y gynnulleidfa. Trwy yr ymdrechfa hon, mae y geiniog olaf ar yr annedd- dy wedi ei thalu, fel y mae yr hen gapel bellach, a'r ty, yn feddiant rhydd i'r cyfenwad a diau y bydd llawer yn llawen wrth, glywed hyn.-PERERIN. GWOBRWYO GWEINIDOG.-BEULAH, DOWLAIS.- Ionawr 16eg, cynnaliwyd gwyl de gan y brodyr perthynol i'r He uchod, ar yr achlysur o ddangos eu parch didwyll at eu gweinidog, y Parch. J. Williams, sydd yn ddiweddar wedi symud i'r Ynysfach, gerllaw Pontypridd. Wedi i'r wyl de ddibenu, cynnaiiwyd cyfarfod cyhoeddus, pryd y cafodd y Parch. W. Lewis, Moriah, ei ethol yn unfrydol i'r gadair. Ar ol i'r cadeirydd ddangos dyben y cyfarfod, aeth rhagddo i wobrwyo Mr. Williams ag oriawr dlosiawn, gwerth tua chwe punt, fel arwydd o barch cyfeillion Mr. Williams iddo, am ei ffyddlondeb yn eu plith. Darfu iddo yntau, wedi hyn, mewn anerchiad byr a tliarawiadol, ddychwelyd ei ddiolchgarwch calonog i'r eglwys. Wedi hyny galwodd y cadeirydd ar Mr. John Oriel, Mr. R. Davies, a Mr. John Jenkins, i anerch y cyfarfod. Ar y diwedd, talwyd diolchgarwch y cyfarfod i'r cadeirydd am ei wasanaeth, ac yn neillduol i Mr. Williams am ei ym- drech yn casglu mwy o arian nag oedd eisieu at adgyw- eirio y capel. Terfynodd y cyfarfod drwy weddi.—JAMES WILLIAMS.