Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
ABERYSTWITH.
News
Cite
Share
ABERYSTWITH. Cymdeithas Pobl Ieuainc Bethel CCapely BedyddwyrJ. Cynnaliodd y Gymdeithas uchod ei phummed cyfarfod cystadleuol nos Fawrth (nos Dydd Nadolig), Rhag. 25aip, 1860. Neillduwyd y Parch. E. Williams, gweinidog parchus y lie, yn llywydd y cyfarfod ac ar ot anerchiad byr ond pwrpasol, tel ag y mae yn arfer, rhoddodd y Parch. U. Jenkins, Goginan, bennill allan i'w ganu. Yna galw- odd y cadeirydd ar y beirdd yn ralaen i anerch y cyfarfod, pryd y cydsyniodd Mr. T. Rowlands (Eos Eurglawdd), Talyl»ont, Mr. John Parry (loan Dderwen o Fôn), Mr. E. Williams, Jn. E. Williams, a'r Parch. H. C. Parry (H. C. Cefni), Talybont. Ynaadroddoddbechgynieuainc dan 15 oed, Adda a'r Cerub o Baradwys (o Ellmynaeg Dr. Krummacher). Y goreu oedd B. Davies. Gwobr3s. Yna dadganwyd Uchenaid am Gymru (allan o Gydym- maith y Cerddor), gen ddau gor, y rhai a arweiniwyd gall Meistriaid J. E. Williams, a J. W. Evans. Rhanwyd S wobr rhyngddynt. Gwobr lis. Yna ymgystadleuodd merched ieuainc dan 14 oed, mewn darllen "Meddylrau am y Nefoedd." gan Ceiriog. Yr oreu oedd C. Ellis. Gwobr 3s. Wedi hyny, ymgystadleuodd bechgyn ieu-iinc mewn areithio ar Benderfyniad." Y goreu oedd Mr. E. Williams. Gwobr 7s.6c.; yr ail, Dd. F. Ellis; gwobr 3s. 6c. Yna ymgystadleuodd bechgyn ieuainc mewn adrodd y Train (gan Ceiriog), nes oedd yr holl gjn" nulleidfa wedi ei gwetreiddio. Y goreu oedd Mr. T.J. Williams. Gwobr 3s. Yna darllenodd Hywel Glan Cefni ei feirniadaeth ar y pennillion i'r Parch. E. Will'31108' Llywydd y Gymdeithas. Y goreu oedd Guinness," set Mr. Jn. E. Williams. Ynadatganwyd Morfa Rhuddlan (allan o gyfansoddiadau buddugol Eisteddfod Merthyr* Medi, 1859), gan bedwar o fechgyn mewn pedwar Ilais- Gwobr 10s. Yna darllenodd y Parch. Isaac Jones, pen- rhyncoch, ei feirniadaeth ef, a'i gydfeirniadydd, y Parch: W. Rowlands (W.), ar y Traethodau a Elias y Thesbiad." Y goreu oedd Brysiog," sef Mr. Jno. Daviea. Gwobr 7s. 6d.. Yna rtioddodd Mr. J. Williams a Miss C. Ellis, Wa,,
BEIRNIADAETH EISTEDDFOD ABERDULAIS.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Erpstus."—Ymddengys pwnc planu Rglwys yn Col- ossia yn bWllc mawr gan Erastus hefyd, er na sonia y testun am dano, ac y mae yn ysgrifenu yr un peth ddwy waith. "Eadie.Cymraeg anmherffaith sydd gan hwn, et i fod ei lawysgrifen yn un dlos,-cyffredin ydyw ei faterion hefyd. NinlJs.Seisnig ydyw hwn, BC y mae'r awdwr yn ysgrifenwr medrus, ond y mae ganddo ormod o fater an- mhriodol Gomeriad." -Tl"aethawd da ydyw hwn, ac wedi cHPl ei ysgrifenu mewn iaith esmwyth a deaUadwy. Y mae eisieu j'r awdwr fod yn fwy gotalus am y llythyren 11, ac yna gwnelai ysgrifenwr Cymraeg da.—Y mae Gorneriad yn teilyngu y wobr. BARDDONIAETH. 3. Cyfieithiad y "Ladder of St. Augustine." Y nlae naw ymgeiswr wedi cyfieithu y Ilinellau tlysion ac addysg- iadol yma, sef "Goldsmith," Cerry," Cervantes," Shon Ceri," H. W. Shortfellow, A B. Shortfellow," Esgynvdd," '• Mot," a Not a very Long-fellow." Cyffeithnd rhyddieithol ydyw un Goldsmith," gan hyny y mae allan o'r gystadleuaeth. Cerry."—Y mae dernyn yr awdwr hwn yu f.vy o arall- eiriad nag o gyfieithiad, ond y mae yn llithrig iawn, ac yn bert annghylfredin. "Cervantes" a gyfieitha yn weddol, ond nid yw yn deall cyfnewidiad y cvdseiniaid, yrhyn sydd yn gwnenthur y gan yn llavrn llediaith. Shon Ceri."