Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

Advertising
Cite
Share

AT EIN GOHEBWYR A'N DERBYNWYR. E. A. Roberts, Llansilin.-Mae rheolau yr Undeb Crist- ionogol yn rhy faith i ni eu cyhoeddi yn SEREN CYMRU ond os bydd i Miss Roberts anfon i ni ei chyfarwyddyd, danfonwn iddi gopi gyda phleser. Prif nodwedd yr Undeb yw cael Clwb Dyngarol, neu Glwb Benefit, mewn cyssylltiad a'r synnulleidfa, ac heb fod mewn cyssylltiad fi thafarn o gwbl. Yr ydym, ar ol wyth mlynedd o brof- iad, yn gallu cymmeradwyo yr egwyddor i bob eglwys yn Ngbymru. Epsilon, Llanelli,—Diolch yn fawr am eich ysgrif ragorol ar y Pleidiau yn America; bydd un neu ddwy etto yn wir dderbyniol. Athronydd leuanc.-Mae dyn cymmedrol o faintioli yn mesur tua 5 troed. 9 mod. o h^d, yncynnrychioli 15 troedfedd ysgwar; bydd pwysau yr awyr ar gorff y dyn yna yn 32,400 pwys, neu lwyth cert bedair ar ddeg o weithiau. Seryddwr.-Mae yn anhawdd i ni amgyffred y pellder sydd rhwng y ddaear a'r haul; er hyny, mae y goleuni yn dyfod o'r haul i'r ddaear mewn wyth mynyd ond byddai pelen o fagnel (cannon ball) yn cymmeryd saith mlyn- edd i ddyfod oddiyno yma. Byddai Railway Train, yn teithio 30 milltir bob awr, heb aros wrth unrhyw Slation ar y ffordd, 350 o flynyddau yn myned o'r ddaear i'r haul. Dichon y bydd hynyna yn rhoddi i chwi well drychfeddwl am y peilder na phe byddai i ni enwi y milltiroedd i chwi. Jane Morris.-Diolch i chwi, Jane, am eich awgrym. Ni a ymdrechwn eich boddio. Er arbed traul a thrafferth dauddyblyg, dymunir ar ein cyf- eillion sylwi ar a ganlyn:— Or Y Gohebiaethau oil, a phob gofyniadau bwriadol iddo ef, i'w hanfon at y Parch. T. PRICE, ABERDAR. 4W Hanesion crefyddol o bob math, i'w hanfon i'r Parch. B. EVANS, HEOLYFELIN, ABERDAR. ø- Y Farddoniaeth i'r Parch. J. R. MORGAN (Lleurwg), LLANELLI. tIir T3nau i Mr. R. LEWIS, CAERDYDD. 03° Hanesion Cyffredinol i'r Cyhoeddwr. Bydd cydym- ffurfiad a'r uchod yn gyfleustra i'r Cyhoeddwr a'r Golyg- wyr, ac ynsicrhau sylw cynt i gynnyrchion ein cyfeillion. ^an y Golygydd gael y Traethodau a'r Gohebiaethau mor gynnar yn yr wytlmos ddilynol i gy- hoeddiad y SEREN ag y byddai modd. Dylai yr hanes- ion hefyd gael eu danron yn ddioed ar ol cynnaliad cyf- arfodydd, fel y gallo y Golygydd eu hiawn drefiiu yn brydlawn i'r Swyddfa.

Y PYTHEFNOS.