Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

YMDDYDDAN RBWNG OFFEIRIAD…

News
Cite
Share

YMDDYDDAN RBWNG OFFEIRIAD A GWEITHIWR. Y MAE yr Offeiriad A- yn ddyn gweithgar iawn; y mae yn pregethu yn well n{¡'r rhan fwyaf o'i frodyr ac y mae yn cael ei ystyried yn evangelical. Y mae hefyd yn myned lawer iawn o gvlch y tai i gynnull pobl i'r eglwys ac y mae yn ymwasgu 'nawr ac eil- waith 4'r Ymneillduwyr, i'r un dyben-sef eu tynu i Lan y plwyf. Ar ryw ddiwrnod, galwodd yr Offeir- iad hwn yn nhy William Dafydd, a chymmerodd yr ymddyddan canlynolle:- .Offeiriacl.-Dydd da i chwi, William Dafydd. Gweitkiwr.-Dydd da i chwithau, Mr. Jones; a welwch chwi yn dda ddyfod yn mlaen, ac eistedd, Syr ? O. Gwnaf yn siwr; yr oedd hyny genyf mewn golwg wrtb alw; canys yr oeddwn am siarad tipyn a chwi ? Pa fodd y mae arnoch ? G. Yn wir, Syr, y mae gofal y teulu yn pwyso yn drwmarnaf; yr wyf yn gweithio yn galed bob dydd; a tbrwy hyny, yr ydym wedi cael tamaid hyd yma. Ond nid wyf wedi gallu myned i'r gwaith ys tair wytlinos, am fy mod yn anhwylus; ond yr wyf yn llawerllwell, a byddaf yn alluog i ddechreu dydd Llun; dyna'm meddwl 'nawr. O. Da genyf eich bod yn gwella; ac os yw hi yn gyfyng amoch, y mae'n Heglwys ni yn dda iawn i'r tlodion; gallech gael tipyn o gynnorthwy. G. Diolch i chwi, Syr; ond gallwn wneyd heb hyny yn awr, beth bynag, gan nad pa beth a fydd ? O. Nid ydych byth yn dod, i-r eglwys, na neb o'ch teulu—b'le yr ydych chwi yn myned? Gobeithio nad ydydi yn byw yn baganaidd ya ngwlad oleu yr efengyl. G. Y mae fy ngwraig yn aelod yn B-; ac y mae y plant a minnau yn myned yno hefyd. Na; go- beithio nad ydym yn baganiaid, er nad ydym yn myned i'r Eglwys y perthynwch chwi iddi. 0. Migarwn yn fawr i chwi oil ddyfod i hen Eglwys eich tadau. Paham na ddewch chwi, Wil- liam? Beth yw'r rhwyetr? G. Nid Eglwys ein tadau yw'ch eglwys chwi. Bu eglwys yn yr ynys hon o flaen eich eglwys chwi, sef yr un baliaidd; a bu Eglwys o flaen hono, yn yr oesau cyntaf, sefyr Eglwys Gristionogol; a thrwy drugaredd, y mae yr eglwys hon wedi bodoli yma hyd yn awr; "a phorth uffern nis gorchfygant ni." A pheth arall a ddywedaf, Pe buasai eich Eglwys chwi yn eglwys y tadau, ni fuasai hyny yn ddigon o reswm i mi dros fyned iddi j canys pob un drosto ei hun a rydd gyfrif i Dduw." Os gwnaeth crefydd y tadau y tro iddynt hwy, ni wna y tro i mi; rhaid i tni gael crefydd bersonol, neu fod byth ar goll. O. Wel, William, rhaid i mi addef eich bod yn siarad yn gall; ond paham na ddewch chwi ataf fi; canys yr wyffi yn pregethu yr efengyl yn bur-yr ydych yn addef hyny, William. G. Nac wyf; canys his clywais chwi erioed; ac am hyny, nid wyf yn gymhwys i roi barn ar y mater. Ond, a chaniatau eich bod yn pregethu yr efengyl, etto yr ydych yn perthyn i eglwys ag y mae genyf lawer yn ei herbyn ac yr ydych yn dal fyny bethau nad yw yn perthyn i efengyl lesu Grist. 