—Cana hwn ar fesur rhwyddach nag eiddo y gin wreiddiol, ac y mae ganddo rai corfanau cloffion ni a gawn hefyd, yn mhlith Ilinellau tarawiadol, linellau canolig iawn. H. W, Shortfellow. Y mae rhai Ilinellau campus gan hwn, ond nid yw yn cydio yn syniadau ac ystwythdra y gwreiddiol, ac y mae rhai o'r Ilinellau yn dywyll ac yn glogyrnaidd iawn. A. B. Shortfellow.—Bron yr un peth sydd gyda ni i ddweyd am gan y Shortfellow hwn ag a ddywedasom am gan y Shortfellow arall; ond fod gyda ni un achwyniad yn erbyn hwn nad yw gyda ni yn erbyn y llall, sef fod ganddo amrvfal fesurau. Esgynydd."—Y mae gan hwn hefyd fesur rhwyddach n&'r gwreiddiol, ac er fod llawer llineU ddedwydd ganddo, y mae ganddo hefyd rai gwael iawn, megys:- That rpakes another's virtues less." A v/nant Jwynderatt'r Hall yn llai." Etto, "Are but gigantic flights of stairs." Nid ynt ond rhes o risiau man." Yn nghyfieithiadau Not a very Longfellow," a Mot," y mae lleiaf o golliadau-y maent yn gydraddol iawn, gan hyny, rhaner y wobr rhyngddynt. 2. Can o glod i Mr. Williams, &e." Y mae wyth can wedi dyfod i law ar y testun yma, sef, "Giraldus," Ifor Gwyllt," Siwel," Garibaldi," "Llygad y Gein. iog," Parchwr Teilyngdod," "Dyledwr," a Chym- mydog adnabyddus." Y mae Giraldus wedi camaynied y testun, canys y mae efe yn meddwl mai esgynlawr i bregethwyr a godid, tra mai esgynlawr i feirdd ydyw. Can ddiaddurn, wedi ei sillebu yn ddrwg iawn, ydyw can Ifor Gwyllt." Math o acrostic Seisnig ydyw can Siwel," ac un dra an. nghelfydd ydyw. Y mae yn ceisio gosod cot a Lock; town a found; lock a spot; a stop a cot, i odli a'u gilydd. Cyfansoddiad tlawd ydyw un Garibaldi," ac os nad yw y Garibaldi hwnvn fwy o ryfelwr nag yw ef o fardd, y mae yn hen bryd iddo newid ei enw. Can weddol ydyw can Llygad y geiniog," ond y mae yn rhaid iddo fod heb y geiniog y waith hon. r Canweddot iawn ydyw can "Parchwr Teilyngdod, ond y mae ganddo Wydd ac Absen h.y., y mae yn siarad am y dyn mewn rhai pennillion, ac y mae yn siarad wrth y dYll mewn pennillion ereill. Can debyg i un Parchwi; teilyngdod" ydyw can "Dyledwr," ond ei fod yn cadw rhag y Gwydd a'r Absen. Cymmydog adnabyddus sydd yn canu clod Mr. Wil- liams gyflawnaf, ac iddo ef boed y wobr. 3. Beddargraff Philip Gething." Y mae 42 o gyfan- soddiadau wedi dyfod i law ar y testun yma, sef eiddo Gildas, Cyndelyn, Caethwas, Llewgawr, Aderyn o Rywle, Gwilym, Selyf, Ida, Cymro, G. M., Brutus, Festus, loan Mai, lago Emlyn, N., Namesake, Macedon, Hiraethlawn, Galarus, Simeon, Galaethtardd, Cynnyg Cyntaf, Liane, Bachgen, Llai na'r Heiaf (etto), Brysiog, lago, Dulais, loan Bach, loan Bach (etto), Cadog, Gorfanig, Galarus, (etto), D. L., a Chofnodydd. Y mae y rhai hyny yn rhanu eu hunain i dri dosparth, ac yn y dosparthiadilu y ma y mae englynion a phennillion Cymraeg a Seianeg, o bob hyd a ffurf. Nis gwyr y trydydd dosparth, sef y 13eg cyntaf a enwasom, ddim yn y byd am farddoniaeth. Y mae 27ain yn yr ail ddosparth, ac y mae llawer o honynt yn cyfan- soddi yn dlws iawn, ond nid yw yn ymddangos fod hemawr i un o honynt yn gwybod mai beddargraff i blentyn pedair mhvydd oedd yn eisieu, yr hwn a foddodd yn ddamweiniol. D. L. a Chofnodydd, un yn Seisnig a'r llall yn Gymraeg, sydd yn taro oreu i fedd Philip bach, ac o'r ddau yma y goreu o ddigon ydyw Cofnodydd, ac iddo ef y dyfarnwn y wobr. Hyn oil ar air a chydwybod JOAN EMLYN. Glanau yr Ebwy, Nos Dydd Gwyl Domos, 1860.