0. William rhaid i chwi fod yn bwyllog; canys y mae y pethau a ddywedwch yn dechreu rhoigwres yn fy ngwaed I: cofiwch mai Offeiriad sydd yn siarad i chwi. G. N a; yr wyf yn annghofio pob peth ond y gwir- ioMdd t ac y maw gwirionedd (01 Duw ei hun-nid yw yn derbyn wyneb. Ac os na ellwch siarad yu rhwydd gwell darfod cyn decbreu. ,0. Wel, ewch yn mlaen, a gadewch i mi glywed beth sydd genych yn erbyn ein Heglwysi ni. G. Y mae genyf bethau i'w dywedyd yn erbyn Undeb Eglwysi a Gwladwriaeth—yn erbyn ysbryd yr Eglwys—yn erbyn bedydd a chonffirmasiwn yr Eglwys—yn erbyn gwasanaeth yr Eglwys—yn erbyn dysgyblaeth yr Eglwys a Jlawer o bethau ereill ag y cawn son am danynt cyn y diwedd. O. Yr ydych wedi crybwyll digon, heb son am "bethau ereill;" ac oni buasai fy mod yn llwyr gredu eich bod yn y tywyllwch, a bod modd i mi eich goleuo, buaswn yn njyned ymaith heb ymddy- ddan rhagor & chwi ar y mater; canys yr ydych yn fy- sarhau yn fawr dros ben. Ond, fel ag yr oedd Crist yn cael llawer o ddywedyd yn ei erbyn gan bechad- uriaid, felly y rhaid iddi fod gyda y rhai sydd am ei ddilyn ef. G. Ho felly yn wir; gallwn fyned yn mlaen yn llawer gwell heb rhyw gant o'r fath yna. 0. Ai cant ych chwi yn galw crefydd, William ? G. Nage, Syr; y mae genyf fi barch i grefydd; ond yr wyf yn <Eeiddio y peth hwnw sydd yn galw ei hun yn grefydd, pan na wyr ddim am dani. O. WeI, dechreuwch ar y pethau sydd genych iV dweyd yn erbyn yr Eglwys; a byddwch yn oleu, byr, a chynnwysfawr yn yr hyn fyddoch yn ddweyd. t*. Yn gyntaf; yr wyf yn condemnio Undeb eich Eglwys a'r Llywodraeth, neu y wladwriaeth; a'r hyn sydd yn peru i mi wneyd hyny vwr y petbau canlynol:— hyn sydd yn peru i mi wneyd hyny yw y petbau canlynol:— 1. Y mae y cyfryw undeb yn sarhad ar grefydd Crist. Y mae yn arwyddo na all cristionogaetb wneyd heb y fath undeb. Os na all cristionogaetb fyw heb gymhorth y lIywodraetb, nid yw o Ddtiw; ond os gall Iwyddo heb seneddau y ddaear, gallwcb benderfynu mai afreidiol a niweidiol yw ei chyssyIltU a hwynt. 2. Y mae yr Undeb yn cefnogi ac yn estyn oes pob cyfeiliornad ag sydd yn y grefydd sefydledig, f mae llawer iawn allan o le yn nhrefniadau yr eglwys. Y mae yr offeiriad yn gwybod byny yn dda, a thyna yr achos o'r holl ystwr yn y dyddiau nyn yn nghylch ail-wneyd y Llyfr Gweddi—the revision of the Liturgy- 3. Y mae yr undeb yn annheg tuag at y rhan hyny o ddeiliaid y Llywodraeth, y rbai na allant o gyd- wybod ymuno a'r eglwys. Y mae yr undeb yn erbyn yr Ymneillduwyr oil; acy maeyngwneyd eiwaethaf iddynt, a'i oreu i'w llwyr ddinystrio. A cbofifl^k hyn, Syr, fod yr Ymneilldawyr wedi gwneyd mwy ddaioni yn Ngnymru nag a wnaeth yr Eglwys erioed* Gwn nas gallwch ammheu hyn. 4. Y mae yr undeb yn gwneyd drwg mawr i'r off.. eiriaid. Y Mae yn gosod miloedd o honynt mewn swydd nad oes ynddynt gymhwysder iddi. Y mae yn eu gwneyd yn falch ac annibynol, ac y mae yn eu harwain i fywyd segur. Beth waeth gan lawer faint ddelo i'w gwrando yn y lIan, na pha beth a bregethont? Y mae y gyflog yn ddiogel pe na ddelai neb ond y clochydd a ï wraig i'r He. 5. Y mae yr Undeb yn annheg iawn yn y dull Y mae yn talu gweinidogion yr eglwys. Y mae yø rhoi gormod i rai, a rhy fach i ereill, feddyliwn J.. Sylwch ar y pethau canlynol,, mae cyfoeth yr eglwys, rhwng degwm a meflO( iant tirol, yn dod i'r^wm anferthol o £ 180,000,000 Y mae y meddiant hwn vn cynnyrchu £ 10,000,00" yn flynyddol. Os nad ydych yn credu, Syr, edrycn'